Darparu ynni adnewyddadwy mewn ffordd deg, cyfiawn a chydweithredol yw canolbwynt gwaith ymchwil y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) yn ei gyhoeddi heddiw.

Cafodd y Comisiwn ei sefydlu yn 2018 fel corff anstatudol i gynghori a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar ofynion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros y 5 – 80 mlynedd nesaf. Yn gynharach eleni, cafodd y Comisiwn ei adnewyddu gydag aelodau newydd i fwrw ymlaen ag agenda ymchwil newydd a chyffrous ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Mae heddiw yn gam arall ymlaen o ran gwaith y Comisiwn wrth iddo gyhoeddi bod tri chontract ymchwil wedi cael eu dyfarnu. Byddant yn cynorthwyo’r Comisiwn i wneud awgrymiadau blaengar i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf ar ffyrdd o wella capasiti Cymru i gyflawni datblygiadau seilwaith adnewyddadwy yn effeithlon, ei galluogi i gyrraedd ei thargedau ynni adnewyddadwy a di-garbon, cynnwys cymunedau mewn modd effeithiol a sicrhau bod gwerth yn cael ei gadw er budd y wlad.

Bydd Mace Consult yn defnyddio data senario ynni i asesu’r tensiynau a allai godi yn y dyfodol yn sgil cynigion datblygu ynni adnewyddadwy.

Bydd Arup yn adolygu sut y gall Cymru sicrhau’r gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gorau yn sgil datblygiadau ynni adnewyddadwy i fanteisio i’r eithaf ar yr agweddau cadarnhaol a ddaw o gynlluniau newydd, a sicrhau bod y manteision hynny’n cael eu cadw.

Bydd y Ganolfan Ynni Cynaliadwy (CSE), Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) a Dulas yn gweithio gyda’i gilydd i edrych ar y ffordd orau y gallwn feithrin cysylltiadau â chymunedau i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y broses. Byddant yn cynnal ymarferion peilot yn y Canolbarth er mwyn profi ffordd o weithredu.

Bydd y tri phrosiect ymchwil yn parhau tan fis Ebrill nesaf. Bydd adroddiad gan NICW i Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi yn ystod haf 2023.

Dywedodd Aleena Khan, Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) a Chadeirydd y Grŵp Cynghori ar Brosiect Ynni Adnewyddadwy NICW:

“Mae heddiw yn gam pwysig yng ngwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gan mai dyma’r tro cyntaf inni roi contractau ar gyfer gwaith ymchwil ac mae’n nodi newid arwyddocaol yn y ffordd y mae’r Comisiwn yn gweithio.”

Dywedodd Nick Tune, Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) a Chomisiynydd arweiniol gwaith Ynni Adnewyddadwy NICW:

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r contractwyr llwyddiannus a gweld eu gwaith yn datblygu dros y misoedd nesaf. Byddwn yn aros gyda diddordeb i glywed canfyddiadau’r prosiectau hyn i ddatblygu argymhellion cadarnhaol ar gyfer Gweinidogion Cymru.”

Dywedodd Richard Dinsdale, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer Mace Consult:

“Mae Mace yn llawn cyffro i fod yn gweithio ar y comisiwn hwn sy’n cadw golwg manwl ar y ddeddfwriaeth nodedig, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, ac sy’n canolbwyntio ar ei saith nod llesiant. Byddwn yn dod â’n profiad helaeth o’r sectorau ynni glân a datgarboneiddio i’r comisiwn, ochr yn ochr â’n sgiliau economaidd-gymdeithasol a fydd yn cael eu defnyddio i asesu canlyniadau gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.”

Dywedodd Helen Westhead, Cyfarwyddwr Cyswllt gydag Arup:

“Yn Arup, mae cynaliadwyedd yn bopeth. Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda NICW i helpu rhyddhau gwerth o’r gwaith pontio i sero net ledled Cymru.”

Dywedodd Neil Best o’r Ganolfan Ynni Cynaliadwy (CSE):

“Mae angen newid y ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni – dyma un o brif achosion yr argyfwng hinsawdd. Ond os ydym am gyflwyno ynni adnewyddadwy ar y raddfa sydd ei hangen i gyrraedd targedau sero net, rydym angen i bawb gefnogi’r newidiadau. Mae angen mwy o brosesau ymgysylltu cynnil â’r cyhoedd i gyflawni hyn, neu fel arall byddwn yn gweld gwrthwynebiad dealladwy o gymunedau.

“Rydym yn gyffrous ein bod yn cael gweithio ochr yn ochr â Chanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) a Dulas i rannu’r dull gweithredu hwn gyda chymunedau yng Ngheredigion a Phowys ar ran NICW. Dim ond drwy ddod â phobl at ei gilydd i drawsnewid y system ynni a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chan feithrin eu dealltwriaeth, y byddwn yn sicrhau ymrwymiad i newid. Mae’r her yn fawr, ond mae modd cyflawni’r newidiadau.”

Dywedodd Rheolwr Labordy Arloesi Prydain Ddi-garbon Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) Dr Anna Bullen:

“Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ar y cyflymder a’r raddfa sydd eu hangen, mae angen sicrhau trawsnewidiad ar draws pob sector, gan gynnwys newid mawr yn y ffordd rydym yn cynhyrchu ynni. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus mae angen i ni ymgysylltu â phobl a chymunedau, gan roi amser a lle iddynt edrych ar opsiynau ar gyfer eu cymdogaethau, archwilio dulliau a buddion posibl, a rhannu pryderon a gobeithion ar gyfer y dyfodol.”

“Ar yr adeg dyngedfennol hon ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd, rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda NICW, CSE, Dulas, a chymunedau ledled y Canolbarth i helpu i lywio dyfodol cynllunio ynni di-garbon yn y rhanbarth.”