Prosiect lliniaru llifogydd

Cyhoeddwyd argymhellion y prosiect ar 17 Hydref 2024.

Cefndir

Byddwn yn gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith ledled y wlad erbyn 2050.

Gwnaeth y comisiynwyr Eurgain Powell ac Eluned Parrott arwain y gwaith.

Ar ôl cynnal astudiaeth gwmpasu yn 2023, ysgrifennodd y Comisiwn at Lywodraeth Cymru yn amlinellu ein cynlluniau ar sut y byddem yn mynd i’r afael â’r gwaith hwn.

Gwnaeth ein gwaith cychwynnol yn cynnwys 4 ffrwd gwaith ymchwil sy’n cynnwys:

  • datblygu gweledigaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd;
  • archwilio’r opsiynau ar gyfer ymatebion strategol a gofodol cydlynol i reoli llifogydd;
  • yr arian a’r adnoddau gweithlu sydd eu hangen; a
  • mesur a dadansoddi’r problemau cynllunio defnydd tir sy’n gysylltiedig â llifogydd.

Beth mae’r rhaglen yn ceisio ei gyflawni

O’r 4 ffrwd waith a gweithgarwch NICW eraill, gwnaeth y rhaglen yn ceisio cyflawni’r canlynol:

  • Gweledigaeth a rennir ar gyfer 2050 a thu hwnt ar sut yr ydym am wella gwytnwch a chynllunio addasu i risgiau llifogydd yng nghyd-destun newid hinsawdd o ystyried yr effeithiau cynyddol a welwn.
  • Cynllun fel bod cartrefi, cymunedau, busnesau a seilwaith yn fwy gwydn ac yn addasu yn well i ddigwyddiadau llifogydd a risgiau hinsawdd cysylltiedig a’u bod yn gallu adfer yn gyflymach.
  • Mae rhanddeiliaid yn deall yr effeithiau tebygol a lle mae cyfrifoldebau o ran ymateb/gweithredu.
  • Mae pobl (gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig) yn deall, yn teimlo’n barod ac yn gallu ymateb i lifogydd a risgiau hinsawdd yn y dyfodol.
  • Dulliau a awgrymir i gryfhau cydweithio a gweithio mewn partneriaeth ymhlith sefydliadau ac asiantaethau yn ogystal â chyfranogiad cymunedau, a gwella eu gwytnwch.

Negeseuon Strategol Allweddol

O ran trosi ein cylch gwaith a’n gwerthoedd yn weithredoedd a negeseuon sy’n gysylltiedig â’n rhaglen llifogydd, roedd y negeseuon allweddol lefel uchel canlynol yn cael eu defnyddio gydol ein gwaith wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd:

  • Dylid annog rhanddeiliaid i feddwl yn rhydd ac yn radical, gan ryddhau eu hunain o fframweithiau ac arferion cyfredol a meddwl mor eang â phosibl.
  • Lle bo’n briodol, dylid gwahodd pawb sy’n gysylltiedig i feddwl am sut le allai’r byd fod yn 2050 a, gan weithio’n ôl o’r dyddiad hwn, ystyried y rhwystrau y gellid dod ar eu traws a sut y gellid goresgyn y rhain.
  • Byddwn yn gwneud ein hymgysylltiad mor agored â phosibl, gan ofyn am farn grŵp mor eang â phosibl o rai sydd â diddordeb.
  • Byddwn yn mynd ati i chwilio am farn ar draws y sbectrwm barn, gan gynnwys y rhai a allai fod yn heriol i’n rhai ni.
  • Pan fydd y cyhoedd yn cymryd rhan yn ein hymchwil, byddwn yn ceisio nodi a chynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a’r rhai o nodweddion gwarchodedig.
  • Byddwn yn ceisio bod yn effeithlon gyda’n hymgysylltiad â’r bobl hynny i beidio â gwastraffu eu hamser. Bydd ffrydiau gwaith yn cydweithio lle bo angen i gyflawni hyn gydag un pwynt cyswllt.

Os hoffech wybod mwy am ein rhaglen waith, neu gymryd rhan, anfonwch e-bost atom ar flooding@nationalinfrastructurecommission.cymru

Grŵp Ymgynghorol y Prosiect

Gwnaeth CSCC yn cael ei gefnogi i reoli’r prosiect gan PAG sy’n cynnwys ystod o randdeiliaid ag arbenigedd perthnasol.

  • Ed Beard – National Infrastructure Commission
  • Andy Fraser – Llywodraeth Cymru
  • Gwenllian Roberts – OFWAT
  • Natalie Rees – Trafnidiaeth Cymru
  • Jeremy Parr – Cyfoeth Naturiol Cymru
  • George Baker – JBA Consulting
  • Chris Uttey – Stroud District Council
  • Tom Hayek – Wildfowl and Wetlands Trust
  • Roger Thomas – Gwasanaeth tân
  • Ed Evans – CECA
  • Owen Conry – Cyngor Conwy
  • Jean Francis Dulong – CLlLC
  • Andrew Stone – Cyngor Rhondda Cynon Taf
  • Richard Betts – Met Office
  • Dominic Scott – Dwr Cymru
  • Roger Falconer – Prifysgol Caerdydd

Cyfeiriadau ychwanegol