Gwasg
Gwybodaeth CSCC
E-bost: info@nationalinfrastructurecommission.wales
Sefydlwyd: 2018
Comisiynwyr: Wyth, gyda chyfanswm dyraniad amser o 28 diwrnod y mis calendr
Ysgrifenyddiaeth: Dau, gyda chyfanswm dyraniad amser o 1.8 CALl Cyllideb: Amrywiol, ond tua £400,000 y flwyddyn
Llefarwyr
Dr David Clubb

Enw: Dr David Clubb Rôl: Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) Ieithoedd: Cymraeg a Saesneg
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad gyda David, cysylltwch â thîm CSCC yn Equinox ar: nicw@equinoxcommunications.co.uk neu 02920 764100.
Meysydd arbenigedd ar gyfer cyfweliad neu drafodaeth
-
- Rôl CSCC, ei genhadaeth a sut mae’n gweithredu fel corff cynghori i Lywodraeth Cymru.
-
- Sut i feithrin cydnerthedd Cymru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd, drwy addasu/lliniaru seilwaith.
-
- Ynni adnewyddadwy, gan gynnwys materion perchnogaeth gymunedol a lleol
-
- Seilwaith Cymru — gyda phwyslais ar atebion cymunedol a natur sy’n alinio ac yn cynnal gwerthoedd Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
-
- Egwyddorion, strategaeth a chamau gweithredu datblygu cynaliadwy; sut mae Cymru wedi rhoi’r Nodau Datblygu Cynaliadwy ar waith drwy Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol
-
- Eiriolaeth STEM—mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau; hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol; buddsoddi mewn cymunedau lleol ac adnoddau i adeiladu gweithlu sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
-
- Atebion digidol agored a meddalwedd ffynhonnell agored – gan gynnwys dewisiadau amgen moesegol i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol prif ffrwd, e.e., Mastodon
-
- Llywodraethu a’i rôl yn gwella sefydliadau Cymru
-
- Polisi’r Gymraeg—sut i chwarae rhan weithredol yn y nifer sy’n manteisio ar y Gymraeg.
-
- Adroddiadau/cyhoeddiadau allweddol:
-
- ‘Adeiladu Gwydnwch rhag Llifogydd yng Nghymru 2050’;
-
- ‘Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050’
-
- Pam y dylai Cymru gofleidio Meddalwedd Ffynhonnell Agored a Rhad ac Am Ddim
-
- Adroddiadau/cyhoeddiadau allweddol:
Dyfyniad gan Dr David Clubb, Cadeirydd CSCC, am ei adroddiad diweddaraf ‘Building Resilience to Flooding in Wales 2050’:
“Rydyn ni’n gwybod na all y sector cyhoeddus amddiffyn pob eiddo. Dylai’r wybodaeth hon ein rhyddhau o’r disgwyliad y bydd y wladwriaeth yn ‘gwneud y cyfan’. Yn hytrach, dylem ddisgwyl i gyrff cyhoeddus alluogi mwy o weithredu gennym ni fel dinasyddion, aelwydydd, cymunedau a pherchnogion busnes.
“Credaf fod Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn fframwaith a all gyflymu’r union fath hwn o gydweithio, gan wella canlyniadau ac arbed gwariant cyhoeddus yn y tymor hir.
“Dim ond trwy fesurau radical y bydd heriau Cymru’n cael eu datrys, wedi’u gweithredu’n bragmataidd, yn effeithlon, a gyda sensitifrwydd a dealltwriaeth i’r rhai a fydd yn cael eu taro galetaf gan effeithiau newid yn yr hinsawdd.”
Gwybodaeth bellach:
Dr David Clubb yw Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NCIW)—corff cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru.
Wedi’i sefydlu yn 2018, mae CSCC yn cynnal astudiaethau i heriau seilwaith mwyaf enbyd Cymru ac yn gwneud argymhellion strategol i Lywodraeth Cymru — er budd cenedlaethau’r dyfodol. Fel Cadeirydd, mae David yn gyfrifol am lywodraethu a pherfformiad cyffredinol y Comisiwn, gan lunio polisi i gwrdd â heriau’r dyfodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd.
Fel rhan o’i genhadaeth i wella amlygrwydd a lefel y ddadl ar lywodraethu yng Nghymru, mae wedi creu Byrddau Cymru fel adnodd cyhoeddus rhad ac am ddim i bobl sydd â diddordeb mewn materion bwrdd.
Ar ôl cymhwyso fel Ffisegydd Siartredig, mae gan David ddau ddegawd o brofiad yn gweithio yn y sectorau ynni a’r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan yn yr Hyb Seilwaith Byd-eang; Grŵp Her Cymru Ddi-Garbon 2035; a’r Fforwm Cyflawni Buddsoddiadau—i enwi dim ond rhai. Cyn hynny bu David yn Bennaeth Digidol yn Renewable UK, ac yn Gyfarwyddwr Renewable UK Cymru.
Mae ei brofiad wedi ei arwain at ei rôl bresennol fel Partner sefydlu Afallen—busnes bach a chanolig sydd â’r nod o gefnogi economi Cymru drwy gynorthwyo sefydliadau i roi dull Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith.
Fel rhan o hyn, mae David wedi ymrwymo i arwain trafodaeth a gweithredu ynghylch sgiliau STEM yng Nghymru ac eisteddodd ar Fwrdd Ecwiti mewn STEM Llywodraeth Cymru am saith mlynedd—yn benodol yn cyflawni ar gyfer y rhai a dangynrychiolir o fewn addysg neu’r gweithlu. Mae’n arwain dosbarthiadau ar faterion preifatrwydd data a manteision meddalwedd ffynhonnell agored yn ei ysgol gynradd leol.
