Nodiadau cyfarfod 17 Chwe 2022

Cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein.

Presennol

CSCC

David Clubb, Cadeirydd
Tom Crick, Comisiynydd
Eluned Parrott, Comisiynydd
Stephen Gifford, Comisiynydd
Rob Irvine, Comisiynydd
Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, Llywodraeth Cymru
Stuart Ingram, Ysgrifenyddiaeth CSCC
Nicola Britton, Ysgrifenyddiaeth CSCC

Ar gyfer eitem ar agenda yn unig

Piers Burroughs Rheolwr Gyfarwyddwr, Burroughs
Keith Jones, Cyfarwyddwr Cymru ICE
Owen Cox, Rheolwr Cynnig yn Alun Griffiths (Contractors) Ltd

Croeso

  1. Croesawodd y Cadeirydd y comisiynwyr i’r cyfarfod. 
  2. Nododd y Cadeirydd ei ymrwymiadau ers y cyfarfod diwethaf.

Diweddariad ar yr ysgrifenyddiaeth

  1. Croesawodd y cadeirydd Stuart Ingram, sydd wedi ymuno fel Pennaeth ysgrifenyddiaeth CSCC.  Darparodd Stuart drosolwg o faterion cyfredol yr ysgrifenyddiaeth, gan gynnwys pwysigrwydd yr ymrwymiad yng Nghytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i CSCC asesu sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd cenedlaethol o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith erbyn 2050; sicrhau cyllideb ymchwil ar gyfer 2022/2023 a recriwtio Comisiynwyr.

Caffael yng Nghymru

  1. Darparodd Owen Cox fewnwelediad i sut y gall caffael ddylanwadu ar ansawdd y cynnyrch terfynol, gan nodi enghreifftiau o roi gormod o bwys ar bris yn hytrach nag ansawdd yn gallu arwain at ganlyniadau gwaeth.  Pwysleisiodd y gwerth y gall Cyfranogiad Cynnar Contractwr (ECI) ei roi i brosiectau, yn enwedig o ran arloesi. 
  2. Tynnodd sylw at y ffaith bod pum ffordd o weithio Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn sail gref i hybu arferion caffael yng Nghymru.
  3. Yna siaradodd Piers Burroughs am bwysigrwydd gwerth mewn caffael a sut y gellir cefnogi hyn gan y pecyn cymorth gwerth sy’n cefnogi dealltwriaeth rhwng cleient a chontractwr o’r hyn y mae gwerth yn ei olygu i brosiect ac sy’n tanlinellu pwysigrwydd ECI.
  4. Trafododd aelodau CSCC sut y gallent gefnogi’r dulliau hyn, gan weld gwerth ymuno â siarteri diwydiant a defnyddio eu dylanwad meddal lle bo hynny’n berthnasol.

Busnes mewnol y Comisiwn

  1. Trafododd y cadeirydd a’r aelodau opsiynau ar gyfer dechrau gwaith ar brosiectau ynni adnewyddadwy a sefydlu bwrdd prosiect.  Bydd y Cadeirydd yn dosbarthu dogfen i gael sylwadau ac yn gofyn am enwebiadau ar gyfer bwrdd prosiect ynni adnewyddadwy.
  2. Daeth y cyfarfod i ben am 12:00