
22 Ionawr 2026
Natur fel Rhanddeiliaid:
Astudiaeth achos o gynllun peilot Gwarcheidwad Natur Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Crynodeb gweithredol
Yn 2025, cynhaliodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) beilot chwe mis o hyd i brofi ymyrraeth lywodraethiant newydd: penodi “Gwarcheidwad Natur” i gymryd rhan yn uniongyrchol yn nhrafodaethau’r Comisiwn. Nid creu newid polisi ar unwaith, na chynnig model diffiniol ar gyfer llywodraethiant sy’n canolbwyntio ar natur, oedd bwriad y peilot. Yn hytrach, cafodd ei gynllunio fel arbrawf ymarferol – ffordd o archwilio beth sy’n digwydd pan fydd natur yn cael ei thrin nid yn unig fel testun polisi, ond fel rhanddeiliad sydd â llais wrth wneud penderfyniadau hefyd.
Mae’r astudiaeth achos hon yn nodi pam y penderfynodd y Comisiwn redeg y peilot, sut cafodd ei ddylunio a’i weithredu, beth sydd wedi dechrau newid o ganlyniad, a pha heriau a chwestiynau agored sy’n parhau. Gan dynnu ar fyfyrdodau’r Comisiynydd, gweithdai wedi’u hwyluso, ymatebion i’r arolygon, a gwaith damcaniaethol cyfochrog, mae’n gosod y peilot yng nghyd-destun cyfreithiol a diwylliannol unigryw Cymru ac o fewn mudiad rhyngwladol ehangach sy’n archwilio ffyrdd newydd o gynrychioli buddiannau nad ydynt yn ddynol mewn llywodraethiant.
Nid yw’r canfyddiad canolog yn dweud bod y cynllun peilot wedi “datrys” yr her o gyflawni canlyniadau gwell i natur, ond ei fod wedi sbarduno torri cwys newydd – newid sut mae cwestiynau yn cael eu gofyn, sut mae cyfaddawdau yn dod i’r amlwg, a sut mae deall cyfrifoldeb. Roedd presenoldeb Gwarcheidwad Natur yn symud natur o fod yn ystyriaeth gefndir i rywbeth sy’n bresennol yn yr ystafell. Roedd yn newid cynnil ac anwastad – ond yn newid go iawn.
Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r math hwn o arbrawf llywodraethiant yn cynhyrchu’r allbynnau uniongyrchol, diriaethol a ddisgwylir fel arfer o dan fframwaith arfarnu yn null Llyfr Gwyrdd y Trysorlys. I sefydliadau sydd wedi arfer dangos effaith trwy gostau wedi’u meintioli, manteision a cherrig milltir cyflawni, gall hyn gael ei ystyried yn risg a rhwystr i’w fabwysiadu. Fodd bynnag, yng nghyd-destun yr argyfyngau natur a hinsawdd – lle mae methu â newid prosesau gwneud penderfyniadau ei hun yn risg sylweddol – gellir dadlau bod buddsoddi mewn dulliau llywodraethiant sy’n ail-lunio sut mae dewisiadau yn cael eu gwneud, hyd yn oed heb ganlyniadau mesuradwy ar unwaith, yn rhywbeth y gellir ei gyfiawnhau ac yn rhywbeth angenrheidiol. Mae’r profiad yn cynnig gwersi gwerthfawr i fyrddau a chyrff cyhoeddus eraill sy’n ystyried dulliau tebyg, yn enwedig mewn perthynas â dylunio, cyfreithlondeb, lluosogrwydd, atebolrwydd a dysgu.



Pam aeth y Comisiwn ati i wneud hyn
The National Infrastructure Commission for Wales is an independent, non-statutory advisory body established in 2018 to provide impartial, long-term advice to Welsh Ministers on Wales’ strategic economic and environmental infrastructure needs over a 5–80 year horizon. As a advisory body, NICW not take decisions on specific infrastructure projects in Wales or set policy. Rather, it engages in exploratory work and research, which inform recommendations that are made to Welsh Government.
Its remit explicitly requires it to consider the climate and nature emergencies and to work within the frameworks of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 and related environmental duties.
