
Adroddiad Blynyddol 2024
Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) yn 2018 fel corff cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru.
Ei ddiben allweddol yw dadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion ar anghenion tymor hwy Cymru o ran seilwaith strategol economaidd ac amgylcheddol dros gyfnod o 5-80 mlynedd.
Mae’r Comisiwn yn cynnal astudiaeth i heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru a bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyngor a roddir gan y Comisiwn o natur ddiduedd, strategol a blaengar.
Mae’r Comisiwn yn atebol i Weinidogion Cymru am ansawdd ei gyngor a’i argymhellion a’i ddefnydd o gyllid cyhoeddus.
Ein hail flwyddyn yn cyflawni
Cyflwyniad gan y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd
Croeso i adroddiad blynyddol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2024.
Rydym wedi parhau i gyflawni’n gyflym y flwyddyn hon, gan adeiladu ar y momentwm sylweddol o flynyddoedd blaenorol ac ewyllys da a chefnogaeth sefydliadau o bob rhan o’r sector seilwaith.
Rydym wedi cyflawni ein cylch gwaith ar gyfer y flwyddyn, gan gynnwys gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut i leihau effaith llifogydd yng Nghymru erbyn 2050. Roedd cryn nifer o sefydliadau o bob rhan o’r DU yn bresennol yn ystod digwyddiad lansio ein hadroddiad ar lifogydd, sy’n dangos ein dylanwad cynyddol yng Nghymru a thu hwnt.
Eleni, gwelwyd trychinebau mwy difrifol ac amlach a achoswyd gan yr hinsawdd ym mhob rhan o’r byd, sy’n ein hatgoffa o’r angen i gynnal ymrwymiad cadarn i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd. Bydd gweithgarwch ein prif brosiectau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn canolbwyntio ar y ffordd y mae pobl yn deall ac yn cyfleu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn y dyfodol pell, sef mater sydd wedi arwain at gryn dipyn o bolareiddio mewn gwledydd eraill ac a allai ddylanwadu ar drafodaethau gwleidyddol yma yn y blynyddoedd i ddod.
Mae llawer o’r polareiddio gwleidyddol a chymdeithasol hwnnw’n cael ei waethygu gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n rhoi blaenoriaeth i elw i randdeiliaid ar draul budd cymdeithasol. Roedd ein penderfyniad ym mis Medi 2023 i roi’r gorau i ddefnyddio ein cyfrif Twitter yn un rhagweledol; ers hynny mae nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ledled Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu gwneud yr un fath. Byddwn yn parhau i arwain y sector hwn drwy ddangos pŵer – a gwerthoedd – llwyfannau cyfryngau cymdeithasol agored, a chyfrannu at Gymru sy’n cyfleu gwahaniaethau â goddefgarwch a dealltwriaeth.
Credwn fod tryloywder yn rhagamod angenrheidiol ar gyfer atebolrwydd. Fel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rhestrir ein cyfarfodydd â phartïon allanol ar ein gwefan ac, eleni, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein holl ohebiaeth allanol ffurfiol hefyd. Yn 2025, byddwn yn parhau i chwilio am arferion da ym maes llywodraethu ac atebolrwydd a’u rhoi ar waith. Eleni, cymerodd ein Comisiynwyr ran mewn rhai o feysydd mwyaf heriol seilwaith i Gymru, gan gynnwys natur gyfnewidiol diwydiant ym Mhort Talbot a’r angen am grid hygyrch a fforddiadwy ym mhob rhan o Gymru. Edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan yn y 12 mis sydd i ddod i helpu i sicrhau seilwaith yng Nghymru sy’n addas i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Dr David Clubb (Cadeirydd) and Dr Jenifer Baxter (Dirprwy Gadeirydd)
Ein nodau, amcanion, canlyniadau a gwerthoedd
Sefydlwyd ein gwerthoedd sefydliadol a’n ffyrdd o weithio yn ein blwyddyn gyntaf fel ein hegwyddorion arweiniol ac er mwyn adlewyrchu ein cylch gwaith a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ein nodau
-
- Darparu cyngor ac arweiniad radical a heriol sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, ond yn bennaf Llywodraeth Cymru, a fydd yn llywio penderfyniadau ar gyflwyno seilwaith o 2030-2100 ac yn eu diogelu at y dyfodol.
-
- Defnyddio fframweithiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yr argyfyngau hinsawdd a natur a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i lywio ein trafodaethau.
-
- Cefnogi mentrau, sefydliadau neu bolisïau sy’n ceisio creu a chynnal seilwaith gwydn ac addasadwy sy’n darparu llesiant tan 2100 a thu hwnt.
Ein hamcanion
Mae ein hamcanion yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
-
- Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
-
- Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
-
- Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
-
- Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
-
- Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
Ein canlyniadau
Yn Adroddiad Blynyddol cyntaf y Comisiwn presennol hwn, diffiniwyd amrywiaeth o ganlyniadau roeddem yn rhagweld y byddem yn gallu eu cyflawni rhwng 2022 a 2025. Isod, rydym wedi asesu sut rydym wedi perfformio yn erbyn y rhain dros y 12 mis diwethaf.
Canlyniad a ddymunir | Crynodeb o’r Perfformiad hyd yma |
---|---|
Polisi ar gyfer y dyfodol sy’n gwella’r ffordd y caiff cyfoeth ei greu o ynni adnewyddadwy; sy’n rheoli tir yn well at amrywiol ddefnyddiau seilwaith; ac sy’n meithrin gwell dealltwriaeth o safbwyntiau cymunedau lleol | Ar ôl cyflwyno ein hadroddiad ar ynni adnewyddadwy ym mis Hydref 2023, rydym wedi mynd ar drywydd ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru drwy ymgysylltu’n barhaus â swyddogion a Gweinidogion. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch mater Ystad y Goron ac rydym yn parhau â’n deialog â rhanddeiliaid. |
Bydd polisi ac ymarfer ar gyfer y dyfodol yn fwy ystyriol o ffyrdd i leihau effaith llifogydd ar gymunedau a seilwaith Cymru | Cyflwynwyd ein hadroddiad ar ein prosiect ar lifogydd mewn cydweithrediad ag arbenigwyr yn y sector, a arweiniodd at 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Lansiwyd yr adroddiad ar 17 Hydref 2024. Rydym yn aros am ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru ond rydym yn awyddus i ymgysylltu â swyddogion a Gweinidogion ynghylch yr argymhellion mewn ffordd gadarnhaol. |
Bydd y Comisiwn a rhanddeiliaid eraill yn cael eu hysbysu’n well am sut i gyfleu risgiau hirdymor i’r cymunedau sy’n fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd | Gwnaethom orffen cwmpasu ein prosiect Cyfathrebu am yr Hinsawdd, gan sefydlu dau brosiect ymchwil, y naill yn canolbwyntio ar gymunedau a’r llall yn canolbwyntio ar ddarparwyr seilwaith. Dyfarnwyd contractau ymchwil a ffurfiwyd Grwpiau Cyfeirio Prosiect er mwyn rhoi adborth. |
Bydd gweithgareddau ac argymhellion y Comisiwn yn cael eu llywio’n well gan amrywiaeth eang a helaeth o randdeiliaid | Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ac yn y cyfryngau. Rhestrir y rhain ar ein gwefan. |
Codi proffil a gwella enw da’r Comisiwn | Er ei bod yn anodd asesu ein henw da yn wrthrychol, mae ein proffil wedi codi yn sylweddol dros y 12 mis diwethaf. At hynny, mae’r ystadegau ar weithgarwch ar ein gwefan yn dda. Mae’r ystadegau hyn yn gwbl dryloyw a hygyrch i ymwelwyr â’r wefan. Bydd yr Adolygiad o’r Comisiwn (gweler isod) yn cynnig cyfleoedd pellach i roi adborth. Eleni, rydym hefyd wedi penodi Equinox i’n cefnogi gyda’n gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu. |
Ein gwerthoedd

