Adroddiad Blynyddol 2022/23

Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) yn 2018 fel corff cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru.   Ei ddiben allweddol yw dadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion ar anghenion tymor hwy Cymru o ran seilwaith economaidd ac amgylcheddol strategol dros gyfnod o 5-80 mlynedd. 

Mae’r Comisiwn yn cynnal astudiaeth i heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru a bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.   Bydd y cyngor a roddir gan y Comisiwn o natur ddiduedd, strategol a blaengar.  

Mae’r Comisiwn yn atebol i Weinidogion Cymru am ansawdd ei gyngor a’i argymhellion a’i ddefnydd o gyllid cyhoeddus. 

Ein blwyddyn gyflawni lawn gyntaf

Cyflwyniad gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd

Croeso i adroddiad blynyddol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022/23.

Yn ystod y 12 mis diwethaf bu’r Comisiwn wrthi’n adeiladu tîm o Gomisiynwyr brwdfrydig a llawn cymhelliant ar sail set graidd o werthoedd. Buom yn weithgar mewn amrywiaeth eang o feysydd gwaith ac yn ymgysylltu’n unigol ac fel tîm â nifer o randdeiliaid o wahanol sectorau.

Rydym hefyd wedi profi ein hunain mewn perthynas â chyflawni; gwnaethom gomisiynu ymchwil i ynni adnewyddadwy a, chyda chymorth grŵp cynghori arbenigol, gwnaethom lunio ein safbwyntiau ein hunain ar ffyrdd y gellid cyflwyno ynni adnewyddadwy yn gyflymach yng Nghymru, gan sicrhau mwy o fanteision i bobl Cymru.

Mae ein hail flwyddyn o weithgarwch prosiect – ar liniaru effaith llifogydd yng Nghymru erbyn 2050 – yn mynd rhagddi ac rydym eisoes yn cwmpasu’r drydedd flwyddyn o weithgarwch, ar ddeall y broses o gyfleu’r risgiau a’r peryglon hanfodol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn y tymor hir iawn.

Yn ogystal â’r prosiectau mawr hyn, rydym hefyd wedi gallu rhoi ein barn a chynnal ymchwiliadau i feysydd polisi eraill megis bioamrywiaeth drefol, seilwaith digidol a’r system gynllunio. Rydym wedi cydweithio’n llwyddiannus â sefydliadau eraill er mwyn cynnal digwyddiadau sy’n dod â phobl at ei gilydd er mwyn trafod materion pwysig, megis seilwaith dŵr a chydsynio prosiectau mawr. Mae’r cydweithredu hwn, ynghyd ag ymgysylltu mwy ffurfiol â Phwyllgorau’r Senedd ynghylch materion sy’n ymwneud â seilwaith, yn dangos ein dylanwad cynyddol ar bolisi yng Nghymru.

Bu nifer o ddatblygiadau cadarnhaol eraill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mewn blwyddyn arbennig o brysur i bolisi trafnidiaeth Cymru, mae gweithredu’r Adolygiad Ffyrdd, a’r terfyn cyflymder ‘diofyn’ o 20mya mewn ardaloedd preswyl, wedi ennyn diddordeb ymhlith llunwyr polisi trafnidiaeth ledled y byd. Rydym yn aros am y data dros y blynyddoedd i ddod ar y llwyddiant a gafwyd o ran lleihau costau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol trafnidiaeth ‘yn y byd go iawn’.

Er ein bod wedi gwneud cynnydd pwysig, rydym yn ymwybodol o’r cyd-destun rydym yn gweithredu ynddo; pwysau ariannol sylweddol ar y sector cyhoeddus yng Nghymru; tymereddau sy’n torri pob record, hyd yn oed y tu hwnt i’r ‘senarios gwaethaf posibl’; a thrafodaeth gyhoeddus ynghylch y broses o bontio i sero net sydd mewn perygl o gael ei chymryd drosodd gan bobl sy’n gweithredu’n anonest ac er eu budd eu hunain. Caiff ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf ei lywio gan yr angen i weithredu a chyfleu ein barn yn unol â’r dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.

Cyflwynwn yr adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid â diddordeb ac edrychwn ymlaen at drafod ei gynnwys â’r Senedd yn ein sesiwn graffu flynyddol gyda’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

Hoffem ddiolch i bob un o’r rhanddeiliaid hynny sydd wedi gweithio gyda ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac wedi ein helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Dr David Clubb (Cadeirydd) a Dr Jenifer Baxter (Is-gadeirydd).

Ein nodau, amcanion, canlyniadau a gwerthoedd

Sefydlwyd ein gwerthoedd sefydliadol a’n ffyrdd o weithio yn ein blwyddyn gyntaf fel ein hegwyddorion arweiniol ac er mwyn adlewyrchu ein cylch gwaith a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ein nodau

Llun o nacelle tyrbin gwynt tua 2m o uchder, a rhai pobl yn sefyll o'i gwmpas yn pwyntio ac yn edrych i gyfeiriad gwahanol
  1. Darparu cyngor ac arweiniad radical a heriol sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, ond yn bennaf Llywodraeth Cymru, a fydd yn llywio penderfyniadau ar gyflwyno seilwaith o 2030-2100 ac yn eu diogelu at y dyfodol.
  2. Defnyddio fframweithiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yr argyfyngau hinsawdd a natur a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i lywio ein trafodaethau.
  3. Cefnogi mentrau, sefydliadau neu bolisïau sy’n ceisio creu a chynnal seilwaith gwydn ac addasadwy sy’n darparu llesiant tan 2100 a thu hwnt.

Ein hamcanion

Mae ein hamcanion yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

  • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.

Ein canlyniadau

Yn Adroddiad Blynyddol y flwyddyn ddiwethaf gwnaethom ddiffinio amrywiaeth o ganlyniadau roeddem yn rhagweld y byddem yn gallu eu cyflawni rhwng 2022 a 2025, sef y cyfnod y mae’r Comisiwn presennol wedi’i benodi i wasanaethu. Eleni, gallwn asesu sut rydym yn perfformio yn erbyn y canlyniadau hyn.

Canlyniad dymunolCrynodeb o’r Perfformiad hyd yma
Polisi ar gyfer y dyfodol sy’n gwella’r cyfoeth sy’n cael ei greu o ynni adnewyddadwy; sy’n rheoli tir yn well at amrywiol ddefnyddiau seilwaith; ac sy’n meithrin gwell dealltwriaeth o safbwyntiau cymunedau lleolCyflawnwyd prosiect ymchwil ynni adnewyddadwy a arweiniodd at gyflwyno 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Lansiwyd yr adroddiad ar 17 Hydref 2023. Rydym yn aros am ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd polisi ac ymarfer ar gyfer y dyfodol yn fwy ystyriol o ffyrdd i leihau effaith llifogydd ar gymunedau a seilwaith CymruRydym wedi ffurfio Grŵp Cynghori Prosiect ac wedi gwneud gwaith cwmpasu i nodi meysydd gweithgarwch roeddem am ganolbwyntio arnynt.
Rydym wedi gosod gwaith ymchwil i lifogydd ar gontract er mwyn hysbysu’r Comisiwn am ffyrdd o leihau effaith llifogydd yn y dyfodol.
Rydym yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru yn ystod Hydref 2024.
Bydd y Comisiwn a rhanddeiliaid eraill yn cael eu hysbysu’n well am sut i gyfleu risgiau hirdymor i’r cymunedau sy’n fwyaf agored i effeithiau newid hinsawddRydym wedi cyhoeddi Cais am Dystiolaeth yn gofyn am sylwadau ar sut i gyfleu risgiau ac effeithiau hirdymor. Mae hyn yn rhan o’r ymarfer cwmpasu a fydd yn arwain y ffordd ar gyfer prosiect ‘llawn’ yn 2024/2025.
Bydd gweithgareddau ac argymhellion y Comisiwn yn cael eu llywio’n well gan amrywiaeth eang a helaeth o randdeiliaidRydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ac yn y cyfryngau. Rhestrir y rhain ar ein gwefan ac yn ein Gardd Ddigidol, sef prosiect digidol peilot i ddarparu gwybodaeth fanylach am ein gweithgarwch.
Codi proffil a gwella enw da’r ComisiwnEr ei bod yn anodd asesu ein henw da yn wrthrychol, mae ein proffil wedi codi yn sylweddol dros y 12 mis diwethaf. Gwnaethom gynnal arolwg i nodi canfyddiadau pobl ohonom a chawsom 15 o ymatebion. Rydym yn ystyried mai hon yw ein llinell sylfaen ar gyfer cyfleoedd adborth yn y dyfodol. At hynny, mae gennym ystadegau da ar weithgarwch ar ein gwefan. Mae’r ystadegau hyn yn gwbl dryloyw a hygyrch i ymwelwyr â’r wefan.