In October 2024, NICW published Building Resilience to Flooding in Wales by 2050, a report that made a series of recommendations aimed at addressing the escalating impacts of climate change and flooding. One recommendation stood out for its ambition: that nature should be recognised as a stakeholder in decision-making, with mechanisms put in place by 2028 to give nature a voice “around the table”, including consideration of legal reforms to enshrine the rights of natural assets in decision-making processes.
In responding to the Welsh Government’s reaction to the flooding report, Commissioners reflected on a familiar frustration. Despite strong policy frameworks and repeated commitments to nature recovery, there was no sign of nature loss is Wales slowing down, and nature often remained marginal in practice — considered through impact assessments, mitigation measures, or environmental constraints, but rarely as something with standing in governance itself. Nature was everywhere in principle, but nowhere in the room.
The Nature Guardian pilot emerged from this moment of reflection. Rather than waiting for statutory reform or external mandates, NICW chose to test what it could do within its own governance. The question was not “how do we protect nature better?”, but “what changes when nature is explicitly present as a participant in our deliberations?”
Beth yw Gwarcheidwad Natur?
Cafodd rôl y Gwarcheidwad Natur ei chynllunio fel ffordd o “wrando ar natur oddi fewn” i strwythur llywodraethiant presennol, yn hytrach na fel swyddogaeth ymgynghorol neu eiriolaeth allanol. Roedd yn wahanol i arbenigedd amgylcheddol confensiynol mewn tair ffordd bwysig.
Yn gyntaf, mae’n rôl gynrychioliadol yn hytrach na thechnegol. Ni phenodwyd y Gwarcheidwad Natur i roi cyngor arbenigol ar ecoleg neu gyfraith amgylcheddol (er y gellid tynnu ar arbenigedd o’r fath), ond i siarad dros natur fel rhanddeiliad sy’n cael ei effeithio gan benderfyniadau seilwaith.
Yn ail, roedd y rôl wedi’i hymwreiddio ym mhrosesau trafod y Comisiwn. Fe wnaeth y Gwarcheidwad Natur gymryd rhan mewn cyfarfodydd, trafodaethau a myfyrdodau ochr yn ochr â Chomisiynwyr eraill, yn hytrach na darparu sylwebaeth gyfochrog o’r tu allan.
Yn drydydd, cafodd y rôl ei fframio fel un dros dro ac archwiliadol. O’r cychwyn cyntaf, roedd y Comisiwn yn cydnabod anhawster athronyddol ac ymarferol cael un person yn honni ei fod yn cynrychioli “natur”, sy’n cael ei deall fel set gymhleth, luosog a dynamig o ecosystemau, rhywogaethau, prosesau a pherthnasoedd. Felly, roedd y peilot yn ymwneud â nodi’r tensiynau hyn lawn cymaint â’u datrys hefyd. Mae’r fframio hwn yn golygu bod y cynllun peilot yn cyd-fynd â dadleuon ehangach ym meysydd theori wleidyddol, llywodraethiant amgylcheddol, a’r mudiad Hawliau Natur rhyngwladol, ond wedi’i wreiddio yng nghyd-destun sefydliadol penodol y Comisiwn.

Cymru: Cyd-destun unigryw ar gyfer arbrofi
Cafodd y penderfyniad i gynnal y cynllun peilot ei lywio gan dirwedd ddiwylliannol, gyfreithiol a sefydliadol arbennig Cymru. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ynghylch llesiant cenedlaethau’r dyfodol, gan ymgorffori meddwl yn hirdymor, atal, integreiddio a chydweithio mewn penderfyniadau cyhoeddus. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 hefyd yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau. Yn fwy diweddar, mae rhaglenni fel y Gronfa Rhwydweithiau Natur wedi ceisio rhoi adfer natur ar waith ar raddfa fawr.
