
Llywodraeth Newydd: Cyfleoedd Newydd
Mae gan Gymru lywodraeth newydd. Yn sgil etholiad y Senedd ar 7 Mai, cawsom weinyddiaeth newydd, sydd wedi gwneud ei bwriad yn glir i roi lle canolog i annibyniaeth ynni, gwydnwch rhag llifogydd, adfer natur a buddsoddi tymor hir mewn seilwaith.
I’r rheini sydd wedi bod yn dilyn gwaith NICW dros y blynyddoedd diwethaf, bydd blaenoriaethau’r llywodraeth newydd yn taro cloch. Nid am ein bod wedi bod yn gwneud dadleuon gwleidyddol pleidiol – wedi’r cyfan, un o’n pwrpasau canolog yw bod yn annibynnol ar y llywodraeth – ond am fod yr heriau yr ydym wedi bod yn eu dadansoddi yn heriau i Gymru, ac felly mae eraill yn eu gweld nhw hefyd.
Y peth calonogol yw, nid yw Cymru’n dechrau o’r dechrau deg. Mae’r pwt hwn yn nodi lle gwelwn y cysondebau mwyaf rhwng yr argymhellion rydym wedi’u cyhoeddi a rhaglen y llywodraeth newydd, gan gefnogi’r ddadl bod ein sylfaen dystiolaeth yn barod i’w rhoi ar waith.
Ynni
Mae’r llywodraeth newydd wedi ymrwymo i Strategaeth Ynni Genedlaethol, gyda 2024 yn darged sero-net, gorfodaeth i roi prosiectau ynni adnewyddadwy mawr yn nwylo’r gymuned, Cronfa Cyfoeth Cymru fydd yn cael cyfran o elw ynni adnewyddadwy, a blaenoriaeth i ddatganoli Ystâd y Goron ar y diwrnod cyntaf.
Gwnaeth ein hadroddiad 2023, Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050, bron union yr un dadleuon. Fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i greu gweledigaeth ar gyfer ynni hyd at 2050 a Strategaeth a Chynllun Gweithredu i gyd-fynd â hi. Fe wnaethom argymell deddfwriaeth i alluogi rhoi prosiectau ynni adnewyddadwy yn nwylo cymunedol. Ac fe wnaethom ddadlau o blaid datganoli swyddogaethau Ystâd y Goron yng Nghymru i gorff newydd gydag ailfuddsoddi’r holl refeniw yng Nghymru yn brif nod iddo.
Fe wnaethom hefyd nodi’r rhwystrau ymarferol y bydd angen eu chwalu er mwyn gwireddu’r uchelgeisiau hyn: system gynllunio a chydsynio sy’n rhy araf, cynllun grid nad yw wedi cadw i fyny ag uchelgais y polisi, a hawliau datblygu a ganiateir sy’n creu rhwystrau diangen i brosiectau cynhyrchu adnewyddadwy bach. Mae ein Asesiad Seilwaith Cymru 2026 (WIA26), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn ategu hyn oll, ac yn nodi bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i osod llinellau trydan dan ddaear yn gwrthdaro â’r dystiolaeth ynghylch ymarferoldeb a chost. Bydd hyn yn rhywbeth y bydd angen i’r weinyddiaeth newydd ei ystyried yn ofalus.
Llifogydd
Mae’r llywodraeth newydd yn cynnig Fforwm Gwydnwch a Pharodrwydd rhag Llifogydd, strategaethau dalgylch rhanbarthol, canolfannau gwydnwch mewn cymunedau mewn perygl, dull rheoli ar sail dalgylch cyfan sy’n ymgorffori atebion sy’n seiliedig ar natur, a strategaeth genedlaethol 30 mlynedd ar gyfer gwydnwch rhag llifogydd ac erydiad arfordirol.
Mae ein hadroddiad yn 2024, Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050, yn adlewyrchu’r uchelgais hon, gan argymell Comisiynydd Dŵr gyda’r pwerau i wneud i’r cyfan ddigwydd. Mae’r Papur Gwyrdd ar reoleiddio’r sector dŵr yn gyfle i ail-lunio’r ffordd y gall y sector dŵr weithio er lles cymunedau a Natur. Mae ein tystiolaeth yn ychwanegu agwedd bwysig y mae’r maniffesto hefyd wedi’i chodi: effeithiau llifogydd ar iechyd meddwl a lles cymunedau, a phwysigrwydd trafod â’r gymuned wrth ddatblygu gwydnwch go iawn i wrthsefyll llifogydd, yn hytrach na dim ond adeiladu amddiffynfeydd ffisegol.
Natur
Mae’r llywodraeth newydd yn cynnig Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol newydd, targedau bioamrywiaeth sy’n rhwymo’n gyfreithiol, a chorff newydd, Ystâd Natur Cymru, i ysgogi adfer natur yng Nghymru.
