
Adroddiad Blynyddol 2025
Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (y comisiwn) yn 2018 fel corff cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru.Ei brif diben yw dadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion ar anghenion seilwaith strategol, economaidd ac amgylcheddol hirdymor Cymru dros gyfnod o bum i 80 mlynedd.
Mae’r comisiwn yn cynnal astudiaethau o heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru, a bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.Bydd y cyngor a ddarperir gan y comisiwn yn ddiduedd, yn strategol ac yn edrych tua’r dyfodol.
Mae’r comisiwn yn atebol i Weinidogion Cymru am ansawdd ei gyngor a’i argymhellion, a’i ddefnydd o gyllid cyhoeddus.
Myfyrio ar flwyddyn o gyflawni a heriau:
Cyflwyniad gan y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd
Croeso i adroddiad blynyddol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2025.
Mae diwedd 2025 yn nodi diweddglo rhaglen tair blynedd o allgymorth, ymchwil ac argymhellion a amlinellwyd gan ein cylch gwaith yn 2021, a phenodiad comisiwn newydd yn dilyn hynny yn 2022.
Rydym wedi achub ar y cyfle i fyfyrio ar ein rôl wrth fynd i’r afael â’r heriau a wynebir, a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer seilwaith yng Nghymru. Roedd ein pynciau ymchwil yn cael eu dominyddu gan y tri phrif bwnc y gwnaethom dalu sylw iddynt, sef ynni adnewyddadwy, llifogydd, ac ymaddasu i newid hinsawdd ac ymgysylltu â’r gymuned. Fodd bynnag, rydym yn falch o’r cynnydd y gwnaethom ar draws amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys yr adolygiad o ffyrdd, y newidiadau yng ngwaith dur Port Talbot, y Bil Seilwaith, a sut y gall syniadau ar gyfer y dyfodol ddylanwadu ar ein gwaith ar drafnidiaeth a sectorau seilwaith eraill.
Mae’r gwaith y gwnaethom yn 2025 yn adlewyrchiad o’n gweithgarwch dros y tair blynedd gyfan. Mae hyn yn cynnwys argymhellion radical, lefelau uchel o ymgysylltu â’r gymuned, teithiau astudio i gael adborth manwl ar faterion lleol, a phroffil cynyddol o blith rhanddeiliaid ac yn y cyfryngau. Eleni hefyd, rydym wedi arloesi’r cysyniad o gael cynrychiolydd natur ar lefel y bwrdd yng Nghymru. Mae ein gwarcheidwad natur, Elspeth, wedi bod yn ychwanegiad cadarnhaol at ein trafodaethau. Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein prosiect arbrofol yn fuan i helpu eraill i ddeall a allai’r dull hwn eu helpu gyda’u rhwymedigaethau eu hunain wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Bydd 2026 yn gyfnod o newid ar draws y sector cyhoeddus, gyda llywodraeth newydd yng Nghymru a fydd yn llunio cyfeiriad deddfwriaeth, polisïau a buddsoddiad. Mae seilwaith o ansawdd uchel, wedi ei seilio ar nodau a ffyrdd o weithio cenedlaethau’r dyfodol, yn hollbwysig os ydym am ddatgloi potensial ein dinasyddion, ein cymunedau a’n sefydliadau, a dylai fod yn ddyhead i bob un ohonom.
Dr David Clubb (Cadeirydd) and Dr Jenifer Baxter (Dirprwy Gadeirydd).
Ein nodau, ein hamcanion, ein canlyniadau a’n gwerthoedd
Sefydlwyd ein gwerthoedd sefydliadol a’n ffyrdd o weithio yn ein blwyddyn gyntaf fel ein hegwyddorion arweiniol ac i adlewyrchu ein cylch gwaith, a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ein hamcanion
- Darparu cyngor a chyfarwyddyd radical, heriol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, ond yn bennaf Llywodraeth Cymru, a fydd yn llywio ac yn diogelu penderfyniadau ar ddarparu seilwaith rhwng 2030 a 2100 at y dyfodol.
- Defnyddio fframweithiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yr argyfyngau hinsawdd a natur, a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, i lywio ein trafodaethau.
- Cefnogi mentrau, sefydliadau neu bolisïau sy’n anelu at greu a chynnal seilwaith cryf, y gellir eu haddasu, sy’n cyflawni llesiant tan y flwyddyn 2100 a thu hwnt.
Ein hamcanion
Mae ein hamcanion yn cyd-fynd â rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.
- Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd, a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
- Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf tuag at ddatgarboneiddio.
- Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
- Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddynt.
- Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
Ein canlyniadau
Yn adroddiad blynyddol cyntaf y comisiwn presennol hwn, diffiniwyd ystod o ganlyniadau yr oeddem yn rhagweld y byddem yn gallu eu cyflawni rhwng 2022 a 2025. Rydym wedi asesu isod sut yr ydym wedi perfformio yn erbyn y rhain dros y 12 mis diwethaf.
| Canlyniad dymunol | Crynodeb o’r perfformiad hyd yma |
|---|---|
| Lluniwyd polisïau ar gyfer y dyfodol sy’n gwella’r broses o harneisio’r cyfoeth o ynni adnewyddadwy, sy’n rheoli tir yn well ar gyfer amrywiol ddefnyddiau seilwaith, ac sy’n adeiladu ar well dealltwriaeth o safbwyntiau cymunedau lleol. | Cyflwynwyd yr adroddiad ynni adnewyddadwy (mis Hydref 2023) gan barhau i ymgysylltu â swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Mae gohebiaeth â Llywodraeth y DU ynghylch Ystad y Goron yn parhau, ochr yn ochr â thrafodaethau â rhanddeiliaid. |
| Mae polisïau ac arferion yn y dyfodol yn fwy gwybodus am ffyrdd o leihau effaith llifogydd ar gymunedau a seilwaith Cymru. | Cyhoeddwyd yr adroddiad ar y prosiect llifogydd mewn cydweithrediad ag arbenigwyr yn y sector, gan gyflwyno 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru (lansiwyd ym mis Hydref 2024). Yn dilyn ymateb gan Lywodraeth Cymru rydym wedi parhau â’n trafodaethau â rhanddeiliaid ac wedi parhau i bwyso am newidiadau trwy amrywiaeth o sianeli. Rydym yn treialu rôl gwarcheidwad natur o fewn y comisiwn i ddangos sut y mae un o’n hargymhellion yn cael ei gymhwyso’n ymarferol. |
| Mae’r comisiwn a rhanddeiliaid eraill yn fwy gwybodus ynghylch sut i roi gwybodaeth am risgiau hirdymor i’r cymunedau hynny sydd fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd. | Cyhoeddwyd ein hadroddiad, Storm Berffaith, ar 15 Hydref 2025. Dilynodd hyn ymchwil a threialu arferion ymgysylltu â’r gymuned yn Grangetown. Rydym yn aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru. Yn y cyfamser, rydym yn parhau â’n gwaith gyda chymunedau Grangetown er mwyn sicrhau bod ein prosiect yn parhau i adael gwaddol. |
| Mae gweithgareddau ac argymhellion y comisiwn wedi eu llywio’n well gan ystod eang ac amrywiol o randdeiliaid. | Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, mewn cyfarfodydd, digwyddiadau ac yn y cyfryngau. Mae’r rhain wedi eu rhestru ar ein gwefan. |
| Codi proffil a gwella enw da’r comisiwn. | Er ei bod yn anodd asesu ein henw da yn wrthrychol, mae ein proffil wedi codi yn sylweddol dros y 12 mis diwethaf. At hynny, mae gennym ystadegau da ar weithgarwch ar ein gwefan. Mae’r ystadegau hyn yn gwbl dryloyw a hygyrch i ymwelwyr â’r wefan. Rhoddodd adolygiad y comisiwn (gweler isod) adborth cadarnhaol ar ein delwedd a’n gwaith gan randdeiliaid allanol. Eleni rydym wedi parhau â’n partneriaeth ag Equinox i’n cynorthwyo gyda’n gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu. |
Ein gwerthoedd
Yn ystod 2023, gwnaethom gytuno ar set o werthoedd sy’n disgrifio sut yr ydym yn anelu at drafod a gweithredu. Gwnaethom ysgrifennu ddarn byr yn eu disgrifio ar wefan y comisiwn. Mae ein gwerthoedd fel a ganlyn:
- Cynhwysol; creu amgylchedd cynnes a chyfeillgar lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac yn hyderus i fynegi eu barn.
- Tryloyw; gwthio ffiniau adrodd bron mewn amser real ar ein hymgysylltu, a dangos yn gyhoeddus sut yr ydym yn delio ag anghytundebau mewnol.
- Radical; mae comisiynwyr wedi ymrwymo i weithio allan o’u hardaloedd cysurus; ein nod yw darparu cyngor, barn ac argymhellion sy’n ymwahanu oddi wrth ‘fusnes fel arfer’ er mwyn lliniaru’r argyfyngau natur a hinsawdd a chyflawni ein cylch gwaith.
- Heriol; mae’r comisiynwyr yn herio’r status quo gydag anghenion cenedlaethau’r dyfodol a dyhead i wneud yn well ar gyfer dinasyddion Cymru yn y dyfodol.
Ein strategaeth
Mae ein dull strategol wedi ei amlinellu’n fanylach ar ein gwefan. I grynhoi, rydym yn archwilio ein swyddogaethau fel comisiwn sy’n caniatáu inni ddadansoddi sut yr ydym yn cyfrannu at y ddadl ar seilwaith Cymru. Yna gallwn fonitro’r cyfraniad hwn gan ddefnyddio ffactorau llwyddiant hollbwysig. Er ein bod wedi ceisio cynhyrchu metrigau i fesur ein llwyddiant, mewn rhai achosion nid yw’r dystiolaeth yn rhifiadol. Rydym yn gyfforddus â dull ar sail naratif o asesu ein perfformiad, ac wedi cynnwys enghreifftiau o lwyddiant lle bo’n berthnasol.
Bydd rhestru ein ffactorau llwyddiant (yr adroddir ar bob un ohonynt yn y ddogfen hon) yn ein helpu i ganolbwyntio ar gasglu data a fydd yn darparu tystiolaeth ar effaith ein gwaith. Bydd cyhoeddi’r dull strategol cyntaf hwn yn ein helpu i ddeall sut y mae eraill yn gweld ein llwyddiant, fel y gallwn barhau i fireinio ac addasu ein dull i wasanaethu ein diben yn well. Rydym yn bwriadu ailystyried y dull hwn gan elwa ar adborth gan randdeiliaid, adolygiad y comisiwn, neu unrhyw newid sylweddol yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol.
Adolygiad o flwyddyn y comisiwn – 2025
Syniadau ar gyfer y dyfodol

