Canolfannau data yng Nghymru: gosod y sylfeini cywir

Bob tro y mae Cadeirydd sefydliad yn newid, mae diwylliant a gwaith y sefydliad hwnnw’n newid hefyd, ac nid yw Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru’n wahanol yn hynny o beth.

Am y pedair blynedd diwethaf, o dan arweinyddiaeth Dr David Clubb, cylch gwaith NICW oedd ystyried ein hanghenion seilwaith bump i 80 mlynedd i’r dyfodol. Roedd y cylch gwaith blaengar hwnnw yn caniatáu i NICW ddatblygu’n sefydliad ag iddo bum gwerth craidd:

  • Bod yn gynhwysol
  • Herio
  • Bod yn radical
  • Bod yn ymarferol
  • Bod yn dryloyw.

Fe wnaethon ni roi’r gwerthoedd hyn ar waith ym mhob agwedd ar ein gwaith ar ynni adnewyddadwy, llifogydd, addasu i’r hinsawdd ac ymgysylltu â’r gymuned, a hefyd yn yr Asesiad o Seilwaith Cymru a’n hymchwil i ddarparu seilwaith.

Wrth i mi ymgymryd â rôl y Cadeirydd, bydd NICW yn camu i gyfnod newydd. Byddwn yn cadw ein gwerthoedd craidd, ond gyda Chomisiwn llai, tynnach ei ffocws. Am y 15 mis nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar un sector: Seilwaith deallusrwydd artiffisial, canolfannau data a chyfrifiadura yng Nghymru.

Mae ein hamserlen wedi newid hefyd. Rydyn ni’n edrych ar beth sy’n digwydd nawr yn ogystal â’r dyfodol: y pwysau ar ein tir, ein cyfleustodau a’n hadnoddau naturiol, ac a all Cymru, yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, wneud yr hyn sydd ei angen iddi elwa ar gyflymder y newid mewn AI. A’r un pryd, byddwn yn dal i gyflawni ein hamcanion ehangach o ran seilwaith, cynllunio, ynni a datblygu’r economi.

Gan fod pethau’n symud mor gyflym yn y sector, rydym wedi cyd-lunio’r cylch gwaith gyda Llywodraeth Cymru, heb golli ein safbwynt fel cynghorwyr annibynnol.

Bob tro rydyn ni’n gofyn cwestiwn i AI, ffrydio ffilm neu storio ffoto, mae hynny’n cael ei wneud mewn adeilad rywle. Canolfannau data yw’r adeiladau hynny, ac mae mwy a mwy ohonyn nhw’n dod i Gymru.

Mae maint y peth yn drawiadol. Roedd gan ganolfannau data Cymru gapasiti o ryw 154MW o ddata yn 2024, ond bellach, mae rhyw 1.45GW yn fwy yn yr arfaeth ar draws safleoedd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Ynys Môn a ger Caernarfon. Mae dau o Barthau Twf AI y DU yn cael eu datblygu y naill yn y De a’r llall yn y Gogledd, a gallen nhw ddenu buddsoddiad, swyddi medrus a chyfleoedd newydd i’n cadwyni cyflenwi. Ond mae cymaint o’r cynigion yn codi pryderon dilys am drydan, dŵr, tir a sŵn, a pha fudd a ddaw i’r cymunedau fydd yn eu croesawu nhw am wneud. Does dim rhyfedd bod cymunedau’n teimlo’n ansicr ac yn ddrwgdybus pan geir cynnig i ddatblygu canolfan ddata a seilwaith AI newydd.

Dyna pam y gofynnwyd i NICW weithio gyda Llywodraeth Cymru ar sut y dylai Cymru gynllunio ar gyfer canolfannau data a chyfrifiadura AI. Mae hwn yn waith ar y cyd: byddwn yn helpu swyddogion i ddatblygu fframwaith polisi Cymreig gan ddefnyddio tystiolaeth fydd yn dod ag eglurder i’r drafodaeth bresennol am seilwaith AI. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein cyngor ein hunain i Weinidog y Cabinet, fel bod ein barn yn aros yn annibynnol.