Yn ystod 2023, gwnaethom gytuno ar set o werthoedd sy’n disgrifio sut rydym yn anelu at drafod a gweithredu Aethom ati i ysgrifennu darn byr yn eu disgrifio ar wefan y Comisiwn. Ein gwerthoedd yw:
-
- Cynhwysol; Cynhwysol; creu amgylchedd cynnes a chyfeillgar lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac yn hyderus i fynegi eu barn
-
- Tryloyw; gwthio ffiniau adrodd bron mewn amser real ar ein hymgysylltu, a dangos yn gyhoeddus sut rydym yn delio ag anghytundebau mewnol
-
- Radical; Mae Comisiynwyr wedi ymrwymo i weithio allan o’u hardaloedd cysurus; ein nod yw rhoi cyngor, barn ac argymhellion sy’n wahanol i ‘fusnes fel arfer’ er mwyn lliniaru’r argyfyngau natur a hinsawdd a chyflawni ein cylch gwaith
-
- Heriol; Mae’r Comisiynwyr yn herio’r status quo gydag anghenion cenedlaethau’r dyfodol a dyhead i wneud yn well ar gyfer dinasyddion Cymru yn y dyfodol
-
- Ymarferol; Mae gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar argymhellion y gellir eu gweithredu sy’n ein symud tuag at seilwaith mwy cynaliadwy ar gyfer anghenion pobl Cymru
Ein strategaeth
Yn ystod 2024, rydym wedi datblygu ein dull gweithredu strategol ehangach er mwyn diffinio beth mae’r Comisiwn yn ceisio ei wneud a sut y dylai fynd ati i gyflawni hyn, gan gadw ein cylch gwaith a’n fframwaith mewn cof bob amser. Ym mis Mehefin, buom yn ddigon ffodus i fod yn rhan o weithdy a hwyluswyd gan Dr Paul Davies o Brifysgol Abertawe er mwyn ein helpu i ystyried hyn yn fanylach.
Daethom i’r casgliad bod y rhan fwyaf o sefydliadau yn cael budd o fabwysiadu dull gweithredu strategol o gyflawni eu gweithgarwch. Fodd bynnag, nid sefydliad traddodiadol yw’r Comisiwn; mae’n cynnwys wyth Comisiynydd rhan-amser, a gefnogir gan ddau aelod o’r Ysgrifenyddiaeth. Felly, aethom ati i ddatblygu ein dull gweithredu strategol gan gadw ein hadnoddau cyfyngedig ein hunain mewn cof, yn ogystal â’n cylch gwaith a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Amlinellir ein dull gweithredu strategol yn fanylach ar ein gwefan. I grynhoi, rydym yn ystyried ein swyddogaethau fel Comisiwn sy’n ein galluogi i ddadansoddi sut rydym yn cyfrannu at y drafodaeth ynghylch Seilwaith yng Nghymru. Yna, gallwn fonitro’r cyfraniad hwn gan ddefnyddio ffactorau llwyddiant hanfodol. Er inni geisio llunio metrigau i fesur ein llwyddiant, mewn rhai achosion nid yw’r dystiolaeth ar ffurf rifol. Rydym yn gyfforddus ag asesu ein perfformiad yn seiliedig ar naratif ac wedi cynnwys enghreifftiau o lwyddiant lle y bo hynny’n berthnasol.
Bydd rhestru ein ffactorau llwyddiant (yr adroddir ar bob un ohonynt yn y ddogfen hon) yn ein helpu i ganolbwyntio ar gasglu data a fydd yn darparu tystiolaeth am effaith ein gwaith. Drwy gyhoeddi’r dull gweithredu strategol cyntaf hwn bydd hynny’n ein helpu i ddeall barn pobl eraill am ein llwyddiant er mwyn inni allu parhau i fireinio ac addasu ein dull gweithredu er mwyn iddo ateb y diben yn well. Bwriadwn ailystyried y dull gweithredu hwn yng ngoleuni adborth gan randdeiliaid, Adolygiad y Comisiwn neu unrhyw newid sylweddol yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol.
Adolygu blwyddyn y Comisiwn
Cyd-destun polisi seilwaith
Meddwl y dyfodol

