Mae Professor Tom Crick MBE yn Athro Addysg a Pholisi Digidol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau academaidd yn ymwneud â’r rhyngwyneb ymchwil/polisi, o wyddor data a systemau deallus i bolisi gwyddoniaeth/arloesedd a gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Cadeiriodd Tom adolygiad Llywodraeth Cymru o’r cwricwlwm TGCh ac ef yw Cadeirydd y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar hyn o bryd. Mae Tom yn gyfarwyddwr anweithredol Dŵr Cymru Welsh Water a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hefyd.