Law yn llaw â’r fframweithiau cyfreithiol hyn mae perthynas ddiwylliannol ddofn â’r tir, y dirwedd a natur – perthynas a adlewyrchir mewn iaith, llenyddiaeth a hunaniaeth seiliedig ar leoedd. Roedd y cyfuniad hwn o ddyletswydd statudol, cydnawsedd diwylliannol a chyflwr presennol natur yng Nghymru yn creu cyd-destun lle’r oedd arbrofi gyda ffurfiau newydd o gynrychioli natur nid yn unig yn ganiataol, ond gellid dadlau hefyd ei fod yn cyd-fynd ag uchelgeisiau llywodraethiant ehangach Cymru.
Ar yr un pryd, roedd statws cynghori anstatudol y Comisiwn yn gosod cyfyngiadau clir. Nid yw’r Comisiwn yn gwneud penderfyniadau sy’n rhwymo nac yn darparu seilwaith; mae’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Byddai unrhyw beilot felly yn gweithredu yn bennaf trwy ddylanwad, diwylliant a fframio, yn hytrach na thrwy reolaeth uniongyrchol dros ganlyniadau. Daeth y cyfyngiad hwn yn nodwedd bwysig o’r dysgu.
Dylunio’r cynllun peilot
Dyluniwyd cynllun peilot Gwarcheidwad Natur fel arbrawf chwe mis rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2025. Roedd sawl egwyddor ddylunio yn sail i’w weithredu.
Cymesuredd a chydsyniad. Cytunodd comisiynwyr ar y cyd i dreialu’r rôl, gyda dealltwriaeth y byddai’n cael ei hadolygu ac y gellid ei therfynu os nad oedd yn ddefnyddiol.
Pwrpas clir. Cafodd y peilot ei fframio fel ymarfer dysgu, nid fel datganiad bod y Comisiwn wedi “datrys” yr her o gynrychioli natur.
Annibyniaeth. Penodwyd y Gwarcheidwad Natur fel rôl ar wahân, yn hytrach na gofyn i Gomisiynydd presennol gyflawni’r swyddogaeth ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau eraill.
Myfyrio a gwerthuso. Aeth y Comisiwn ati i gasglu tystiolaeth ansoddol o effaith trwy gofnodion myfyriol, arolwg cyfrinachol o Gomisiynwyr, a gweithdy wedi’i hwyluso ar ddiwedd y cyfnod peilot.
Ar yr un pryd, fe wnaeth y Comisiwn benodi Lawyers for Nature i archwilio heriau damcaniaethol ac ymarferol cynrychioli natur ym maes llywodraethant y sector cyhoeddus, a gwyntyllu’r egwyddorion a allai lywio arbrofi yn y dyfodol.
Sut gweithiodd y cynllun peilot yn ymarferol
Yn ymarferol, fe wnaeth y Gwarcheidwad Natur gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Comisiwn yn yr un modd â Chomisiynwyr eraill, gan gyfrannu at drafodaethau, gofyn cwestiynau, a chynnig myfyrdodau o safbwynt natur fel rhanddeiliad. Nid oedd gan y rôl bleidlais ffurfiol na feto, ac nid oedd yn gysylltiedig â hawliau penderfynu penodol. Roedd dylanwad y rôl felly yn anuniongyrchol a pherthynol.
Ochr yn ochr â chyfarfodydd ffurfiol, gwahoddwyd y Gwarcheidwad Natur hefyd i gymryd rhan yng ngwaith prosiect y Comisiwn, yn bennaf trwy adolygu a rhoi sylwadau ar adroddiadau drafft a chynlluniau gwaith. Ategwyd y cynllun peilot gan sgyrsiau anffurfiol gydag eraill yn y maes, darllen allanol, ac ymgysylltu â dadleuon ehangach am lywodraethiant natur. Helpodd hyn i leoli profiad y Comisiwn o fewn maes ymarfer cynyddol, gan gynnwys modelau “Natur ar y Bwrdd” y sector preifat ac enghreifftiau rhyngwladol fel rhoi statws person yn ôl y gyfraith i afon Whanganui yn Aotearoa Seland Newydd.

