Gohebiaeth am yr Hinsawdd

StatwsYmchwil wedi’i gwblhau – Drafftio adroddiad NICW
Dyddiad cychwynGwanwyn 2024
Dyddiad gorffenHydref 2025

Cefndir

Mae cymunedau a seilwaith Cymru yn wynebu amrywiol risgiau, gan gynnwys:

  • Effaith llifogydd amlach ac erydu arfordirol
  • Effaith tymereddau eithafol a chynyddol, gwyntoedd cryf, mellt a glaw
  • Effaith newidiadau i’r amgylchedd naturiol a achoswyd gan newid yn yr hinsawdd.


Gall rhai o’r risgiau hyn ei gwneud hi’n anodd cynnal seilwaith a’i amddiffyn rhag amodau a digwyddiadau tywydd sy’n gwaethygu fel cynnydd parhaus mewn tymheredd cyfartalog a gwres amlach a mwy difrifol.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU (UKCCC) wedi rhybuddio bod disgwyl i dymheredd blynyddol yng Nghymru godi rhwng tua 1.2°C erbyn y 2050au, a rhwng 1.3 a 2.3°C erbyn y 2080au o linell sylfaen 1981-2000. Bydd ein hinsawdd yn symud tuag at aeafau gwlypach a hafau sychach Yn y gaeaf, disgwylir i law gynyddu tua 6% erbyn y 2050au o linell sylfaen 1981-2000. I’r gwrthwyneb, disgwylir i lawiad yr haf ostwng tua 15% erbyn y 2050au a rhwng 18% a 26% erbyn y 2080au.

Mae’r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd arfordirol, gyda rhai cymunedau islaw llinell y penllanw. Mae eitemau allweddol o seilwaith cenedlaethol wedi’u lleoli o fewn metrau i linell y llanw. Mae cymunedau arfordirol Cymru mewn perygl oherwydd y cynnydd parhaus yn lefel y môr. Gan ddefnyddio senarios ar gyfer Caerdydd, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn disgwyl i lefel y môr godi rhwng tua 22 a 28cm erbyn y 2050au a rhwng tua 43 i 76cm erbyn y 2080au. Fodd bynnag, nid yw’r amddiffynfeydd hyn yn rheoli’r risg bresennol o erydu arfordirol yn ddigonol, a bydd newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd yn lefel y môr yn lleihau eu heffeithiolrwydd ymhellach.

Comisiynwyr sy’n arwain y gwaith hwn yw  Helen Armstrong a Stephen Brooks

Er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn, rydym wedi nodi dwy ffrwd ymchwil a fydd yn edrych ar wahanol agweddau ar y sgyrsiau hyn. Mae’r ddau brosiect yn cael eu harwain gan Grŵp Cyfeirio Prosiect o arbenigwyr allanol i roi adborth a her lle bo angen.

Ymgysylltu â chymunedau

Bydd effaith newid hinsawdd yn golygu y bydd angen cynllunio a chyflawni ein seilwaith mewn ffordd wahanol. Mae NICW eisiau archwilio sut y gall gwahanol gymunedau ymateb ac ymgysylltu â phenderfyniadau ynghylch datblygu seilwaith ac addasu i’r hinsawdd. Hoffem wybod pa arferion sy’n gweithio’n dda gyda gwahanol sectorau’r gymuned ac archwilio sut mae’r technegau hyn yn gweithio, yn ymarferol, mewn amgylchedd sy’n seiliedig ar le.

Fel rhan o’r broses hon, hoffai NICW glywed y lleisiau nad ydym fel arfer yn eu clywed, i archwilio a harneisio creadigrwydd pobl ynghylch y cwestiwn o sut y gallwn addasu a ffynnu mewn hinsawdd sy’n newid yn 2050 (a thu hwnt i 2100). Datblygodd ein prosiect Blwyddyn 2 ar lifogydd Weledigaeth ar gyfer y Dyfodol wrth addasu i Newid Hinsawdd.

