
Galwad am dystiolaeth ynghylch hysbysu am fygythiadau dirfodol i’r hinsawdd
Ein rôl fel Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yw cynghori ar y seilwaith sydd ei angen ar Gymru. Rydym yn asesu anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru ar gyfer y 5–80 mlynedd nesaf, yn cynnal astudiaethau o’r heriau mwyaf dybryd i’n seilwaith ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae ein rhagolwg hyd at 2100 yn ein galluogi i weld materion o safbwynt hirdymor a gwneud argymhellion beiddgar a radical ar gyfer newid a fydd yn gwella bywydau pobl a chymunedau Cymru.
Rydym wedi dechrau edrych ar y bygythiadau dirfodol hirdymor i seilwaith y mae rhai cymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu, ac rydym yn bwriadu llunio adroddiad sy’n gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru a fydd yn gwella’r ffordd mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â chymunedau a’u cynnwys yn y gwaith o ymateb i’r bygythiadau hyn.
Beth yw ystyr bygythiadau dirfodol hirdymor i’r hinsawdd?
Mae cymunedau a seilwaith Cymru yn wynebu amrediad o risgiau, gan gynnwys:
- Effaith llifogydd amlach ac erydu arfordirol
- Effaith tymereddau eithafol a chynyddol, gwyntoedd cryf, mellt a glaw
- Effaith newidiadau i’r amgylchedd naturiol a achoswyd gan newid yn yr hinsawdd.
Gall rhai o’r risgiau hyn ei gwneud hi’n anodd cynnal a chadw seilwaith a’i amddiffyn rhag amodau a digwyddiadau tywydd sy’n gwaethygu fel tymereddau cyfartalog cynyddol parhaus a thonnau gwres amlach a mwy difrifol.
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi rhybuddio y disgwylir i dymereddau godi rhwng tua 1.2°C erbyn y 2050au, a rhwng 1.3°C a 2.3°C erbyn y 2080au o linell sylfaen 1981–2000. Bydd ein hinsawdd yn symud tuag at aeafau gwlypach a hafau sychach Yn y gaeaf, disgwylir i lawiad gynyddu tua 6% erbyn y 2050au o linell sylfaen 1981–2000. I’r gwrthwyneb, disgwylir i lawiad yn yr haf ostwng tua 15% erbyn y 2050au a rhwng 18% a 26% erbyn y 2080au.
Mae’r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd arfordirol, gyda rhai cymunedau islaw llinell y penllanw. Mae eitemau allweddol o seilwaith cenedlaethol wedi’u lleoli o fewn metrau i linell y llanw. Mae cymunedau arfordirol Cymru mewn perygl oherwydd y cynnydd parhaus yn lefel y môr. Gan ddefnyddio senarios ar gyfer Caerdydd, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn disgwyl i lefel y môr godi rhwng tua 22cm a 28cm erbyn y 2050au a rhwng tua 43 i 76cm erbyn y 2080au. Fodd bynnag, nid yw’r amddiffynfeydd hyn yn rheoli’r risg bresennol o erydu arfordirol yn ddigonol, a bydd newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd yn lefel y môr yn lleihau eu heffeithiolrwydd ymhellach.
Yn y dyfodol, bydd angen i gyrff cyhoeddus ymgysylltu â chymunedau mewn perthynas â’r bygythiadau hyn. Mae’n debygol, mewn rhai rhannau o Gymru, y bydd angen gwneud penderfyniadau i ddefnyddio dull ‘rheoli encilio’. Efallai y bydd angen amddiffynfeydd neu addasiadau ychwanegol ar gymunedau eraill. Efallai y bydd angen defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer y ffordd rydym yn rheoli ein hasedau seilwaith lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun risg gynyddol.
Pa fath o gymunedau sydd o ddiddordeb inni?
Hoffai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru gasglu tystiolaeth a barn ynghylch unrhyw gymuned sy’n wynebu risg uwch o lifogydd amlach ac erydu arfordirol, tymereddau eithafol a chynyddol, gwyntoedd cryf, mellt a glaw; a newidiadau i’r amgylchedd naturiol a achoswyd gan newid yn yr hinsawdd.