Beth sydd wedi newid (hyd yma)
Roedd y Comisiwn yn glir bod y peilot chwe mis yn annhebygol o gynhyrchu canlyniadau clir a mesuradwy o ran newid polisi neu benderfyniadau seilwaith, oherwydd cyfnod byr y peilot ac oherwydd natur cylch gwaith y Comisiwn (ymgynghorol yn hytrach na gwneud penderfyniadau). Yn hytrach, mae’r gwerthusiad wedi canolbwyntio ar arwyddion cynnar newid diwylliannol a gwybyddol.
Dywedodd y rhan fwyaf o’r Comisiynwyr (5 o’r 6 a ymatebodd i’r arolwg) fod presenoldeb y Gwarcheidwad Natur yn y Comisiwn wedi cael naill ai “rhywfaint” o ddylanwad neu ddylanwad “sylweddol”, ar sut roeddent yn mynd ati i wneud eu gwaith eu hunain yn y Comisiwn a sut roeddent yn gweld Comisiynwyr eraill yn mynd i’r afael â’u gwaith. Dywedodd yr un nifer (>80% felly) fod y profiad o weithio gyda Gwarcheidwad Natur yn “gadarnhaol” neu’n “gadarnhaol iawn”.
Yn nodedig, dywedodd hanner y Comisiynwyr a ymatebodd i’r arolwg fod y cynllun peilot wedi newid y ffordd roeddent yn mynd ati i wneud penderfyniadau “yn fawr”. Roedd rhai wedi synnu i ba raddau roedd presenoldeb y Gwarcheidwad Natur wedi herio eu rhagdybiaethau, hyd yn oed pan oeddent yn ystyried eu hunain fel rhai sydd eisoes yn talu sylw i faterion amgylcheddol.
Dywedodd un Comisiynydd yn ei ymatebion i’r arolwg nad oedd yn teimlo bod y cynllun peilot wedi cael unrhyw ddylanwad amlwg ar waith y Comisiwn, nac ar y ffordd yr oedd yntau ei hun yn mynd ati i wneud penderfyniadau. Roedd yn teimlo bod y Comisiwn eisoes yn canolbwyntio digon ar rôl natur wrth ddarparu seilwaith ac nid oedd wedi’i argyhoeddi bod rôl y Gwarcheidwad Natur wedi ychwanegu gwerth at hyn. Roedd hefyd yn amheus a all person fyth “gynrychioli grŵp nad yw’n rhan ohono”.
Daeth sawl thema arall i’r amlwg yn gyson:
Mae’n anoddach anwybyddu natur. Nid oedd natur bellach yn bryder haniaethol, ond yn rhywbeth sy’n gwbl bresennol, gan arwain at gwestiynau a phynciau sy’n gysylltiedig â natur yn dod i’r amlwg yn amlach, yn ymwybodol ac yn benodol. Profwyd hyn mewn trafodaethau mewnol ac allanol. Weithiau, roedd y materion hyn yn cael eu codi’n uniongyrchol gan y Gwarcheidwad Natur, ond yn aml byddent yn cael eu codi gan eraill, wedi’u sbarduno gan bresenoldeb y Gwarcheidwad Natur yn yr ystafell.
Ehangu safbwynt trafodaethau. Dywedodd comisiynwyr fod safbwynt y trafodaethau wedi ehangu, gyda phresenoldeb y Gwarcheidwad Natur yn helpu i normaleiddio’r syniad o fewn y Comisiwn bod angen i natur fod yn rhan greiddiol o benderfyniadau seilwaith ac yn agor y posibilrwydd o godi ac archwilio pynciau cysylltiedig â natur yn amlach.
Canfyddiad bod newidiadau bach yn debygol o gronni dros amser. Er nad oedd modd nodi newidiadau mawr o ran canlyniadau yn ystod y cynllun peilot byr chwe mis, roedd Comisiynwyr yn teimlo y byddai croniad o newidiadau bach a welwyd yn ystod y cyfnod peilot yn debygol o greu dylanwad mwy sylweddol ar ganlyniadau dros amser. Fel y disgrifiodd un Comisiynydd, “Fel llong – yn hytrach na mynd i’r gogledd (niwtral o ran natur efallai) mae bellach wedi symud fymryn i’r gorllewin i gyfeiriad mwy ystyriol o natur. Felly, ar ddiwrnod 1, byddai’r canlyniadau yr un fath. Erbyn diwrnod 150, rydyn ni eisoes sawl cilometr i ffwrdd o’n llwybr gwreiddiol.”