Ein gwerthoedd

Wyth o bobl; pump o ferched a thri dyn. Chwech yn sefyll yn y rhes gefn, dau yn y blaen.

Yn ystod 2023, gwnaethom gytuno ar set o werthoedd sy’n disgrifio sut rydym yn anelu at drafod a gweithredu Gwnaethom ysgrifennu darn byw yn eu disgrifio ar wefan y Comisiwn. Ein gwerthoedd yw:

  • Cynhwysol; Cynhwysol; creu amgylchedd cynnes a chyfeillgar lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac yn hyderus i fynegi eu barn
  • Tryloyw; gwthio ffiniau adrodd bron mewn amser real ar ein hymgysylltu, a dangos yn gyhoeddus sut rydym yn delio ag anghytundebau mewnol
  • Radical; Mae Comisiynwyr wedi ymrwymo i weithio allan o’u hardaloedd cysurus; ein nod yw darparu cyngor, barn ac argymhellion sy’n ymwahanu oddi wrth ‘fusnes fel arfer’ er mwyn lliniaru’r argyfyngau natur a hinsawdd a chyflawni ein cylch gwaith
  • Heriol; Mae’r Comisiynwyr yn herio’r status quo gydag anghenion cenedlaethau’r dyfodol a dyhead i wneud yn well ar gyfer dinasyddion Cymru yn y dyfodol
  • Ymarferol; Mae gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar argymhellion y gellir eu gweithredu sy’n ein symud tuag at seilwaith mwy cynaliadwy ar gyfer anghenion pobl Cymru

Adolygu Blwyddyn y Comisiwn

Cyd-destun Polisi Seilwaith

Bioamrywiaeth Drefol

Un o’r pynciau cyntaf a ystyriwyd gennym fel Comisiwn eleni oedd yr her sy’n gysylltiedig â chynyddu bioamrywiaeth yn ein hardaloedd trefol. Ysgogwyd hyn gan Archwiliad Dwfn Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, y gwnaethom ymateb iddo gyda phostiad blog gan gynnig ein sylwadau cychwynnol Yn dilyn hyn, gwnaethom gynnal sesiynau gyda Coed Cadw a swyddogion polisi cynllunio Llywodraeth Cymru gyfrannu at greu mwy o gyfleoedd i fioamrywiaeth ffynnu. Gwnaethom gynnal diwrnod datblygu ym mis Ionawr i ddysgu mwy am safon Adeiladu gyda Natur a sut y gall datblygwyr ei defnyddio i ddangos eu hymrwymiad yn y maes hwn yn glir. Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar bolisi cynllunio a nodi’r polisi cynllunio diwygiedig yn y maes hwn a gyhoeddwyd yn ystod Hydref 2023.

Ystafell gyfarfod gyda ffenestri mawr. Gwraig yn sefyll yn y blaen, yn rhoi hyfforddiant i bump o bobl i'w gweld yn eistedd wrth fyrddau o amgylch yr ystafell.

Adolygiad Ffyrdd

Ni fu polisi trafnidiaeth yng Nghymru erioed ymhell o’r penawdau yn ystod ein blwyddyn gyntaf o waith. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad annibynnol, Adolygiad Ffyrdd ym mis Chwefror 2023. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, gwnaethom gyhoeddi ein sylwadau cychwynnol ychydig cyn hynny. Roeddem o’r farn bod ffyrdd, a’r gwasanaethau y maent yn eu galluogi, yn hanfodol i lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, ond bod y cydbwysedd polisi wedi’i sgiwio o blaid trafnidiaeth ceir preifat, a bod angen dull gweithredu newydd. Roedd Llwybr Newydd, a gyhoeddwyd y flwyddyn flaenorol, wedi sicrhau newid. Fodd bynnag, roedd angen gwneud yn siwr bod y newid hwn yn cael ei ymgorffori mewn penderfyniadau buddsoddi. Ar ôl cyhoeddi’r adolygiad, gwnaethom ddarparu ein hymateb, gan groesawu’r adroddiad ar y cyfan a chynnig awgrymiadau ychwanegol ynglŷn â sut y gellid gwella penderfyniadau ynghylch polisi trafnidiaeth a buddsoddi ymhellach. Cawsom wahoddiad i drafod ein meddyliau gyda’r cyfryngau.

Y Bil Seilwaith

Un maes penodol y gofynnodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i’r Comisiwn ymwneud ag ef (yn ei adroddiad ar y broses flynyddol o graffu ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru) oedd craffu ar y Bil Seilwaith (Cymru). Cafodd y Comisiynwyr sesiwn friffio ar y syniadaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Bil gan swyddogion Llywodraeth Cymru ychydig cyn i’n hadroddiad blynyddol diwethaf gael ei gyhoeddi, gan nodi bod ymgynghoriad wedi’i gynnal yn 2018. Gosodwyd y Bil gerbron y Senedd ym mis Mehefin 2023 a chyflwynodd y Comisiwn, gan weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ein hymateb i ymgynghoriad Pwyllgor y Senedd ym mis Gorffennaf.

Roedd y Comisiwn yn awyddus i sicrhau, wrth gyflwyno ymateb manylach i Bwyllgor y Senedd ar y Bil, ei fod yn cael cyfle i glywed gan gynifer o randdeiliaid â phosibl. Felly, mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, gwnaethom gynnal digwyddiad1 i ddod â mwy na 40 o sefydliadau perthnasol ynghyd er mwyn trafod materion yn ymwneud â’r Bil. Roedd y trafodaethau hyn yn ddefnyddiol iawn a gwnaethant ein helpu i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor yn ddiweddarach yr wythnos honno. Gwnaethom argymell y dylai’r Bil gynnwys dull mwy cadarn o ymgysylltu â’r gymuned drwy lunio canllawiau statudol. Byddwn yn parhau i fonitro hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn darparu cymorth pellach pan gaiff is-ddeddfwriaeth ei chyhoeddi, er mwyn helpu i sicrhau bod y broses fanwl o roi’r Bil ar waith yn cael ei hoptimeiddio.