Gan adeiladu ar gynnydd y llynedd, rydym wedi ymgorffori syniadau ar gyfer y dyfodol yn ein dull strategol o ddatblygu polisïau. Ym mis Ionawr 2025, gwnaethom gynnull arweinwyr seilwaith ar gyfer gweithdy a hwyluswyd gan School of International Futures, gan ganolbwyntio ar gynllunio gofodol ac addasu rhwydweithiau trafnidiaeth yn y dyfodol mewn ymateb i anghenion cymdeithasol sy’n esblygu.
Wedi hynny, gwnaethom gyhoeddi’r adroddiad ynghyd â chofnod blog. Archwiliodd hyn sut y bydd penderfyniadau a wneir heddiw yn llunio systemau trafnidiaeth Cymru erbyn 2100. Rydym yn dadlau bod trafnidiaeth yn fwy na symudiad; mae’n adlewyrchu gwerthoedd cymdeithasol, yn pennu cysylltedd, ac yn dylanwadu ar gydraddoldeb a chydnerthedd. Bydd heriau’r dyfodol o ran newid hinsawdd, newidiadau demograffig, a tharfu technolegol yn gofyn am wreiddio meddwl hirdymor wrth wneud penderfyniadau heddiw.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Ym mis Mehefin, gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd a fu’n gysylltiedig â chraffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae ein hymateb yn dadlau, er bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi sbarduno newidiadau mewn diwylliant a pholisïau, megis cwricwla newydd, dangosyddion llesiant, a chynnydd amgylcheddol, nid yw ei hegwyddorion wedi eu hymgorffori’n llawn yn y broses o gynllunio seilwaith, sy’n dal i ddibynnu ar fodelau tymor byr. Mae’r anghydraddoldeb hwn yn mentro gwaethygu’r anghydraddoldebau hinsawdd, tai ac economaidd. Rydym o’r farn, er mwyn gwireddu gweledigaeth y ddeddf, fod yn rhaid i Gymru ymgorffori ei nodau ar frys yn y broses o lywodraethu seilwaith, gan sicrhau trawsnewid systemig hirdymor yn hytrach na newid cynyddrannol.
Rydym yn disgwyl adroddiad y pwyllgor â diddordeb.
Adolygiad y comisiwn
Ar ddiwedd 2024, cawsom y pleser o gymryd rhan yn adolygiad Llywodraeth Cymru o’r comisiwn, a oedd yn un o ofynion ein cylch gorchwyl. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Ionawr 2025.
Roeddem yn falch bod y sicrwydd cyffredinol wedi cael sgôr ‘gwyrdd golau’ gan dîm archwilio mewnol Llywodraeth Cymru. Nodwyd gan y tîm fod gan y comisiwn aelodaeth amrywiol, a bod ein gwerthoedd wedi eu diffinio’n glir. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi natur ragweithiol y comisiynwyr a’n dull cadarnhaol o reoli datganiadau o fuddiant.
Gwnaeth yr adroddiad chwe ‘arsylwad’ neu faes i’w gwella. Roedd rhai o’r rhain yn ymwneud â rôl Llywodraeth Cymru yn ogystal â sut y mae’r comisiwn yn rheoli ei gyfarfodydd a’i brosesau. Gwnaethom ystyried yr ymatebion hyn yn gyflym gan ymateb i’r Ysgrifennydd Cabinet ym mis Chwefror. Rydym wedi gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydym yn cynnal cyfarfodydd, ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol o ganlyniad i’r adroddiad. Rydym yn ddiolchgar am yr argymhellion yn yr adroddiad.
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Roedd y comisiwn yn falch o gael ei wahodd i’r sesiwn graffu flynyddol gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd. Gwnaethom groesawu eu hadroddiad dilynol, gan ymateb i’r argymhellion a oedd yn wynebu’r comisiwn mewn modd cadarnhaol. Nodwn hefyd fod ymateb Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol tuag at y comisiwn ac yn rhoi diweddariadau defnyddiol.
Gwnaethom groesawu’r ddadl ddilynol yn y Senedd, a nodwyd y geiriau cadarnhaol gan Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, sy’n goruchwylio gwaith y comisiwn. Nodwyd gennym fod y ddadl yn y Siambr yn canolbwyntio ar werth cael Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru a’i rôl yn y dyfodol. Er mai Llywodraeth Cymru a fydd yn penderfynu ar hyn yn y pen draw, mae’r comisiwn wedi chwarae ein rhan yn y drafodaeth drwy roi ein barn ar lwybrau posibl ar gyfer datblygu’r comisiwn.
Esblygiad y comisiwn
Gan gadw mewn cof adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar gyfeiriad y comisiwn yn y dyfodol, a’r dadleuon yn y Senedd, mae’r comisiwn wedi ystyried ei ddyfodol ei hun a pha fath o fodelau y gellid eu defnyddio i gryfhau fformat presennol y comisiwn a’r ffordd y caiff ei weithredu.
Ym mis Medi cyhoeddwyd ein papur Opsiynau ar gyfer esblygiad CSCC a archwiliodd wahanol opsiynau ar gyfer sut y gallai’r Llywodraeth nesaf symud y comisiwn yn ei flaen. Rydym o’r farn bod angen cryfhau rôl gynghori bresennol y comisiwn, er ei bod yn cael effaith, er mwyn iddi barhau i fod yn addas i’r diben. Gan ddefnyddio gwersi gan gymheiriaid rhyngwladol ac anghenion unigryw Cymru, mae’r papur yn amlinellu tri opsiwn i ddatblygu:
- Ehangu gallu cynghori’r comisiwn gyda chyllid aml-flwyddyn;
- Rhoi pwerau statudol i wella annibyniaeth a chraffu;
- Creu awdurdod cwbl integredig sy’n goruchwylio strategaeth a chyflawni.
Nod ein map trywydd yw sicrhau y gall y comisiwn gyflawni gwaith cynllunio seilwaith hirdymor a chydlynol sy’n diwallu gofynion amgylcheddol a chymdeithasol brys. Rydym wedi rhannu’r papur yn eang â chynulleidfaoedd sydd â diddordeb, ac yn aros â diddordeb am ganlyniad etholiad nesaf y Senedd. Gobeithiwn y bydd ein syniadau o ddiddordeb i’r Gweinidog neu’r Ysgrifennydd Cabinet newydd.
Ymweliad ag Is-bwyllgor Ymaddasu y Pwyllgor Newid Hinsawdd
Ym mis Rhagfyr, croesawyd y Farwnes Brown o Gaergrawnt, Cadeirydd Is-bwyllgor Ymaddasu y Pwyllgor Newid Hinsawdd a chydweithwyr i Grangetown yng Nghaerdydd i drafod ein hadroddiad ar ymaddasu i newid hinsawdd ac ymgysylltu â’r gymuned (gweler isod) a’r asesiad risg ymaddasu i’r hinsawdd sydd ar ddod gan y pwyllgor. Gwnaethom drafod effeithiau newid hinsawdd a phatrymau tywydd sy’n newid ar seilwaith yng Nghymru, a pha mor bwysig yw hi i ymgysylltu â chymunedau, a’u cynnwys yn y broses, yn barhaus. Roeddem wrth ein bodd yn cyflwyno’r pwyllgor i’n partneriaid cymunedol yn Grangetown, a amlinellodd eu gwaith ar drafod effeithiau hinsawdd a’r gwaith y maent yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol.