Roedd anghysur yn gynhyrchiol. Fe wnaeth y cynllun peilot godi cwestiynau damcaniaethol heb eu datrys ynghylch pam ddylai natur gael gwarcheidwad pan nad oes un gan fuddiannau eraill (megis cenedlaethau’r dyfodol neu grwpiau ymylol), a sut y gellir disgwyl i un person gynrychioli holl gymhlethdod natur. Yn hytrach na’u datrys drwy’r cynllun peilot hwn, mae’r cwestiynau hyn wedi bod yn rhan o ymarfer myfyriol y Comisiwn ac fe’u cynigir fel themâu i’w harchwilio ymhellach gan y maes a thrwy arbrofion eraill.
Ar yr un pryd, roedd rhai cyfyngiadau hefyd yn amlwg. Dywedodd rhai y gallai effaith y rôl fod wedi’i theimlo’n gryfach mewn corff sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau polisi neu seilwaith yn uniongyrchol (neu mewn bwrdd neu gorff sydd â chylch gwaith gwneud penderfyniadau mwy ffurfiol yn fwy cyffredinol). Roedd rhai yn cwestiynu a oedd dylanwad heb awdurdod ffurfiol mewn perygl o gael ei ystyried o’r tu allan fel rhywbeth perfformiadol. Cyfeiriodd eraill at gyfnod byr y peilot ac anhawster mesur llwyddiant mewn ffordd uniongyrchol, ddiriaethol, gan ei gwneud hi’n anodd asesu “effeithiolrwydd” mewn termau confensiynol (er enghraifft, o dan fframwaith gwerthuso yn arddull Llyfr Gwyrdd y Trysorlys) dros gyfnod cyfyngedig y peilot.
Heriau a thensiynau
Cododd y cynllun peilot nifer o densiynau i’w hystyried yn ehangach wrth i’r maes newydd hwn ddatblygu:
Cynrychiolaeth. A all unrhyw berson unigol gynrychioli “natur” gyfan mewn ffordd ystyrlon? Roedd y cynllun peilot yn ategu’r farn bod rhaid deall cynrychiolaeth fel rhywbeth rhannol, lleoledig, a dros dro. Mae hyn yn codi cwestiynau am faterion lluosogrwydd, cylchdro, ac atebolrwydd sy’n parhau heb eu datrys ac sy’n destun myfyrio yn y gwaith cyfochrog a gomisiynwyd gan Lawyers for Nature.
Cyfreithlondeb. Pwy sy’n awdurdodi Gwarcheidwad Natur, ac ar ba sail? Yn absenoldeb sail statudol, roedd dilysrwydd yn dibynnu ar dryloywder, cydsyniad, ac ansawdd y trafodaethau yn hytrach na mandad ffurfiol.
Cadw’r ddysgl yn wastad. Roedd rhai Comisiynwyr yn poeni y gallai rhoi llais penodol i natur ystumio trafodaethau, yn enwedig os oedd gwerthoedd neu randdeiliaid eraill yn cael eu hystyried fel rhai heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r tensiwn hwn yn adleisio dadleuon ehangach ym maes llywodraethiant ynghylch lleisiau pwy sy’n bresennol, a pham.
Amseru. Cynhaliwyd y cynllun peilot yn gymharol hwyr yng nghylch bywyd y Comisiwn, gan ei gwneud hi’n anoddach i’r Gwarcheidwad Natur ddylanwadu ar gynnwys y rhaglen waith. Mae cymryd rhan yn gynnar yn allweddol i sicrhau bod mewnbwn yn cyfrannu’n wirioneddol at benderfyniadau, yn hytrach na chael ei ystyried yn “rhy hwyr”, yn ôl-ystyriaeth neu’n rhwystr.
Tystiolaeth a metrigau. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ond mae effeithiau arbrofion llywodraethiant a newid system yn aml yn ansoddol, diwylliannol, a hirdymor. Tynnodd y cynllun peilot sylw at yr angen am arbrofion tymor hwy a dulliau mwy soffistigedig o werthuso newid systemau, a all fod yn gynnil ar y dechrau.