Grid

Ar y dechrau nid aeth ein gwaith ar ynni adnewyddadwy ati’n benodol i edrych ar faterion sy’n ymwneud â’r grid, oherwydd cwmpas pellgyrhaeddol posibl y prosiect yn erbyn yr amser a’r adnoddau sydd ar gael i’r Comisiwn. Fodd bynnag, yn y pen draw gwnaethom argymhellion ynglŷn â chynllunio’r grid. Ym mis Ebrill, cawsom sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru ar yr y camau sy’n cael eu cymryd yn y maes hwn ar hyn o bryd. At hynny, gwnaethom gyfarfod â rhanddeiliaid er mwyn trafod y materion dichonoldeb sy’n ymwneud â gosod llinellau grid newydd o dan y ddaear a goblygiadau safbwynt polisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Un ffactor pwysig sy’n hanfodol, yn ein barn ni, yw cydgysylltu rhwng y gweinyddiaethau datganoledig ynghylch datblygu’r grid. I’r perwyl hwn, gwnaethom ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar y mater hwn ym mis Ebrill 2023. Rydym wedi cael ymatebion gan bob sefydliad ac rydym yn gobeithio y gallwn ddatblygu’r drafodaeth ar y maes hwn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Seilwaith Digidol

Un o gylchoedd gwaith penodol y Comisiwn yw adolygu ein hadroddiadau blaenorol yn barhaus. Cyhoeddwyd adroddiad blaenorol y Comisiwn ar seilwaith digidol yn 2020. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad ac, ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd ganlyniadau’r camau a gymerwyd mewn perthynas ag un o’n hargymhellion, sef sefydlu tasglu ‘chwalu rhwystrau’ newydd, gyda set o amcanion clir. Gwnaethom ymateb i hyn yn yr un mis gan dynnu sylw at rai agweddau ar yr adroddiad a oedd yn achosi pryder, gan gynnwys y ffaith nad oedd wedi mynd i’r afael â’r materion mwy sylfaenol yr ymdriniwyd â nhw yn ein hargymhellion, megis y ffaith nad oes gan Gymru ddigon o gyllid cyhoeddus i sicrhau cysylltiad ffeibr i bob cartref; a bod llawer o gartrefi yn gorfod aros blynyddoedd am gysylltiad ffeibr pan allai camau eraill gael eu cymryd yn y cyfamser. Byddwn yn parhau i fonitro’r gwaith o weithredu ein holl argymhellion ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu â chydweithwyr Llywodraeth Cymru a sector y diwydiant digidol yn y dyfodol.

Digwyddiadau ac Ymgysylltu

Cynllunio a Datganoli

Llun o ystafell wedi'i gosod ar gyfer cyfarfod gyda byrddau crwn a phobl yn eistedd o'u cwmpas. Yn y cefndir mae sgrin gyda map arni.

Mae systemau cynllunio Cymru a Lloegr wedi bod yn ymwahanu ers ymhell dros 25 mlynedd ac mae’r newidiadau hyn wedi cyflymu ers datganoli gyda fframweithiau polisi a chyfreithiol newydd ar waith yn y ddwy wlad. Roeddem yn awyddus i drafod y materion hyn â rhanddeiliaid i weld a yw’r sefyllfa wedi darparu profiadau gwahanol a chanlyniadau gwell i Gymru neu a yw cyfleoedd yn sgil datganoli wedi’u colli.

Ym mis Mawrth a mis Ebrill 2023, ar y cyd â’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), gwnaethom gynnal digwyddiadau yng ngogledd a de Cymru er mwyn trafod y materion hyn. Soniodd Sue Essex, cyn-weinidog yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio am ei gweledigaeth gychwynnol ar gyfer y system gynllunio yng Nghymru wrth i’r setliad datganoli newydd ddod i rym a rhoddodd siaradwyr o bob rhan o sector yr amgylchedd adeiledig eu safbwynt ar b’un a yw’r system gynllunio ddatganoledig yng Nghymru wedi cyflawni ei photensial hyd yma. Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad o’r digwyddiadau hyn yn fuan, ynghyd â’n sylwadau ar y newidiadau y gellid eu gwneud er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd yn sgil datganoli’r system gynllunio yng Nghymru.

Seilwaith Dŵr

Ym mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad â Chyngor Defnyddwyr Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru, gwnaethom gynnal digwyddiad i drafod materion sy’n ymwneud â seilwaith dŵr. Gyda’n gilydd, rydym yn cydnabod bod dŵr yn adnodd naturiol gwerthfawr ac mai sicrhau bod digon o ddŵr i natur a phobl Cymru oroesi a ffynnu yw un o faterion pwysicaf ein hoes. Rydym yn cydnabod bod angen inni ddefnyddio dŵr mewn ffordd sy’n sicrhau bod gennym ddigon o’r adnodd hwn yn y lle cywir a’i fod o ansawdd uchel a’n bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau i liniaru effeithiau Newid yn yr Hinsawdd a gwella bioamrywiaeth.

Clywsom gan amrywiaeth o siaradwyr gan gynnwys y Swyddfa Feteorolegol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Waterwise i drafod effeithiau newid hinsawdd ar y defnydd o ddŵr, y ffordd y caiff dŵr ei ddefnyddio mewn datblygiadau newydd a sut y gellir ennyn ddiddordeb y cyhoedd yn y mater hwn.

Llun o ystafell fawr a llawer o bobl yn eistedd ar gadeiriau mewn rhesi yn wynebu ymlaen

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Drwy gydol y flwyddyn, gwnaethom gyfarfod ag amrywiaeth o randdeiliaid sy’n ymwneud â’n tri phrif brosiect yn ogystal â rhai sy’n ymwneud â materion seilwaith ehangach. Rydym yn nodi’r rhain ar ein gwefan ac edrychwn ymlaen at gyfarfod â rhagor o sefydliadau ac unigolion dros y flwyddyn i ddod a all gyfoethogi ein gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd adeiledig a seilwaith yn fwy cyffredinol.

Teithiau astudio

Mae’r Comisiwn yn awyddus i wella ein dealltwriaeth o faterion penodol sy’n ymwneud â seilwaith a chlywed am yr ymatebion newydd a chyffrous sy’n cael eu datblygu ledled Cymru. Felly, gwnaethom drefnu sawl taith astudio yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru eleni.

Dyffryn Conwy

Mae grŵp o bobl yn sefyll yn gwrando ar rywun yn siarad. Mae ffordd ychydig y tu ôl i'r bobl, ac mae'r golygfeydd o ardal fryniog ucheldirol gyda llystyfiant melyn a gwyrdd

Ym mis Hydref 2022, gwnaethom deithio i Ddyffryn Conwy er mwyn dysgu am y mentrau sydd ar waith yn yr ardal er mwyn lliniaru effeithiau llifogydd. Gwnaethom gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn trafod y problemau presennol sy’n gysylltiedig â llifogydd yn yr ardal, y defnydd sy’n cael ei wneud o atalfeydd llifogydd dros dro yn Llanrwst ac effeithiau gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwnaethom hefyd deithio i ddalgylchoedd uchaf Afon Conwy er mwyn dysgu am y ffordd y mae gwaith partneriaeth ar feysydd megis adfer mawndir a chynlluniau rheoli dalgylchoedd yn cael effaith fuddiol o ran lliniaru effeithiau llifogydd yn yr ardal.

Machynlleth

Machynlleth Ym mis Chwefror 2023, gwnaethom deithio i Ganolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth er mwyn clywed am y rhan y mae’r sefydliad yn ei chwarae mewn datblygiadau arloesol yn y sector ynni adnewyddadwy. Gwnaethom hefyd drafod dyfodol y sector yng Nghymru â rhanddeiliaid lleol ym maes ynni adnewyddadwy. Cawsom gyfle i ddysgu am raglen ymchwil Living Wales o Brifysgol Aberystwyth a gwnaethom ymweld â phrosiect Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Ddyfi ym Machynlleth a manteisio ar y cyfle i edrych ar eu tyrbinau gwynt yn y fan a’r lle. At hynny, clywsom yn uniongyrchol gan y sefydliad am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â chyfleusterau cynhyrchu ynni cymunedol yng Nghymru. Darparodd hyn wybodaeth gefndir ddefnyddiol ychwanegol ar gyfer ein prosiect ynni adnewyddadwy.

Criw o bobl yn gwisgo cotiau; yn y cefndir mae tyrbin gwynt.
Mae grŵp o bobl mewn siacedi gwelededd uchel yn sefyll o flaen adeilad sy'n gyfuniad o arddulliau hen a newydd; brics a rendrad yn y blaen, gyda gwydr a dur wedi'u hintegreiddio.