Fel y’i nodwyd y llynedd, er mwyn inni allu arddel safbwynt hirdymor o ran nodau polisi a datblygiad, rydym hefyd yn awyddus i fabwysiadu dull Meddwl at y dyfodol yn ein gwaith. Rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad ym mis Ionawr 2025 i ddod â darparwyr seilwaith at ei gilydd i feddwl yn ofodol am eu cynlluniau yn y dyfodol. Bydd y digwyddiad hwn, a hwylusir gan yr Ysgol Dyfodoleg Ryngwladol, yn ystyried ein rhwydweithiau trafnidiaeth a sut i’w haddasu yn y dyfodol mewn byd a chymdeithas sy’n newid. Rydym yn awyddus iawn i weld hyn ar waith ac yn gobeithio y bydd hefyd yn bwydo i mewn i brosiect gwaith ‘Blwyddyn 4 / y Flwyddyn Olaf’ a nodwyd yn ddiweddar.
Rydym wedi defnyddio’r dull Meddwl at y Dyfodol a methodolegau yn ein Prosiect ar Lifogydd er mwyn rhagweld Fframwaith Llifogydd yng Nghymru ar gyfer 2050. Gan ddefnyddio gweithdai cyfranogol, roedd cydweithwyr yn Arup yn gallu ein helpu i lunio gweledigaeth ar gyfer Cymru sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd. Drwy ddefnyddio allbynnau creadigol, mae hefyd wedi ein helpu i ymgysylltu’n ehangach yn ein prosesau, gan geisio amrywiaeth ehangach o safbwyntiau ynglŷn â sut le fyddai Cymru yn y dyfodol.
Ar y thema hon, roeddem yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Materion Cymreig er mwyn cyhoeddi cyfres o erthyglau ar Gymru yn 2100 gan amrywiaeth o gyfranwyr. Gwnaethant ystyried materion megis cyflenwi bwyd, hygyrchedd a defnyddio deallusrwydd artiffisial i’n helpu i ddychmygu sut fywyd fyddai gennym yn y dyfodol. Cyhoeddwyd yr erthyglau hyn yn wythnosol yn ystod haf 2024 ac rydym wedi’u cyhoeddi gyda’i gilydd mewn antholeg, Dychmygu Cymru yn 2100: Storïau ac Erthyglau, lle y gellir eu gweld mewn un lle.
Cynhyrchu Dur ym Mhort Talbot
Ym mis Chwefror 2024, ysgrifennodd ein Dirprwy Gadeirydd, Jenifer Baxter, flog ar y sefyllfa ym Mhort Talbot. Nododd Jenifer y bydd y newyddion bod Tata Steel yn cau’r ddwy ffwrnais chwyth yn y gwaith dur ac yn gosod ffwrnais arc drydan yn eu lle (tua 2027) yn lleihau’n sylweddol allu’r DU i fod yn hunanddigonol o ran cyflenwi seilwaith allweddol, am y byddwn yn dibynnu ar ddur a fewnforir. Yn ogystal â hynny, fel y nododd Jenifer, bydd cyflogeion Tata Steel a’u cymunedau lleol yn teimlo’r effaith fwyaf dinistriol gyda naratif gan Tata Steel yn canolbwyntio ar yr angen i leihau allyriadau a symud, ar yr un pryd, tuag at economi fwy cylchol.
Mae Jenifer yn cyflwyno opsiynau gwahanol ar gyfer cynhyrchu dur yn Ne Cymru yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar y defnydd o danwyddau amgen a thanwyddau carbon isel, ac yn ystyried yr effeithiau cymdeithasol, gan gynnwys y broses bontio deg i gymunedau, a chymdeithasau, y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt.
Grid
Ym mis Mai 2024, ysgrifennodd y Comisiynydd Nick Tune, a helpodd i arwain ein hadroddiad ar ynni adnewyddadwy, flog ar system y grid trydan yng Nghymru. Cyfeiriodd Nick at gyhoeddiad Gweithredwr Systemau Ynni’r Grid Cenedlaethol (ESO): “Beyond 2030: A National Blueprint for a Decarbonized Electricity System in Great Britain.”
Lleisiodd Nick bryderon ynghylch y ffaith nad oedd unrhyw gynlluniau i uwchraddio’r grid rhwng y gogledd a’r de. Mae angen mynd ati ar fyrder i wella capasiti yn y canolbarth er mwyn hwyluso gwaith i ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y tir, ac yn y de wynebir tagfeydd yn y grid. Un ateb posibl yw gosod y cysylltiad â’r Môr Celtaidd drwy dde-orllewin Cymru, sy’n golygu y byddai modd gwneud gwaith cynhwysfawr i uwchraddio grid De Cymru, a rhyddhau mwy o gapasiti i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled y de.
Pwysleisiodd fod angen i Lywodraeth Cymru fynd ati ar fyrder i edrych ar argymhellion y Comisiwn ar gyfer ynni adnewyddadwy ac i weithredu.
Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
Yn dilyn ein digwyddiadau a’n gwaith craffu y llynedd, roeddem yn falch o weld bod Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 wedi cael cydsyniad brenhinol ym mis Mehefin 2024. Cyfeiriodd ein hymateb i’r ymgynghoriad gwreiddiol ar y Ddeddf ddrafft at yr angen i roi mwy o bwyslais ar ymgysylltu ac ymgynghori â’r gymuned. Ym mis Gorffennaf, gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Gofynion ar gyfer Ymgynghori Cyn Ymgeisio a Dulliau o Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Chymunedau Lleol.
Tynnodd ein hymateb sylw at yr angen am ymgysylltu effeithiol ac ystyrlon sy’n cynnwys y cymunedau y mae gwaith datblygu seilwaith yn effeithio arnynt. Roeddem yn falch o allu defnyddio ein profiadau yn y Borth a’n prosiect ynni adnewyddadwy, i dynnu sylw at arferion da. Gwnaethom hefyd ddefnyddio astudiaethau achos a ddygwyd i’n sylw drwy ein prosiect ar lifogydd i roi rhagor o enghreifftiau lle mae gweithgarwch ymgysylltu wedi sicrhau canlyniad cadarnhaol i gymunedau yn ystod y broses ddatblygu.
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Roedd y Comisiwn yn falch o gael gwahoddiad i’r sesiwn graffu flynyddol gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd. Gwnaethom groesawu adroddiad dilynol y pwyllgor ac ymateb i’r argymhellion ar gyfer y Comisiwn mewn modd cadarnhaol. Nodwn hefyd fod ymateb Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol o ran nodi trefniadau ar gyfer yr adolygiad o’r Comisiwn, gan ymateb i’r adroddiad ar ynni adnewyddadwy a’i ddull o ymdrin â materion sy’n ymwneud â dŵr.
Gwnaethom groesawu’r ddadl ddilynol yn y Senedd a nodi’r geiriau cadarnhaol gan Julie James, sef y Gweinidog a oedd yn goruchwylio’r Comisiwn ar y pryd.
“Mae’r Comisiwn yn sicr wedi sefydlu ei hun fel llais awdurdodol o fewn y sector sy’n uchel ei barch ac y mae rhanddeiliaid yn awyddus i glywed ei farn, a chredaf fod hyn yn tystio i aeddfedrwydd y sefydliad. Heb unrhyw amheuaeth mae ei waith yn arwain at newidiadau gwirioneddol”
Julie James MS
Digwyddiad y Sefydliad Dysgu a Gwaith
Ym mis Tachwedd 2024, roedd yn bleser gennym noddi cynhadledd flynyddol y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghaerdydd a chymryd rhan ynddi. Dros ar ôl tro, mae problem prinder sgiliau yn y nifer mawr o sectorau seilwaith wedi cael ei chodi fel mater allweddol sy’n rhwystro cynnydd yng Nghymru. Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu â’r prif randdeiliaid yn y sector addysg a sgiliau er mwyn trafod y newidiadau sydd eu hangen, sut y gallwn ddenu pobl newydd i’r diwydiant a sut y gallwn sicrhau bod y syniad o weithio mewn seilwaith yn ddeniadol i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol.
Teithiau Astudio
Mae’r Comisiwn yn awyddus i wella ein dealltwriaeth o faterion sy’n ymwneud â seilwaith a chlywed am yr ymatebion newydd a chyffrous sy’n cael eu datblygu ledled Cymru. Felly, trefnwyd sawl taith astudio mewn gwahanol rannau o Gymru eleni.
Y Drenewydd

Ym mis Chwefror 2024, teithiodd Comisiynwyr y Comisiwn i’r Drenewydd er mwyn siarad â rhanddeiliaid lleol am yr heriau sy’n wynebu cymunedau gwledig megis: cynaliadwyedd economaidd, sut beth yw teithio llesol mewn cyd-destun gwledig a sut y caiff mentrau strategol eu rheoli ar draws ffiniau.
Ar ôl siarad â phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, sy’n cynnwys gwleidyddion a swyddogion lleol, cawsom ddealltwriaeth ragorol o rai o’r problemau y mae’r ardal yn eu hwynebu. Cawsom ein tywys ar daith wych o amgylch canol tref y Drenewydd er mwyn gweld y prosiectau adfywio sy’n mynd rhagddynt yno ar hyn o bryd. Aethpwyd â ni hefyd i safle Pont Teithio Llesol newydd y Drenewydd er mwyn inni weld y gwaith adeiladu.
Buom yn aros yn Neuadd Gregynog, sef tirnod lleol pwysig sy’n cadw asedau naturiol a hanesyddol yr ardal â ffocws cymunedol.
Cymunedau Arfordirol Ceredigion
Ym mis Mehefin 2024, gwnaethom deithio i Geredigion gan ddefnyddio rhwydwaith bysiau strategol TrawsCymru. Yn ystod y daith ar y bws, cawsom wybod gan Trafnidiaeth Cymru sut mae’n cefnogi’r rhwydwaith bysiau yng Nghymru ac yn ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ar ôl inni gyrraedd Aberystwyth, gwnaethom gyfarfod â rhanddeiliaid trafnidiaeth lleol er mwyn clywed yn uniongyrchol ganddynt am y problemau a wynebir gan bobl sy’n byw yn y rhan hon o Gymru o ran ceisio teithio o gwmpas heb gar. Mae’r heriau yma yn wahanol iawn i’r rhai a wynebir mewn rhannau trefol o’r wlad ac roedd yn braf cael ein hatgoffa o hyn wrth ystyried blaenoriaethau cenedlaethol o ran trafnidiaeth.

