Ffrwd Waith 1 – Gweledigaeth 2050

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gwleidyddion a’r cyhoedd ar ddatblygu Gweledigaeth i Gymru yn 2050 lle mae cartrefi, busnesau a seilwaith yn fwy abl i wrthsefyll effeithiau llifogydd a lefel y môr sy’n codi ac addasu iddynt. Bydd y weledigaeth hon yn cael ei chefnogi gan gynllun gweithredu sy’n nodi camau gweithredu / argymhellion clir ar gyfer sefydliadau er mwyn ei chyflawni ac adnodd addysgol i wella dealltwriaeth o heriau’r presennol a’r dyfodol, ynghyd â’r hyn sydd ei angen i greu gwytnwch lleol a sicrhau newid yn y dyfodol.

Y prif negeseuon ymgysylltu ar gyfer y ffrwd waith hon yw:

  • Darparu Gweledigaeth a Rennir i Gymru 2050 a thu hwnt, lle mae cymunedau ymaddasol yn gallu gwrthsefyll effeithiau llifogydd a chodiad yn lefel y môr.
  • Adeiladu ar y ddealltwriaeth o berygl llifogydd, yng nghyd-destun Cymru, a newid yn yr hinsawdd, o ystyried yr effeithiau cynyddol y byddwn yn eu gweld.
  • Cynllun gweithredu, sy’n galluogi gweithredu ar y cyd ar draws cymunedau a sefydliadau, i gymryd camau tuag at wytnwch i ddigwyddiadau llifogydd a risgiau cysylltiedig yn yr hinsawdd, a gwella eu gallu i adfer yn gyflymach.
  • Derbyn cyfrifoldeb cyfunol i leihau effeithiau digwyddiadau llifogydd, a chydweithio tuag at addasu i norm newydd.

Mae Arup yn gwneud y gwaith hwn ar ran y Comisiwn. Os hoffech wybod mwy am hyn, cysylltwch â Rose Jenkinson; Rosemary.Jenkinson@arup.com