Teithiau astudio
Mae gan y comisiwn ddiddordeb mewn dyfnhau ei ddealltwriaeth bresennol o faterion yn ymwneud â seilwaith a chlywed am yr ymatebion newydd a chyffrous sy’n cael eu datblygu ledled Cymru. Fel rhan o’n proses o gasglu gwybodaeth, ac yn debyg i’n dull gweithredu mewn blynyddoedd blaenorol, trefnwyd sawl taith astudio gennym o amgylch Cymru yn 2025.
Fairbourne a’r Bermo
Ym mis Mawrth, buom yn ymweld â Fairbourne a’r Bermo i archwilio sut y mae cymunedau a chyrff cyhoeddus yn ymateb i’r bygythiad cynyddol o lifogydd arfordirol a newid hinsawdd. Roedd yr ymweliad yn cynnwys trafodaethau â Phartneriaeth Fairbourne, sef cydweithrediad o drigolion, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, cyrff cyhoeddus, cyfleustodau a gwasanaethau brys a ffurfiwyd yn 2024.
Mae’r bartneriaeth hon yn enghraifft o arfer da o ran cydweithio, gan fynd i’r afael â phryderon hirdymor ynghylch sylw negyddol yn y cyfryngau a’i effaith ar iechyd a bywoliaeth. Mae ymdrechion y grŵp i wella cydnerthedd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i wrando ar gymunedau a sicrhau bod y broses o gynllunio seilwaith yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol.
Cyfarfu’r comisiwn hefyd â Network Rail i ddysgu am y prosiect uchelgeisiol i osod pont newydd yn lle’r bont reilffordd rhestredig Gradd II bresennol, campwaith peirianneg a gynlluniwyd i wrthsefyll tywydd garw wrth wella llwybrau teithio llesol. Wrth gerdded ar draws y bont sydd wedi ei hadnewyddu, ac ar hyd glan y môr, cawsom gipolwg ar ba mor gymhleth yw’r cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sydd ar y gweill yn y Bermo, sy’n anelu at warchod busnesau a gwella amwynderau. Atgyfnerthodd y profiadau hyn wersi allweddol: dylai seilwaith wedi ei uwchraddio ddarparu amryfal fuddion, ac ni all Cymru atal y perygl o lifogydd drwy adeiladu seilwaith yn unig, gan olygu bod dulliau cydweithredol a chynllunio hirdymor yn hanfodol ar gyfer datblygu cymunedau arfordirol sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.

Conwy ac Ynys Môn
Ym mis Gorffennaf, buom yn ymweld â Chonwy ac Ynys Môn i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar heriau a chyfleoedd seilwaith y rhanbarth. Gwnaethom gyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol gan gynnal dwy drafodaeth ford gron â phartneriaid seilwaith lleol.
Daeth y drafodaeth gyntaf â bron i 20 o arbenigwyr ynni ynghyd i drafod ynni’r llanw, prosesau cynllunio, seilwaith porthladdoedd, a’r angen am weledigaeth ynni gydlynol i Gymru. Bu cefnogaeth gref am dechnoleg môr-lynnoedd llanw, nid yn unig ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ond hefyd am ei photensial i warchod yr arfordir a darparu buddion twristiaeth, yn ogystal a thrydan hirdymor y gellir dibynnu arno. Mynegodd cyfranogwyr rwystredigaeth ynghylch diffyg buddsoddiad strategol a chydlyniad cynllunio, gan alw am well cydlyniant ar draws systemau grid a’r broses gynllunio. Tynnodd cwestiynau ynghylch a ddylai Cymru anelu at hunangynhaliaeth neu warged ynni sylw at yr angen taer am weledigaeth genedlaethol glir.
Canolbwyntiodd yr ail sesiwn a’r ymweliadau safle ar seilwaith trafnidiaeth a seilwaith diwydiannol. Ymhlith y materion a godwyd oedd oedi a achoswyd gan dân yn nhwnnel Conwy, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus annigonol, a chyfleoedd a gollwyd ar gyfer system gwresogi ardal oherwydd cymhlethdod y broses reoliadol.
Ym Mhorthladd Caergybi, clywsom am ailagor yr ail angorfa ar ôl atgyweiriadau helaeth a rôl hanfodol morglawdd o Oes Fictoria, sydd bellach yn destun tendr gwerth £150 miliwn i asesu ei hyfywedd yn y dyfodol. Roedd y daith hefyd yn cynnwys hen safle Anglesey Aluminium, a glustnodwyd ar gyfer datblygiad mawr gan Stena Line, gan arddangos ei botensial strategol oherwydd ei gysylltiadau cryf â chyfleustodau. Tanlinellodd y sgyrsiau hyn uchelgais a chydnerthedd rhanddeiliaid lleol, gan atgyfnerthu ymrwymiad y comisiwn i lunio polisi seilwaith sy’n galluogi twf economaidd a gwydnwch hinsawdd.

Pontypridd
Ym mis Tachwedd, roeddem i fod i gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd ar daith i lawr afon Rhondda ac afon Taf i ddysgu am rôl y sefydliad wrth reoli a rheoleiddio ein dyfrffyrdd o’r darddell i’r môr. Fodd bynnag, oherwydd bygythiad uniongyrchol Storm Claudia, penderfynom ar y cyd i ganslo’r daith, er ein diogelwch ac oherwydd ein bod yn ymwybodol o beidio â dargyfeirio adnoddau i ffwrdd o Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn lle hynny, penderfynom fynd ar y daith i Bontypridd o hyd i gael trafodaeth fewnol. Gwnaethom hefyd achub ar y cyfle i fynd am dro o amgylch canol y dref i weld y paratoadau a oedd yn cael eu gwneud rhag ofn y byddai’r amddiffynfeydd rhag llifogydd yn torri, ac i siarad â busnesau lleol i drafod sut yr oedden nhw’n paratoi ac yn ymateb i’r rhybuddion am lifogydd.
Datblygu sefydliadol y comisiwn
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein hunain fel comisiynwyr i’n cyfarparu i gyflawni ein rolau yn effeithiol, cyfathrebu’n llwyddiannus yn fewnol ac yn allanol, a sicrhau ein bod yn cyflawni ein cylch gwaith fel y’i nodir gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd dwy sesiwn fyfyriol gennym yn 2025. Rhoddodd ein sesiwn gyntaf ym mis Mawrth yng Nghasnewydd amser inni glywed yn uniongyrchol gan randdeiliaid am eu hargraffiadau o’r comisiwn. Cawsom ein hannog i barhau ar ein taith ac roedd yn galonogol clywed yr argraff gadarnhaol a wnaed gennym ar y rhanddeiliaid eraill a oedd yn gweithio ochr yn ochr â ni.

Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd ail sesiwn ym Mharc Bryngarw, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Defnyddiwyd dulliau creadigol gennym i fyfyrio ar ein gwaith, gan arwain at fewnwelediadau a fydd yn helpu i lywio ein gwaith wrth i ni ddechrau blwyddyn a all ddod â newid sylweddol i Gymru.
Bu’r comisiynwyr yn trafod gallu’r comisiwn i gyflawni newid drwy argymhellion ffurfiol a thrwy lwybrau eraill, a gwnaethant ystyried, er y gall fod yn rhwystredig o araf i newid polisïau, fod llawer o lwybrau i lwyddiant, a rhesymau i fod yn dra optimistaidd wrth i’n dylanwad dyfu.
Yn 2025, cynhaliodd y comisiynwyr hyfforddiant arbenigol ar sut i wneud cyfweliadau â’r cyfryngau hefyd, a ddarparwyd gan gydweithwyr yn Equinox.
Systemau digidol
Rydym wedi parhau i ddatblygu ein cynnig cyfathrebu digidol, gan barhau i adeiladu ein gwefan, sy’n ein helpu i rannu ein gwybodaeth ddiweddaraf a’n naratif am seilwaith yng Nghymru.
Gwefan
Mae ein gwefan yn cynnwys nodiadau cyfarfodydd y comisiwn a chyhoeddiadau eraill, cofnodion o ymrwymiadau a chyfarfodydd allanol, gwybodaeth am brosiectau a fideos o’n hymddangosiadau yn y cyfryngau, yn y Senedd neu ar ymweliadau casglu ffeithiau. Y mae hefyd yn mewnosod delweddau o’n cyfrif cyfryngau cymdeithasol Pixelfed, ac yn gweithredu fel y canolbwynt ar gyfer y rhan fwyaf o’n gweithgarwch â’r cyhoedd.
Mae ein hystadegau o ran y we ar gael i bawb eu harchwilio. Yn y 12 mis ers ein hadroddiad diwethaf, mae’r wefan wedi cael ei chyrchu fwy nag 17,000 o weithiau, gyda mwy na 12,500 o ymwelwyr unigol o 89 o wledydd. Y ddwy brif wlad tarddiad yw’r DU a’r UDA. Fodd bynnag, mae’r pum gwlad nesaf yn y rhestr yn cynrychioli 30% o’r ymweliadau. Y gwledydd hyn yw Singapore, Sweden, yr Almaen, yr Iseldiroedd ac Iwerddon.
Ar wahân i’r hafan, ein gwefan blog yw’r dudalen fwyaf poblogaidd. Y dudalen sy’n cynnwys yr adroddiad ar lifogydd oedd yr ail fwyaf poblogaidd. Mae’n braf gweld, sawl blwyddyn ar ôl ei gyhoeddi, fod ein hadroddiad ar ynni adnewyddadwy yn parhau i fod yn dudalen boblogaidd iawn i ymwelwyr, gan ddod yn bedwerydd ar restr y tudalennau yr ymwelir â hwy fwyaf.