Ar y daith hon, cawsom gyfle hefyd i deithio ar hyd yr arfordir i’r Borth, er mwyn clywed gan gymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt yn uniongyrchol. Roeddem yn awyddus i siarad ag aelodau o Gyngor Cymuned y Borth ac eraill am eu profiadau o fyw gydag arfordir sy’n newid a mwy o lifogydd. Buom yn dyst i sgwrs ddiddorol â chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch cynigion ar gyfer yr ardal yn y dyfodol sydd hefyd wedi helpu i lywio gwaith Blwyddyn 3 y Comisiwn ar ymgysylltu â chymunedau ar y mater sensitif hwn.
Bannau Brycheiniog

Tua diwedd y flwyddyn, ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Comisiwn ymweliad â Bannau Brycheiniog. Yn ystod yr ymweliad hwn, a drefnwyd gan awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bu’n bosibl inni drafod sut y gall bywyd mewn ardaloedd sensitif dyfu a ffynnu o dan yr amodau cywir gyda rhanddeiliaid lleol.
Cawsom gyfle hefyd i ymweld â fferm er mwyn gweld technegau rheoli llifogydd naturiol ar waith. Mae hyn wedi ein helpu i roi ein hargymhellion mewn perthynas â llifogydd yng nghyd-destun gweithgarwch rheoli tir a ffermio. Roedd hefyd yn brofiad cyffrous gwylio pobl ifanc yn meddwl at y dyfodol o ran sut roeddent am weld eu hardal leol yn datblygu yng Nghynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod a chawsom gyfle i gyfrannu at y drafodaeth honno.
Datblygu sefydliadol y Comisiwn
Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ein hunain fel Comisiynwyr er mwyn inni allu cyflawni ein rolau yn effeithiol, cyfathrebu’n llwyddiannus yn fewnol ac yn allanol a sicrhau ein bod yn cyflawni ein cylch gwaith fel y’i pennwyd gan Lywodraeth Cymru. I’r perwyl hwn rydym wedi neilltuo amser eleni er mwyn ystyried ein dull gweithredu strategol (gweler uchod) a meddwl am y camau nesaf i’r Comisiwn o ran rhaglen waith barhaus.
Yn wleidyddol, mae’r trosolwg Gweinidogol wedi newid bedair gwaith yn 2024, sy’n golygu bod yr amgylchedd gweithredu wedi bod yn ansicr. Fodd bynnag, yn sgil penodi Prif Weinidog a Chabinet newydd yn ystod hydref 2024, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y Comisiwn i barhau â’i waith am weddill tymor y Senedd hon.
Mewn cysylltiad â’r adroddiad blynyddol hwn, rydym hefyd wedi myfyrio ychydig ar ein blwyddyn o waith a sut y gallwn wella’r ffordd rydym yn gweithredu er mwyn bod yn sefydliad gwell fyth sy’n cyflawni ein cylch gwaith.
Yn 2024, cafodd ein Comisiynwyr hyfforddiant yn y meysydd canlynol:
-
- Meddwl at y dyfodol, gyda hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU
-
- Trafnidiaeth ac iechyd, a ddarparwyd gan Brifysgol Aberystwyth
-
- Hyfforddiant arbeningol ar Linkedin, a ddarparwyd gan Equinox
Sistemau digidol
Rydym wedi parhau i ddatblygu ein darpariaeth gyfathrebu ddigidol, gan adeiladu ar wefan sylfaenol er mwyn cynnig platfform sy’n ein helpu i rannu ein diweddariadau a’n naratif am seilwaith yng Nghymru. Parhawyd i ddatblygu ein darpariaeth ddigidol y flwyddyn hon drwy fynd ati’n benodol i gynnal Gweledigaeth ar gyfer Llifogydd 2050, fel is-wefan i’r brif wefan, a thrwy lansio ein cylchlythyr chwarterol.
Gwefan
Ar ein gwefan ceir nodiadau cyfarfodydd y Comisiwn a chyhoeddiadau eraill, cofnodion o ymgysylltu a chyfarfodydd allanol, gwybodaeth am brosiectau a fideos o’n hymddangosiadau yn y cyfryngau, yn y Senedd neu ar ymweliadau canfod ffeithiau. Mae hefyd yn cynnwys lluniau o’n cyfrif cyfryngau cymdeithasol ar Pixelfed ac yn gweithredu fel y canolbwynt i’r rhan fwyaf o’n gweithgarwch cyhoeddus. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi gwneud cryn ymdrech i gyhoeddi ein hallbynnau ar-lein ac, weithiau, ar ffurf pdf. Yn aml, mae darllenwyr sgrin yn cael trafferth gyda fformatau perchnogol megis ffeiliau pdf. Bydd y fenter hon yn gwella hygyrchedd ein cynnwys. Mae ein dull ‘ar-lein yn ddiofyn’ hefyd yn helpu i wella gwelededd i chwilotwyr, gan fod gwe-ymlusgwyr yn gallu adrodd ar yr holl gynnwys a gynhyrchir gennym.
Mae’r ystadegau ar ein gwefan ar gael i bawb edrych arnynt. Yn y 12 mis ers ein hadroddiad diwethaf, cafwyd mwy na 17,600 o ymweliadau â’r wefan gan fwy na 6,000 o ddefnyddwyr unigol. Y DU oedd gwlad darddiad y mwyafrif helaeth o’r unigolion (85%) a ymwelodd â’n gwefan.

Cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn weithredol ar dair gwefan cyfryngau cymdeithasol ac wedi cynyddu ein presenoldeb arnynt drwy gydol y flwyddyn:
-
- LinkedIn, gyda mwy na 1,380 o ddilynwyr ar hyn o bryd. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o fwy na 10% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
-
- Mastodon. Tynnodd ein postiad mwyaf poblogaidd sylw at dri Chomisiynydd â chyfrif ar toot.wales, sef gweinydd Cymreig Mastodon. Mae gennym fwy na 110 o ddilynwyr ar y platfform hwn.
-
- Pixelfed. Platfform cyfryngau cymdeithasol ffynhonnell agored wedi’i optimeiddio ar gyfer rhannu delweddau. Mae gennym fwy na 140 o ddilynwyr ar y platfform hwn.
Ymgysylltu a gweithio gydag eraill
Rydym yn cofnodi ein gweithgarwch ymgysylltu a’n cyfarfodydd allanol ar ein gwefan mewn ffordd agored a thryloyw. Uchafbwyntiau’r Comisiynwyr eleni yw ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus ynglŷn â materion sy’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy a’r grid, yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o effeithiau llifogydd a’r angen i addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r gweithgarwch ymgysylltu ychwanegol hwn yn ein helpu i ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â’n prif brosiectau yn fanylach, y tu allan i’r prif gontractau ymchwil. Edrychwn ymlaen at gyfarfod â rhagor o sefydliadau ac unigolion dros y flwyddyn i ddod a all gyfoethogi ein gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd adeiledig a seilwaith yn fwy cyffredinol.
Yn unol â ‘Ffyrdd o Weithio’ Cenedlaethau’r Dyfodol, a phan fo adnoddau yn caniatáu, rydym yn gweithio gyda chyrff eraill i ledaenu negeseuon allweddol ac archwilio syniadau. Fel y nodir yn ein hadroddiadau ar gyfarfodydd, rydym wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau y flwyddyn hon.
Mae cydweithio yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar setiau sgiliau, cyrhaeddiad ac adnoddau sydd ar gael. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chyrff a sefydliadau eraill yn ystod y 12 mis nesaf, er mwyn cyflawni ein cylch gwaith.

