Ffrwd Waith 2 – Ymatebion Strategol a Gofodol
Diben y ffrwd waith hon yw adolygu’r prosesau presennol o gynllunio dalgylchoedd ac arferion gofodol/strategol eraill sy’n digwydd ledled Cymru ar hyn o bryd i ddysgu’r gwersi o bartneriaethau presennol. Bydd yr astudiaeth hon yn ceisio nodi rhwystrau ac yn ceisio gwneud argymhellion ar sut y gellir goresgyn y rhain ac edrych ar gynnig strwythurau ac adnoddau ar gyfer galluogi gweithio mewn partneriaeth strategol integredig ar raddfa dalgylch / parth arfordirol.
Y prif negeseuon ymgysylltu ar gyfer y ffrwd waith hon yw:
- Pam nad yw gweithio mewn partneriaeth ar gynllunio dalgylchoedd/arfordirol/yn digwydd mwy ledled Cymru?
- Lle mae’n digwydd ac yn gweithio?
- Sut y gellir sefydlu gwaith arfordirol/dalgylch i gyflawni canlyniadau hirdymor ac aml-fudd? e.e. gorwelion amser 100 mlynedd a gwytnwch i beryglon hinsawdd
- Beth sydd angen ei newid i ddatgloi cynllunio arfordirol/dalgylch effeithiol a gweithio mewn partneriaeth?
Mae JBA Consulting yn ymgymryd â’r gwaith hwn ar ran y Comisiwn. Os hoffech wybod mwy am hyn, cysylltwch â Jenny Broomby yn Jenny.Broomby@jbaconsulting.com