
Rôl natur yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru
Ysgrifennwyd y traethawd hwn gan Dr Eurig Salisbury, Adran Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd, Prifysgol Aberystwyth, fel rhan o achos CSCC dros ymgorffori Comisiynydd i gynrychioli Natur.
Dewch, rhoddwn le i natur wrth y bwrdd
Felly, beth yw ystyr rhoi lle i natur wrth y bwrdd, yma yng Nghymru yn 2025? Un o argymhellion adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar wrthsefyll llifogydd yn 2021 oedd sicrhau bod ar fyrddau rheoli cyrff cyhoeddus le i natur. Hynny yw, bod sedd yn cael ei neilltuo’n llythrennol wrth y bwrdd i unigolyn a fyddai’n eiriol dros fuddiannau byd natur. Mae’n argymhelliad blaengar a heriol sy’n deffro’r dychymyg. Dechreuais feddwl o ddifri, pe bawn yn dod wyneb yn wyneb â natur am y bwrdd â mi, sut yn y byd y byddwn yn dechrau sgwrs â hi.
Teimlo fel llo y byddwn i yn y lle cyntaf, mae’n siŵr, heb fedru torri gair â hi! Ar ei phatshyn hi ry’n ni i gyd yn byw, wedi’r cyfan, ac fe fu hi yma oesau lawer o’n blaenau. Byddai siarad â hi fel siarad â’r ddaear ei hun, bron iawn. Beth fedrwn i ei ddweud o bwys wrth un sy’n mesur amser nid fesul awr a blwyddyn a chanrif, ond fesul eon? Bydden ni fel dau enaid anghytûn, dau’n rhedeg ar lwybrau cwbl wahanol ac estron i’w gilydd.
Pwyll
Meddyliais yn fy nigalondid am Bwyll Pendefig Dyfed yn ail gainc y Mabinogi’n gweld o Orsedd Arberth y ferch harddaf a welsai erioed yn marchogaeth heibio ar geffyl gwyn, a neb o’i weision yn medru dod yn agos ati. Po gyflymaf y marchogent ar ei hôl, pellaf yn y byd y trotiai hithau’n araf oddi wrthynt. Gweld rhyfeddod o’u blaenau ond, fel mewn hunllef, methu’n lân â’i gyrraedd.
Ond dyma ailfeddwl. Fe lwyddodd Pwyll yn y pen draw i gael y ferch hardd honno i arafu ei cham, a hynny drwy fynd ei hunan ar ei hôl ac, yn syml iawn, drwy alw arni. Rhannu iaith oedd yr allwedd yn y stori honno, a chafodd Pwyll wybod mai Rhiannon oedd enw’r ferch, a’i bod hi â’i bryd, wedi’r cyfan, ar ei briodi. A fedren ninnau heddiw, efallai, rannu iaith â natur, a dod drwy hynny i’w hadnabod yn well?
Cymraeg
Efallai’n wir. Er mwyn dod â dau anghymharus ynghyd, rhaid canolbwyntio ar yr hyn sy’n gyffredin rhyngddynt. Na, nid oes gan natur iaith, fel y cyfryw. A dweud y gwir, mae’r gallu i drin iaith yn un o’r doniau sy’n gosod y ddynoliaeth ar wahân i weddill y greadigaeth. Peth anghyfiaith yw natur, ar un ystyr. Eto i gyd, mae ein hiaith a’r hyn ry’n ni’n ei greu â iaith yn medru codi uwchlaw’n bywydau unigol ni, bob un ohonom. Maent yn bethau hirhoedlog mewn ffordd nad ydyn ni feidrolion. Nid mor hirhoedlog â rhai o brosesau natur, efallai, ac ni ellir, hyd yn hyn, fesur iaith mewn eonau. Ond gall iaith droedio’r canrifoedd a’r milenia, o’r hyn lleiaf, a daw â’r ddynoliaeth yn llawer nes at natur na’r un ddawn arall a feddwn.
Mae pob iaith yn hen. Honnir weithiau, am wahanol resymau, fod y Gymraeg yn hŷn na ieithoedd eraill, ond nid felly y mae. Mae’r Gymraeg yn ymestyn yn ôl ymhell i’r gorffennol fel pob iaith fyw arall. Fodd bynnag, mae un fan ar wyneb daear lle mae’r honiad hwnnw’n wir amdani, lle mae hi, wedi’r cyfan, yn llawer, llawer hŷn na phob iaith arall: ei chynefin ei hun.