Ein proffil
Cydnabu’r Comisiwn fod ei weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu yn gofyn am arbenigedd a chymorth allanol mewn tri phrif faes, sef:
-
- Cymorth misol parhaus i roi gwybod am weithgarwch y Comisiwm yn effeithiol
-
- Datblygu strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu
-
- Cymorth penodol i ymgysylltu â’r cyfryngau ynghylch cyhoeddi ein hadroddiad ar lifogydd
I’r perwyl hwn, roedd yn bleser gennym ymgysylltu ag Equinox, sef cwmni cyfathrebu sydd wedi’i leoli yng Nghymru, er mwyn iddo helpu’r Comisiwn gyda’i weithgarwch yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn cynyddu ein sylfaen adnoddau a’n gweithgarwch ymgysylltu yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae Equinox eisoes wedi ein galluogi i hyrwyddo lansio’r adroddiad ar lifogydd yn effeithiol, a oedd yn cynnwys gweithgarwch rhanbarthol sylweddol ledled Cymru yn ogystal â phresenoldeb mewn cyfweliadau ar y teledu a’r radio. Rydym yn gobeithio y bydd ein proffil cynyddol yn golygu y bydd y Comisiwn yn cael mwy a mwy o geisiadau i roi ei farn ar faterion cyfredol sy’n ymwneud â seilwaith ac yn gallu hyrwyddo ein gwaith ehangach i’r byd.
Yr adolygiad o’r Comisiwn
Yn unol â’i chylch gorchwyl, ym mis Mai 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod adolygiad o’r Comisiwn yn mynd rhagddo ac y byddai wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae Cylch Gorchwyl ar gyfer yr adolygiad hwn wedi’i lunio ac mae gwaith bellach yn mynd rhagddo.
Nod yr adolygiad yw rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru, Comisiynwyr y Comisiwn a’r Senedd ynglŷn â statws perfformiad, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn.
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y Comisiwn gan gynnwys sut mae’n gweithio ac yn gweithredu. Ystyrir hefyd a yw’r cyfnod y mae Comisiynwyr yn ei dreulio yn y swydd, sef tair blynedd ar hyn o bryd, yn briodol; a ffurfio barn ar y gofyniad ar y Comisiwn i gynnal asesiad o seilwaith cenedlaethol.
Mae’r adolygiad yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru sydd wedi ymgynghori â rhanddeiliaid allanol fel rhan o’r gwaith hwn.
Mae’r Comisiwn yn gwbl ymrwymedig i chwarae ei ran yn yr adolygiad. Mae pob Comisiynydd wedi ymateb i’r cwestiynau gan yr adolygwyr am wahanol agweddau ar waith y Comisiwn.
Edrychwn ymlaen at gael canlyniadau’r adolygiad a gweithio gyda Llywodraeth Cymru mewn ffordd gadarnhaol i roi unrhyw argymhellion ar gyfer newid a gynigir ar waith.
Ein Fframwaith

Ein gwariant yn 2023/24 a’n cyllideb ar gyfer 2024/25
Mae’r Comisiwn yn cael cyllideb benodol gan Lywodraeth Cymru er mwyn iddo gyflawni’r rhaglen waith a gwneud ymchwil. Rydym yn cyhoeddi ein meysydd gwariant arfaethedig er mwyn sicrhau tryloywder.
Yn 2023/24, o’n dyraniad cyllidebol gwerth £400,000, gwnaethom wario tua £360,500. Gwariwyd y rhan fwyaf o’r swm hwn ar ymchwil y prosiect ar lifogydd a amlinellir yn fanylach isod. Fe’i gwariwyd yn bennaf ar y pedwar contract ymchwil a’r mân dreuliau a oedd yn gysylltiedig â llunio a chyhoeddi’r adroddiad. Gwnaethom hefyd gynnal astudiaeth gwmpasu er mwyn llywio gwaith Blwyddyn 3 y Comisiwn ar gyfathrebu am yr hinsawdd.
Ar gyfer 2024/25, ac er mwyn cydnabod y sefyllfa anodd o ran cyllid cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllideb is o £370,000 inni. Rydym wedi dyrannu dros hanner ein cyllideb i’r prosiectau ymchwil i gyfathrebu am yr hinsawdd sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.
Fel y llynedd, rydym wedi cael setliad cyllidebol ar gyfer un flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw sicrwydd y bydd hyn yn parhau. Fodd bynnag, rydym yn hyderus bod yr adroddiadau ar ynni adnewyddadwy a llifogydd a gyflwynwyd ynghyd â’r gweithgarwch arall a amlinellir yn yr adroddiad hwn, wedi dangos y gall y Comisiwn fod yn effeithiol gyda’i waith ac y bydd yn rhoi sylfaen gadarn inni gyflwyno’r achos dros gyllid parhaus yn y dyfodol. Rydym eisoes yn meddwl am waith Blwyddyn 4 y Comisiwn (gweler isod) ac yn gobeithio defnyddio hyn i asesu’r materion allweddol presennol yn y sector seilwaith er mwyn argymell rhaglen waith i’r Comisiwn yn ystod tymor y Senedd nesaf.
Ein rhaglen waith
Ynni adnewyddadwy – 2022/23
Comisiynwyr Arweiniol: Aleena Khan a Nick Tune

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am ein Prosiectau
Ym mis Hydref 2023, cyhoeddwyd adroddiad mawr cyntaf y Comisiwn, sef Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050 a oedd yn ffrwyth llawer iawn o waith gennym ni, ein contractwyr, Grŵp Cynghori’r Prosiect a rhanddeiliaid eraill. Gwnaeth y Comisiwn 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:
Ym mis Hydref 2023, cyhoeddwyd adroddiad mawr cyntaf y Comisiwn, sef Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050 a oedd yn ffrwyth llawer iawn o waith gennym ni, ein contractwyr, Grŵp Cynghori’r Prosiect a rhanddeiliaid eraill. Gwnaeth y Comisiwn 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:
-
- Cyflymu’r broses o gyflwyno datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy bennu gweledigaeth a chynllun gweithredu cliriach y gall byd busnes a chymunedau eu deall.
-
- Helpu cymunedau i berchenogi ar gynlluniau lleol a rhannu’r manteision sy’n deillio ohonynt.
-
- Diweddaru rheolau cynllunio a rheoliadau adeiladu.
-
- Defnyddio ei dylanwad gyda chyrff yn y DU er mwyn helpu i ddatrys problemau sy’n ymwneud â seilwaith grid annigonol.
-
- Sicrhau bod mwy o’r manteision economaidd yn aros yng Nghymru er budd pobl Cymru, gan gynnwys casglu elw ynghyd mewn cronfa cyfoeth sofran newydd.
Rydym yn parhau i annog Llywodraeth Cymru i fanteisio ar y cyfle ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy wneud y canlynol:
-
- Pennu disgwyliadau uwch o ran perchenogaeth gymunedol, yn enwedig ar gyfer yr holl ddatblygiadau ynni
-
- Gweithredu lawer yn gyflymach i leihau rhwystrau i gyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach drwy waith datblygu a ganiateir
-
- Ystyried y syniad o ‘ragdybiaeth o blaid cydsyniad’ ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol
-
- Cyflwyno arbenigedd cyfunol i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau a chydsynio mwy amserol ar gyfer prosiectau
Er gwaethaf y cyfyngiadau ar adnoddau yn Llywodraeth Cymru, credwn o hyd fod llawer mwy i’w wneud gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod Cymru yn lle deniadol i ddatblygu prosiectau sy’n sicrhau manteision llawer mwy sylweddol i bobl a chymunedau Cymru. Fel gyda’n holl ohebiaeth ffurfiol, mae ein gweithgarwch ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar gael i’w weld ar ein gwefan.
Rydym wedi ysgrifennu ddwywaith at Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, er mwyn gofyn am gyfarfod i drafod mater datganoli Ystad y Goron i Gymru. Rydym yn aros yn eiddgar am ymateb Llywodraeth y DU.est.
Llifogydd – 2023/24
Comisiynwyr Arweiniol: Eurgain Powell ac Eluned Parrott
Y wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiectau
Ar 17 Hydref 2024, cyhoeddwyd ein hail adroddiad mawr, y tro hwn ar lifogydd. Sefydlwyd hyn yn ein cylch gwaith drwy Gytundeb Cydweithio 2021 er mwyn asesu sut y gellid lleihau effeithiau llifogydd ar gartrefi, busnesau a chymunedau erbyn 2050.
Mae Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050 yn cyflwyno 17 o argymhellion beiddgar ond ymarferol er mwyn i Weinidogion Cymru baratoi Cymru rhag y perygl cynyddol o lifogydd dros y 25 mlynedd nesaf. Mae’r adroddiad yn pwysleisio atebion naturiol, gan roi lle blaenllaw i natur a chymunedau yn y gwaith o feithrin gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd.

