Bioamrywiaeth; y ddolen drefol goll

The Singapore Supertrees, people walking on a bridge between them

Rhagymadrodd

Mae’r rhaglen ‘deifio dwfn’ wedi’i sefydlu gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yng Nghymru wedi ennyn cryn egni a brwdfrydedd am amrywiaeth o bynciau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd ers cael eu cychwyn y llynedd. Dilynwyd yr archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy gan un ar bren a choed. Mae’r syniad o feysydd ffocws dwys sy’n gysylltiedig â phynciau wedi dangos y potensial i ddod ag ystod o randdeiliaid o’r sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ynghyd, i weithio ar y cyd i ddatrys problemau i’r sector hwnnw.

Gall y camau sy’n deillio o hynny helpu i lunio blaenoriaethau a rhaglenni gwaith sectoraidd am flynyddoedd i ddod, a’u cysoni â nodau Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a’r Argyfyngau Natur a Hinsawdd.

Mae canlyniadau’r trydydd plymio dwfn, i fioamrywiaeth, wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

Cylch gorchwyl CSCC

Ein cylch gwaith fel Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yw darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor Cymru. Mae datblygu seilwaith yng Nghymru ynghlwm â bioamrywiaeth oherwydd fod gan ddatblygiad isadeiledd newydd neu bresennol y potensial i wella bioamrywiaeth neu ei waethygu. Mae cynnydd mewn bioamrywiaeth yn fuddiol i bobl a rhywogaethau eraill, ac mae ein barn ar ganlyniad yr archwiliad dwfn i fioamrywiaeth yn cael ei lywio gan yr Argyfwng Natur a gofynion hirdymor pobl Cymru o 2030 i 2100 a thu hwnt.

Rydym yn croesawu’r argymhellion fel cam pwysig i warchod cynefinoedd a bioamrywiaeth ar draws ardaloedd helaeth o gefn gwlad Cymru. Fodd bynnag, hoffem dynnu sylw at y cyfle sy’n bodoli yn ein hamgylchedd trefol i gyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy a bioamrywiaeth Cymru. Mae’r 65% o boblogaeth Cymru sy’n byw mewn ardaloedd trefol (1) yn garfan bwysig i’w chynnwys yn nyfodol bioamrywiaeth a seilwaith yng Nghymru.

Pwysigrwydd natur drefol

Mae natur drefol yn bwysig iawn am bedwar prif reswm:

  1. Mae’r weithred o weld neu gymryd rhan ym myd natur yn yr amgylchedd trefol yn bwysig ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol a lles (2).
  2. Gall ardaloedd ‘gwyrdd’ neu ‘las’ trefol chwarae rhan bwysig wrth gysylltu cynefinoedd gwahanol, gan alluogi rhywogaethau i ddod o hyd i gynefinoedd newydd.
  3. Gall ymgorffori natur o fewn seilwaith trefol leihau llygredd, llifogydd, gorboethi a gwella’r gallu i ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd (3).
  4. Os yw pobl yng Nghymru yn dod ar draws llai o natur yn eu bywydau bob dydd, maent yn debygol o werthfawrogi natur yn llai (4), gan arwain, o bosibl, at ddirywiad hirdymor yng nghefnogaeth cymdeithas ar gyfer polisïau neu raglenni a gynlluniwyd i wella ein hecosystemau a gwarchod ein hamgylcheddau naturiol er budd cenedlaethau’r dyfodol

Ein barn ar natur drefol

Mae ein fframwaith asesu yn awgrymu bod pob datblygiad isadeiledd newydd yn cael ei ddarparu fel seilwaith natur-gadarnhaol. Boed yn ffyrdd a chynhyrchu ynni, neu ysbytai ac ystadau tai, rhaid eu hadeiladu gyda’r bwriad o wella cynefinoedd bywyd gwyllt a chynyddu maint ac ansawdd ein coridorau gwyrdd a glas. Mae ein barn ar hyn yn gwbl gyson â’r polisi cyfredol yng Nghymru sy’n cwmpasu dull systemau sy’n ystyried seilwaith gwyrdd neu las ehangach (5)