Mae ein rhaglen Naur wrth y Bwrdd , a gwblhawyd eleni, yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â sut i wneud yn siŵr bod sefydliadau’n ystyried buddiannau natur wrth wneud eu penderfyniadau. Mae ein peilot Gwarchodwr Natur, sy’n gosod eiriolwyr dros natur ar fyrddau sefydliadau perthnasol, wedi esgor ar astudiaeth achos sy’n rhoi tystiolaeth ymarferol o’r hyn sy’n gweithio. Fe wnaethom ddilyn strategaeth o ‘ddysgu yng ngolwg pawb’, gan gyhoeddi cyfres o ddogfennau ar ein taith, a rhannu’r hyn a ddysgwyd mewn cyfarfod mawr ym mis Ionawr 2026. Dyma’r blociau adeiladu y gallwn adeiladu Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol newydd ac Ystâd Natur Cymru arnyn nhw, ac rydym yn hapus i rannu popeth yr ydym wedi’i ddysgu.
Gweithredu ar yr hinsawdd a chymunedau
Ni fydd amddiffynfeydd ffisegol ar eu pen eu hunain yn ddigon i Gymru allu gwrthsefyll yr effeithiau. Dyna ddadl ganolog ein hadroddiad 2025, Storm berffaith: addasu i’r hinsawdd ac ennyn ymgysylltiad cymunedau, ac mae maniffesto’r llywodraeth newydd yn ategu ei bwyslais ar ganolfannau gwydnwch, cyfraniad cymunedau at gynllunio rhag llifogydd, a chymorth iechyd meddwl i gymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnyn nhw.
Yn Storm Berffaith, ystyrir sut mae cymunedau ledled Cymru yn profi effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac yn ymateb iddynt, hynny yn bennaf trwy edrych ar lifogydd. Gwelsom nad yw’r agweddau dynol ar addasu i’r hinsawdd yn cael digon o flaenoriaeth. Eir i drafod â chymunedau yn aml wedi i’r penderfyniadau gael eu gwneud yn hytrach nag wrth wneud penderfyniadau. Dro ar ôl tro, mae diffyg dealltwriaeth o gost llifogydd ar iechyd meddwl a lles a phrin yw’r adnoddau i’r perwyl hwn. A’r mudiadau gwirfoddol a chymunedol sy’n gwneud y gwaith rheng flaen pwysicaf a nhw sy’n cael eu hariannu leiaf a’u sefyllfa yw’r mwyaf bregus.
Roedd yr adroddiad yn dadlau’n gryf o blaid ymgysylltu ystyrlon buan a pharhaus â chymunedau, gan ei weld fel amod i allu addasu’n effeithiol i’r hinsawdd. Fe wnaethom hefyd gynhyrchu Pecyn Cymorth ymarferol ar gyfer Ymgysylltu â’r Gymuned ar Newid yn yr Hinsawdd, sy’n adnodd y gall awdurdodau lleol, partneriaethau gwydnwch a grwpiau cymunedol ei ddefnyddio ar unwaith. Gallai’r canolfannau gwydnwch y mae’r llywodraeth newydd yn eu cynnig fod yn gyfrwng ardderchog i roi’r ffordd hon o weithio ar waith ar raddfa fawr.
Asesiad o Seilwaith Cymru
Yn sail i’r holl themâu hyn mae pwynt mwy sylfaenol. Mae’r llywodraeth newydd wedi ymrwymo i bolisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, cynllunio cyllidebau ar gyfer yr hirdymor, a gwario arian cyhoeddus mewn ffordd integredig. Ein Asesiad Seilwaith Cymru 2026 yw’r llinell sylfaen annibynnol, draws-sectorol gyntaf o’r seilwaith sydd ei angen ar gyfer y sectorau ynni, dŵr, trafnidiaeth, cysylltedd digidol a’r economi gylchol.
Mae dadansoddiad trawsbynciol yr Asesiad yn nodi hefyd y rhwystrau systemig sydd wedi atal darparu’r seilwaith: polisi hirdymor anghyson, cynllunio tameidiog, ansicrwydd ariannu, bylchau sgiliau a diffyg integreiddio ar draws y llywodraeth. Dyma’r union broblemau strwythurol y bydd angen i’r llywodraeth newydd fynd i’r afael â nhw os yw am wireddu ei rhaglen ar lawr gwlad.
Mae dadl economaidd yma hefyd, ac mae’n un y mae agenda fenter y llywodraeth newydd yn dadlau drosti. Buddsoddi mewn seilwaith yw un o’r sbardunau mwyaf effeithiol ar gyfer ysgogi twf, creu swyddi â chyflog da ac ennyn hyder buddsoddwyr. Mae gwaith NICW yn ymdrin yn uniongyrchol â’r uchelgais o greu economi Gymreig sydd â sgiliau da ac sy’n wydn. Yn ogystal, gweledigaeth hirdymor glir ar gyfer seilwaith, fel yr un y mae WIA26 yn ei chefnogi, yw un o’r arwyddion cryfaf y gall Cymru ei anfon i ddarpar fuddsoddwyr fod y wlad yn lle difrif, sefydlog i wneud busnes ynddi.
Yn barod i gefnogi
Mae NICW yn bodoli i roi cyngor annibynnol, hirdymor, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar anghenion seilwaith Cymru. Mae’r gwaith yr ydym wedi’i gynhyrchu dros y pedair blynedd diwethaf ar ynni, llifogydd, natur, addasu i’r hinsawdd ac ymgysylltu, a nawr ar y seilwaith cyfan, ar gael, yn gyfredol ac yn berthnasol.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r llywodraeth newydd, ac at chwarae ein rhan i droi tystiolaeth yn weithredu.