Aberdaugleddau

Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom ymweld â’r porthladd yn Aberdaugleddau a’r cyfleusterau o’i amgylch. Mae’r porthladd yn un o’r porthladdoedd rhydd yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar a chlywodd y Comisiynwyr gan Awdurdod y Porthladd am y potensial sy’n gysylltiedig â’r dynodiad hwn yn ogystal â’r heriau o ran cyflawni. Gwnaethom ymweld â Phorthladd Penfro a gweld drosom ein hunain faint yr her o ran seilwaith sy’n gysylltiedig â manteisio i’r eithaf ar ynni adnewyddadwy o’n moroedd. Gwnaethom hefyd achub ar y cyfle i siarad â rhanddeiliaid lleol am faterion megis sgiliau a hyfforddiant, addasu i newid yn yr hinsawdd a chyfathrebu yn ogystal â chlywed gan sefydliadau sy’n ymwneud â chynhyrchu ynni yn yr ardal a goblygiadau polisi ynni ar gyfer y dyfodol.

Datblygiad Sefydliadol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ein hunain fel Comisiynwyr er mwyn inni allu cyflawni ein rolau yn effeithiol, cyfathrebu’n llwyddiannus yn fewnol ac yn allanol a sicrhau ein bod yn cyflawni ein cylch gwaith fel y’i pennwyd gan Lywodraeth Cymru. I’r perwyl hwn, rydym wedi neilltuo amser eleni er mwyn ystyried y Nodau Datblygu Mewnol o ran sut rydym yn cydweithio yn ogystal â datblygu fel unigolion.

Er mwyn inni allu arddel safbwynt hirdymor o ran nodau polisi a datblygiad, rydym hefyd yn awyddus i fabwysiadu dull Meddwl y Dyfodol yn ein gwaith ac rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad y flwyddyn nesaf er mwyn dod â darparwyr seilwaith at ei gilydd i feddwl yn ofodol am eu cynlluniau a’u gofynion yn y dyfodol ac ysgogi sgyrsiau ynghylch sut y gall y gwahanol sefydliadau hyn ddechrau rhyngweithio â’i gilydd yn ddigon cynnar er mwyn sicrhau cydweithredu effeithiol.

Mewn cysylltiad â’r adroddiad blynyddol hwn, rydym hefyd wedi myfyrio rhywfaint ar ein blwyddyn lawn gyntaf o waith a sut y gallwn wella’r ffordd rydym yn gweithredu er mwyn bod yn sefydliad gwell fyth gan gyflawni ein cylch gwaith.

Systemau digidol

Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi parhau i ddatblygu ein darpariaeth gyfathrebu ddigidol, gan adeiladu ar wefan sylfaenol er mwyn cynnig platfform sy’n ein helpu i rannu ein diweddariadau a’n naratif am seilwaith yng Nghymru.

Gwefan

Ar ein gwefan ceir nodiadau cyfarfodydd y Comisiwn a chyhoeddiadau eraill, cofnodion ymgysylltiadau a chyfarfodydd allanol, gwybodaeth am brosiectau a fideos o’n hymddangosiadau yn y cyfryngau, yn y Senedd neu ar ymweliadau canfod ffeithiau. Mae hefyd yn cynnwys lluniau o’n cyfrif cyfryngau cymdeithasol ar Pixelfed ac yn gweithredu fel y canolbwynt i’r rhan fwyaf o’n gweithgarwch cyhoeddus. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi gwneud ymdrech sylweddol i gyhoeddi ein hallbynnau ar fformat y we yn ogystal ag, weithiau, drwy pdf. Mae darllenwyr sgrin yn aml yn cael trafferth gyda fformatau perchnogol fel pdfs. Dylai’r fenter hon wella hygyrchedd ein cynnwys.

Mae ein hystadegau gwe yn agored i bawb eu harchwilio. Yn y deuddeg mis ers ein hadroddiad diwethaf, mae mwy na 15,000 o ymwelwyr wedi cael mynediad i’r wefan, gyda mwy na 6,000 o ymwelwyr unigol. Mae’r ystadegau’n dangos bod ein blogbost mwyaf poblogaidd ar geir a ffyrdd yng Nghymru, wedi’i weld bron i 2,000 o weithiau.

Y DU oedd gwlad darddiad y mwyafrif helaeth o’r unigolion (86%) a ymwelodd â’n gwefan, ond cawsom ymweliadau o gyfanswm o 48 o wledydd.

Ystadegau gwe sy'n dangos o fis i fis o fis Hydref 2022 i fis Hydref 2023, a'r ystadegau eu hunain yw 15,300 o ymweliadau a 6,360 o ymwelwyr dros yr amser hwnnw
Ystadegau gwe ar gyfer gwefan CSCC o fis Tachwedd 2022 i fis Hydref 2023

Cyfryngau cymdeithasol

Ym mis Medi 2023, gwnaethom benderfynu rhoi’r gorau i bostio ar Twitter/X. Gwnaethom lunio postiad blog1 er mwyn esbonio ein rhesymau.

Rydym bellach yn weithredol ar dair gwefan cyfryngau cymdeithasol, sef:

1. LinkedIn, gyda mwy na 1,200 o ddilynwyr ar hyn o bryd Mae’r ffigur hwn wedi dyblu ers y flwyddyn flaenorol.
2. Mastodon. Tynnodd ein postiad mwyaf poblogaidd sylw at dri Chomisiynydd â chyfrif ar toot.wales, sef gweinydd Cymreig Mastodon Mae gennym bron i 100 o ddilynwyr ar y platfform hwn.
3. Pixelfed. Platfform cyfryngau cymdeithasol ffynhonnell agored wedi’i optimeiddio ar gyfer rhannu delweddau. Mae gennym fwy na 100 o ddilynwyr ar y platfform hwn.

Ein Proffil a Gweithio gydag Eraill

Mae Comisiynwyr wedi rhoi cyflwyniadau, neu wedi bod yn aelodau o baneli, mewn mwy nag 20 o gynadleddau neu ddigwyddiadau tebyg yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys cynhadledd flynyddol RTPI yng Nghymru, cynhadledd flynyddol RICS yng Nghymru, digwyddiad Cymru carbon sero y Sefydliad Peirianneg Sifil, a’n hymddangosiad cyntaf yn rhyngwladol, a ddigwyddodd o bell yn y Seminar Rhyngwladol ar ddyfodol y Ddinas yn Bilbao..

Yn unol â ‘Ffyrdd o Weithio’ Cenedlaethau’r Dyfodol, a lle mae adnoddau yn caniatáu hynny, rydym yn gweithio gyda chyrff eraill a ariennir gan arian cyhoeddus a chyrff proffesiynol. Fel y nodwyd uchod, eleni rydym wedi gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Comisiwn Dylunio Cymru, Cyngor Defnyddwyr Cymru a’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Mae cydweithio yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar setiau sgiliau, cyrhaeddiad ac adnoddau sydd ar gael. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chyrff a sefydliadau eraill yn ystod y 12 mis nesaf, er mwyn cyflawni ein cylch gwaith.

Mae dau o’n Comisiynwyr hefyd yn aelodau o grŵp Cymru Sero Net 2035 sy’n ystyried sut y gall y wlad gyflymu’r broses o bontio i sero net ac roedd Eurgain Powell yn aelod o’r Panel Adolygu Ffyrdd. Mae ein Cadeirydd hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori’r Investment Delivery Forum sy’n dwyn ynghyd y cwmnïau yswiriant a chynilon hirdymor mawr sydd â diddordeb mewn buddsoddi mewn seilwaith ar raddfa fawr.

Roedd criw o 12 o bobl yn sefyll o flaen wal isel ac adeilad mawr crwn oren.

Yr ymateb i’r arolwg ar ein perfformiad

Ym mis Mai 2023, gwnaethom gyhoeddi arolwg ar-lein er mwyn ceisio barn rhanddeiliaid y Comisiwn ar ein perfformiad hyd yma. Cafwyd 15 o ymatebion llawn neu rannol. Nid yw hyn yn ddigonol i fod yn ystadegol gynrychioliadol o bobl sydd â diddordeb yn ein gwaith ond rydym yn ystyried mai hwn yw ein mesur llinell sylfaen cyntaf. Ein nod yw cynyddu nifer yr ymatebwyr mewn blynyddoedd dilynol.

Ein Fframwaith

Organogram ar gyfer sut mae gwaith CSCC yn cael ei drefnu, a gyda phwy rydym yn gweithio.

