Cylch Gorchwyl ar gyfer Cyfarfodydd Misol CSCC
Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2025
Adolygiad nesaf: Chwefror 2026
1. Diben
Diben y cyfarfodydd fydd trafod a chytuno ar fusnes Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW).
2. Cwmpas
Bydd y pynciau i’w trafod a’u cytuno yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, raglen waith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys meysydd ymchwil o fewn cylch gwaith y Comisiwn, ymgysylltu â rhanddeiliaid, monitro’r gyllideb, a chysylltu â Llywodraeth Cymru.
3. Cyfrifoldebau
Bydd y Comisiwn yn defnyddio’r cyfarfod i:
- Adolygu diweddariadau ar waith
- Trafod materion sy’n ymwneud â busnes NICW a’r sector seilwaith
- Monitro risgiau
- Gwneud penderfyniadau ar fusnes allweddol NICW (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, adroddiadau, cyllideb a rhaglen waith NICW)
4. Aelodaeth
Bydd y Comisiwn yn cynnwys:
- Cadeirydd
- Dirprwy Gadeirydd
- 6 Chomisiynydd
Bydd ysgrifenyddiaeth NICW yn cefnogi’r cyfarfodydd. Gall gwesteion fynychu cyfarfodydd ar gais neu wahoddiad.
5. Amserlen Cyfarfodydd
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fisol (fel arfer ar ddydd Gwener). Bydd hyn yn cynnwys hyd at dri ymweliad safle y flwyddyn, a fydd hefyd yn cynnwys cyfarfod NICW fel rhan o’r daith.
6. Y broses o wneud penderfyniadau
Bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud drwy gonsensws ac os oes angen, drwy bleidlais fwyafrifol. Gall unrhyw aelod sy’n anghytuno â phenderfyniad gofnodi hynny a’i gyhoeddi ochr yn ochr â phenderfyniad NICW.
7. Adrodd
Cyhoeddir nodiadau’r cyfarfod ar wefannau NICW a Llywodraeth Cymru yn fuan ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo yng nghyfarfod dilynol y Comisiwn.
8. Cworwm
Bydd cworwm ar gyfer y cyfarfod comisiwn misol yn 50% o gyfanswm yr aelodaeth. Dim ond os oes cworwm yn bresennol y gellir gwneud penderfyniadau. Os na fodlonir cworwm, gall y cyfarfod fynd rhagddo at ddibenion trafod, ond ni wneir unrhyw benderfyniadau ffurfiol.
9. Adolygu a Diwygiadau
Bydd y Comisiwn yn adolygu’r Cylch Gorchwyl yn flynyddol.nually by the Commission.