Cyfryngau cymdeithasol
We are active on three social media sites and have grown our presence on these throughout the year:
- LinkedIn, gyda mwy na 1,775 o ddilynwyr ar hyn o bryd. Mae hyn yn gynnydd o fwy na 25% ar y flwyddyn flaenorol.
- Mastodon. Roedd ein postiad mwyaf poblogaidd yn tynnu sylw at dri chomisiynydd â chyfrif ar tŵt.cymru, gweinydd Cymru ar gyfer Mastodon. Mae gennym dros 125 o ddilynwyr ar y platfform hwn.
- Pixelfed. Platfform cyfryngau cymdeithasol trwydded agored wedi ei optimeiddio ar gyfer rhannu delweddau.
Ymgysylltu ag eraill a gweithio gyda hwy
Rydym yn cofnodi ein hymarferion ymgysylltu â’n cyfarfodydd allanol ar ein gwefan mewn ffordd agored a thryloyw. Mae’r ymrwymiadau ychwanegol hyn yn ein helpu i ymchwilio i faterion ein prosiect mawr yn fanylach, y tu allan i’r prif gontractau ymchwil. Edrychwn ymlaen at gyfarfod â rhagor o sefydliadau ac unigolion dros y flwyddyn nesaf a all gyfoethogi ein gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd adeiledig a seilwaith yn fwy cyffredinol.
Mae gweithio gyda’n gilydd yn helpu i wneud y mwyaf o setiau sgiliau, cyrhaeddiad ac argaeledd adnoddau.
Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â chydweithwyr o Awdurdod Cenedlaethol Seilwaith a Thrawsnewid Gwasanaethau y DU (NISTA) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni gwaith, prosiectau a blaenoriaethau

Ein proffil
Dros y 12 mis diwethaf, mae ein partneriaeth gyfathrebu ag Equinox wedi helpu i gryfhau proffil y comisiwn fel corff cynghori dibynadwy a blaengar sy’n llunio dyfodol seilwaith hirdymor Cymru.
Ein dull cychwynnol oedd canolbwyntio ar osod sylfeini strategol cryf a chodi proffil y comisiwn cyn cyhoeddi ein prif adroddiadau. Roedd hyn yn cynnwys lansio hunaniaeth weledol wedi ei hadfywio, gwella ein presenoldeb ar LinkedIn, a chyflawni gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus wedi eu targedu sy’n ymwneud â’r adroddiad ‘Meithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru erbyn 2050’.
Arweiniodd yr ymdrechion hyn at dwf sylweddol yn y gynulleidfa ac ymgysylltiad wrth ragori ar y dangosyddion perfformiad allweddol a osodwyd, gan gynnwys 2.5 miliwn o gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus i’w gweld, dros 450 o ddilynwyr newydd ar LinkedIn, cyrhaeddiad o 17,600 ar y platfform, a chyfradd ymgysylltu gyfartalog o 10.3% (ymhell uwchlaw meincnodau’r diwydiant).Datblygodd Equinox hefyd gyfres o offer strategol hirdymor, megis cynllun ymgysylltu aml-flwyddyn, negeseuon wedi eu hadnewyddu, mapio cynulleidfaoedd, a phecyn cymorth dwyieithog i bartneriaid i gynorthwyo’r gwaith o barhau i hyrwyddo ein gwaith.
O haf 2025 ymlaen, symudodd ein ffocws i weithredu a monitro ein cynllun cyfathrebu a gweithredu wedi ei adnewyddu wrth baratoi ar gyfer cyfres o gyhoeddiadau adroddiad, gan gynnwys yr adroddiad cyfathrebu ar hinsawdd, yr adroddiad diwedd tymor, a’r asesiad cryno o seilwaith.
O fewn y chwarter cyntaf, gwnaethom gyflawni cyfradd ymgysylltu gyfartalog o 8% (ystyrir bod 3–6% yn rhagorol) gan gyrraedd mwy na 18,000 o bobl ar LinkedIn, gan ragori ar ganlyniadau contract un o fewn dim ond tri mis.

Yn ogystal, cyflwynodd yr asiantaeth raglen ynghylch arweinyddiaeth feddwl wedi ei diweddaru, gwybodaeth am weithgarwch cysylltiadau â’r cyfryngau, argymhellion ar gyfer y cylchlythyr, a hyfforddiant wyneb yn wyneb ar sut i ymdrin â’r cyfryngau i gomisiynwyr, gan gryfhau gallu a dylanwad y comisiwn ar draws cynulleidfaoedd â blaenoriaeth. Cyfrannodd ei waith at deimlad cadarnhaol yn y cyfryngau yn gynnar yn y flwyddyn (wedi cynnwys 100% o’r negeseuon allweddol) ac ymgysylltu cryf gan bartneriaid, a chofnodwyd bod ein dolenni wedi eu clicio a’u rhannu dros 400 o weithiau, e.e. i wefan y comisiwn, adroddiadau ac ati.
Yn fwyaf diweddar, o fis Hydref i fis Tachwedd 2025, lansiwyd ein trydydd adroddiad mawr yn llwyddiannus, ‘Storm Berffaith: A yw Cymru’n gwneud digon i gydlynu camau gweithredu ac ennyn ymgysylltiad cymunedau i addasu ein seilwaith i hinsawdd sy’n newid?’. Trwy ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol gydlynol, gwnaethom lwyddo i gael sylw’r cysylltiadau cyhoeddus ar 15 darn (cyfleoedd i’w gweld: dros dair miliwn), sicrhau cyfweliad darlledu â Newyddion ar S4C, a chyrraedd mwy na 4,000 o bobl yn organig ar LinkedIn o fewn pythefnos, a hynny i gyd wrth gynnal cyfradd ymgysylltu gyfartalog o 8%.
Mae Equinox hefyd wedi adnewyddu ac ailfrandio pecyn cymorth cyfathrebu’r comisiwn i arfogi partneriaid ag asedau parod y gallant eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn i ehangu adroddiadau’r comisiwn a chynnal momentwm parhaus.
Trwy gydol y flwyddyn hon o gyflawni, mae cefnogaeth Equinox wedi ein helpu i ddyfnhau ymgysylltiad, cryfhau ein llais cyhoeddus, ac adeiladu platfform cadarn ar gyfer cyflwyno ein hargymhellion i gynulleidfaoedd ledled Cymru.
Ein fframwaith

Ein gwariant ar gyfer 2024–2025 a’n cyllideb ar gyfer 2025–2026
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllideb benodol i’r comisiwn er mwyn iddo gyflawni’r rhaglen waith ac ymgymryd ag ymchwil. Rydym yn cyhoeddi ein meysydd gwariant arfaethedig er tryloywder.

