River in the foreground with trees around; in the background some buildings

Cynnydd ar lifogydd

Mae CSCC wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich gweithgarwch ar lifogydd.


Julie James AS
Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Llywodraeth Cymru

9 Mehefin 2023

Annwyl Weinidog

Rydym yn ysgrifennu atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am waith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ac, yn benodol, yr ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio sy’n gofyn inni gynnal asesiad o sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith ledled y wlad erbyn 2050.

Fel y gwyddoch, ledled Cymru ar hyn o bryd mae mwy na 245,000 o eiddo yn wynebu perygl o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb, gyda bron i 400 o eiddo hefyd yn wynebu perygl o erydu arfordirol. Gan ei bod bellach yn anochel y bydd yr hinsawdd yn newid a lefel y môr yn codi ymhellach, gallwn ddisgwyl i’r risgiau hyn gynyddu, gyda llifogydd mwy rheolaidd a mwy difrifol, lefelau’r môr yn codi ac erydu cyflymach ar yr arfordir. Daw llifogydd fel y rhai a welwyd yn 2020 yn fwy cyffredin yn y dyfodol, sy’n golygu, ledled Cymru, fod angen inni gydnabod y risg a gweithio i’w lleihau, rheoli’r effeithiau a helpu ein cymunedau a’n seilwaith i addasu a meithrin cadernid mewn ardaloedd sy’n agored i lifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer tywydd eithafol a lefelau’r môr yn codi. Nid yw camau gweithredu i sicrhau bod y wlad yn fwy abl i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn cadw i fyny ag effeithiau planed sy’n cynhesu a’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd y mae’r DU yn eu hwynebu.

Diweddarwyd yr Asediad o Risgiau Newid Hinsawdd ar gyfer Cymru yn 2021. Mae sgôr brys 26 o risgiau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd wedi cynyddu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gyda thair ohonynt yn ymwneud â llifogydd:

  • Y risg y bydd effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn arbennig llifogydd amlach ac erydu arfordirol, yn amharu ar ein gwasanaethau seilwaith, gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, dŵr a Thechnolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh);
  • Llifogydd amlach a mwy difrifol mewn cartrefi, cymunedau a busnesau.
  • Yr effaith ar fusnesau arfordirol a achosir gan lefel y môr sy’n codi, llifogydd arfordirol ac erydu.

Mae’n amlwg bod y gallu i wrthsefyll llifogydd a newid yn yr hinsawdd yn fater hirdymor cymhleth sy’n gofyn am gydweithio a meddwl ac atebion amlddisgyblaethol.

Er mwyn deall y sefyllfa bresennol yn llawn a nodi unrhyw fylchau posibl yn y syniadaeth gyfredol er mwyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ymchwilio ymhellach, gwnaethom gomisiynu Arup i gynnal astudiaeth gwmpasu er mwyn ein helpu i ddeall y sefyllfa bresennol ac awgrymu meysydd ffocws i’w hastudio.

Mae’r gwaith hwn wedi’i gefnogi gan aelodau o’n Grŵp Cynghori ar y Prosiect, a sefydlwyd ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r Grŵp Cynghori ar y Prosiect yn cynnwys grŵp o arbenigwyr technegol ym maes llifogydd o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat sy’n dod â’u gwybodaeth i’r prosiect hwn, gan wrando ar syniadau ac awgrymiadau a gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ i’r gwaith hwn. Bydd y Grŵp Cynghori ar y Prosiect yn gweithredu drwy gydol y cam nesaf o waith a chaiff ei aelodau eu hadolygu er mwyn sicrhau bod gennym y bobl fwyaf priodol i roi cyngor inni ar hyn. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer aelodau ychwanegol o’r grŵp hwn.

Gan ystyried yr adborth a gafwyd gan aelodau o’r Pwyllgor Cynghori ar Brosiect a Chomisiynwyr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gallwn gadarnhau y byddwn yn canolbwyntio ar y pedwar maes canlynol yn ein gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod:

Ffrwd Waith 1 – Creu Gweledigaeth

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gwleidyddion a’r cyhoedd ar ddatblygu Gweledigaeth i Gymru yn 2050/2100 lle mae cartrefi, busnesau a seilwaith yn fwy abl i wrthsefyll effeithiau llifogydd a lefel y môr sy’n codi ac addasu iddynt. Mae hyn yn cyfuno’r themâu Chreu Gweledigaeth, cadernid cymunedau ac ymgysylltu gwleidyddol a bydd yn cynnwys ystyried llifogydd arfordirol a llifogydd o afonydd a dŵr wyneb ac effeithiau perthnasol newid yn yr hinsawdd.

Bydd yn cynnal ymarfer creu senarios drwy ddefnyddio data hinsawdd a llifogydd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn ffyrdd creadigol er mwyn deall y risgiau i gymunedau a seilwaith yng Nghymru yn y dyfodol yn well. Byddwn hefyd yn ceisio rhagamcanu sut y bydd angen i’r gwahanol sefydliadau, rhanddeiliaid a’r cyhoedd gydweithio er mwyn sicrhau bod cymunedau yn fwy abl i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a’u helpu i addasu iddo yn y tymor hwy. Gwyddom, er mwyn gwneud hyn, y bydd angen newidiadau cymdeithasol, a fydd yn gofyn am drafod, ymgynghori a deialog ochr yn ochr â meddwl beiddgar a radical.

