Dr Eurgain Powell
Mae Eurgain Powell yn ymarferydd cynaliadwyedd profiadol gydag 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes datblygu cynaliadwy a newid hinsawdd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dros y cyfnod hwnnw, mae wedi rhoi cyngor ar ddatblygu polisi ar draws trafnidiaeth, datgarboneiddio, caffael a thai tra’n gweithio i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Rhaglen Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Eurgain yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Datganiadau o ddiddordeb
Categori | Datganiad |
---|---|
Swyddi cyfarwyddwyr | Dim |
Cyflogaeth am dâl | Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Anrhegion, lletygarwch ac ati | Dim |
Tir ac eiddo | Dim |
Cyrff sy’n derbyn cyllid LlC | Dim |
Aelodaeth o gymdeithasau | Dim |
Datganiadau eraill | Aelod Grŵp Sero Net Cymru 2035 |