Ar 2 Awst 2023 ysgrifennodd CSCC at Weinidogion mewn gwahanol rannau o’r DU ar yr angen am fwy o gydgysylltu ar faterion grid.
- Ymatebodd Llywodraeth y DU ar 23 Awst 2023
- Ymatebodd Llywodraeth yr Alban ar 1 Medi 2023
- Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 4 Medi 2023
Julie James AS
Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Correspondence.Julie.James@gov.wales
The Rt Hon Grant Shapps MP
Secretary of State for Energy Security and Net Zero, UK Government
Secretary.State@beis.gov.uk
Gillian Martin MSP
Minister for Energy and the Environment, Scottish Government
ministerenergy@gov.scot
2 August 2023
Annwyl Weinidogion
Cynnig ar gyfer Gweithgor Gweinidogol Rhynglywodraethol ar gyfer y 4 Gwlad ar Grid Trydan y DU
Rôl Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yw dadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol strategol hirdymor Cymru dros gyfnod o 5-80 mlynedd. Yn gynnar yn 2022, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru gylch gwaith newydd i CSCC. Roedd hyn yn cynnwys ffocws ar yr argyfyngau hinsawdd a natur a’r angen i gyflawni nodau sero net Llywodraeth Cymru.
Ers i’r Comisiwn ddechrau ar ei waith flwyddyn yn ôl rydym wedi bod yn archwilio’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a bydd hyn yn arwain at adroddiad i Weinidogion Cymru yn ddiweddarach eleni. Fodd bynnag, ar draws ein sgyrsiau niferus â rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus a phreifat, mae cydgysylltu ar faterion Grid o amgylch y gweinyddiaethau datganoledig wedi’i godi droeon.
Mae heriau’r argyfyngau hinsawdd a natur yn parhau i gyflwyno anawsterau newydd a chymhleth i gymunedau ledled y DU. Un o’n hamcanion cyffredin yw’r angen am gynnydd cyflym yn y modd y darperir ynni adnewyddadwy sy’n hygyrch i bawb. Wrth ddarparu atebion ynni adnewyddadwy ochr yn ochr â thrawsyriant trydan i’n rhwydweithiau gwres a thrafnidiaeth mae gan y grid trydan cenedlaethol ran fawr i’w chwarae. Ein sefyllfa bresennol yw bod y grid cenedlaethol yn anhygyrch i lawer o rannau o’r DU, bod angen ei uwchraddio’n sylweddol ac nad oes ganddo’r atebion technolegol a chymdeithasol arloesol a all gynorthwyo â llwybrau carlam i sero net.
Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn ymfalchïo mewn darparu atebion radical ac ymarferol sy’n dylanwadu ar bolisi, cyllid a newid rheoleiddio. Mae’r argymhellion hyn wedi’u cynllunio i ymestyn y tu hwnt i ddim ond asesu ein hanghenion seilwaith a chefnogi newid hirdymor, gan sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol hyd at 2100. Y brys i gyflawni’r angen sylfaenol am ynni glân toreithiog, fforddiadwy sy’n lleihau costau byw ac yn darparu busnesau gyda siawns o dwf erioed wedi bod yn fwy amlwg.
Nid yw cyrraedd ein nodau ar gyfer lliniaru ac addasu yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gallwn ni yng Nghymru ei gyflawni ar ein pen ein hunain, a gyda hyn mewn golwg, hoffem awgrymu creu gweithgor gweinidogol rhynglywodraethol ar gyfer y pedair gwlad ar rwydwaith trydan y DU a seilwaith ynni adnewyddadwy sy’n darparu cyfeiriad strategol a rennir a atebion y gellir eu gweithredu a fydd yn galluogi pob gwlad yn gyfartal i gyflawni ein nodau hinsawdd cyffredin.
Byddem yn hapus i gyfarfod i drafod gyda’ch swyddogion sut y gallai grŵp o’r fath weithredu.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.
Yr eiddoch yn gywir,
Dr Jenifer Baxter
Ddirprwy Gadeirydd / Deputy Chair