
Adroddiad newydd y Comisiwn yn nodi sut i feithrin gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd
Heddiw (17 Hydref) mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) wedi cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf — Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050.
Mae’r adroddiad yn cynnig argymhellion beiddgar ond ymarferol i Weinidogion Cymru i ddiogelu Cymru rhag y cynnydd yn y perygl o lifogydd dros y 25+ mlynedd nesaf.
Gyda llifogydd yn bygwth un o bob saith eiddo yng Nghymru bellach, ni allai’r adroddiad fod wedi dod ar adeg bwysicach — yn enwedig a bod y ffigur hwnnw’n debygol o gynyddu fwy na thraean wrth i effeithiau newid hinsawdd waethygu a bod Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn rhybuddio nad yw Cymru’n barod am yr effeithiau.
Gydag 17 o argymhellion yn cael eu cynnig o fewn Fframwaith Llifogydd y Dyfodol i Gymru, mae’r adroddiad yn pwysleisio atebion naturiol ar gyfer mynd i’r afael â hyn — rhoi lle amlwg i integreiddio natur a chymuned i feithrin gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd.
Mae’r agwedd hon yn nodweddiadol o CSCC, corff cynghori annibynnol Cymru ar seilwaith — sy’n gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod ei argymhellion yn adlewyrchu anghenion y byd go iawn ac yn creu canlyniadau ymarferol sy’n cael eu gyrru’n lleol.
Dywedodd Eluned Parrott, Comisiynydd arweiniol ar y prosiect: “Fel rhan o’n gwaith, gwnaethom ymweld â rhai o’r cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn y blynyddoedd diwethaf, megis Dyffryn Conwy a Phont-y-pridd. Mae’r effeithiau wedi bod yn enbyd, ond fe ddysgon ni hefyd nad yw’r cymunedau hyn yn fodlon diodde’n dawel a’u bod yn barod i weithredu.
“Yn fwy na hynny, dros y deunaw mis y buon ni’n gweithio ar y prosiect hwn, daeth yn fwyfwy amlwg nad trwy “goncrido” y gallwn gael gwared ar y risgiau a wynebwn. Mae’n rhaid inni fabwysiadu atebion mwy cyfannol, sy’n adfer gallu’r amgylchedd naturiol i storio dŵr ym mlaenau dalgylchoedd afonydd, ac sy’n rhoi’r grym i gymunedau allu gweithredu.
I’r perwyl hwnnw, mae’r adroddiad yn rhestru’r argymhellion mewn pedwar prif gategori: Llywodraethu, Strwythurau a Pholisi; Cydweithio, Partneriaethau a Chymuned; Cyllid a Chapasiti; ac Ymwybyddiaeth, Sgiliau a Data.
I grynhoi, i ysgogi cydweithredu rhanbarthol mae’r adroddiad yn argymell gweithredu ar sail dalgylch a chael cymunedau lleol i gyfrannu’n uniongyrchol at benderfyniadau ynghylch llifogydd – trwy fentrau fel Rheithgor Dinasyddion a Fforwm Cydnerthedd Dŵr newydd i Gymru.
Ar yr ochr lywodraethu, mae’r adroddiad yn galw am benodi Comisiynydd Dŵr a chreu strategaeth 30 mlynedd ar gyfer gwrthsefyll llifogydd i sbarduno atebion arloesol ledled Cymru.
Er mwyn hybu ymwybyddiaeth a sgiliau, mae’r adroddiad yn awgrymu bod addasu i’r hinsawdd yn cael ei gynnwys yng nghwricwlwm ysgolion Cymru a bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar lefel rhanbarth ar gyfer gwrthsefyll llifogydd.
Yn olaf, er mwyn gwella cyllid a chapasiti, mae’n argymell arallgyfeirio ffynonellau ariannu a bod Llywodraeth Cymru’n cyflwyno cymhorthdal i helpu perchnogion tai i fuddsoddi mewn mesurau i wrthsefyll llifogydd.
Dywedodd Dr Eurgain Powell, Comisiynydd Arweiniol: “Er y gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl, mae lefel yr ymwybyddiaeth am berygl llifogydd, sut i gael gafael ar wybodaeth, a pha gamau y mae angen i lywodraeth leol a phobl go iawn eu cymryd i ymateb i lifogydd, yn dal i fod yn isel iawn.
“I ddatrys hyn, mae ein gwaith wedi dangos bod angen gweithio mewn ffordd wahanol — ffordd sy’n gweithio gyda phobl a natur i sbarduno newid go iawn. Yn y pen draw, credwn y bydd llwyddiant yn cael ei yrru gan gyfathrebu da, rhannu cyfrifoldebau a chael llywodraeth, busnesau a chymunedau i ddeall maint yr argyfwng.
“Rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau’r adroddiad hwn yn grymuso cymunedau leisio a gweithredu ar eu dyfodol eu hunain gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru — i sicrhau dyfodol cadarn, deinamig a thoreithiog ar gyfer cenedlaethau i ddod.” Darllen yr adroddiad llawn yma.
Llun gan Marcus Woodbridge