Mae’r ymchwil hwn, sy’n cael ei arwain gan y School of International Futures yn ceisio dod â’r weledigaeth hon ar gyfer y dyfodol yn fyw mewn amgylchedd sy’n seiliedig ar le lle mae cymunedau’n cymryd rhan weithredol mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Gan ddefnyddio ardal Grangetown yng Nghaerdydd, cymuned a ddefnyddir i ymgysylltu’n rhagweithiol â rhwydweithiau sefydledig, byddwn yn defnyddio sefydliadau / partneriaethau lleol lle bynnag y bo modd i wneud y gwaith hwn gyda ni.

Bydd y prosiect yn helpu cynllunwyr a darparwyr seilwaith i ddatblygu dulliau creadigol o ymgysylltu â chymunedau amrywiol wrth ystyried sut i addasu orau i’r hinsawdd newidiol a chael seilwaith sy’n cefnogi ein cymdeithas dros y degawdau nesaf.

Seilwaith gwydn

Rydym yn gwybod bod ein darparwyr seilwaith eisoes yn meddwl am effaith newid hinsawdd ar ddarparu eu gwasanaethau. Fodd bynnag, rydym yn deall nad yw pob darparwr seilwaith yn gweithredu ar yr un lefel ac yn ymgynghori â’r cyhoedd ar wahân ar eu cynlluniau, gan arwain at neges wanach o bosibl i gymunedau ar effeithiau cronnus newid hinsawdd a sut y gallai effeithio arnynt.

Hefyd, pa amcanestyniadau newid hinsawdd y mae ein darparwyr seilwaith yn eu defnyddio ar gyfer eu cynlluniau? Ydyn nhw’n rhannu data? A yw rhagamcanion eraill (megis twf poblogaeth) yn ystyried yr effeithiau posibl ar yr hinsawdd a ddefnyddir wedyn wrth gynllunio gofodol i wneud penderfyniadau strategol ynghylch twf a darparu seilwaith yn y dyfodol.

Hoffai NICW wybod a oes unrhyw waith wedi’i wneud hyd yn hyn i weld beth fu canlyniadau amcanestyniadau newid hinsawdd blaenorol. Er enghraifft, mae’r duedd ar gyfer data gwirioneddol wedi bod ar ben uchaf rhagamcanion blaenorol. Beth allwn ni ei ddysgu o hyn ar gyfer y dyfodol a sut y dylid cyfleu hyn i’r cyhoedd, wrth ymgysylltu â’n cynlluniau gofodol?

Mae gan NICW ddiddordeb sut mae rhagamcanion blaenorol newid hinsawdd wedi eu defnyddio (ar gyfer gwneud penderfyniadau) a’u cyfleu (i’r cyhoedd). Ein rhagdybiaeth yw bod y data gwirioneddol a welwyd wedi bod hyd at derfyn uwch rhagamcanion blaenorol, ond gall darparwyr seilwaith (a chyrff cyhoeddus) gynllunio gan ddefnyddio amcanestyniadau canolrifol. I ba raddau y mae’r dybiaeth hon yn gywir, a sut mae wedi effeithio ar wneud penderfyniadau a chyfathrebu â’r cyhoedd?

Bydd yr ymchwil hwn, sy’n cael ei arwain gan Arup, yn cynnal adolygiad o’r sefyllfa bresennol ymhlith darparwyr seilwaith a chynllunwyr gofodol Cymru ar ba sgyrsiau y maent yn eu cael gyda chymunedau ar sut y gallai newid yn yr hinsawdd effeithio arnynt. Yn y cyd-destun Cymreig, rydym am wybod a ydynt yn defnyddio Ffyrdd o Weithio y Ddeddf Llesiant  yn eu hymchwil.

Adroddiad NICW

Bydd y ddwy ffrwd waith ymchwil, ynghyd â thystiolaeth ychwanegol, yn cael eu dwyn ynghyd i ffurfio adroddiad i Lywodraeth Cymru yn hydref 2025.

I gael rhagor o wybodaeth: NationalInfrastructureCommissionforWales@llyw.cymru