Rydym hefyd eisiau deall sut y gallai unigolion a chymunedau gwahanol ac amrywiol weld effeithiau wahanol.
Pwrpas yr alwad hon am dystiolaeth a barn
Bydd derbyn tystiolaeth yn helpu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i ymgymryd â gwaith pellach yn y maes hwn. Yn 2025 byddwn yn cyhoeddi adroddiad ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Rydym yn awyddus i glywed gan aelodau’r cyhoedd, sefydliadau a rhanddeiliaid. Diben yr alwad am dystiolaeth yw:
- dod â gwybodaeth a thystiolaeth ynghyd am gymunedau sydd mewn perygl o risgiau hirdymor i’r hinsawdd.
- casglu syniadau, barn a safbwyntiau ynghylch y problemau seilwaith mae cymunedau’n eu hwynebu a sut y gellid mynd i’r afael â nhw.
- casglu syniadau a safbwyntiau ynghylch y ffordd orau i gyrff cyhoeddus ymgysylltu â chymunedau.
- nodi rhanddeiliaid sydd â diddordeb sydd eisoes yn gweithio yn y maes hwn.
Cwestiynau i’ch helpu i ymateb
Gallwch gyflwyno tystiolaeth neu farn ynghylch unrhyw fater sy’n berthnasol yn eich barn chi. Rydym yn awyddus i glywed am rai materion yn benodol. Rydym wedi’u hamlinellu isod.
Ymwybyddiaeth o’r bygythiadau dirfodol hirdymor
- Lefelau presennol o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ar lefel leol, lefel Cymru a lefel y DU.
- Sut y gallai ffactorau fel oedran, incwm, lleoliad, a chefndir unigolion a chymunedau effeithio ar lefelau ymwybyddiaeth.
Ffyrdd presennol o ymgysylltu ynghylch bygythiadau dirfodol hirdymor
- Enghreifftiau presennol o ymgysylltu â chymunedau.
- Sut y gellir addasu ymdrechion ymgysylltu i anghenion gwahanol/amrywiol unigolion neu gymunedau.
- Heriau a rhwystrau sy’n bodoli wrth ymgysylltu â chymunedau.
- Effeithiolrwydd sianelau a phlatfformau cyfathrebu gwahanol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau traddodiadol, gwaith yn y gymuned.
Hysbysu am fygythiadau dirfodol tymor hir
- Rhwystrau i hysbysu am fygythiadau dirfodol hirdymor ledled Cymru. Sut y gellir goresgyn y rhwystrau hyn?
- Arferion da ar gyfer ymgysylltu/hysbysu am fygythiadau/risgiau o feysydd eraill (megis rheoli trychinebau ac iechyd y cyhoedd) y gellid eu haddasu.
- Y ffyrdd gorau o rannu data a thystiolaeth.
- Defnyddio dulliau adrodd storïau a naratif.
- Enghreifftiau lle mae cyfathrebu wedi gwneud gwahaniaeth neu fethu gwneud gwahaniaeth.
Effaith cyfathrebu ac ymgysylltu ar fygythiadau dirfodol hirdymor
- Enghreifftiau lle mae ymgysylltu â’r gymuned wedi llywio penderfyniadau gan gyrff cyhoeddus.
- Enghreifftiau lle mae barn cymunedau wedi cael eu diystyru gan gyrff cyhoeddus.
- Enghreifftiau o arferion da ac arferion gwael o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol mewn perthynas â’r ffordd yr aethpwyd ati i ymgysylltu â chymunedau ar lefel leol a chenedlaethol/strategol.
Sut y gallaf gyflwyno tystiolaeth?
Rydym yn derbyn sylwadau drwy’r post a thrwy e-bost. Byddwn yn derbyn ymatebion tan 30 Tachwedd 2023.
Anfonwch eich ymatebion at: evidence@nationalinfrastructurecommission.wales
Postiwch eich ymatebion at: Galwad am Dystiolaeth ynghylch y Bygythiad i’r Hinsawdd, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, Adran Cynllunio, dan ofal Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