Yn 2024–2025, o’n dyraniad cyllideb o £370,000, gwariwyd tua £335,000 gennym. Treuliwyd y rhan fwyaf o hyn yn ymgymryd ag ymchwil ar gyfer y prosiect ymaddasu i newid hinsawdd, a amlinellir yn fanylach isod. Gwariwyd arian sylweddol gennym hefyd ar feysydd eraill, megis lansio ein hadroddiad ar lifogydd. Cofnodwyd tanwariant yn y gyllideb a ddyrannwyd i ffioedd a threuliau comisiynwyr, gyda dim ond 76% o’r gyllideb hon wedi ei defnyddio.
Ar gyfer 2025–2026, rydym wedi cael cyllideb o £400,000 gan Lywodraeth Cymru. Sicrhawyd hyn yn gynharach na blynyddoedd blaenorol, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cadarnhad cynnar hwn sydd wedi ein galluogi i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y flwyddyn, penderfynu ar ein prosiectau a’n blaenoriaethau o ran gwariant, a mynegi’r rhain drwy gynllun gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Ein rhaglen waith
Ynni adnewyddadwy 2022–2023
Y prif gomisiynwyr: Aleena Khan a Nick Tune

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect
Ym mis Hydref 2023, cyhoeddwyd ein hadroddiad mawr cyntaf gan y comisiwn hwn, sef Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050.
Gwnaeth y comisiwn 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y canlynol:
- Cyflymu’r broses o gyflwyno datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy bennu gweledigaeth a chynllun gweithredu cliriach y gall byd busnes a chymunedau eu deall.
- Darparu buddsoddiad ymlaen llaw i helpu’r broses o lansio rhagor o brosiectau.
- Helpu cymunedau i berchnogi ar gynlluniau lleol a rhannu’r manteision sy’n deillio ohonynt.
- Diweddaru rheolau cynllunio a rheoliadau adeiladu.
- Defnyddio ei dylanwad gyda chyrff yn y DU er mwyn helpu i ddatrys problemau sy’n ymwneud â seilwaith grid annigonol.
- Sicrhau bod mwy o’r buddion economaidd yn aros yng Nghymru ac yn dod â budd i bobl Cymru, gan gynnwys cronni elw mewn cronfa gyfoeth sofran newydd.
Rydym yn parhau i annog Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy wneud y canlynol:
- Pennu disgwyliadau uwch o ran perchnogaeth gymunedol, yn enwedig ar gyfer yr holl ddatblygiadau ynni.
- Gweithredu lawer yn gyflymach i leihau rhwystrau i gyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach drwy waith datblygu a ganiateir.
- Ystyried y syniad o ‘gydsyniad rhagdybiedig’ ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol.
- Cyflwyno arbenigedd cyfunol i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau a chydsynio mwy amserol ar gyfer prosiectau.
Yn dilyn sawl cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill dros y flwyddyn, ysgrifennwyd eto at Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cabinet, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hargymhellion. Gellir dod o hyd i’r ymateb ar ein gwefan. Er ein bod yn croesawu ymateb manwl yr Ysgrifennydd Cabinet i’n gohebiaeth, mae nifer o’n hargymhellion yn parhau heb amserlenni clir na chamau nesaf diffiniedig. Byddwn yn parhau i annog mwy o frys a manylder fel nad yw Cymru’n colli momentwm ar y cyfle cenedlaethol hwn.
Er mwyn bwrw ymlaen â rhai o’n hargymhellion, rydym wedi ymateb yn gadarnhaol i dri ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru eleni:
- Yr adolygiad o hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer pympiau gwres o’r aer a amlygwyd gennym fel rhwystr posibl i gyflwyno’r dechnoleg gynyddol boblogaidd hon.
- Rhan L o’r rheoliadau adeiladu ynghylch ymgorffori ynni adnewyddadwy mewn cartrefi newydd.
- Yr ymgynghoriad ar adnoddau cynllunio a geisiodd syniadau ar sut y gallai Cymru gyflwyno adnoddau rhanbarthol wedi eu cronni ar gyfer swyddogaethau cynllunio arbenigol.
Gwnaethom hefyd barhau i hyrwyddo ein hargymhellion ar berchnogaeth leol ar brosiectau ynni a’r potensial ar gyfer ynni’r llanw yng Nghymru. Rydym hefyd yn parhau i fonitro gweithgareddau GB Energy i geisio sicrhau bod gwariant y sefydliad hwn sy’n eiddo i Lywodraeth y DU yn cael ei ddosbarthu’n deg. Rydym hefyd wedi ysgrifennu postiadau blog ar dargedau ynni adnewyddadwy Cymru, sut y mae gwariant ar brosiectau ynni gwynt mawr yn mynd o Gymru; a’r cynnydd a wnaed ar gyflwyno ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn fwy cyffredinol.
Llifogydd 2023–2024
Y prif gomisiynwyr: Eurgain Powell ac Eluned Parrott
Yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect
m mis Hydref 2024, cyhoeddwyd ein hail adroddiad mawr, y tro hwn ar lifogydd. Sefydlwyd hyn yn ein cylch gwaith gan Gytundeb Cydweithio 2021 i asesu sut y gellid lleihau effeithiau llifogydd ar gartrefi, busnesau a chymunedau erbyn 2050.
Cyflwynodd Meithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru erbyn 2050 gymaint ag 17 o argymhellion beiddgar ond ymarferol i Weinidogion Cymru er mwyn diogelu Cymru at y dyfodol yn erbyn y risgiau cynyddol o lifogydd dros y 25 mlynedd nesaf. Mae’r adroddiad yn pwysleisio atebion naturiol, gan roi natur a chymuned ar flaen y gad o ran meithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru.

Cawsom yr ymateb gan Lywodraeth Cymru chwe mis yn union ar ôl i ni gyhoeddi’r adroddiad.
Rydym yn falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi croesawu ein hadroddiad a’n hargymhellion, ac rydym wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol ag ef a swyddogion dros y 12 mis diwethaf. Mae cynnydd yn cael ei wneud ar gwmpasu fforwm llifogydd cenedlaethol i Gymru, treialu dull cynllunio dalgylchoedd i Gymru a chefnogi dulliau rheoli llifogydd naturiol drwy’r cynllun ffermio cynaliadwy newydd. Fodd bynnag, o ystyried maint yr her, rydym yn parhau i bryderu nad yw materion hirdymor allweddol yn cael sylw digonol eto. Yn benodol, nid yw rôl natur a chymunedau fel rhanddeiliaid sylfaenol wrth lunio gwydnwch rhag llifogydd yn ymddangos fel pe bai wedi ei fewnoli’n llawn o fewn dull Llywodraeth Cymru, gyda phwysau uniongyrchol yn rhy aml yn cysgodi anghenion tymor hwy. Mae hyn yn peri risg o waethygu heriau yn y dyfodol yn hytrach na’u lleihau.
Cafodd ein hadroddiad groeso cynnes gan y sector—
“Mae’r adroddiad yn arloesol ac yn feiddgar, ac yn cyflwyno syniadau i’w hystyried, sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ymrwymiadau polisi a rhaglenni ariannu presennol. Mae ganddo’r potensial i ysgogi trafodaeth am y newidiadau y bydd eu hangen er mwyn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau’n ymwneud â’r perygl o lifogydd yn y degawdau i ddod”.
“Mae’n gyfres uchelgeisiol o argymhellion. Rwy’n gobeithio y bydd eich trafodaeth barhaus â Llywodraeth Cymru ynghylch ei weithredu yn parhau i ddwyn“
“Diolch am adroddiad defnyddiol ac amserol iawn, sy’n helpu i newid y ffordd o feddwl a herio’r chwaraewyr allweddol, gan gynnwys y Llywodraeth”.
“Gobeithio y gallwch barhau i godi’r materion a nodwyd yn adroddiad y comisiwn gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Rydym yn sicr yn gwerthfawrogi’r effaith y gallwch ei hychwanegu o safbwynt ehangach y tu allan i’r sector ei hun”.
Rydym wedi parhau i eirioli dros ein hargymhellion yn ein gwaith, gan gynnwys ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Rydym hefyd wedi ysgrifennu dau bostiad blog ar wydnwch rhag lifogydd yng Nghymru a chymharu’r dull yn Lloegr â’r un a fabwysiadwyd yng Nghymru.
Mae’r comisiwn hefyd wedi cymryd yr awenau wrth weithredu ei argymhelliad ei hun ar strwythurau llywodraethu mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru, ac wedi treialu penodi gwarcheidwad natur, Elspeth Jones, ar gyfer rhan olaf 2025. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn isod.
Cyfathrebu ymaddasu i newid hinsawdd 2024–2025
Y prif gomisiynwyr: Helen Armstrong a Steve Brooks
Yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect
Ar 15 Hydref 2025, cyhoeddwyd ein hadran blwyddyn 3 ar ymaddasu i newid hinsawdd ac ymgysylltu â’r gymuned: Storm Berffaith: A yw Cymru’n gwneud digon i gydlynu camau gweithredu ac ennyn ymgysylltiad cymunedau i addasu ein seilwaith i hinsawdd sy’n newid?

