Adroddiad newydd y Comisiwn
yn tynnu sylw at y camau a argymhellir ar ynni adnewyddadwy er mwyn cyrraedd
Cymru sero net erbyn 2050
Wrth lansio'i adroddiad diweddaraf heddiw,
"Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050", mae Comisiwn
Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) wedi amlinellu argymhellion allweddol i
helpu Llywodraeth Cymru i wireddu Cymru sero net erbyn 2050.
Yr adroddiad newydd yw'r darn
mawr cyntaf o waith y mae'r Comisiwn wedi ymgymryd ag ef ers iddo gael ei
adnewyddu y llynedd. Mae wedi bod yn ymchwilio i sut y gall Llywodraeth Cymru
fanteisio ar werth ynni adnewyddadwy i Gymru, yn edrych ar y cyfleoedd a'r
heriau sydd o'n blaenau, ac ar sut orau y gall Llywodraeth Cymru ennyn
diddordeb y cyhoedd yn y mater hwn.
Yn yr adroddiad diweddaraf
hwn, mae CSCC yn cyflwyno un ar ddeg o argymhellion i Weinidogion Cymru ar sut
y gellir cyflwyno newidiadau er mwyn gwella'r ffordd yr eir ati i ddatblygu
ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n diwallu anghenion
ein cymunedau orau. Mae'r argymhellion hynny'n ymdrin ag arweinyddiaeth a
gweithredu mewn ffordd strategol; grid ar gyfer y dyfodol; yr amgylchedd
adeiledig; y system gynllunio; y manteision i gymunedau a pherchnogaeth
gymunedol. Mae Ystad y Goron a'r Comisiwn o'r farn y gallai'r camau a
argymhellir, gyda'i gilydd, arwain at newid o bwys a fydd yn galluogi Cymru i
gyrraedd ei thargedau carbon.
Wrth siarad am bwysigrwydd yr
argymhellion, dywedodd Dr Jennifer Baxter, Dirprwy Gadeirydd Comisiwn Seilwaith
Cenedlaethol Cymru:
"Erbyn
hyn, rydyn ni'n wynebu cyfnod yn ein hanes lle bydd methu â gwneud ymdrech ar y
cyd i newid sut rydyn ni'n mynd ati i ddarparu seilwaith newydd, yn peryglu'n
huchelgais o ran sero net a llesiant cenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd Aleena Khan,
Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) a Chadeirydd Grŵp
Cynghori Prosiectau Ynni Adnewyddadwy CSCC:
"A
minnau'n berson ifanc, dw i'n deall pa mor bwysig yw hi bod Cymru yn cymryd
camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Dw i'n
gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pob un o'n cynigion yn ofalus,
ac yn edrych hefyd ar yr effaith y byddan nhw'n ei chael o ran ein helpu i
gyrraedd ein targedau ynni a charbon.
Mae
gweithio gyda nifer o sefydliadau i baratoi'r adroddiad hwn wedi bod yn brofiad
hynod bositif. Mae wedi dangos y gallwn ni, drwy weithio fel tîm gyda'n gilydd
er lles Cymru, fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau."
Dywedodd Nick Tune,
Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) a Chomisiynydd
Arweiniol CSCC ar Waith Ynni Adnewyddadwy:
"Ar
hyn o bryd, dydyn ni ddim yn mynd ati'n ddigon cyflym yma yng Nghymru i
ddefnyddio ynni adnewyddadwy er mwyn inni fedru mynd i'r afael â'r argyfwng
hinsawdd a diwallu anghenion pobl Cymru.
Mae'r
adroddiad hwn yn amlinellu camau hanfodol y mae angen i Lywodraeth Cymru eu
cymryd er mwyn bwrw'r targed, h.y., diwallu 100% o'i galw blynyddol am drydan o
ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, gan sicrhau canlyniadau go iawn i bobl
Cymru."
Disgwylir i Llywodraeth Cymru
ymateb i argymhellion y Comisiwn maes o law.