Nodiadau’r Cyfarfod – 31 Gorffennaf 2026
Neuadd Aberdâr, Prifysgol Caerdydd
| CSCC Dr David Clubb, Cadeirydd Dr Jen Baxter, Dirprwy Gadeirydd Aleena Khan, Comisiynydd Nick Tune, Comisiynydd Dr Eurgain Powell, Comisiynydd Helen Armstrong, Comisiynydd Swyddfa’r Rhaglen / Llywodraeth Cymru Stuart Ingram, Swyddfa Rhaglen CSCC Nicola Britton, Swyddfa Rhaglen CSCC | Ymddiheuriadau Dim |
- Croeso
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
- Dathlu Llwyddiant / Diweddariadau gan Gomisiynwyr
Codwyd a llongyfarchwyd cyflawniadau teuluol a phersonol amrywiol Gomisiynwyr.
Cododd DC gyflawniadau CSCC dros y 5 mlynedd diwethaf fel dathliad o lwyddiant. Mae’r rhain wedi’u nodi mewn blog personol sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan CSCC.
Mae AK wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Rising Star gan Wobr y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.
- Datganiadau o Fuddiant
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau newydd ychwanegol o fuddiant.
Nododd JB ei bod wedi rhoi’r gorau i’w rôl ar Fwrdd Grŵp Tai Cymuned Cynon Taf. Byddai’r newid hwn yn cael ei ddiwygio ar wefan CSCC.
- Nodiadau o’r cyfarfod blaenorol
Nodwyd a chytunwyd ar y nodiadau o’r cyfarfod blaenorol.
- Camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
Cam gweithredu heb ei gwblhau i gysylltu ag Adam Taylor o CNC ynghylch Pwyllgor Seilwaith Naturiol. Bydd JB yn dilyn hyn i fyny.
Blog heb ei gwblhau ar ddwythellu. Bydd DC yn ei gylchredeg eto ar gyfer sylwadau.
- Ymatebion i Ymgynghoriadau
Rhaglenni Gwaith Pwyllgorau’r Senedd
Trafodwyd y broses o lywio rhaglenni gwaith pwyllgorau newydd y Senedd. Mae gwaith CSCC yn berthnasol ar draws tri phwyllgor:
- Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig
- Yr Economi, Ynni a Chysylltedd
- Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.
Mae pob un o’r rhain ar hyn o bryd yn ymgynghori ar eu rhaglenni gwaith Seneddol.
Cynhaliwyd trafodaeth ar bob pwyllgor a’r agweddau ar waith CSCC a allai fod yn berthnasol.
Cytunwyd y byddai’r papurau’n cael eu dosbarthu i Gomisiynwyr ynghyd ag ymateb a ddrafftiwyd gan Swyddfa’r Rhaglen.
Ymgynghoriad ar Brawfesur Gwledig a Newid Hinsawdd
Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno gofyniad prawfesur gwledig ar rai cyrff cyhoeddus, ynghyd ag ystod o gynigion ar yr amgylchedd a newid hinsawdd.
Nodwyd y gallai llawer o waith blaenorol CSCC gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.
Cytunwyd y byddai ymateb yn cael ei ddrafftio gan Swyddfa’r Rhaglen a’i gylchredeg i Gomisiynwyr ar gyfer sylwadau cyn ei gyflwyno.
- Sgyrsiau ynghylch y camau nesaf i CSCC
Roedd penderfyniad ar ddyfodol CSCC yn dal gyda Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni ar gyfer ymateb; roedd hyn ynghyd â gwahoddiad i gyfarfod â CSCC i drafod materion.
- Unrhyw Fater Arall
Hwn oedd cyfarfod olaf CSCC i’r Cadeirydd, David Clubb, a ddiolchodd i’r Comisiynwyr a Swyddfa’r Rhaglen am eu holl gefnogaeth dros ei 5 mlynedd yn y swydd. Roedd Nicola Britton hefyd yn symud ymlaen i swydd newydd yn Llywodraeth Cymru, a diolchwyd iddi am ei holl waith caled a’i chefnogaeth ers ymuno â Swyddfa’r Rhaglen yn 2019.