Roedd ein hadroddiad yn cynnwys 12 argymhelliad ar sut y dylai Cymru fod yn paratoi i ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd, sy’n cael eu profi gan gymunedau ledled Cymru. Gwnaethom hefyd ystyried sut y dylid gwneud penderfyniadau, gan gynnwys y cymunedau yr effeithir arnynt.
Nodwyd ein gweledigaeth strategol ar gyfer seilwaith sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru, gan bwysleisio’r angen taer i ymaddasu i newid hinsawdd. Rydym yn tynnu sylw at y risgiau systemig a achosir gan dywydd eithafol a thymheredd cynyddol, gan alw am fil ymaddasu i newid hinsawdd a rwymir mewn cyfraith yn nhymor nesaf y Senedd. Byddai’r ddeddfwriaeth hon yn sefydlu targedau clir ac yn creu fframwaith ar gyfer gweithredu cydlynol ar draws y Llywodraeth a sectorau. Rydym yn galw am uned gydnerthu seilwaith cenedlaethol, a gwell cydgysylltu rhynglywodraethol i fynd i’r afael â chyfrifoldebau darniog, a sicrhau bod Cymru wedi ei pharatoi ar gyfer heriau o ran yr hinsawdd yn y dyfodol.
Mae cynnwys y gymuned yn ganolog i’n holl argymhellion. Mae’r adroddiad yn dadlau dros gynnwys cymunedau amrywiol sy’n seiliedig ar leoedd yn gynnar yn y broses, ac mewn ffordd sy’n eu galluogi i gymryd rhan wrth lunio strategaethau ymaddasu, gan gydnabod bod effeithiau’r hinsawdd yn amrywio’n lleol. Rydym yn argymell sefydlu prif swyddog cyfranogiad erbyn 2028, a chyflwyno canllawiau statudol ar gyfer ymgysylltu ystyrlon drwy’r system gynllunio. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig adolygu Polisi Cynllunio Cymru a chreu nodyn cyngor technegol ar ymaddasu i newid hinsawdd er mwyn sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn ymgorffori ystyriaethau ynghylch cydnerthedd yn llawn.
Mae ein hadroddiad yn amlinellu camau ymarferol i gryfhau cydnerthedd seilwaith, gan gynnwys sefydlu hwb dyfodol yr hinsawdd ar gyfer data a deallusrwydd, gwella prosesau asesu prosiectau, a sicrhau ffrydiau ariannu pwrpasol ar gyfer gwaith ymaddasu. Credwn fod pwysigrwydd platfformau data cadarn, a chydweithio traws-sector i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a monitro cynnydd, yn hanfodol i’n holl awgrymiadau.
Ochr yn ochr â’n hadroddiad, rydym wedi cyhoeddi pecyn cymorth ymgysylltu â’r gymuned, sy’n darparu canllawiau ymarferol ar gyfer cynnwys cymunedau lleol yn y broses gynllunio, a’r broses o wneud penderfyniadau ar seilwaith. Mae hyn wedi dysgu oddi wrth brofiadau gwaith yr ymarfer arbrofol gyda chymuned Grangetown yng Nghaerdydd. Mae’r pecyn cymorth yn pwysleisio ymgysylltiad cynnar a chynhwysol i feithrin ymddiriedaeth, gwella canlyniadau prosiectau, a sicrhau tegwch. Mae’n amlinellu egwyddorion fel tryloywder, hygyrchedd a chyd-ddylunio, gan gynnig dulliau cam wrth gam ar gyfer ymgynghori, gweithdai cyfranogol, a dolenni adborth. Mae hefyd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i deilwra dulliau i gymunedau amrywiol a defnyddio offer digidol ochr yn ochr ag ymgysylltu wyneb yn wyneb i gynyddu cyrhaeddiad ac effeithiolrwydd i’r eithaf.
Mae ein gwaith eleni wedi ein galluogi i ymestyn ein cyfranogiad mewn ymarferion ymgysylltu â phobl ifanc a’r gymuned. Rydym yn parhau â’n gwaith yn Grangetown yn 2026 ac yn falch o fod yn cefnogi grwpiau cymunedol yn yr ardal i symud sgyrsiau sy’n ymwneud â newid hinsawdd yn eu blaen.
Gwaith blwyddyn 4 – asesiad o seilwaith y dyfodol
Y prif gomisiynwyr: David Clubb, Aleena Khan a Nick Tune
Yn dilyn adborth o sgyrsiau blaenorol a chytundeb Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu’r comisiwn fel y gall barhau â’i waith yn 2025–2026, rydym wedi dechrau gweithio ar asesiad o seilwaith Cymru.
Rydym wedi penodi Arcadis i’n cynorthwyo gyda’r gwaith hwn i asesu’r canlynol:
- Y materion cyfredol yn ymwneud â’r prif sectorau seilwaith yng Nghymru
- Cyflwyno data presennol ar y materion hyn mewn ffordd hawdd ei defnyddio a’i deall
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid sy’n gweithredu yn y sectorau hyn i gael barn ar y materion a wynebir; a
- Defnyddio syniadau ar gyfer y dyfodol i ragweld ein hanghenion seilwaith yn y dyfodol yng Nghymru er mwyn ceisio datrysiadau radical
At ddibenion y prosiect hwn, rydym yn diffinio’r prif sectorau seilwaith yng Nghymru fel a ganlyn:
- Ynni (gan gynnwys dosbarthu a throsglwyddo trydan, nwy a gwres)
- Dŵr (gan gynnwys llifogydd a rheoli dŵr croyw / gwastraff)
- Trafnidiaeth (gan gynnwys ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol)
- Economi gylchol / rheoli gwastraff
- Digidol / telathrebu
Bydd allbynnau penodol y prosiect hwn yn cynnwys:
- Dangosfwrdd o ystadegau a materion seilwaith cyfredol Cymru
- Cyfres o weithdai bord gron, sy’n canolbwyntio ar sectorau, gan ddefnyddio technegau’r dyfodol
- Dogfennau ‘chwarae ein rhan’ penodol i’r sector ar gyfer pob maes seilwaith
- Adroddiad(au) ysgrifenedig sy’n cynnwys y meysydd gweithredu y cytunwyd arnynt
Mae gwaith ymchwil yn mynd rhagddo ar y prosiect hwn ar hyn o bryd. Bydd y comisiwn yn trefnu digwyddiad Symposiwm Seilwaith Cymru ym mis Mawrth 2026 i rannu’r canfyddiadau a chreu trafodaeth ar yr anghenion seilwaith mwyaf dybryd ar gyfer tymor nesaf y Senedd.
Gwaith blwyddyn 4 – ymchwil ar gyflawni seilwaith
Y prif gomisiynydd: Jen Baxter
Yn ystod tymor y Senedd hwn, mae’r comisiwn wedi cynnal amryw o brosiectau ymchwil, wedi siarad â nifer o randdeiliaid, ac wedi ymweld â sawl rhan o’r wlad i ddeall y problemau seilwaith sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd. Rydym wedi canfod bod gan Gymru hanes cymysg o gyflawni prosiectau seilwaith mawr. Dros yr 20 mlynedd diwethaf bu rhai prosiectau proffil uchel nad ydynt wedi eu gwireddu neu nad ydynt wedi cael eu datblygu yn y pen draw. Mae’r comisiwn yn credu bod hyn wedi gadael y cymunedau cartref a’r genedl â theimlad o golled, siom a methiant i wireddu unrhyw fuddion economaidd a chymdeithasol.
Trwy gydol ein gwaith a’n hymdrechion ymgysylltu mae sawl thema gyffredin wedi dod i’r amlwg yn aml y mae’r comisiwn yn credu bod angen ymchwilio iddynt ymhellach i ddatgelu rhai o achosion sylfaenol sy’n esbonio pam na wireddwyd y prosiectau mawr hyn. Mae’r ‘themâu’ hyn yn dod o dan y categorïau canlynol:
- Economeg a chyllid
- Sgiliau (o fewn y sector a’r bobl hynny sy’n gyrru prosiectau yn eu blaen)
- Yr amgylchedd gwleidyddol
- Rôl ymgysylltu
- Y systemau cynllunio statudol / trwyddedu amgylcheddol
Nid yw hynny’n golygu bod pob prosiect yn profi’r un dynged, a hoffai’r comisiwn hefyd ddeall sut y cyflawnwyd y prosiectau llwyddiannus yng Nghymru, fel y gellir dysgu a rhannu o’r profiadau hyn yn achos prosiectau eraill o fewn y sector cyflawni seilwaith.
I gael gwybod mwy am y mater hwn rydym wedi comisiynu Arup i ymchwilio a dadansoddi rhai o brosiectau seilwaith Cymru sydd wedi bod yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus ar hyd gwahanol gamau’r prosiectau. Y nod yw casglu gwybodaeth, data ac ystadegau, a all ategu dealltwriaeth anecdotaidd y comisiwn a thynnu sylw at y problemau systemig sy’n atal prosiectau rhag cael eu cyflawni’n llwyddiannus ar draws y sectorau seilwaith.
Bydd yr ymchwil yn gwneud y canlynol:
- Ein helpu i ddeall y prif ffactorau sy’n atal prosiectau seilwaith mawr rhag cael eu cyflawni yng Nghymru
- Yn defnyddio astudiaethau achos i dynnu sylw at yr hyn sy’n gwneud prosiectau yn llwyddiannus, a’r hyn sy’n atal prosiectau eraill rhag cael eu cyflawni
- Yn defnyddio arolygon o randdeiliaid a chyfweliadau â rhanddeiliaid, datblygwyr a hyrwyddwyr allweddol cynlluniau i ymchwilio i’r problemau
- Yn cefnogi unrhyw ganfyddiadau gyda data, pan fydd ar gael, i ddangos tystiolaeth o gasgliadau cyffredinol yr adroddiadau.
Bydd pwyslais yr ymchwil ar brosiectau a gefnogir gan y sector cyhoeddus, lle mae angen ymyrraeth gan y wladwriaeth i wireddu buddion llawn cynllun i’r cymunedau ehangach.
Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu argymhellion i Lywodraeth Cymru, a hefyd i lywio rhaglen waith y comisiwn ar gyfer tymor nesaf y Senedd.
Gwarchodwr natur y comisiwn
Yn 2024, gwnaethom argymell i Lywodraeth Cymru y dylai natur gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar bolisïau sy’n ymwneud â llifogydd. Ar ôl argymell y cam hwn i Lywodraeth Cymru, gwnaethom fabwysiadu’r cysyniad hefyd gan ystyried y dylai’r comisiwn fod yn arloeswr wrth sefydlu rôl gwarcheidwad natur.
Roeddem am gael profiad uniongyrchol o weithio gyda gwarcheidwad natur, a helpu i rannu ein profiadau fel y gallai eraill ystyried cyfle tebyg mewn ffordd sy’n cael ei llywio’n well.
Yn 2025, gosodwyd y sylfeini ar gyfer y gorchwyl hwn, drwy wahodd Simeon Rose, cyd-greawdwr Nature on the Board, i ddisgrifio sut y gallai comisiynydd natur weithio yn achos y comisiwn, neu i gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Gwahoddwyd Dr Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg a’r Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd, i fyfyrio ar dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, sy’n rhoi persbectif unigryw ar roi llais i natur, sy’n gynyddol berthnasol, yma. Lluniodd Dr Salisbury gerdd (gweler y blwch) a fideo hefyd i ddod â’r syniadau hyn yn fyw.
Dewch, rhoddwn le i natur wrth y bwrdd …
Ond mae gweld lygad yn llygad â hi’n
Anoddach tasg nag ysgwyd llaw wrth gwrdd
Dros baned fach o de, fe dybiwn i,
Ac ni fydd siarad mân yn gwneud y tro
Am hyn a’r llall mewn sgwrs â’r lli a’r coed
A’r mawn, a gydag un mor hir ei cho‘,
Byddwn yn gynnil gyda’r gair ‘erioed’.
Ond er mwyn popeth, wir, na fyddwn fud
Wrth syllu i lygaid yr ymwybod maith,
Na, gwnawn yn fawr o’n hetifeddiaeth ddrud
Sy bron cyhyd â’i gwybod hi: ein hiaith,
Sy’n cronni doethinebau’r tymor hir.
Pa obaith deall hebddi hyn o dir?
Yn haf 2025, bu’n bleser cael cyhoeddi bod y comisiwn wedi penodi Elspeth Jones yn warcheidwad natur am gyfnod arbrofol o chwe mis.
Ym mis Hydref, roeddem yn falch o gomisiynu Lawyers for Nature i weithio gyda ni i ddatblygu egwyddorion ar gyfer cynrychioli natur o fewn y prosesau o wneud penderfyniadau, gan ganolbwyntio ar sut y gall unigolyn weithredu’n effeithiol fel gwarcheidwad natur. Bydd eu gwaith yn cynnwys adolygiad wedi ei dargedu ar gynrychiolaeth natur a llywodraethu amgylcheddol, datblygu egwyddorion clir ac ymarferol i lywio unrhyw sefydliadau sy’n mabwysiadu modelau tebyg, a chynhyrchu adroddiad sy’n amlinellu eu canfyddiadau a’u hargymhellion. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â heriau megis achub ar fuddiannau amrywiol natur, sicrhau atebolrwydd a chyfreithlondeb, a lliniaru’r cyfyngiadau sy’n deillio o gael un cynrychiolydd yn unig.
Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau ac yn hyrwyddo ein gwaith mewn digwyddiad yn y Senedd ym mis Ionawr 2026.
Elspeth Jones – Gwarcheidwad Natur Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2025
Rwy’n gyfreithiwr o ran fy ngalwedigaeth ac wedi gweithio ar yr heriau deuol, sef newid hinsawdd a dirywiad natur am y 12 mlynedd diwethaf. Dros yr amser hwn, rwyf wedi gweld yn rhy aml yr hyn a all ddigwydd pan nad yw natur yn cael ei hystyried, a phan nad yw’n cael ei blaenoriaethu, neu’n mynd yn angof yn llwyr.
Mae dyfodol pobl Cymru wedi ei gydblethu’n annatod â dyfodol natur yng Nghymru. Dim ond os yw natur hefyd yn ffynnu y gall pobl ffynnu – dŵr glân, aer glân, ynni glân, bwyd iach, ecosystemau a thirweddau, a chysylltiad diwylliannol dwfn â rhyfeddodau’r byd naturiol. Ond mae Cymru bellach yn un o’r lleoedd sydd wedi dirywio fwyaf o ran ei natur yn y byd i gyd, lle bu unwaith fleiddiaid, baeddod gwyllt, lyncsod, eirth a chathod gwyllt, a’n barddoniaeth a’n straeon gwerin mor ynghlwm wrth y tir. Rydym bellach yn prysur golli ein byd natur.
Mae nifer fach o sefydliadau—yng Nghymru a thu hwnt—yn dechrau gofyn y cwestiwn iddyn nhw eu hunain: a fyddai ystyried llais natur wrth wneud penderfyniadau a llywodraethu yn helpu i newid y trywydd hwn? Sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd sy’n cael effaith wirioneddol?
Dyma beth y mae’r comisiwn yn ei dreialu. Mae natur mor gysylltiedig â seilwaith Cymru, beth sy’n digwydd pan rydym yn gwrando ar lais natur? Hyd y gwyddom ni, y comisiwn yw’r corff cyhoeddus cyntaf (yn y byd) i benodi gwarcheidwad natur. Mae hyn yn gyfle unigryw i gyfrannu’r gwersi a ddysgwyd at y maes newydd hwn, ac i Gymru helpu i arwain y ffordd.

