
Lluniwyd ein Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050 yn wreiddiol yn adroddiad Cytundeb Cydweithredu 2021 ac mae’n benllanw gwaith ‘Blwyddyn 2’ y Comisiwn hwn. Rydym wedi meddwl sut le fyddai amgylchedd llifogydd Cymru yn 2050, ynghyd ag ymchwil ar ymatebion gofodol, adnoddau a chynllunio defnydd tir.
Gellir dod o hyd i adroddiadau o’r darnau unigol hyn o ymchwil yma:
- Creu gweledigaeth ar gyfer Cymru sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd, 2050 – Arup;
- Ymatebion Strategol a Gofodol – JBA Consulting
- Adnoddau – Ymchwil Miller
- Cynllunio Defnydd Tir – JBA Consulting
Ategwyd y wybodaeth yn yr adroddiadau ymchwil gan fewnwelediad a gafwyd gan NICW gan ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill yn uniongyrchol.
Mae’r adroddiad yn cyflawni rhan o gylch gwaith ICC i ddadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol strategol hirdymor Cymru dros gyfnod o 5-80 mlynedd.
Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion CCIC i Weinidogion Cymru ar sut y gellir gwneud newidiadau i’r llifogydd strategol yng Nghymru sy’n lleihau’r risg barhaus o lifogydd i gartrefi, busnesau a chymunedau erbyn 2050. Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb ‘maes o law’ i argymhellion y Comisiwn.
Crynodeb o’n hargymhellion
Strwythurau Llywodraethu a Pholisi
- Comisiynydd Dŵr
Erbyn 2026, sefydlu Comisiynydd Dŵr newydd sy’n cael digon o bwerau i allu rhoi’r canlyniadau a argymhellwn ar waith. - Strategaeth 30 mlynedd
Erbyn 2026, creu strategaeth gwrthsefyll llifogydd ac erydu arfordirol genedlaethol 30 mlynedd hirdymor, sy’n adeiladu ar weledigaeth 30 mlynedd ar gyfer gwrthsefyll llifogydd - Natur fel Rhanddeiliad
Erbyn 2028, sefydlu’r systemau i ymgorffori natur fel rhanddeiliad allweddol mewn polisïau llifogydd a’u rhoi ar waith - Cynllunio Defnydd Tir
Osgoi datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd - Partneriaethau Dalgylch
Erbyn 2026, treialu a sefydlu partneriaethau dalgylch rhanbarthol/lleol
Cydweithio, Partneriaethau a Chymuned
- Fforwm Gwrthsefyll Dŵr Cymru a Grŵp Cydnerth Cymunedol
Erbyn 2027, sefydlu Fforwm Gwrthsefyll Dŵr newydd i Gymru ynghyd â grwpiau cydnerth cymunedol - Partneriaethau Gwydnwch Dalgylch
Erbyn 2026, symleiddio cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn strategaethau gwydnwch dalgylch - Cynnwys Cymunedau
Cynnwys cymunedau mewn prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch gwrthsefyll llifogydd
Cyllido a Chapasiti
- Cronfa Ymaddasu i Newid Hinsawdd
Erbyn 2026, sefydlu cronfa ymaddasu a gwrthsefyll newid hinsawdd traws-sector newydd - Rhaglen Fuddsoddi Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Ymestyn a chysoni’r rhaglen fuddsoddi bresennol mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol - Ffynonellau Cyllido
Ystyried ffynonellau cyllido a sut i’w gwneud yn fwy amrywiol er mwyn cynnig dewis amgen yn lle ffrydiau cyllido confensiynol - Atebion sy’n seiliedig ar natur
Sefydlu tasglu i ystyried sut y gellir cyflwyno atebion sy’n seiliedig ar natur ar raddfa addas a sut y gellir addasu tirweddau at hinsawdd y dyfodol - Grantiau i Ddeiliaid Tai
Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorthdaliadau i berchnogion cartrefi preifat sy’n lleiaf abl i feithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo
Ymwybyddiaeth, Sgiliau a Data
- Cwricwlwm ac Ymwybyddiaeth y Cyhoedd
Gwella ymwybyddiaeth o effeithiau llifogydd a newid hinsawdd mewn ysgolion drwy’r cwricwlwm, ac ymhlith y cyhoedd drwy ymgyrch addysg genedlaethol. - Sgiliau
Helpu i ddatblygu sgiliau glas a disgyblaeth newydd ar gyfer Amgylcheddau Dŵr a sefydlu prentisiaethau i’r sector. - Hyfforddiant Cymunedol
Rhoi hyfforddiant a chymorth i gynghorwyr lleol, cynghorau tref a chynghorau cymuned ynghylch gwrthsefyll llifogydd. - Data
Sefydlu mynediad agored a thryloyw at ddata sy’n galluogi cymunedau i gael mynediad at ddata ffynhonnell agored fel y byddant yn deall perygl llifogydd yn well.