Yma yng Nghymru, peth diweddar iawn yw bod y Gymraeg yn iaith a siaredir gan leiafrif y boblogaeth. Hyd nes yr ugeinfed ganrif, Cymraeg oedd iaith fwyafrifol Cymru er cyn cof. Ac mae’r gair bach hwnnw, ‘cof’, yn allweddol os ydyn ni o ddifri eisiau cynnal sgwrs â natur.
Nid heb reswm da y dewisodd yr hanesydd diweddar Geraint Jenkins roi Cof Cenedl yn deitl ar gyfres arloesol o lyfrau am hanes Cymru a olygwyd ganddo am dros ugain o flynyddoedd. Fel unigolyn, gallaf i ddwyn i gof lawer iawn o bethau a ddigwyddodd yn ystod fy oes gymharol fer, ond mae cof cenedl yn drysor hirhoedlog sy’n ymestyn dros genedlaethau. Cof cronnol, cynyddol ydyw sy’n medru dwyn deall ynghyd mewn modd na allai unigolyn fyth ei wneud.
Yn ei hiaith y mae dod o hyd i gof cenedl, yn ei chreadigaethau rhyfeddol, ei chwedlau, ei cherddi, ei geiriau a’i hymadroddion. Os gwrandawn yn ddigon astud arnynt, efallai y gallwn ddechrau gwneud y peth hwnnw ry’n ni’n dyheu amdano: siarad â natur ar ei thelerau ei hun.
Guto’r Glyn
Felly, dewch yn ôl mewn amser i wrando’n astud ar Guto’r Glyn, un o feirdd ifanc disglair y bymthegfed ganrif. Mae’n prysur wneud enw iddo’i hun mewn llysoedd ar hyd a lled y wlad, a heno, gyda chlogyn coch o wlân amdano, mae’n eistedd wrth fwrdd y wledd yn llys Hywel ab Ieuan Fychan ym Moeliwrch, dafliad carreg o Lansilin. Mae’r neuadd yn llawn a’r achlysur yn un i’w gofio: mae Hywel newydd orffen y gwaith o ailadeiladu ei gartref ysblennydd.
Ryw ddeugain mlynedd yn ôl, yn 1403, daeth byddin o Saeson i’r ardal er mwyn dal y gwrthryfelwr mawr Owain Glyndŵr yn ei gartref yn Sycharth – ond roedd Owain wedi ffoi a Sycharth yn wag. Llosgodd y Saeson y tŷ mawreddog yn ulw, cyn mynd yn eu blaenau wedyn i losgi tai cymdogion Owain. Un o’r tai hynny oedd Moeliwrch, cartref Ieuan Fychan, ond roedd yntau hefyd ymhell o’r fan y diwrnod hwnnw, ac yng nghwmni Owain.
Flynyddoedd wedi’r gwrthryfel, penderfynodd Hywel ei fab godi tŷ newydd, nid ar safle newydd ond ar seiliau’r hen dŷ ym Moeliwrch. Roedd rhywbeth am y fan honno ar lethrau dwyreiniol y Gyrn a’i denodd yn ôl – ai’r cof am ei dad, efallai, a’i ymlyniad wrth ddelfrydau’r gwrthryfel? Efallai … ond tewch, mae Guto wedi codi ar ei draed ac mae’r telynor wrth ei ymyl yn tynnu’r tannau. Wrth iddo lafarganu ei gerdd i gyfeiliant y delyn, melysir llais Guto gan briodoleddau acwstig y trawstiau derw newydd-eu-torri yn y nenfwd cain. Daethai’r pren o goedwigoedd y Waun, lle defnyddir dulliau cynaliadwy i ofalu am fforest o goed brodorol. Canmol y llys newydd yw gwaith Guto heno, ac mae’n mynd ati ag arddeliad i ddisgrifio prydferthwch y gwaith carreg a phren.
Ond prif hynodrwydd Moeliwch, yn ôl Guto, yw ei lleoliad: saif nid ar waelod y dyffryn nac ar y mynydd agored, ond rhwng y ddeule. A hithau wedi ei gwyngalchu’n llachar, gall miloedd o bobl ei gweld yn eglur o bell ar ochr y bryn: Mawr ei chlod, mor uchel yw. Mae’n angel, yn seren ac yn gannwyll sy’n goleuo’r ffordd i bobl o Gymru ac o Loegr fel ei gilydd.