Ein Gwariant yn 2022/23 a’n Cyllideb ar gyfer 2023/24

Am y tro cyntaf yn 2022/23 dyrannwyd cyllideb benodol i’r Comisiwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn iddo ddatblygu ei waith ac, yn benodol, gwneud ymchwil er mwyn hyrwyddo ei nodau a’i amcanion. Rydym yn cyhoeddi ein meysydd gwariant arfaethedig er mwyn sicrhau tryloywder.

O’n dyraniad cyllidebol gwerth £400,000, gwnaethom wario tua £370,500. Gwariwyd y rhan fwyaf o’r swm hwn ar gynnal y prosiect ynni adnewyddadwy a amlinellir yn fanylach isod. Fe’i gwariwyd yn bennaf ar y tri chontract ymchwil a’r mân dreuliau a oedd yn gysylltiedig â llunio a chyhoeddi’r adroddiad. Gwnaethom hefyd gynnal astudiaeth gwmpasu er mwyn llywio gwaith Blwyddyn 2 y Comisiwn ar lifogydd a chomisiynu ymchwil i weithgarwch ymgysylltu.

Ar gyfer 2023/24, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu’r un dyraniad cyllidebol inni, sef £400,000. Rydym wedi dyrannu dros hanner ein cyllideb i’r gwaith ymchwil ar lifogydd sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Rydym yn paratoi ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol â chyllid a ddyrannwyd er mwyn helpu Comisiynwyr i baratoi ar gyfer gwaith trydedd flwyddyn y Comisiwn, er mwyn sicrhau ein bod yn barod i ddechrau ein gwaith ar gyfleu bygythiad dirfodol newid yn yr hinsawdd i gymunedau (gweler isod) cyn gynted â phosibl.

Rydym wedi cael setliad cyllidebol ar gyfer un flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw sicrwydd y bydd hyn yn parhau. Fodd bynnag, rydym yn hyderus bod cyflwyno’r adroddiad ar ynni adnewyddadwy ynghyd â’r gweithgarwch arall a ddangoswyd yn yr adroddiad hwn, wedi dangos y gall y Comisiwn fod yn effeithiol gyda’i waith ac y bydd yn rhoi sylfaen gadarn inni gyflwyno’r achos dros gyllid parhaus yn y dyfodol.

Ein Rhaglen Waith ar gyfer 2022-2025

Ynni Adnewyddadwy (2022-2023)

Comisiynwyr arweinol: Aleena Khan a Nick Tune

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am ein Prosiectau

Ym mis Hydref 2023 cyhoeddwyd ein hadroddiad mawr cyntaf gan y Comisiwn hwn, Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050 a oedd yn gynnyrch llawer iawn o waith a gyflawnwyd gennym ni, ein contractwyr, ein Grŵp Cynghori ar y Prosiect a rhanddeiliaid eraill.

Mae ein hadroddiad yn nodi bod Cymru yng nghanol argyfwng ynni. Gwyddom fod angen inni leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, bod yn llai dibynnol ar danwydd a fewnforir a lleihau costau i bobl, cymunedau a sefydliadau. Daw’r cynnydd da sydd wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynyddu faint o ynni glân a gwyrdd sy’n cael ei gynhyrchu i ben oni fydd Cymru yn dyblu ei hymdrechion. Er nad oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb llawn am ynni yng Nghymru, mae ganddi nifer o bwerau ffurfiol ac anffurfiol a allai gael eu defnyddio’n well yn y dyfodol, yn ein barn ni.

Dau adroddiad yn dwyn y teitl 'paratoi Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy 2050' gyda llun o dyrbin gwynt a chae o flodau melyn ar y clawr
Mae fideograffydd yn sefyll wrth ymyl trybedd a fideo; cyfweliad gyda'i gefn i ni yw cyfweld merch ifanc gyda gwallt hir du a dillad du

Daw ein hadroddiad i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod datblygiadau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cael eu cyflwyno’n llawer cynt drwy feddwl yn yr hirdymor, gan ddarparu cynllun clir a buddsoddiad sy’n sicrhau bod cynlluniau newydd yn cael eu cefnogi gan y grid neu eu bod yn annibynnol arno. Dylai ddefnyddio ei dylanwad er mwyn helpu i ddatrys problemau sy’n ymwneud â seilwaith grid annigonol a sicrhau y caiff y manteision economaidd eu cadw yng Nghymru a’u rhannu’n decach. Oni chymerir camau nawr, bydd Cymru ar ei hôl hi, sy’n golygu y bydd gan aelwydydd lai o ddewis a chostau uwch yn y dyfodol.

I grynhoi, mae’r Comisiwn wedi gwneud 11 o argymhellion sydd am weld Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Cyflymu’r broses o gyflwyno datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy bennu gweledigaeth a chynllun gweithredu cliriach y gall byd busnes a chymunedau eu deall.
  • Darparu buddsoddiad ymlaen llaw er mwyn helpu i sicrhau bod mwy o brosiectau yn mynd yn eu blaen.
  • Helpu cymunedau i berchenogi ar gynlluniau lleol a rhannu’r manteision sy’n deillio ohonynt.
  • Diweddaru rheolau cynllunio a rheoliadau adeiladu.
  • Defnyddio ei dylanwad gyda chyrff yn y DU er mwyn helpu i ddatrys problemau sy’n ymwneud â seilwaith grid annigonol.
  • Sicrhau bod mwy o’r manteision economaidd yn aros yng Nghymru er budd pobl Cymru, gan gynnwys casglu elw ynghyd mewn cronfa cyfoeth sofran newydd.

Rhoddwyd cyhoeddusrwydd eang i’r adroddiad yn y cyfryngau ac mae wedi esgor ar gryn drafod ynghylch yr hyn y gall Cymru ei wneud i symud ymlaen gyda datblygiadau ynni adnewyddadwy. Gobeithiwn mai hwn yw dechrau llawer o sgyrsiau â rhanddeiliaid ynghylch y mater hwn ac edrychwn ymlaen at ddychwelyd at ein hargymhellion yn y dyfodol.

Llifogydd (2023-2024)

Comisiynwyr arweinol: Eurgain Powell ac Eluned Parrott

Trosolwg o’r Prosiect

Fel y nodwyd y llynedd, mae Cytundeb Cydweithio 2021 yn nodi – “byddwn yn gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith ledled y wlad erbyn 2050.”. Cafodd gwaith paratoi ei wneud gan y Comisiwn yn ystod gaeaf a gwanwyn 2022/23 er mwyn canolbwyntio ar y meysydd yn y sector hwn lle y byddai’r Comisiwn yn gwneud yr argymhellion mwyaf ystyrlon. Comisiynwyd Arup i’n helpu yn hyn o beth.

Ar ôl cynnal astudiaeth gwmpasu yn gynharach yn 2023, ysgrifennodd y Comisiwn at Lywodraeth Cymru yn amlinellu ein cynlluniau o ran sut y byddem yn mynd ati i wneud y gwaith hwn. Mae ein gwaith cychwynnol yn cynnwys pedair ffrwd waith ymchwil sy’n cwmpasu’r canlynol: Mae ein gwaith cychwynnol yn cynnwys 4 ffrwd gwaith ymchwil sy’n cynnwys:

  • datblygu gweledigaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd;
  • archwilio’r opsiynau ar gyfer ymatebion strategol a gofodol cydlynol i reoli llifogydd;
  • yr arian a’r adnoddau gweithlu sydd eu hangen; a
  • mesur a dadansoddi’r problemau cynllunio defnydd tir sy’n gysylltiedig â llifogydd.
Gwely afon a gro yn y blaendir; bryniau a choed yn y cefndir.

Amlinellir y rhain yn fanylach isod.

Llywodraethu’r prosiect

Mae’r gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan Grŵp Cynghori’r Prosiect sy’n cynnwys arbenigwyr ym meysydd rheoli llifogydd a seilwaith gyda ffocws ar Gymru. Rôl a diben y grŵp hwn yw cefnogi a bod yn gyfaill beirniadol i herio’r ymgynghorwyr sy’n gwneud y gwaith ymchwil ac ychwanegu gwerth at eu gwaith. Rydym yn ddiolchgar i aelodau Grŵp Cynghori’r Prosiect am roi o’u hamser er mwyn helpu i ddatblygu’r prosiect hwn.

