A shot upwards into an electricity pylon, producing geometric shapes silhouetted against the blue sky

Tu hwnt i’r grid – tuag at system drydan ddatgarboneiddio

Nick Tune, un o’r dau Comisiynydd sy wedi arwain gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar Ynni Adnewyddadwy, yn sôn am ddyfodol system y grid trydan yng Nghymru.

Ar 19 Mawrth 2024, rhyddhaodd Gweithredwr Systemau Ynni’r Grid Cenedlaethol (ESO) y ddogfen “Beyond 2030: A National Blueprint for a Decarbonized Electricity System in Great Britain.” Mae’r cyhoeddiad hwn yn un arwyddocaol iawn i Gymru ac i bobl ledled y DU oherwydd ei fod yn amlinellu strategaethau i ddarparu ar gyfer cynnydd o 64% yn y galw am drydan erbyn 2035.

Mae uwchraddio’r grid yn ffordd allweddol o hwyluso gwaith i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau y bydd y DU yn sero net erbyn 2050. O ran Cymru yn benodol, gallai’r grid fod naill ai’n rhwystr neu’n sbardun i gyrraedd y nod uchelgeisiol o gynhyrchu 100% o’n hynni mewn ffyrdd adnewyddadwy erbyn 2035.

O safbwynt cenedlaethol, mae adroddiad y Gweithredwr Systemau Ynni, a’r cynlluniau sy’n gysylltiedig ag ef, yn gwbl gwbl angenrheidiol. Maen nhw’n meithrin hyder yn y sector ynni, ac yn ei ysgogi i ddechrau ar waith cynllunio hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer y cynlluniau cynhyrchu ynni sero net sy’n gwbl hanfol er mwyn inni fedru rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil.

Ond wedi dweud hynny, mae cryn her yn wynebu Cymru o ran datblygu’r seilwaith grid sydd ei angen er mwyn cyrraedd ei tharged o gynhyrchu 100% o’i thrydan mewn ffyrdd adnewyddadwy erbyn 2035. Yr hyn sydd i gyfrif am hynny yw’r ffaith nad oes gennym ddigon o seilwaith grid ar draws y wlad ar hyn o bryd.  I roi dwy enghraifft yn unig ‒ nid oes seilwaith o’r fath ar gael yng Nghanolbarth Cymru (lle bwriedir mynd ati i godi datblygiadau gwynt mawr ar y tir), ac mae diffyg cysylltedd rhwng Gogledd a De Cymru. Mae angen cysylltiad gwell rhwng De Cymru a’r fferm wynt arnofiol arfaethedig yn y Môr Celtaidd oddi ar arfordir De-orllewin Cymru, ac mae angen cryn waith uwchraddio ar hyd coridor De Cymru er mwyn trosglwyddo’r ynni a fydd yn cael ei gynhyrchu yn y Môr Celtaidd. Mae angen gwelliannau mawr hefyd er mwyn trydaneiddio Gwaith Dur Port Talbot.

Gan fod angen gwneud yr holl waith hwn i uwchraddio’r grid, mae’r diffyg manylion penodol yng nghynlluniau Gweithredwr Systemau Ynni’r Grid Cenedlaethol yn destun pryder. Mae diffyg amlwg yn y cynllun o ran ymrwymo i seilwaith ychwanegol y tu hwnt i’r hyn a argymhellwyd yn y gorffennol, er enghraifft,  cynnydd cyfyngedig mewn foltedd ac uwchraddio’r rhwydwaith presennol yng Ngogledd Cymru, ynghyd â chysylltiad gorllewinol arfaethedig ar y môr o’r Alban i Gymru. Er bod y ddogfen yn cydnabod bod angen cysylltiad newydd rhwng  Gogledd a De Cymru er mwyn datblygu ynni adnewyddadwy yn y Canolbarth, prin yw’r manylion. Yn ogystal, mae’r ddogfen yn sôn am gysylltiad grid â’r datblygiadau gwynt arnofiol arfaethedig yn y Môr Celtaidd, ond ni phenderfynwyd eto a fydd y cysylltiad hwnnw’n mynd drwy Orllewin Cymru neu Ogledd Dyfnaint.

Y mater y mae angen mynd i’r afael ag ef ar fyrder yw’r ffaith nad oes cynlluniau pendant i uwchraddio’r grid rhwng Gogledd a De Cymru. Mae angen mynd ati ar fyrder i wella capasiti yng Nghanolbarth Cymru er mwyn hwyluso gwaith i ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y tir, ac mae De Cymru yn ymgodymu â thagfeydd yn y grid. Un ateb posibl yw cyfeirio’r cysylltiad â’r Môr Celtaidd drwy Dde-orllewin Cymru, gan olygu y byddai modd gwneud gwaith cynhwysfawr i uwchraddio grid De Cymru, a rhyddhau mwy o gapasiti  i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled De Cymru. Fodd bynnag, mae’r diffyg gwybodaeth fanwl yn golygu y bydd cyrraedd y targedau ynni adnewyddadwy yn fwy o her wrth i bob mis fynd heibio.

Map o waith atgyfnerthu y mae’r Gweithredwr Systemau Ynni yn bwriadu’i wneud yng Nghymru lawrlwytho (nationalgrideso.com)

Yn 2023 argymhellodd CSCC y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu dull strategol o ddatblygu ynni i gynnwys seilwaith grid. Gwnaeth CSCC ddau argymhelliad ychwanegol yn benodol ar gyfer y grid, un ar gyfer Ofgem a’r llall ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Byddai gweithredu’r argymhellion hyn yn rhoi mwy o eglurder o ran angen ac amserlenni, gan rymuso sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat i weithio tuag at gyrraedd targedau.

Delwedd: Amy Taylor