Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) fis Rhagfyr 2020. Roedd yr adroddiad yn archwilio Seilwaith Cyfathrebu Digidol yng Nghymru a rhannwyd 14 o argymhellion â Llywodraeth Cymru.

Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad ac yn ddiweddar, cyhoeddwyd canlyniadau’r camau gweithredu ynglŷn ag un o’n hargymhellion sef sefydlu tasglu ‘chwalu rhwystrau’ newydd sydd â set o amcanion clir.

Mae’r Comisiwn yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad hwn a’r ymrwymiad a ddangosir gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y Comisiwn. Mae aelodau’r tasglu yn rhannu safbwyntiau, gwybodaeth a data sydd ynddo’i hun yn ganlyniad da ac yn un y gobeithiwn y bydd yn parhau y tu hwnt i gyfansoddiad ffurfiol y grŵp. Mae angen rhoi camau gweithredu’r tasglu a’r argymhellion hyn ar waith a hynny ar frys ar y cyd rhwng y diwydiant, y Llywodraeth ac awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, yn aelod o’r tasglu, mae’n aneglur a yw Llywodraeth Cymru yn ymrwymo ei hun i ddatrys y materion a nodwyd, er enghraifft diwygio ac adolygu canllawiau cynllunio, neu a yw hon yn ddogfen bellach i’w hystyried gan y Llywodraeth cyn bod camau gweithredu yn cael eu cymryd.

Er hynny, nodwn nad yw’n ymddangos bod unrhyw system yn ei lle i fonitro ac adrodd ar hynt y gwaith. Yn yr un modd, nid oes ‘perchnogion’ wedi’u nodi ar gyfer y camau gweithredu na’r terfynau amser sydd ynghlwm wrth y gwaith. Rydyn ni felly yn argymell bod perchnogion a rhanddeiliaid yn cael eu nodi ar gyfer pob cam gweithredu gydag amserlenni sydd wedi’u diffinio’n glir.

Dymuna’r Comisiwn weld gwaith o fesur effeithiau cronnol yr hyn sy’n cael ei gynnig o ran rhoi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru. Pa wahaniaeth fydd cyflawni’r camau gweithredu a argymhellir gan y tasglu yn ei wneud i seilwaith digidol ledled Cymru ac i fywydau pobl yng Nghymru? Mae cylch gwaith newydd y Comisiwn yn cynnwys integreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei weithgareddau. Rydyn ni felly yn argymell bod camau gweithredu yn cael eu blaenoriaethu yn erbyn Nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’u bod yn cael eu mesur yn unol â hynny.

Mae’r gwaith o wella cyfathrebu ynghylch y manteision i bobl wedi’i gynnwys. Rydyn ni’n cefnogi’r argymhelliad ynglŷn â sicrhau pencampwyr digidol o fewn Awdurdodau Lleol gan y byddai hyn o gymorth i gydgysylltu cydweithio rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus. Fodd bynnag, hoffem ddeall sut gall y sector preifat gyfrannu at addysgu a hyrwyddo manteision seilwaith digidol i ddefnyddwyr.

Mae’r adroddiad yn nodi bod adnoddau yn y sector y tu hwnt i’r cylch Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) fis Rhagfyr 2020. Roedd yr adroddiad yn archwilio Seilwaith Cyfathrebu Digidol yng Nghymru a rhannwyd 14 o argymhellion â Llywodraeth Cymru.

Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad ac yn ddiweddar, cyhoeddwyd canlyniadau’r camau gweithredu ynglŷn ag un o’n hargymhellion sef sefydlu tasglu ‘chwalu rhwystrau’ newydd sydd â set o amcanion clir.

Mae’r Comisiwn yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad hwn a’r ymrwymiad a ddangosir gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y Comisiwn. Mae aelodau’r tasglu yn rhannu safbwyntiau, gwybodaeth a data sydd ynddo’i hun yn ganlyniad da ac yn un y gobeithiwn y bydd yn parhau y tu hwnt i gyfansoddiad ffurfiol y grŵp. Mae angen rhoi camau gweithredu’r tasglu a’r argymhellion hgwaith, ond mae sicrhau adnoddau yn amlwg yn fater i rai agweddau, yn enwedig y rheini o fewn awdurdodau lleol. Os yw hynny y tu hwnt i gwmpas y tasglu, ymhle y bydd sylw yn cael ei roi i adnoddau? Er enghraifft, mae adolygiad o’r nodyn cyngor technegol TAN19 yn hirddisgwyliedig, ond mae’r Cod Arferion Gorau newydd yn ei ddisodli i raddau helaeth.

Mae gan bob cenedl ddatganoledig ei ‘therfynau’ datblygu a ganiateir ei hun. Efallai y dylid mabwysiadu dull unedig o weithio ar draws yr holl wledydd, er mwyn rhannu adnoddau ac i atal elfen gystadleuol, gyda gwledydd y DU yn chwarae yn erbyn ei gilydd, gan adolygu’n gyson er mwyn sicrhau nad ydynt ar ei hôl hi.

Nid yw argymhellion y tasglu yn mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf sylfaenol a gynhwysir yn adroddiad y Comisiwn. Enghraifft o hyn yw’r ffaith nad oes gan Gymru ddigon o gyllid cyhoeddus i sicrhau cysylltiad ffeibr i bob cartref a bod nifer o gartrefi yn gorfod aros blynyddoedd am gysylltiad ffeibr pan fo modd cymryd camau eraill yn y cyfamser. Rydym yn gosod her i Lywodraeth Cymru a’r tasglu ymchwilio ac argymell datrysiadau o’r sectorau preifat a chyhoeddus er mwyn lleihau’r bwlch o ran cyllid ac i fesur sut y bydd hyn yn sicrhau manteision gweladwy.

Bydd y Comisiwn yn parhau i fonitro’r gwaith o weithredu ein holl argymhellion. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â chydweithwyr Llywodraeth Cymru a sector y diwydiant digidol yn y dyfodol.

,