Beth rydyn ni am ei wneud rhwng nawr a mis Ionawr

Crynhoi’r dystiolaeth. Mae llawer o dystiolaeth ledled y DU am ganolfannau data. Ein gwaith ni yw gweithio allan beth mae’n ei olygu i Gymru. Gan weithio gydag Arcadis, byddwn yn mapio’r safleoedd sy’n gweithredu, sydd wedi cael caniatâd ac sy’n cael eu cynnig. Byddwn yn edrych ar y grid, dŵr, cysylltedd ffibr, y cyfyngiadau tir ac amgylcheddol, a beth mae’r rhagolygon o’r galw yn y DU yn ei olygu i Gymru. Byddwn hefyd yn edrych ar beth mae gwledydd eraill, gan gynnwys Iwerddon, yr Iseldiroedd, Denmarc a’r Alban, wedi’i ddysgu. Bydd nodiadau technegol drafft yn barod cyn y Nadolig, a nodiadau terfynol ddiwedd mis Ionawr.

Eu profi gydag arbenigwyr. Rydym am ddod â grŵp cynghori proffesiynol ynghyd o feysydd ynni, dŵr, cynllunio, peirianneg canolfannau data a digidol. Byddwn yn gofyn iddyn nhw edrych ar ein tystiolaeth a phrofi’r opsiynau polisi gyda ni ym mis Ionawr.

Gwrando. Mae canolfannau data yn cael eu hadeiladu wrth ymyl pobl. Rhwng diwedd mis Tachwedd a chanol mis Rhagfyr, bydd Next Generation Engagement yn cynnal sgyrsiau gyda chymunedau ger safleoedd sy’n bod ac arfaethedig yn y  Gogledd a’r De. Rydyn ni am glywed beth mae pobl yn ei ddeall, beth maen nhw’n gobeithio ei gael a beth sy’n eu poeni. Gyda’n partner cyfathrebu Equinox, byddwn hefyd yn cynnal byrddau crwn gyda’r diwydiant, cyfleustodau, rheoleiddwyr, awdurdodau lleol a chynllunwyr. Byddwn yn cyhoeddi’r hyn a glywn ym mis Ionawr.

Cynghori ar yr opsiynau. Ym mis Ionawr byddwn yn rhoi ein cyngor i’r Gweinidog Cabinet ar opsiynau polisi Llywodraeth Cymru: beth mae ‘da’ yn ei olygu, ble y dylai ddatblygiadau gael eu cynnal, a pha offer cynllunio fyddai’n helpu.

Seilwaith AI a’r dyfodol

Mae canolfannau data yn seilwaith fydd yn para degawdau, nid blynyddoedd. Bydd y penderfyniadau a wnawn nawr yn dylanwadu ar ein system ynni, ein hadnoddau dŵr a’n tirweddau ymhell ar ôl i dechnoleg heddiw symud yn ei blaen. Ein nod yw barnu seilwaith AI a data yng Nghymru yn ôl a yw’n gweithredu er lles y bobl, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hynny’n golygu bod yn glir am y manteision, yn onest am y cyfaddawdau ac yn deg i’r cymunedau sy’n ei gynnal.

Mwy i ddod am ein gwaith yn 2027 yn y Flwyddyn Newydd. Rwy’n ddiolchgar i’m cyd-Gomisiynwyr, i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac i bawb sydd eisoes wedi rhoi o’u hamser. Os oes gennych bethau yr hoffech eu dweud, mae croeso ichi gysylltu. Rydyn ni am glywed oddi wrthych! you.

Mae Dr Jenifer Baxter yn Gadeirydd newydd Pwyllgor Seilwaith Cenedlaethol Cymru