Rydym yn argymell dull gweithredu seiliedig ar ddalgylchoedd sy’n cynnwys cymunedau lleol yn uniongyrchol mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â llifogydd gan ddefnyddio mentrau megis Rheithgorau Dinasyddion a Fforwm Gwrthsefyll Dŵr newydd.
O ran llywodraethu, mae’r adroddiad yn galw am benodi Comisiynydd Dŵr a llunio strategaeth 30 mlynedd ar gyfer gwrthsefyll llifogydd er mwyn ysgogi atebion arloesol i lifogydd ledled Cymru. Er mwyn gwella ymwybyddiaeth a sgiliau, mae’r adroddiad yn awgrymu y dylid integreiddio addasu i’r newid yn yr hinsawdd yng nghwricwla ysgolion Cymru a darparu hyfforddiant ar wrthsefyll llifogydd yn rhanbarthol.
Er mwyn cynyddu cyllid ac adnoddau, rydym yn argymell y dylid amrywiaethu ffynonellau cyllid a chyflwyno cymorthdaliadau gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu’r perchnogion tai sydd â’r angen mwyaf i fuddsoddi mewn mesurau gwrthsefyll llifogydd.
Rydym eisoes wedi ymgysylltu â’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru i drafod yr argymhellion yn yr adroddiad hwn ac wedi cynnal trafodaethau rhagweithiol â swyddogion er mwyn helpu i sicrhau bod ein hadroddiad yn cael derbyniad ffafriol. Edrychwn ymlaen at gael helpu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i roi ein hargymhellion ar waith.
Cyfathrebu am yr hinsawdd – 2024/25
Comisiynwyr Arweiniol: Helen Armstrong a Steve Brooks
Trosolwg o’r prosiect
Mae gwaith Blwyddyn 3 y Comisiwn yn ystyried sut rydym yn cyfathrebu â chymunedau y bydd Newid yn yr Hinsawdd yn effeithio arnynt. Y llynedd, gwnaethom gomisiynu gwaith i’n helpu i gwmpasu’r materion yn y maes hwn. Er mwyn helpu gyda’r gwaith hwn, gwnaethom gyhoeddi cais am dystiolaeth i gasglu gwybodaeth a chynnal sawl sesiwn fel Comisiwn er mwyn nodi ble y gellid gwneud gwaith ychwanegol penodol er mwyn cyflwyno argymhellion ystyrlon i Lywodraeth Cymru.
Mae ein rhaglen ymchwil y flwyddyn hon yn canolbwyntio ar ddau faes, pob un â’i safbwynt unigryw ar y mater hwn:
Ymgysylltu â Chymunedau – yr Ysgol Dyfodoleg Ryngwladol
Gwnaethom nodi y bydd polisi presennol Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl o bob rhan ogymdeithas gael eu cynnwys yn y broses o feddwl am addasu i newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor a goblygiadau hynny i seilwaith. Yn ein barn ni, mae cyfranogiad cymunedol yn elfen allweddol o alluogi addasu i newid yn yr hinsawdd a datblygu seilwaith mewn ffordd gadarnhaol yn yr hirdymor.
Mae’r Ysgol Dyfodoleg Ryngwladol wedi cael ei chomisiynu i gydlunio a phrofi dulliau gweithredu ymarferol sy’n helpu cymunedau amrywiol sy’n seiliedig ar leoedd yng Nghymru i gael sgyrsiau ynghylch addasu i newid yn yr hinsawdd a’r effeithiau hirdymor ar seilwaith.
Mae amcanion penodol yn cynnwys gweithio o fewn grwpiau penodol yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd a gwneud y canlynol:
-
- Defnyddio’r hyn sy’n gweithio o ran dulliau cyfranogol a dyfodolegol o gynnwys cymunedau amrywiol sy’n seiliedig ar leoedd mewn prosesau gwneud penderfyniadau hirdymor
-
- Defnyddio technegau cyfranogol, creadigol i gynnwys dinasyddion amrywiol
-
- Profi a chofnodi’r gwersi a ddysgwyd i bobl eraill
-
- Gwneud argymhellion i’r Comisiwn yn unol â’i gylch gwaith
Ymhlith allbynnau’r adroddiad hwn, rydym yn gobeithio llunio pecyn cymorth i eraill ar ymgysylltu â chymunedau lleol.
Seilwaith Cydnerth – Arup
Ar sail ein gwaith cwmpasu, daethom i’r casgliad nad yw darparwyr na chynllunwyr seilwaith yn rhoi ystyriaeth lawn i’r 60-70 mlynedd nesaf o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd ar rwydweithiau seilwaith yng Nghymru a bod angen gwell prosesau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ar gyfer cynllunio a chyflenwi seilwaith yn y dyfodol.
Yn y prosiect hwn, byddwn yn adolygu sut mae ystyriaethau o ran newid yn yr hinsawdd o fewn prosesau cynllunio a darparu seilwaith yn cael eu hystyried o safbwynt cynnal a chadw’r seilwaith presennol (e.e. dulliau rheoli asedau) a datblygu seilwaith newydd.
Yn benodol, byddwn yn edrych ar y meysydd seilwaith canlynol:
-
- Iechyd
-
- Tai
-
- Ynni
-
- Dŵr a ddŵr gwastraff
-
- Addysg
-
- Trafnidiaeth
-
- Adeiladu
-
- Cyfleusterau cymunedol
-
- Awdurdodau lleol a rhanbarthol
Ar ôl ymgysylltu’n helaeth â darparwyr seilwaith ynghylch sut maent yn ystyried amcanestyniadau hinsawdd a sut maent yn cydweithio ar hyn o bryd i fynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd, os o gwbl, bydd y prosiect hwn yn gorffen drwy gynnal gweithdy addysgol i gyrff seilwaith, er mwyn dod â nhw at ei gilydd i drafod pa newidiadau y gellir eu gwneud.
Yn 2025, bwriadwn lunio adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynglŷn â sut i helpu cyrff cyhoeddus i ymgysylltu â chymunedau a’r cyhoedd a’u cynnwys yn yr ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd.
Gwaith am 2025/2026 – asesu seilwaith at y dyfodol
Mae’r Comisiwn yn ymwybodol bod ei raglen waith a’i gylch gwaith presennol yn dod i ben. Rydym yn gweithio ar sail y dybiaeth y bydd ei waith yn parhau yn y dyfodol ac y caiff cylch gwaith newydd ei bennu iddo gan Lywodraeth nesaf Cymru yn 2026.
O ystyried hyn, mae’r Comisiwn yn awyddus i wneud darn o waith ‘Blwyddyn 4 / Blwyddyn Olaf’ gyda gwahanol sectorau seilwaith ar ba broblemau mawr y mae’r diwydiant yn debygol o’u hwynebu dros yr 80 mlynedd nesaf. Byddwn yn cyflwyno’r canfyddiadau hyn i Lywodraeth Cymru ac yn argymell rhaglen waith i’r Comisiwn ar gyfer tymor y Senedd nesaf.
Credwn y gallai’r defnydd o dechnegau ‘Meddwl at y Dyfodol’ chwarae llawer mwy o rôl mewn polisi yng Nghymru. Ein nod yw defnyddio’r technegau hyn yn aml yn ein gwaith, gan gynnwys, o bosibl, Asesu Seilwaith at y Dyfodol er mwyn ysgogi sgwrs ynghylch anghenion Cymru o ran seilwaith ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Myfyrdodau’r Comisiynwyr
Helen Armstrong

