Ffrwd Gwaith 3 – Adnoddau
Diben y ffrwd waith hon yw gweithio gyda rhanddeiliaid i gwmpasu’r problemau presennol o ran adnoddau rheoli perygl llifogydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y gweithlu a chyllid. Byddai hyn yn bwrw ymlaen â gwaith pellach a wnaed eisoes gan Bwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru.
Y prif negeseuon ymgysylltu ar gyfer y ffrwd waith hon yw:
- Mae ein dull ymchwil yn seiliedig yn gyntaf ar sefydlu llinell sylfaen a status quo cyfredol rolau, rhwymedigaethau statudol a’r prosesau presennol ar gyfer adnabod risg a chyflenwi prosiectau.
- Rydym am greu atebion arloesol i broblemau sefydlog, ond yn gyntaf mae angen i ni gael dealltwriaeth gywir a manwl o rolau, tasgau a phrosesau’r holl randdeiliaid. Rydym am annog proses ymgysylltu gyfannol a chyfranogol.
- Rydym yn ymwybodol mai adnoddau a chyllid yw dau o’r rhwystrau mwyaf i sicrhau rheolaeth effeithiol a hirdymor ar berygl llifogydd, felly rydym yn ceisio archwilio’n effeithiol y problemau sy’n gysylltiedig â’r materion hyn.
- Yng nghyd-destun y rhwystrau hyn, rydym yn annog cyfranogwyr i ystyried beth yw’r heriau y maent yn eu hwynebu yn rheolaidd, yn ogystal â’r hyn y credant y gallai’r problemau hirdymor fod. Yn yr ystyr hwn, ac er mwyn nodi atebion gwirioneddol arloesol, rydym am annog cyfranogwyr a mynychwyr i fod yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn greadigol.
Mae Miller Research yn ymgymryd â’r gwaith hwn ar ran y Comisiwn. Os hoffech wybod mwy am hyn, cysylltwch â Emilio Solis yn Emilio@miller-research.co.uk