Argymhellion a’r camau nesaf
Gan adeiladu ar y cynllun peilot a gwaith cyfochrog Lawyers for Nature, mae sawl cam nesaf yn bosibl.
O ran y Comisiwn, mae’r rhain yn cynnwys ystyried dyfodol y rôl, ac archwilio ffyrdd o gynnwys mwy o luosogrwydd ac atebolrwydd, tra’n parhau â gwerthusiad myfyriol dros gyfnod hwy.
Ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill, mae’r profiad yn awgrymu dechrau gydag arbrofion bach sydd wedi’u dylunio’n dda yn hytrach nag aros am fodelau perffaith neu newid deddfwriaethol. Daeth y gwersi canlynol i’r amlwg:
- Mae dylunio yn bwysig. Mae angen teilwra rôl Gwarcheidwad Natur i’r cyd-destun penodol gyda sylw i strwythur, pwrpas, cwmpas a chymorth. Mae angen i natur y rôl adlewyrchu gweithgareddau’r grŵp dan sylw, ac mae angen ystyried amseriad y penodiad yng ngoleuni rhaglen waith y grŵp neu’r patrwm gwneud penderfyniadau.
- Angen arbrofi’n glir. Roedd fframio’r rôl fel un beilot yn rhoi caniatâd i arbrofi, dysgu, addasu a chydnabod ansicrwydd. Roedd hefyd yn gostwng y rhwystrau i ddechrau arni. Ymhell o fod yn docenistaidd, mae arbrofi yn helpu i fraenaru’r tir ar gyfer newidiadau strwythurol dyfnach dros y tymor hwy.
- Ehangu safbwyntiau. Ni all unrhyw warcheidwad unigol honni ei fod yn siarad ar ran natur i gyd, naill ai o safbwynt cyfreithlondeb neu safbwynt arbenigedd. Nid oes angen i Warcheidwaid Natur wneud penderfyniadau “ar ran natur” – gallant ychwanegu gwerth trwy greu gofod ac ehangu safbwynt y drafodaeth, trwy gwestiynau meddylgar, cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth ehangach ac annog dulliau o dynnu ar safbwyntiau lluosog – gwyddonol, diwylliannol, lleol a brodorol.
- Sylwi ar arwyddion newid. Bydd pwyntio at effaith glir a phendant ar ganlyniadau penderfyniadau bob amser yn anodd mewn cyd-destunau llywodraethiant – yn hytrach chwiliwch am arwyddion newid dros amser, gan gynnwys newidiadau gwybyddol a diwylliannol, sy’n gallu bod yn gynnil iawn ar y dechrau.
Yn fwy eang, mae’r cynllun peilot yn tynnu sylw at yr angen am archwiliad parhaus o sut y gall systemau llywodraethiant adlewyrchu buddiannau natur a chenedlaethau’r dyfodol yn well, yn enwedig yng nghyd-destun cynllunio seilwaith hirdymor.
Casgliad
Nid oedd cynllun peilot Gwarcheidwad Natur yn darparu ateb pendant i’r her o gynrychioli natur ym maes llywodraethiant. Yn hytrach, fe roddodd brofiad bywyd o’r hyn sy’n dechrau newid pan fydd natur yn cael ei thrin fel rhywbeth presennol yn hytrach nag ymylol.
Mewn cyfnod o argyfwng ecolegol sy’n cyflymu, mae arbrofion fel hyn yn bwysig – nid am eu bod nhw’n cynnig atebion cyflym, ond oherwydd eu bod yn helpu sefydliadau i ddysgu sut i ofyn cwestiynau gwahanol, dygymod ag ansicrwydd, ac ehangu eu safbwyntiau. Yn achos Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, roedd y cynllun peilot yn gam bach ond arwyddocaol i’r cyfeiriad hwnnw.

Roedd Elspeth Jones yn arloeswr Gwarcheidwad Natur CSCC o Fai 2025 – Ionawr 2026.