AelodSefydliad
Alan NetherwoodPrifysgol Caerdydd
Andrew StoneCyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Dominic ScottDŵr Cymru
Ed BeardY Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol (y DU)
Ed EvansCymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil
George BakerJBA Consulting
Gwenllian RobertsOfwat
Jean-Francis DulongCymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Jeremy ParrCyfoeth Naturiol Cymru
Owen ConryCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Richard BettsY Swyddfa Feteorolegol
Roger FalconerPrifysgol Caerdydd
Roger ThomasGwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Clare FernandesLlywodraeth Cymru
Hayley WarrensTrafnidiaeth Cymru
Jonathan FudgeLlywodraeth Cymru
Alex HinshelwoodNetwork Rail
Mark HandCyngor Sir Fynwy

Ffrwd Waith Un – Gweledigaeth 2050 – Arup

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gwleidyddion a’r cyhoedd ar ddatblygu Gweledigaeth i Gymru yn 2050 lle mae cartrefi, busnesau a seilwaith yn fwy abl i wrthsefyll effeithiau llifogydd a lefel y môr sy’n codi ac addasu iddynt. Bydd y weledigaeth hon yn cael ei chefnogi gan gynllun gweithredu sy’n nodi camau gweithredu / argymhellion clir ar gyfer sefydliadau er mwyn ei chyflawni ac adnodd addysgol i wella dealltwriaeth o heriau’r presennol a’r dyfodol, ynghyd â’r hyn sydd ei angen i greu gwytnwch lleol a sicrhau newid yn y dyfodol.

Y canlyniadau allweddol ar gyfer y ffrwd waith hon yw:

  • Darparu Gweledigaeth a Rennir i Gymru 2050 a thu hwnt, lle mae cymunedau ymaddasol yn gallu gwrthsefyll effeithiau llifogydd a chodiad yn lefel y môr.
  • Adeiladu ar y ddealltwriaeth o berygl llifogydd, yng nghyd-destun Cymru, a newid yn yr hinsawdd, o ystyried yr effeithiau cynyddol y byddwn yn eu gweld.
  • Cynllun gweithredu, sy’n galluogi gweithredu ar y cyd ar draws cymunedau a sefydliadau, i gymryd camau tuag at sicrhau y gallant wrthsefyll llifogydd a risgiau hinsawdd cysylltiedig, a gwella eu gallu i adfer yn gyflymach.
  • Derbyn cyfrifoldeb cyfunol i leihau effeithiau digwyddiadau llifogydd, a chydweithio tuag at addasu i norm newydd.

Ffrwd Waith Dau – Ymatebion Strategol a Gofodol – JBA Consulting

Diben y ffrwd waith hon yw adolygu’r prosesau presennol o gynllunio dalgylchoedd ac arferion gofodol/strategol eraill a geir ledled Cymru er mwyn dysgu’r gwersi o bartneriaethau presennol. Nod yr astudiaeth hon yw nodi rhwystrau a gwneud argymhellion ar sut y gellir eu goresgyn, gan ystyried strwythurau ac adnoddau ar gyfer galluogi gwaith partneriaeth strategol, integredig ar raddfa dalgylch/parth arfordirol.

Y cwestiynau ar gyfer y ffrwd waith hon yw:

  • Pam nad oes mwy o waith partneriaeth/gwaith cynllunio dalgylchoedd/arfordirol yn digwydd ledled Cymru?
  • Lle mae’n digwydd ac yn gweithio?
  • Sut y gellir sefydlu gwaith arfordirol/dalgylch i gyflawni canlyniadau hirdymor ac aml-fudd? e.e. gorwelion amser 100 mlynedd a gwytnwch i beryglon hinsawdd
  • Beth sydd angen ei newid i ddatgloi cynllunio arfordirol/dalgylch effeithiol a gweithio mewn partneriaeth?
Ystafell brysur gyda llawer o fyrddau crwn a phobl yn eistedd o'u cwmpas, ac yn symud o gwmpas yr ystafell. Sgrin taflunydd mawr yn y cefndir.

Ffrwd Waith Tri – Adnoddau – Miller Research

Diben y ffrwd waith hon yw gweithio gyda rhanddeiliaid i gwmpasu’r problemau presennol o ran adnoddau rheoli perygl llifogydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y gweithlu a chyllid. Byddai hyn yn bwrw ymlaen â gwaith pellach a wnaed eisoes gan Bwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru.

Y negeseuon allweddol ar gyfer y ffrwd waith hon yw:

  • Mae’r dull ymchwil yn seiliedig yn gyntaf ar nodi llinell sylfaen a’r sefyllfa bresennol o ran rolau, rhwymedigaethau statudol a’r prosesau presennol ar gyfer nodi risg a chyflawni prosiectau.
  • Rydym am greu atebion arloesol i broblemau sefydlog, ond yn gyntaf mae angen i ni gael dealltwriaeth gywir a manwl o rolau, tasgau a phrosesau’r holl randdeiliaid. Rydym am annog proses ymgysylltu gyfannol a chyfranogol.
  • Rydym yn ymwybodol mai adnoddau a chyllid yw dau o’r rhwystrau mwyaf i sicrhau rheolaeth effeithiol a hirdymor ar berygl llifogydd, felly rydym yn ceisio archwilio’n effeithiol y problemau sy’n gysylltiedig â’r materion hyn.
  • Yng nghyd-destun y rhwystrau hyn, rydym yn ystyried beth yw’r heriau a wynebir yn rheolaidd, yn ogystal â’r problemau hirdymor posibl. Yn yr ystyr hwn, ac er mwyn nodi atebion gwirioneddol arloesol, rydym am fod yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn greadigol

Ffrwd Waith Pedwar – Cynllunio Defnydd Tir – JBA Consulting

Pwrpas y ffrwd waith hon yw mesur problem llifogydd a chynllunio defnydd tir ac asesu agweddau yn y sector tuag at gydsynio datblygiadau newydd ar dir a nodwyd fel gorlifdir. Bydd y ffrwd waith hon hefyd yn edrych ar yr angen i fonitro data cydsyniadau ac yn argymell ffordd ymlaen ar y mater hwn.

Y cwestiynau allweddol ar gyfer y ffrwd waith hon yw:

  • Faint o ddatblygiad sydd wedi digwydd yn hanesyddol yn y gorlifdir?
  • A yw datblygiad mewn ardaloedd perygl o lifogydd yn rhoi baich ychwanegol ar bwrs y cyhoedd?
  • Sut allwn ni fonitro caniatâd datblygu mewn ardaloedd perygl o lifogydd yn well?
  • Beth yw agweddau’r cyhoedd tuag at ddatblygu mewn ardaloedd perygl o lifogydd?

Gwrthsefyll y Newid yn yr Hinsawdd a Risg Ddirfodol – 2024/25

Comisiynwyr arweinol: Helen Armstrong a Steve Brooks

Trosolwg o’r Prosiect

Rydym wedi dechrau gwaith Blwyddyn 3 y Comisiwn drwy edrych ar y ffordd y mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn peri risg i seilwaith allweddol a’r ffordd rydym yn cyfathrebu â chymunedau y mae eu bodolaeth, felly, dan fygythiad. Yn 2025, rydym yn bwriadu llunio adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynglŷn â sut i helpu cyrff cyhoeddus i ymgysylltu â chymunedau a’r cyhoedd a’u cynnwys yn yr ymateb i’r bygythiadau hyn.

Rydym wedi comisiynu Cynnal Cymru i’n helpu i gwmpasu’r materion yn y maes hwn, gan siarad â rhanddeiliaid, dysgu am arferion presennol o Gymru, y DU a ledled y byd ac, yn y pen draw, i’n helpu i ganolbwyntio a nodi ein blaenoriaethau ar gyfer ymchwil yn 2024/25.