Mewn gwirionedd, er mor rhyfeddol yr ymddengys Moeliwrch yng ngherdd Guto, fe’i codwyd ar yr un math o safle â miloedd o dai neuadd eraill ar hyd a lled y wlad, sef yn y canol rhwng gwlybaniaeth twyllodrus llawr gwlad a gwyntoedd garw’r ucheldir, rhwng dolydd y gaeaf a rhostir yr haf, rhwng hendre a hafod. Mae’n lleoliad sy’n dangos adnabyddiaeth ddofn y Cymry o’u cynefin, ac fe drodd yn gonfensiwn llenyddol yng nghanu’r beirdd. Y cybydd, yn ôl Guto, sy’n llechu wrth y nant ym mol ceubant, ac ar lechwedd y mae cartref y dyn hael. Nid bod hynny’n dod â hawddfyd i’w ganlyn bob tro, cofiwch: gall dringo’r ffordd serth chwyslyd i Foeliwrch, yn ôl Guto, fod yn waith anodd! Ond nid un i osgoi llafur caled yw Guto. Onid yw’r ffordd i’r nefoedd yn fliderus o serth?
Llafur da pur diapêl
Yw dringo i dai’r angel,
Herwydd nad â dyn hirwallt
I nef ond yn erbyn allt!
Canolfan nawdd nodedig arall yr ymwelodd Guto’r Glyn â hi oedd abaty Sistersaidd Ystrad-fflur yng Ngheredigion. Erbyn oes Guto, roedd yr abaty dros ddwy ganrif a hanner oed ac wedi gweld cyfnodau hir o drai ac o lanw. Mae ymchwil ddiweddar i archaeoleg y safle’n dangos bod y mynachod Sistersaidd a sefydlodd yr abaty’n ffermwyr o fri a ddaeth â dulliau newydd o amaethu o’r cyfandir i ucheldir y canolbarth. Dargyfeiriasant ddŵr afon Glasffrwd i’r de o’r abaty er mwyn osgoi llifogydd ac er mwyn darparu sianeli dŵr at ddefnydd y mynachod, ac arloeswyd hefyd yn eu dulliau o bori niferoedd mawr o ddefaid ar y mynydd.
Rôl crefydd
Fodd bynnag, nid ar arloesi’n unig y bydd urdd grefyddol newydd byw. Llwyddodd y Sistersiaid i oroesi ac i ffynnu yn Ystrad-fflur ac mewn llawer man arall yng Nghymru, nid drwy orfodi eu hwsmonaeth newydd ar y bobl, ond drwy briodi eu harferion â’r hyn a oedd eisoes yn bodoli yno o’u blaenau. Er mai ar gynffon y Normaniaid y daethai’r Sistersiaid i Gymru, roedd byd o wahaniaeth rhwng agwedd heddychlon a chydweithredol y mynachod ac agwedd dreisgar a hunanbwysig eu cyd-wladwyr o goncwerwyr.
Pan ddaethont i Ystrad-fflur yn y lle cyntaf, fe adeiladodd y mynachod weinyddiaeth newydd eu system o reoli tir ar lun a delw’r weinyddiaeth frodorol Gymreig a oedd wedi bod mewn grym yno ers canrifoedd maith. Yr hyn a wnaethpwyd, mewn gair, oedd impio syniadau newydd ar hen bren. Dau dyst amlwg i’r ffaith mai prosiect cydweithredol oedd sefydlu’r abaty yw’r ffaith mai’r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth, neb llai, oedd ei noddwr pwysicaf, a’r ffaith fod rhai o lawysgrifau pennaf yr iaith – trysorau amhrisiadwy sy wedi diogelu rhan fawr o gof y genedl – wedi eu creu, yn ôl pob tebyg, yn ei sgriptoriwm. Ymgartrefodd y Sistersiaid yn gwbl naturiol yn nhirlun Cymru, ac fe wnâi llawer heddiw’n dda i’w hefelychu.
Anifeiliaid mewn llenyddiaeth
Beth wedyn am anifeiliaid gwyllt? Druan â’r beirdd! Roedd llawer ohonynt yn glaf o serch, a neb ganddynt i’w anfon yn llatai – yn negesydd serch – at eu cariadon ond anifeiliaid y goedwig. Ond nid ar chwarae bach mae dwyn perswâd ar wylan neu iwrch i fynd ar neges ar eich rhan. Yn gyntaf, rhaid moli’r anifail, a does obaith gwneud hynny’n iawn heb hir edrych arno a dod i wybod ei hynodrwydd.
Un o nodweddion cerddi llatai Dafydd ap Gwilym yw ei adnabyddiaeth fanwl o’r anifeiliaid y mae’n eu cyfarch. Nid gweld llun o wylan mewn llyfr a wnaeth, ond craffu ar yr aderyn byw â llygad bardd nes bod yr wylan lachar yn troi’n llythyren ar frig dalen o lawysgrif a eurid yn gain, efallai gan fynachod yn Ystrad-fflur.