Fel y gwarcheidwad natur, nid fi sy’n gwneud y penderfyniadau. Y comisiynwyr sy’n gwneud hynny. Fy rôl i yw mynd i gyfarfodydd, derbyn adroddiadau, adolygu ac arsylwi, o safbwynt yr hyn sydd orau i natur—gofyn cwestiynau da ac weithiau dim ond rhoi awgrymiadau cynnil—gan helpu i gysylltu gwaith y comisiwn â natur, gan sicrhau bod natur wrth wraidd pob trafodaeth, gan wneud yn siŵr nad yw’n cael ei hymylu i’r atodiadau na’r troednodiadau.
Wrth roi’r cynllun arbrofol hwn ar waith, rydym oll yn cychwyn ar daith ddysgu, ac rwy’n edrych ymlaen at rannu’r hyn yr ydym yn ei ddysgu â chi.
Myfyrdodau’r comisiynydd
Helen Armstrong

Eleni roeddwn i’n falch iawn o allu cyhoeddi ein hadroddiad ar ein prosiect ymchwil ar gyfer blwyddyn 3. Dyma oedd uchafbwynt dwy flynedd o waith yn archwilio i ba raddau yr ymgysylltir â chymunedau mewn trafodaethau am yr hinsawdd. Arweiniodd hyn at ein hastudiaeth achos, a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Grangetown, Caerdydd. Nod y prosiect oedd profi pa mor effeithiol yw hi i ddefnyddio dulliau creadigol i ymgysylltu â chymunedau amrywiol wrth ystyried syniadau ar gyfer y dyfodol, gwneud penderfyniadau a meithrin gwydnwch rhag effeithiau newid hinsawdd.
Roedd yn brosiect llawn hwyl a diddorol i fod yn rhan ohono, ac rwy’n ddyledus iawn i’r grwpiau cymunedol yn y pafiliwn a’n croesawodd ni ac a roddodd eu hamser, eu hegni a’u cyfraniadau. Yn ogystal â’r gwaith gyda grwpiau cymunedol, cynhyrchwyd pecyn cymorth yn amlinellu’r dulliau creadigol a ddefnyddiwyd gennym, sydd ar gael am ddim i bawb ar ein gwefan. Rydym yn gobeithio ysbrydoli a braenaru’r tir ar gyfer darparwyr seilwaith a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn cynnwys dinasyddion fwy wrth ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu.
Rwyf wedi mwynhau fy nhymor yn y comisiwn yn fawr iawn. Rydym wedi ceisio glynu wrth ein gwerthoedd o ran y ffordd yr ydym yn gweithio, yn ogystal â’r hyn yr ydym yn ei gyflawni. Rydym wedi anelu at lenwi bwlch rhwng diwydiant, llywodraeth a chymunedau, ac i ysgogi ac ysbrydoli gyda’n hargymhellion a’n myfyrdodau. Rwy’n gobeithio y gall y comisiwn nesaf bwyso i fabwysiadu ein hargymhellion a pharhau i ychwanegu gwerth yn y maes hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Steve Brooks