Ar ddechrau 2024, cawsom adroddiad cwmpasu gan Cynnal Cymru a’n helpodd i ddeall y sefyllfa ledled y DU o ran cyfranogiad cymunedol mewn prosiectau seilwaith a phrosiectau gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd. Drwy gydol y flwyddyn, mae prosiect y Comisiwn sy’n edrych ar y gallu i wrthsefyll llifogydd wedi bod yn mynd rhagddo ac roedd y weledigaeth ar gyfer Cymru sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn 2050 yn ysbrydoliaeth a’n helpodd i lywio ein gwaith yn ein trydedd flwyddyn.
Yn ystod ein taith i’r Borth ym mis Mehefin, gwnaethom siarad â thrigolion am yr amddiffynfeydd môr sy’n amddiffyn eu cymuned; rhoddodd ddarlun clir i ni o’r ffordd y mae lefelau môr sy’n codi a llifogydd o afonydd yn effeithio ar bobl a sut maent yn awyddus i leisio eu barn a chymryd camau i amddiffyn eu cymunedau.
Gwnaeth hyn lywio manyleb ein prosiect ac, yn dilyn proses dendro dros yr haf, gwnaethom benodi’r Ysgol Dyfodoleg Ryngwladol i gynnal ymchwil yn seiliedig ar leoedd i ffyrdd o gynnwys pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn prosesau gwneud penderfyniadau ystyrlon ynghylch seilwaith yng ngoleuni’r newid yn yr hinsawdd. Mae ymaddasu a’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn themâu allweddol ac mae’n addas o ystyried y glawiad eithafol a gafwyd yn ddiweddar.
O dan oruchwyliaeth grŵp cyfeirio prosiect bach, bydd Ysgol y Dyfodol Rhyngwladol yn ystyried ffyrdd creadigol ac arloesol o ymgysylltu â chymunedau ac rydym yn gobeithio y bydd y canlyniadau yn ysbrydoli darparwyr seilwaith a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gynnwys y cyhoedd yn fwy effeithiol. Mae’r darn hwn o waith yn wirioneddol gyffrous a chredaf y gallwn gymhwyso’r gwersi a ddysgir yn ehangach, gan wneud cyfraniad pwysig at y ffordd rydym yn gwneud pethau yng Nghymru.
Jen Baxter
Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un arbennig o bwysig wrth i’r Comisiwn sefydlu patrwm gwaith. Rydym wedi datblygu strategaeth fach ond pwerus sy’n ein galluogi i gyflawni dros bobl Cymru.
Y flwyddyn hon, rydym wedi defnyddio ein gwerthoedd a’n strategaeth newydd i lunio dull newydd radical o reoli llifogydd yng Nghymru ac, ar sail hyn, rydym wedi cydlunio rhaglen waith er mwyn deall risg ddirfodol a sut mae cymunedau lleol yn byw gyda bygythiad dirfodol.
Mae’r rhain i gyd yn brosiectau cyffrous sy’n parhau i’n haddysgu am y ffyrdd gorau o reoli, cynnal a chadw ac adnewyddu seilwaith ledled Cymru mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar bobl a’r blaned.

Steve Brooks

Y flwyddyn hon, rydym yn dathlu 25 mlynedd ers datganoli yng Nghymru. Wrth imi fyfyrio ar ein cynnydd yn ystod y ddau ddegawd a hanner diwethaf, caf fy nharo gan rai o’r newidiadau rydym wedi’u gweld. Ar yr un pryd, rwy’n myfyrio ar y newidiadau y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol a sut y byddwn yn camu ymlaen i’r bennod nesaf yn natblygiad Cymru. Tan yn gymharol ddiweddar, roedd effeithiau byw y tu hwnt i’n terfynau amgylcheddol yn cael eu deall ond roeddent yn ymddangos yn bell i ffwrdd i lawer o bobl. Gan fy mod yn gweithio ym maes datblygu rhyngwladol, roeddwn i’n gwybod bod newid yn yr hinsawdd yn newid amgylcheddau ac yn effeithio ar fywiolaethau, yn enwedig yn Rhannau Deheuol y Byd. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r amcanestyniadau hirdymor ond roedd y risg yn aml yn ymddangos yn bell i ffwrdd, yn haniaethol hyd yn oed, hyd yn oed i mi.
Mae’r Comisiwn yn gwneud gwaith sy’n cael ei arwain ar y cyd gennyf, sy’n ymwneud yn benodol â meithrin dealltwriaeth o’r cyfyngiadau a’r cyfleoedd wrth inni ystyried amcanestyniadau hinsawdd mewn prosesau cynllunio seilwaith a chynllunio gofodol. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chynllunwyr a darparwyr seilwaith er mwyn ystyried arferion presennol, rhannu gwybodaeth ac ymdrechion cydweithredol. Rydym hefyd yn edrych ar astudiaethau achos o arferion gorau o bob cwr o’r byd, gan feithrin dealltwriaeth o’r ffordd y mae gwledydd gwahanol yn integreiddio amcanestyniadau hinsawdd yn eu prosesau cynllunio. Bydd ein canfyddiadau yn allweddol i lywio argymhellion i Lywodraeth Cymru, yn benodol wrth ei chynghori ynglŷn â sut y dylai geisio cyngor ar yr hinsawdd yn y dyfodol a sut i gynllunio’n strategol ar gyfer seilwaith Cymru.
Bydd yr adroddiad rydym yn gweithio arno yn ystyried y gwahaniaethau rhwng effeithiau disgwyliedig newid yn yr hinsawdd a data go iawn, a sut y gall y gwahaniaethau hyn ddylanwadu ar y gwaith o gynllunio a darparu seilwaith. Y nod yw sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn sefyllfa well i ymateb yn effeithiol i heriau yn y dyfodol.
Er mwyn creu’r wlad honno lle rydym yn gwneud pethau yn wahanol, bydd angen i bob un ohonom gamu i’r adwy a chwarae ein rhan. Mae angen inni gydnabod y rhwystrau a wynebwn ar hyn o bryd ond parhau’n ddiwyro â’n hymdrechion i’w goresgyn. Mae angen i bob un ohonom ofyn i’n hunain beth gallwn ei wneud, yn bersonol ac yn broffesiynol, i greu dyfodol mwy cynaliadwy a chydnerth i Gymru.
David Clubb
Mae ein hymdrechion yn y blynyddoedd cynnar yn sicrhau canlyniadau cadarn o ran gweithgareddau’r Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn cyflawni ei amcanion i bob pwrpas, gan gadw at ei fandad swyddogol a’i fframwaith mewnol, sy’n sicrhau mai byd natur a’r hinsawdd sydd wrth wraidd ein trafodaethau a’n penderfyniadau, ynghyd â’r ymrwymiad i wella amodau i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Rydym yn gwella ein galluoedd mewnol yn barhaus, gan gynnwys drwy hyfforddiant ar ddulliau meddwl at y dyfodol, gan sicrhau y gallwn ragweld a diwallu anghenion dinasyddion Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys y rhai nas ganwyd eto, ochr yn ochr â’r ystyriaethau mwy uniongyrchol sy’n gysylltiedig â therfynlin 2030.
Mae ein trefniadau cydweithio â chynrychiolwyr o wahanol sectorau seilwaith yn dangos perthnasedd ehangach y Comisiwn yn y diwydiant. Rwy’n ddiolchgar am y cymorth a gafwyd gan y sectorau hyn, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i’n helpu i gyflawni ein prif amcan, sef: darparu argymhellion sy’n herio ac yn arwain Llywodraeth Cymru yn ei gwaith cynllunio seilwaith hirdymor i Gymru.