Er mwyn helpu’r gwaith hwn, yn ddiweddar gwnaethom gyhoeddi cais am dystiolaeth er mwyn casglu gwybodaeth a sylwadau am gymunedau sy’n wynebu mwy o risg o lifogydd amlach ac erydu arfordirol, tymereddau eithafol a chynyddol, gwyntoedd mawr, mellt a glaw; newidiadau i’r amgylchedd naturiol a achoswyd gan newid yn yr hinsawdd.

Nod y cais am dystiolaeth oedd:

  • dod â gwybodaeth a thystiolaeth ynghyd am gymunedau sydd mewn perygl o risgiau hirdymor i’r hinsawdd.
  • casglu syniadau, barn a safbwyntiau ynghylch y problemau seilwaith mae cymunedau’n eu hwynebu a sut y gellid mynd i’r afael â nhw.
  • casglu syniadau a safbwyntiau ynghylch y ffordd orau i gyrff cyhoeddus ymgysylltu â chymunedau.
  • nodi rhanddeiliaid sydd â diddordeb sydd eisoes yn gweithio yn y maes hwn.

Rydym hefyd am ddeall sut y gall newid yn yr hinsawdd effeithio ar unigolion a chymunedau gwahanol ac amrywiol mewn ffyrdd gwahanol a chlywed gan unigolion a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Rydym wrthi’n dadansoddi’r ymatebion rydym wedi’u cael ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein cam ymchwil, a fydd yn dechrau yn ystod Gwanwyn 2024.

Myfyrdodau’r Comisiynwyr

Helen Armstrong

Llun du a gwyn o fenyw yn gwenu gyda gwallt byr

Eleni, rwyf wedi bod yn brysur yn mynd i’r afael â’r materion allweddol y mae seilwaith yn eu hwynebu yn sgil yr argyfwng hinsawdd a natur. Rydym wedi ymweld â lleoedd ledled Cymru mewn perthynas â’n prosiectau â blaenoriaeth, gan ddysgu am gapasiti ynni adnewyddadwy yng Nghymru a’n hymatebion i lifogydd; mae’r ymweliadau hyn wedi rhoi cyfle inni gyfarfod â rhanddeiliaid ac wedi llywio ein syniadaeth yn y meysydd hyn.

Rwyf wedi cefnogi’r Comisiynwr sy’n arwain y prosiectau hyn ac rwyf hefyd wedi bod yn annog ac yn helpu’r Comisiwn i ddefnyddio’r Nodau Datblygu Mewnol. Fframwaith sgiliau a rhinweddau a gydnabyddir yn rhyngwladol yw hwn, sy’n ein helpu i feithrin y gallu mewnol i ddelio â’r amgylchedd cymhleth a heriol rydym ynddo. Gobeithio y gallwn ei hyrwyddo i ddiwydiant, y trydydd sector a’r llywodraeth, er mwyn gwella gwydnwch ac iechyd meddwl pawb sy’n gweithio yn y maes a’u hatal rhag ymlâdd yn llwyr.

Ynghyd â’m cydweithiwr Steve Brooks, rwyf wedi bod yn paratoi prosiect blwyddyn 3 y Comisiwn a fydd yn edrych ar yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei gael ar ein seilwaith allweddol a’r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â chymunedau y mae eu bodolaeth yn cael ei bygwth gan effeithiau hinsawdd, gan gynnwys cynnydd yn lefel y môr, llifogydd, sychder ac achosion eraill o dywydd eithafol. Mae’r gwaith hwn hefyd yn berthnasol i’r cyhoedd gan y bydd ymateb i newid yn yr hinsawdd yn cael cryn effaith ar wariant cyhoeddus a phenderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol. Bydd y prosiect yn chwilio am enghreifftiau o bob rhan o Gymru, yn genedlaethol o’r DU ac yn rhyngwladol er mwyn deall yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio ac ystyried ffyrdd arloesol a chreadigol o ymateb i’r heriau rydym yn eu hwynebu.

Jen Baxter

Fel Is-gadeirydd y Comisiwn, eleni roedd yn bleser gennyf noddi lansio’r adroddiad ar ynni adnewyddadwy. Un o’r negeseuon allweddol o’r adroddiad y byddwn yn parhau i’w hyrwyddo drwy fy nghyfnod yn y swydd yw bod angen datblygu gweledigaeth glir ar gyfer ynni yng Nghymru. Beth y gallwn ddisgwyl ei weld yng Nghymru a sut y byddwn yn cyfleu ac yn cyflawni hyn? Heb y weledigaeth hon, bydd yn anodd i bobl Cymru chwarae rhan lawn yn y broses o gyflwyno seilwaith newydd.

Rwyf wedi mwynhau’r cyfleoedd sydd wedi dod i’m rhan eleni yn enwedig o ran ehangu fy ngwybodaeth am fioamrywiaeth a’r system gynllunio ynghyd â phroblem dragwyddol capasiti grid addas sy’n cyflawni ein huchelgeisiau o ran ynni. Gobeithio y gallaf barhau i ddefnyddio’r sgiliau newydd hyn y tu hwnt i’r Comisiwn.

Yn y dyfodol, hoffwn weld mwy o seilwaith newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n galed er mwyn creu amgylchedd sy’n hyrwyddo llif o seilwaith newydd sy’n barod ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Mae ein byd yn newid ac er mwyn i Gymru ddal i fyny â’r newidiadau hyn rhaid inni symud y tu hwnt i bolisi a strategaeth a sicrhau bod seilwaith yn cael ei weithgynhyrchu a’i gyflwyno’n gyflymach a fydd, yn ei dro, yn dod â’i heriau ei hun i’r dirwedd ariannol bresennol.

Mae menyw â gwallt brown a thop gwyn yn sefyll o flaen cefndir parc aneglur.

Steve Brooks

Llun du a gwyn o ddyn â gwallt tywyll

Bu’n flwyddyn lawn gyntaf brysur i’r comisiwn newydd, pan wnaethom geisio gydbwyso ein hadnoddau a’n sylw rhwng ein prosiectau amlflwydd mwy o faint a rhai o’r darnau llai o waith sy’n ein galluogi i gynnal archwiliadau manwl cyflym o bynciau penodol.

Eleni, ynghyd â Helen Armstrong, rydym wedi bod yn gosod y sylfeini ar gyfer ein gwaith ar gyfleu bygythiadau hinsawdd i gymunedau sy’n wynebu risg. Mae’n bwnc eang iawn. Felly, ein blaenoriaeth gyntaf oedd cwmpasu’r materion allweddol, nodi rhanddeiliaid a phartïon â diddordeb posibl a deall yn well sut mae angen ystyried ffactorau economaidd a chymdeithasol.

Ochr yn ochr â hyn, mae fy ngwaith dros y 12 mis diwethaf wedi canolbwyntio ar gynllunio. Gan weithio gyda’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), cynhaliodd y Comisiwn ddau ddigwyddiad a ystyriodd i ba raddau y mae agenda polisi wahanol yng Nghymru ar gyfer cynllunio tref, gwlad a gofodol wedi arwain at ganlyniadau gwahanol o gymharu â Lloegr. Mae’r Comisiwn hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru hwyluso ymarfer ymgysylltu ar y Bil Seilwaith (Cymru) er mwyn llywio’r broses o graffu ar y ddeddfwriaeth ddrafft gan un o bwyllgorau’r Senedd. Bu’n bosibl i David Clubb a minnau ymddangos gerbron y pwyllgor er mwyn rhoi adborth ar ganfyddiadau ein hymarfer ymgysylltu.

Bydd gwaith ar brosiect Blwyddyn 3 sy’n edrych ar sut i gyfleu bygythiadau hinsawdd i gymunedau sy’n wynebu risg bellach yn cynyddu. Felly, er bod y pwnc yn un anodd, edrychaf ymlaen at weithio gyda sefydliadau ledled Cymru er mwyn nodi’r ffordd orau y gallwn gynnwys cymunedau yn y gwaith o fynd i’r afael â’r her hollbwysig hon y mae Cymru yn ei hwynebu.