Roedd yr iwrch … ond arhoswch eiliad – efallai fod enw’r creadur hwn yn ddieithr inni heddiw, gan fod yr iwrch wedi diflannu o’r tir am ganrifoedd maith. Math o garw bychan ydyw a oedd yn gyffredin iawn yng Nghymru yn amser Dafydd – yr un elfen sy yn yr enw Moeliwrch, ‘bryn iwrch’ – ond cafodd ei hela’n ddidrugaredd. Yn wir, roedd mor anghyfarwydd ar un adeg nes peri i olygydd cyntaf Dafydd yn yr 1950au roi’r teitl camarweiniol ‘Y Carw’ wrth y gerdd. O ddarllen y gerdd yn fanwl, fodd bynnag, fe welir yn eglur nad y creadur corniog mawreddog a welir ar labeli poteli wisgi o’r Alban a oedd gan Ddafydd mewn golwg, ond y carw bychan a allai – a dyma’r peth allweddol i’r bardd – wibio’n fedrus ac osgoi’r rheini a ddymunai wneud niwed iddo. Mae i’r darlun hwnnw eironi trist heddiw, ac ystyried tynged y rhywogaeth yng Nghymru, ond mae’r gerdd hefyd yn gofnod trawiadol o’n hadnabyddiaeth o fyd natur ar un adeg yn ein hanes. Mae’r adnabyddiaeth honno, a’r ymwybyddiaeth o’r golled a ddigwyddodd er gwaethaf hynny, yn cyfoethogi ein dealltwriaeth heddiw o’n lle yn y byd, ac ni ddylid ei dibrisio.
Pŵer barddoniaeth
Fy nghred i, fel mae fy ngherdd isod yn ei ddangos, yw bod ein hiaith a’i llenyddiaeth yn drysorfa fawr, hirhoedlog sy’n llawn enghreifftiau o’n hymwneud ystyrlon â natur yma yng Nghymru. Byddai’n hawdd llenwi llawer mwy na’r llith hon ag enghreifftiau eraill, fel y gerdd drist am Goed Glyn Cynon, lle bu’r bardd yn caru gynt ond a dorrwyd gan ddiwydianwyr trachwantus o Loegr, neu fapiau manylgraff Lewis Morris sy’n dangos sut y mae ein harfordiroedd wedi newid dros y canrifoedd … ond rhaid tewi.
Rhan bwysig o bob cyfarfod yw’r gallu i wrando, wedi’r cyfan, yn ogystal â dweud. O ddefnyddio’n hiaith, gallwn fod yn hyderus y bydd hon yn sgwrs ddwy ffordd. Dewch, rhoddwn le i natur wrth y bwrdd.
Dewch, rhoddwn le i Natur wrth y bwrdd …
Ond mae gweld lygad yn llygad â hi’n
Anoddach tasg nag ysgwyd llaw wrth gwrdd
Dros baned fach o de, fe dybiwn i,
Ac ni fydd siarad mân yn gwneud y tro
Am hyn a’r llall mewn sgwrs â’r lli a’r coed
A’r mawn, a gydag un mor hir ei cho’,
Byddwn yn gynnil gyda’r gair ‘erioed’.
Ond er mwyn popeth, wir, na fyddwn fud
Wrth syllu i lygaid yr ymwybod maith,
Na, gwnawn yn fawr o’n hetifeddiaeth ddrud
Sy bron cyhyd â’i gwybod hi: ein hiaith,
Sy’n cronni doethinebau’r tymor hir.
Pa obaith deall hebddi hyn o dir?
Rhai ffynonellau
- Adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, 2021: Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru 2050
- Cerdd foliant Guto’r Glyn i lys Moeliwrch ar wefan Guto’r Glyn.net
- Cerddi llatai Dafydd ap Gwilym i’r wylan (rhif 45) ac i’r iwrch (rhif 46) ar wefan Dafydd ap Gwilym.net
- Richard Suggett, ‘Creating the architecture of happiness in late medieval Wales’, yn Dylan Foster Evans, Ann Parry Owen a Barry J. Lewis (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’n Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), tt. 393–428
- Dylan Foster Evans, ‘ “Cyngor y Bioden”: ecoleg a llenyddiaeth Gymraeg’, Llenyddiaeth mewn Theori (2006): 41–79
Delwedd y pennawd trwy garedigrwydd Neil Schofield ac wedi’i thrwyddedu o dan CC BY-NC 2.0