A field full of gold flowers is strongly contrasted by a sky full of dark clouds. Some trees form a border of the field.

Pam y dylai Natur gael lle ar Fyrddau?

Cefndir

Ym mis Hydref 2024, argymhellodd NICW i Lywodraeth Cymru y dylid rhoi llais i natur mewn gwneud penderfyniadau ar gyfer polisi a gweithrediad llifogydd. Yn dilyn yr argymhelliad hwn, penderfynon ni ymchwilio i sut y gallai NICW ymgorffori Comisiynydd i gynrychioli llais natur.

Fe wnaethon ni gomisiynu tri darn o waith i’n cynorthwyo yn ein meddwl:

  • Adroddiad byr ar sut y byddai Comisiynydd Natur yn gweithio o fewn strwythurau presennol NICW (Simeon Rose)
  • Traethawd ar y ffordd y mae natur yn chwarae rhan ganolog ym mytholeg a chwedlau diwylliant Cymru (Eurig Salisbury)
  • Fideo byr yn tynnu sylw at y prif resymau dros gynrychioli natur ar Fyrddau (Scott Waby ac Eurig Salisbury)

Rydym yn eich gwahodd i archwilio’r tri adnodd gan ddefnyddio’r dolenni isod.

An action shot of a Kingfisher leaving the water with a fish in its mouth.

Comisiynydd dros natur

Mae Simeon Rose, Cyd-greawdwr Natur ar y Bwrdd, yn disgrifio sut y gallai Comisiynydd natur weithio i NICW, neu i gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.

A colourful mural depicting scenes from the Mabinogion is painted on top of this water tower.

Rôl natur yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru

Mae Eurig Salisbury, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn trafod y ffordd y mae natur wedi chwarae rhan annatod yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Fideo a cherdd