A wide river flowing under a large stone bridge, the sun is setting and there are trees on the river banks.

Mae ein hadroddiad Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050 yn benllanw gwaith ‘Blwyddyn 1’ y Comisiwn. Cynhaliwyd gwaith ymchwil gennym ar sut y gall Llywodraeth Cymru ddal gwerth ynni adnewyddadwy i Gymru, pa gyfleoedd a heriau sydd o’n blaenau a sut y gall Llywodraeth Cymru ymgysylltu orau â’r cyhoedd ar y mater hwn.

Gellir dod o hyd i adroddiadau o’r darnau unigol hyn o ymchwil yma:

Ategwyd yr wybodaeth yn yr adroddiadau ymchwil gan fewnwelediad gan NICW gan ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill yn uniongyrchol. 

Mae’r adroddiad yn cyflawni rhan o gylch gwaith NICW i ddadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol strategol hirdymor Cymru dros gyfnod o 5-80 mlynedd.  

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion NICW i Weinidogion Cymru ar sut y gellir gwneud newidiadau i wella datblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru sy’n diwallu anghenion ein cymunedau orau. Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb ‘maes o law’ i argymhellion y Comisiwn. 


Crynodeb o’n hargymhellion

Dull Arwain a Strategol

  1. Erbyn 2025, dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gweledigaeth ar gyfer ynni yng Nghymru hyd at 2050, gyda Strategaeth a Chynllun Gweithredu cysylltiedig i nodi ei huchelgais hirdymor. Dylai hyn gynnwys manylion am gynhyrchu ynni adnewyddadwy a datblygiad y grid. Dylai’r rhain gael eu llywio drwy ymgysylltu’n helaeth â’r cyhoedd gan ddefnyddio methodolegau cydnabyddedig i sicrhau’r effaith fwyaf posibl. Dylai gweithrediad y Weledigaeth hon gael ei oruchwylio gan grŵp trawslywodraethol / sector, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog.  

Grid sy’n Addas ar gyfer Cymru’r Dyfodol

  1. Erbyn 2025, dylai cynllunio ar gyfer y grid trydan yng Nghymru fod yn seiliedig ar ystyriaethau polisi, yn ogystal ag ymarferoldeb. Mae angen newid er mwyn cynllunio’r grid i ystyried anghenion Cymru a sicrhau ei fod yn cael ei ddatblygu’n strategol gyda golwg hirdymor.
  2. Erbyn 2025, dylai Ofgem ddiwygio’r system sy’n cynllunio ac yn darparu mynediad i’r grid ar gyfer ynni adnewyddadwy er mwyn galluogi gweithredu cyflym. Dylai ystyriaethau polisi ddod yn ffactor wrth bennu cysylltiadau grid. Dylid annog ffurfiau arloesol o ddatblygu’r grid hefyd.

Yr Amgylchedd adeiledig

  1. Mae angen mynd ati ar unwaith i adolygu Rhan L o’r Rheoliadau Adeiladu i orfodi’r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy (yn enwedig solar thermol a solar ffotofoltäig) a systemau storio batri ym mhob datblygiad newydd, ac mewn adnewyddiadau neu estyniadau sylweddol.
  2. Dylai hawliau datblygu a ganiateir gael eu hadolygu ar unwaith, gyda ffocws penodol ar ddileu rhwystrau i fesurau sy’n cynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gyda ffocws cynyddol ar yr argyfwng hinsawdd.

Cynllunio

  1. Erbyn 2025, lle mae gan geisiadau cynllunio ynni adnewyddadwy (a chyfundrefnau rheoleiddio cysylltiedig) ddyraniad amser statudol gorfodol, dylai penderfyniadau fod yn gadarnhaol yn ddiofyn os yw’r dyraniad amser yn mynd heibio heb unrhyw ymateb (dull ‘tawelwch cadarnhaol’).
  2. Erbyn 2025, dylid creu adnodd cynllunio cyfunol ar gyfer ynni er mwyn rhannu arbenigedd a sgiliau technegol ar gyfer mynegi polisïau cynllunio, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ystyried ceisiadau cynllunio.

Buddion a Pherchnogaeth Gymunedol

  1. Dylai Bil Ynni Adnewyddadwy (Cymru) gael ei gyflwyno yn y Senedd nesaf i ddeddfu er mwyn galluogi mwy o berchnogaeth gymunedol o ynni adnewyddadwy.
  2. Dylai polisi ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gynnig elfennau o berchnogaeth gymunedol a dylai’r broses o adbweru safleoedd gael ei symleiddio’n fawr, gan gynnwys gofynion perchnogaeth gymunedol.
  3. Dylid ystyried y fenter Porthladdoedd Rhydd sydd ar ddod fel cyfle i ganiatáu mwy o ynni adnewyddadwy cymunedol mewn amgylchedd sydd wedi’i ddadreoleiddio.

Ystad y Goron Cymru

  1. Erbyn 2030, dylai swyddogaethau Ystad y Goron yng Nghymru fod wedi’u datganoli’n llwyr i gorff newydd sydd, fel ei brif nod, yn ailfuddsoddi holl gyllid Cymru er budd hirdymor pobl Cymru ar ffurf Cronfa Cyfoeth Sofran.