Aleena Khan

Polisïau radical heddiw yw safonau newydd yfory.
Rhoddodd Blwyddyn 2 gyfle i fyfyrio ar ein hadroddiad ‘Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050’, a gyhoeddwyd yn 2023. Mabwysiadodd yr adroddiad ddull meddwl at y dyfodol, gan nodi bod angen mynd ati ar fyrder i gymryd camau radical yn awr er mwyn inni allu creu byd lle nad yw mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn beth eithriadol.
Un profiad a gafodd gryn effaith eleni oedd ein Hymweliad Safle â’r Borth, lle y cawsom gyfle i glywed yn uniongyrchol gan aelodau o’r gymuned y mae newid yn yr Hinsawdd yn effeithio arnynt. Pwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned leol i feithrin canlyniadau gwell a mwy cadarn sydd wir yn adlewyrchu eu blaenoriaethau a’n llesiant nhw a blaenoriaethau a llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Yn y flwyddyn sydd i ddod, edrychaf ymlaen at gyfrannu tuag at y prosiect Cyfathrebu am yr Hinsawdd – Ymgysylltu â Chymunedau, sy’n canolbwyntio ar y cydgysylltiad rhwng ymgysylltu â’r gymuned a sicrhau bod seilwaith yn addas at y dyfodol.
Eluned Parrott

Fel un o’r comisiynwyr arweiniol ar brosiect mawr y flwyddyn hon ar y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd, bu’n flwyddyn o ddarganfod a myfyrio, a hoffwn ddiolch i’r nifer mawr o randdeiliaid a chymunedau sydd wedi ein cefnogi ar ein taith.
Mae’r data yn llwm. Mae 1 o bob 7 cartref yng Nghymru eisoes yn wynebu perygl o lifogydd, a bydd y nifer hwn yn cynyddu’n gyflym wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd ddod yn fwyfwy amlwg. Pan fyddwch yn ymweld â chymunedau sydd eisoes yn byw gyda’r risg hon, mae’r pryder yn amlwg. Mae llifogydd yn dinistrio bywydau. Mae’n chwalu’r ymdeimlad hwnnw o ddiogelwch sydd ei angen ar bob un ohonom er mwyn teimlo’n ddiogel yn ein cartrefi ac yn golygu bod pobl yn edrych dros eu hysgwyddau bob tro y bydd yn bwrw glaw. Mae’n gwneud niwed i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl am flynyddoedd i ddod, nid dim ond pan fyddant yn wynebu perygl uniongyrchol o lifogydd.
Yn bersonol, mae gennyf ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb am y cymunedau hyn, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a helpu i ysgogi newid ystyrlon. Mae clywed storïau am ofid personol wedi bod yn agoriad llygad, yn ogystal â chlywed bod pobl yn awyddus i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o sicrhau y gall eu cymunedau wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Nid ydynt yn fodlon aros yn oddefol am yr argyfwng nesaf ac ni ddylem ninnau wneud hynny ychwaith. Fel cymdeithas, dylem fod yn ysu am greu dyfodol gwell. Nawr yw’r amser i ddechrau.
Eurgain Powell

Yn ystod ein hail flwyddyn, mae Eluned a minnau wedi bod yn brysur yn gweithio ar ein prosiect ar Lifogydd. Gan weithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn y sector i gyflawni pedair ffrwd waith ymchwil, ystyried yr heriau a’r cyfleoedd a nodwyd o ran gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gweithio ar raddfa dalgylch, cyllid, adnoddau a rôl cynllunio defnydd tir.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith ac roeddem yn falch iawn o’n hadroddiad terfynol a gyhoeddwyd gennym ym mis Hydref, gyda 17 o argymhellion beiddgar ond ymarferol. Cawsom ymateb mor gadarnhaol i’r adroddiad gan y Dirprwy Brif Weinidog, Pwyllgor Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ac rydym yn credu bod ein gwaith yn nodi’r llwybr y mae angen inni ei ddilyn er mwyn sicrhau bod Cymru yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor, gyda phobl a natur wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda’m cyd-Gomisiynydd i ystyried amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â seilwaith yn fawr iawn, yn ogystal ag ymweld â rhannu eraill o Gymru a siarad ag amrywiaeth o randdeiliaid am heriau a chyfleoedd lleol. Rwyf hefyd wedi cael budd o hyfforddiant ar Becyn Cymorth Dyfodoleg Llywodraeth y DU ac roeddwn yn falch ein bod wedi gallu defnyddio methodolegau ‘meddwl at y dyfodol’ yn ein gwaith ar Lifogydd er mwyn datblygu Gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer Cymru sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn 2050.
Nick Tune
Ar ôl cyflwyno ein hadroddiad ‘Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050’ yn 2023, mae’n galonogol gweld rhai o’r argymhellion yn dwyn ffrwyth, megis datblygu cynllun ynni cenedlaethol yn seiliedig ar waith y Cynlluniau Gweithredu Ynni Lleol ac, yn sgil creu Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol, mae hefyd yn galonogol gweld yr ymgyrch i sicrhau y bydd gan Gymru y grid trydan sydd ei angen arni, i’w gyflawni’n ddi-oed.
Yn sgil gweithredu’r Bil Seilwaith, rwy’n mawr obeithio y caiff y broses o gydsynio cynlluniau ynni adnewyddadwy yng Nghymru ei symleiddio. Fodd bynnag, mae problem o hyd yn gysylltiedig â phrinder gweithwyr proffesiynol medrus i gydsynio cynlluniau ynni adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus.
Yn olaf, rwy’n falch iawn o waith fy nghyd-gomisiynwyr ar yr adroddiad ar lifogydd, am ei fod yn amserol ac angenrheidiol iawn. Mae angen inni roi’r gorau i adeiladu mewn parthau llifogydd risg uchel ac mae angen inni roi blaenoriaeth i atebion seilwaith gwyrdd er mwyn rheoli perygl llifogydd erbyn 2100.