Dr Eurgain Powell

Enw: Dr Eurgain Powell Rôl: Commissioner Ieithoedd: Cymraeg a Saesneg
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad gyda David, cysylltwch â thîm CSCC yn Equinox ar: nicw@equinoxcommunications.co.uk neu 02920 764100.
Meysydd arbenigedd ar gyfer cyfweliad neu drafodaeth
-
- Rôl CSCC, ei amcanion a’i gyfrifoldebau fel corff cynghori sy’n llywio dyfodol seilwaith Cymru.
-
- Sut i gryfhau cydnerthedd Cymru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd, drwy addasu/lliniaru seilwaith.
-
- Argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cymru gynyddu’r gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru.
-
- Datblygu polisi sector cyhoeddus ar draws trafnidiaeth, caffael a datgarboneiddio.
-
- Atebion cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i bartneriaid ar draws y system iechyd.
-
- Seilwaith Cymru — gyda phwyslais ar atebion cymunedol a natur, sy’n alinio ac yn cynnal gwerthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
-
- Adroddiadau/cyhoeddiadau allweddol — ‘Adeiladu Gwydnwch rhag Llifogydd yng Nghymru 2050’
Dyfyniad gan Dr Eurgain Powell, Comisiynydd CSCC am adroddiad diweddaraf CSCC, ‘Building Resilience to Flooding in Wales 2050’:
“Mae ein hinsawdd yn dod yn gynhesach ac yn wlypach. Ym mis Gorffennaf, amlygodd adroddiad y Swyddfa Dywydd ar Gyflwr Hinsawdd y DU fod Cymru wedi gweld cynnydd o 24% mewn glawiad (o gymharu â chyfartaledd 1961-1990), a bod y DU wedi profi 7 storm a enwyd yn ystod 2023-24. Ond mae Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd wedi rhybuddio dro ar ôl tro nad yw’r DU na Chymru yn barod ar gyfer yr effeithiau hyn.
“Mae ein gwaith wedi dangos bod angen dull gwahanol arnom – un sy’n gweithio gyda phobl a natur. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n dod at ein gilydd, i helpu pawb i ddeall y newidiadau sy’n mynd i ddigwydd, a sut gallwn ni gydweithio i adeiladu cymunedau mwy gwydn.”
Gwybodaeth bellach:
Mae Dr Eurgain Powell yn Gomisiynydd i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC)—corff annibynnol, anstatudol, sy’n cynghori Gweinidogion Cymru.
Wedi’i sefydlu yn 2018, mae CSCC yn cynnal astudiaethau i heriau seilwaith mwyaf enbyd Cymru ac yn gwneud argymhellion strategol i Lywodraeth Cymru — er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Yn ddiweddar mae Eurgain wedi arwain ar adroddiad diweddaraf CSCC ‘Adeiladu Gwydnwch rhag Llifogydd yng Nghymru 2050’ — sy’n amlinellu 17 o argymhellion i Weinidogion Cymru i ddiogelu Cymru at y dyfodol rhag y risgiau cynyddol o lifogydd dros y 25+ mlynedd nesaf. Mae’r argymhellion hyn yn pwysleisio atebion naturiol—gan osod natur ac integreiddio cymunedol ar flaen y gad.
Ar hyn o bryd yn Rheolwr Rhaglen Datblygu Cynaliadwy i Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae gan Eurgain 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes datblygu cynaliadwy a newid yn yr hinsawdd o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dros y cyfnod hwnnw, mae hi wedi cynghori ar ddatblygu polisi ar draws trafnidiaeth, datgarboneiddio, caffael a thai tra’n gweithio i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd—gan helpu i ddylanwadu ar strategaethau a phenderfyniadau allweddol Llywodraeth Cymru.
Yn ddiweddar bu’n aelod o grŵp Cynghori Wales Net Zero 2035 dan gadeiryddiaeth Jane Davidson, gan gyhoeddi eu hadroddiadau a’u cyngor ym mis Medi 2024 ar sut y gallai Cymru gyrraedd sero net mewn ynni, bwyd, gwres a thrafnidiaeth yn ystod y degawd nesaf: Wales Net Zero 2035
Datganiadau i’r wasg
- 17 Hydref 2024: Adroddiad newydd y Comisiwn yn nodi sut i feithrin gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd
- 17 Hydref 2023: Adroddiad newydd y Comisiwn yn tynnu sylw at gamau a argymhellir i gyflymu ynni adnewyddadwy
Asedau brand
CSCC yn y newyddion
- 24/02/2025: Wales online: “‘Irony’ over committee tasked with looking at Wales’ future”
- 07/02/2025: Nation.Cymru: “Proposed law seeks to ‘end wealth extraction’ from Wales”
- 09/12/2024: Bylines Cymru; “Wales in 2100: utopian and dystopian visions”
- 03/12/2024: Water Magazine: “Commission’s new report highlights vital steps to increase Wales’ flood resilience”
- 27/11/2024: BBC Wales; interviewing Eluned Parrott about the flooding report
- 26/11/2024: S4C; David Clubb yn son am yr adroddiad llifogydd
- 25/11/2024: BBC Asian Network; Aleena Khan yn son am yr adroddiad llifogydd
- 17/10/2024: S4C; Eurgain Powell yn son am yr adroddiad llifogydd