Fel rhan o’r broses hon, byddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn sicrhau ymgysylltu a dealltwriaeth wleidyddol. Byddwn hefyd yn ystyried sut i ddefnyddio adnoddau addysgol er mwyn ymgysylltu â’r rhai yn y maes gwleidyddol, ar bob lefel, er mwyn tynnu sylw at faterion nawr ac yn y dyfodol

Ffrwd Waith 2 – Ymatebion Gofodol / Strategol

Mae gwaith cynllunio presennol ar gyfer perygl o lifogydd ar lefel dalgylch, ei liniaru ac addasu iddo ledled Cymru yn anghyson. Byddwn yn mynd ati i ystyried pam nad yw’r arferion hyn yn digwydd a gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gall y sefyllfa hon newid. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys astudio gwaith cynllunio dalgylchoedd sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ac arferion gofodol / strategol eraill a geir ar hyn o bryd ledled Cymru (a fydd yn cynnwys atebion seiliedig ar natur) er mwyn ystyried atebion i lifogydd ar lefel dalgylch a mynd i’r afael â nhw. Byddwn yn ystyried strwythurau ac adnoddau ar gyfer galluogi gwaith partneriaeth integredig strategol ar lefel dalgylch / parth arfordirol, yn ogystal ag ystyried sut y bydd angen i rwystrau presennol gael eu goresgyn.

Mae ein gwaith dadansoddi cychwynnol yn awgrymu nad yw’r dull gweithredu presennol yn gydgysylltiedig i raddau helaeth, heb fawr ddim canllawiau nac arferion da. Byddwn yn defnyddio’r enghreifftiau rhyngwladol perthnasol gorau er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer newid.

Ffrwd Waith 3 – Adolygu Adnoddau (Y Gweithlu a Chyllid)

Rydym yn cydnabod y pwysau heriol ar adnoddau ar hyn o bryd, o ran cyllid, ond hefyd o ran cael gweithlu ymroddedig â’r sgiliau priodol sydd eu hangen i wynebu dyfodol y sector.

Byddwn yn cynnal adolygiad byr o’r trefniadau presennol ar gyfer cyllido prosiectau rheoli llifogydd ac addasu i lifogydd yng Nghymru yng nghyd-destun y risg gynyddol o effeithiau a achosir gan lifogydd a lefel y môr yn codi. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ystyried mecanweithiau cyllido newydd ac arloesol sy’n defnyddio arferion da o wledydd eraill. Gallai’r adolygiad hwn arwain at argymhellion ynglŷn â newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau newid.

At hynny, byddwn yn ceisio nodi’r problemau y mae’r diwydiant yn eu hwynebu o ran cynllunio’r gweithlu a sgiliau drwy gynnal ymarfer dadansoddi bylchau a fydd yn ystyried anghenion nawr ac yn y dyfodol ac ymatebion cysylltiedig, gan gynnwys cyfleoedd i rannu a defnyddio adnoddau yn well o fewn y cyfyngiadau presennol o ran capasiti, datblygu cyrsiau hyfforddi, gwella cyfraddau cadw staff a denu pobl newydd i’r sector.

Byddwn yn cydgysylltu â’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol er mwyn sicrhau na chaiff gwaith yn y maes hwn ei ddyblygu.

Ffrwd Waith 4 – Cynllunio Defnydd Tir / Gofodol

Bydd y darn olaf hwn o waith yn cynnwys darn ansoddol a meintiol byr o waith ymchwil er mwyn deall maint y ‘broblem gynllunio’ sy’n gysylltiedig â llifogydd. Bydd hefyd yn ceisio deall faint o dai sydd wedi cael caniatâd cynllunio ar orlifdiroedd ers i TAN15 gael ei gyflwyno a pham mae hyn wedi digwydd. Bydd hefyd yn ystyried yr agweddau at berygl llifogydd ymhlith cynllunwyr awdurdodau lleol a gwleidyddion a beth mae’r darlun presennol hwn yn ei olygu wrth edrych ar y perygl cynyddol o lifogydd dros y 50-80 o flynyddoedd nesaf, er mwyn sicrhau bod cymunedau yn fwy abl i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo yn yr hirdymor. Bydd hefyd yn ystyried y gost debygol i bwrs y wlad sy’n gysylltiedig ag ymateb i lifogydd, nawr ac yn y dyfodol, mewn ardaloedd penodol sy’n astudiaeth achos.

Caiff y pedwar darn hyn o waith eu cwblhau erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf ac erbyn Hydref 2024 byddwn yn cyflwyno ein hadroddiad a’n hargymhellion er mwyn ichi eu hystyried.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod eu barn yn llywio ein gwaith. Nododd yr adroddiad cwmpasu nifer o ‘fylchau’ nad oes gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yr adnoddau i ymchwilio iddynt. Byddwn yn rhannu’r meysydd hyn â swyddogion Llywodraeth Cymru ac yn trafod sut y gellid mynd i’r afael â’r problemau hyn rywle arall.

Byddem yn fwy na pharod i drafod ein cynlluniau yn fanylach ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth hon â’ch partneriaid yn y Cytundeb Cydweithio.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych,

Yn gywir,

Dr David Clubb (Chair)
Eurgain Powell
Eluned Parrott