David Clubb

Yn ystod y 12 mis diwethaf mae’r Comisiwn wedi dangos cymhwysedd wrth roi prosiectau ar waith ac wedi rhoi barn ystyriol ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys bioamrywiaeth drefol a ffyrdd yng Nghymru. Mae diddordeb yn ein gweithgarwch yn cynyddu. Edrychwn ymlaen at barhau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid er mwyn deall y problemau y mae cymunedau Cymru yn eu hwynebu’n well.

Rydym wedi gweithio’n fewnol i geisio datblygu fframwaith sy’n ein galluogi i ystyried sut y dylid ystyried safbwyntiau pobl a fydd yn cael eu geni yn 2100. Er ein bod ymhell o fod yn gynnyrch gorffenedig, rydym yn falch o fod yn sefydliad sy’n galw am y fath feddwl hirdymor yn benodol ac yn gyson. Byddwn yn parhau i annog eraill i ymgorffori empathi a chyswllt â dinasyddion Cymru yn y dyfodol yn eu hystyriaethau a’u prosesau gwneud penderfyniadau eu hunain.

Rwy’n awyddus i ddangos y gwerth y mae’r Comisiwn wedi’i ddarparu o’n cyllid a pharhau i helpu i baratoi Cymru ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd y bydd ein seilwaith yn eu hwynebu ac yn eu cyflwyno yn y dyfodol.

Mae dyn moel gyda sofl yn gwisgo siaced frown a sgarff, yn sefyll wrth ymyl sgwter ac o flaen ffenestr.

Aleena Khan

Mae menyw â gwallt tywyll ac uchafbwyntiau yn sefyll o flaen wal castell.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod ar daith unigryw ledled Cymru gan edrych arni o safbwynt seilwaith. Dechreuodd fy antur yn y Comisiwn pan gefais fy mhenodi’n gydarweinydd, ochr yn ochr â Nick Tune, ar y prosiect ynni adnewyddadwy, y bwriadwyd iddo gyflwyno argymhellion radical er mwyn cyflymu’r broses o gyflawni nodau Llywodraeth Cymru o sicrhau allyriadau carbon sero net yng Nghymru erbyn 2050 drwy gyflwyno technolegau ynni adnewyddadwy.

I mi, un o lwyddiannau allweddol y prosiect oedd cymhwyso gwerthoedd a nodau’r Comisiwn yn ogystal â nodau a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, at bob agwedd arno. Sicrhaodd hyn bod allbwn y prosiect wedi cwmpasu nodweddion ehangach megis budd i’r gymuned, dyletswyddau economaidd-gymdeithasol a sicrhau bod penderfyniadau ynghylch cyflwyno seilwaith yn addas at y dyfodol, yn ogystal ag ymdrin â pholisi, yr amgylchedd ac economeg.

Fel y comisiynydd ifancaf, rwyf wedi teimlo pwysau fy nghyfrifoldeb, nid yn unig i gynrychioli barn fy nghymheiriaid heddiw ond hefyd barn cymheiriaid yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn wedi hwyluso diwylliant gwaith iach a lywir gan gyfleoedd myfyrio mewnol ac mae’r Nodau Datblygu Mewnol wedi rhoi cyfle i’r Comisiynwyr weithio’n hyderus a sicrhau bod lle i wella’n barhaus.

Gyda hyn, edrychaf ymlaen at fy her nesaf yn y Comisiwn!

Eluned Parrott

Wrth i’r Comisiwn ymgynefino â’i ffyrdd newydd o weithio, mae gwir ymdeimlad o frys ac awydd i weithredu’n gyflym o fewn y tîm. Y llynedd gwelwyd y cynnydd mwyaf erioed yn lefel y môr a thymereddau ac mae’n debygol iawn y bydd yn aeaf stormus hefyd. Mae’r gwaith rydym yn ei wneud ar liniaru’r perygl o lifogydd yn bwysig ar lefel strategol yn ogystal â lefel ddynol iawn. Daw llifogydd â diflastod llwyr i gymunedau, gan ddinistrio cartrefi, busnesau a bywydau. Mae hynny bob amser yn fy meddwl wrth inni ddatblygu’r prosiect hwn.

Mae dynes â gwallt brown a sbectol haul ar ei phen yn sefyll o flaen cefndir llyn a mynydd

Eurgain Powell

Mae menyw â gwallt brown a sbectol haul yn sefyll o flaen golygfa arfordirol

Bu fy mlwyddyn lawn gyntaf fel Comisiynydd yn ddiddorol a heriol. Cawsom gyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid ac rwyf wedi mwynhau ymweld â thair cornel Cymru (ar y trên) er mwyn trafod yr heriau a wynebir o ran seilwaith. Bu hefyd yn gyfle gwych i godi proffil y Comisiwn yn ogystal ag atgoffa rhanddeiliaid bod gennym gylch gwaith eithaf tynn ac adnoddau cyfyngedig i reoli eu disgwyliadau o ran beth y dylem fod yn ei wneud. Rwyf wedi mwynhau dod i adnabod y Comisiynwyr eraill a meithrin ein gwybodaeth a’n sgiliau mewn perthynas ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys bioamrywiaeth ac adeiladu gyda natur, Meddwl am y Dyfodol a meddwl hirdymor a defnyddio’r Nodau Datblygu Mewnol.

Fel un o’r Comisiynwyr arweiniol ar y prosiect Llifogydd, bu’n flwyddyn brysur! Rydym wedi sefydlu grŵp Cynghori’r Prosiect er mwyn rhoi cyngor ar y gwaith hwn a’n helpu i’w gyflawni ac ymgymryd â cham Cwmpasu er mwyn deall yr heriau presennol yn well a sut y gallai’r Comisiwn ychwanegu gwerth. Wrth ystyried effeithiau hirdymor llifogydd a chynnydd yn lefel y môr ar bobl, cymunedau a seilwaith yng Nghymru, thema allweddol oedd yr angen i ddatblygu cydnerthedd a sut y gellid gwneud hyn. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda thri sefydliad i ddatblygu gweledigaeth gadarnhaol ac ystyried rhwystrau presennol ac atebion ymarferol ac edrychaf ymlaen at ddod â’r cyfan at ei gilydd yn ein hadroddiad y flwyddyn nesaf.

Nick Tune

Fel cydarweinydd, ochr yn ochr ag Aleena Khan, o’r prosiect Ynni Adnewyddadwy dros y 12 mis diwethaf, rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan ymroddiad diwyro unigolion sy’n rhychwantu gwahanol gymunedau ac arweinwyr busnes yn y weledigaeth a rennir ganddynt i weld Cymru yn pontio i wlad sydd ond yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae’r penderfyniad a ddangosir gan lawer i sicrhau y sefydlir seilwaith ynni carbon niwtral sy’n sicrhau manteision gwirioneddol i bobl Cymru, boed hynny drwy filiau ynni mwy fforddiadwy, mwy o gyfleoedd i fusnesau neu lai o effaith ar newid yn yr hinsawdd, hefyd wedi creu argraff arnaf. Er y gallai rhai o’n hargymhellion beri heriau i Lywodraeth Cymru, mae’n hanfodol cydnabod ein bod yng nghanol argyfwng hinsawdd ac na fydd dulliau gweithredu confensiynol yn gwneud y tro mwyach.

Ar nodyn personol, rwyf wedi cael y fraint o gydweithio gyda’m cydgomisiynwyr, sydd wedi fy nghroesawu a dangos ymrwymiad llwyr i wella seilwaith i bobl Cymru, gyda ffocws penodol ar lesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Rwy’n gwbl argyhoeddedig bod ein hymdrechion ar y cyd yn llywio’r ddeialog ynglŷn â beth a ddylai seilwaith cynaliadwy fod yng Nghymru a sut y dylid ei roi ar waith yn effeithiol.

Llun o ddyn gyda gwallt llwyd a chrys glas, cefndir yn aneglur