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r comisiwn wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cryfhau’r sylfaen dystiolaeth a’r wybodaeth y mae ei hangen i gefnogi seilwaith hirdymor a gwydn i Gymru.
Mae cyhoeddiad ‘Storm Berffaith’ eleni, ein hadroddiad ar gyfer blwyddyn 3, wedi rhoi cyfle inni i ddyfnhau ein dealltwriaeth o sut y mae cymunedau, cyrff cyhoeddus a darparwyr seilwaith yn ymateb i bwysau cynyddol gymhleth sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
Gan gydweithio’n agos â chomisiynwyr eraill, yr ysgrifenyddiaeth, ac ystod eang o randdeiliaid, rydym wedi gallu dysgu gwersi sy’n tynnu sylw at gryfderau’r systemau presennol a’r meysydd lle mae angen diwygio ymhellach.
Wrth fyfyrio’n ehangach ar fy nghyfnod fel comisiynydd ers 2021, rwyf wedi gwerthfawrogi annibyniaeth y comisiwn, sydd wedi ein galluogi i gasglu safbwyntiau amrywiol, cynnig her adeiladol, a chyflwyno’r achos dros feddwl hirdymor mewn amgylchedd polisi, sy’n aml yn cael ei ddominyddu gan bwysau y mae angen mynd i’r afael â hwy ar unwaith. Dros y pedair blynedd hyn, rwyf wedi gwerthfawrogi’n arbennig y cyfle i hyrwyddo dulliau sy’n rhoi pobl, lleoedd a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ynghylch seilwaith. Wrth i’r comisiwn ddechrau ar ei gam nesaf o waith, bydd y mewnwelediadau a ddatblygwyd trwy ein gwaith yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer effaith barhaus. Rwy’n ddiolchgar i gydweithwyr a phartneriaid am eu harbenigedd, eu cydweithrediad, a’u hymrwymiad parhaus i ddyfodol Cymru.
Aleena Khan

Fy mlwyddyn ddiweddaraf ar y comisiwn fu’r flwyddyn pan fues i’n myfyrio fwyaf erioed!
Mae gweld yn uniongyrchol ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â thywydd garw yn gynyddol aml yng Nghymru wedi tanlinellu pa mor bwysig yw rôl y comisiwn wrth gynghori, argymell a herio polisïau’n ymwneud â seilwaith i feithrin gwydnwch.
Fel gweithiwr proffesiynol ym more oes fy ngyrfa, rwy’n aml yn poeni am yr heriau seilwaith ansicr y bydd yn rhaid i mi, fy nghynghreiriaid, a chenedlaethau’r dyfodol eu llywio yn y dyfodol os byddwn yn parhau ar ein trywydd presennol. Fodd bynnag, mae gweld cyrff fel y comisiwn, a’r sefydliadau sy’n ymgysylltu â’r comisiwn, yn gweithio’n weithredol tuag at ddatrysiadau yn rhoi hyder i mi fod newid ar y gorwel …
Eluned Parrott
Yn y flwyddyn yn dilyn lansiad ein hadroddiad ar wydnwch rhag llifogydd, mae Eurgain a minnau wedi bod yn dadlau dros feithrin ymdeimlad newydd o frys i helpu cymunedau yng Nghymru i fynd i’r afael â’r heriau y maent yn eu hwynebu. Ym mis Tachwedd 2024, gwnaethom ddewis lansio ein hadroddiad ym Mhontypridd, cymuned sydd wedi gweld yn uniongyrchol y dinistr y gall llifogydd ei achosi. Yn eironig, pan ddychwelom ym mis Tachwedd eleni i gyfarfod ag awdurdodau rheoli llifogydd, cafodd ein cyfarfodydd eu canslo oherwydd storm a oedd ar ddod. Yn lle hynny, gwelsom dimau o Cyfoeth Naturiol Cymru yn gosod gorsafoedd pwmpio, a chawsom gwrdd â rhai o’r busnesau sydd wedi wynebu llifogydd droeon dros y blynyddoedd diwethaf. Dysgom am y fiwrocratiaeth ddryslyd sy’n rhwymo busnesau a pherchnogion tai mewn clymau, y dryswch ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth, a’r rhwystredigaeth a’r pryder y mae pobl yn eu teimlo bob tro y bydd hi’n dechrau bwrw glaw. Nid oedd Storm Claudia wedi taro Pontypridd y tro hwn, ond yn anffodus, nid oedd Trefynwy yr un mor ffodus.
Mewn sawl ffordd, y cyfleoedd a gawsom i gwrdd â chymunedau a siarad yn anffurfiol am eu hanghenion seilwaith fu’r fraint fwyaf o wasanaethu ar y comisiwn, ond hefyd y rhan fwyaf heriol ac ysgogol o’n gwaith. Heriwyd ein rhagdybiaethau. Agorwyd ein llygaid. Ail-daniwyd ein hangerdd dros wneud cynnydd. Pan rydym wedi siarad â Gweinidogion, aelodau’r Senedd a chyrff cyhoeddus, rwy’n gobeithio ein bod wedi gallu rhannu lleisiau’r cymunedau hynny â nhw’n effeithiol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r grwpiau cymunedol sydd wedi rhannu eu meddyliau â ni, a’r arweinwyr cymunedol sydd wedi ein galluogi i ddod at ein gilydd.

Eurgain Powell

Yn dilyn y penderfyniad fy mod i ac Eluned i ganolbwyntio ar lifogydd, rwyf wedi bod yn falch iawn o sut y mae ein hadroddiad wedi cael ei dderbyn, ac y mae wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan bartneriaid allweddol. Fe’i disgrifiwyd yn “uchelgeisiol, beiddgar, arloesol, yn helpu i newid y ffordd yr ydym yn meddwl, ac yn herio rhanddeiliaid allweddol”. Fodd bynnag, mae cyflawniad yn hollbwysig. Mae nifer y llifogydd yn cynyddu ar draws Cymru, ac y mae rhai cymunedau’n gweld effaith y rheiny heddiw. Mae ein hadroddiad yn nodi’r llwybr y mae angen inni ei gymryd i feithrin gwydnwch hirdymor, gyda phobl a natur wrth wraidd ein dull gweithredu. Rydym yn parhau i siarad â’r Dirprwy Brif Weinidog a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i fonitro cynnydd ac archwilio cyfleoedd pellach i’r comisiwn eu cefnogi. Rwy’n falch iawn ein bod ni, fel comisiwn, wedi treialu un o’n hargymhellion, sef cynnwys natur yn ein trafodaethau a’n prosesau o wneud penderfyniadau, ac rwy’n edrych ymlaen at rannu ein profiadau ag eraill yn ein digwyddiad ym mis Ionawr.
Uchafbwynt arall fu ein hymweliadau â Bannau Brycheiniog, y Bermo a Fairbourne, Conwy a Bae Colwyn i siarad â phartneriaid a chymunedau am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, a sut y maen nhw’n ymateb i newid hinsawdd a materion eraill. Mae’r ymweliadau hyn wedi bod yn hynod addysgiadol a hwyl. Mae mor bwysig ein bod yn gwrando ar bob safbwynt, ac yn cynnwys cymunedau yn ein prosesau o wneud penderfyniadau, er mwyn nodi datrysiadau lleol i’r heriau sy’n ein hwynebu.
Nick Tune
Mae’r bygythiad a achosir gan lifogydd cynyddol aml a digwyddiadau tywydd eithafol yn golygu bod angen cyflymu’r broses o gymryd camau i liniaru effeithiau newid hinsawdd nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen. Mae bellach yn bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau gwydnwch hirdymor ein seilwaith cenedlaethol.
Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y gwaith y cyflawnodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn 2025. Mae hyn yn cynnwys darparu argymhellion cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar reoli’r perygl o lifogydd yn effeithiol, wedi eu hategu gan raglen lwyddiannus o gyfathrebu ac ymgysylltu a gynlluniwyd i hysbysu pobl Cymru, a chydweithio â hwy ar y broses o ymaddasu i newid hinsawdd.
Er gwaethaf y camau breision a gymerwyd gennym o ran ymaddasu, mae’n bosibl bod amharodrwydd presennol Llywodraeth Cymru i fabwysiadu ein hargymhellion hanfodol ar gyfer trawsnewid Cymru i system ynni 100% adnewyddadwy yn rhwystro cynnydd. Mae hwn yn fater o flaenoriaeth frys i’r genedl. Rydym angen cynllun cyflawni cenedlaethol manwl ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn ddi-oed, wedi ei integreiddio’n gynhwysfawr â map ffordd clir ar gyfer gwneud y gwaith gwella y mae ei angen ar y grid. Yn ogystal, mae diwygio deddfwriaethol yn hanfodol: Rhaid cryfhau rheoliadau adeiladu i’w gwneud yn hanfodol i osod technoleg ffotofoltäig wrth godi adeileddau newydd.