Gallai hepgor yr amgylchedd adeiledig mewn trafodaethau ynghylch bioamrywiaeth barhau i ‘seilo’ natur ac ecosystemau. Wrth gydnabod arfer da yn y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ddiweddar sy’n sôn yn benodol am seilwaith gwyrdd (6), ac ymrwymiad personol y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd i’r mater, mae’n ymddangos nad yw’r cysylltiad terfynol â bioamrywiaeth drefol wedi’i wneud rhwng y mesydd polisi seilwaith a bioamrywiaeth.

Er mwyn darparu amgylchedd ar gyfer 2100 sy’n caniatáu i natur ffynnu, a’n cymunedau i ffynnu, rhaid i ni harneisio dyfeisgarwch, brwdfrydedd a sgiliau’r peirianwyr a’r cwmnïau adeiladu yr ydym yn dibynnu arnynt i gynnal a gwella ein seilwaith. Os am wireddu nod Llywodraeth Cymru i amddiffyn a rheoli o leiaf 30% o’n tir, dŵr croyw a’r môr i fyd natur erbyn 2030, rhaid i gymdeithas ddefnyddio pob lifer sydd ar gael iddo.

Bydd y ffordd yr ydym yn dylunio ac yn adeiladu ein hisadeiledd yn y dyfodol yn hanfodol i fioamrywiaeth Cymru sy’n cael ei gydnabod fel un sydd o dan bwysau difrifol (7). Mae angen lleihau’r datgysylltiad rhwng ein hamgylcheddau adeiledig a naturiol ar frys. Mae nhw’n gallu ac fe ddylen nhw fodoli gyda’i gilydd. Bydd canllawiau clir gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â fframwaith rheoleiddio addas, yn allweddol i wyrdroi’r difrod presennol a ddioddefir gan ein hecosystemau.

Ceir sawl dull o gefnogi natur o fewn ardaloedd trefol. Un ohonynt yw’r mudiad National Park City, sy’n darparu dull deg cam o gefnogi trefi a dinasoedd i wneud mannau trefol yn wyrddach, yn decach, yn wylltach ac yn iachach. Gallai hyn ddarparu swyddogaeth alluogi i brojectau neu sefydliadau cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n bodoli eisoes yn ninasoedd Cymru.

Ffordd ymarferol arall o gefnogi cynefinoedd trefol yw dull ‘Building with Nature‘ o ddatblygu, sy’n ceisio gwneud y gorau o enillion net amgylcheddol, yn dod â natur a dŵr yn agosach at bobl, ac yn cefnogi lleoedd teg a chynhwysol.

Gallai datblygiadau mewn technolegau digidol roi cyfle i ddefnyddio ‘efeilliaid digidol’ i helpu i gynllunio ac i fonitro newidiadau. Rydym hefyd yn gweld y cyfle i annog a grymuso gwyddoniaeth dinasyddion o fewn y monitro, gan raeadru’r manteision bioamrywiaeth allan i ymgysylltu cymunedol a datblygu STEM.

Mae ymchwil academaidd yn awgrymu y dylai dull polisi gynnwys buddsoddiad parhaus mewn gofodau naturiol trefol; tegwch i bobl o gymunedau lleiafrifol ethnig neu â phroblemau iechyd; defnyddio mannau gwyrdd i leddfu salwch; a chefnogi rhwydwaith o sefydliadau yn y gymuned sy’n cysylltu pobl, llefydd a lles (8). Byddai’r syniadau hyn yn helpu i gysylltu iechyd, lle a chymuned mewn ffyrdd ymarferol sy’n cefnogi Nodau Llesiant Cymru.

Fel y dywed David Attenborough (9):

 “Creu’r lle, a bydd yr anifeiliaid yn dod….gallai fod yn bosib gweld bywyd gwyllt yn ffynnu o fewn ein dinasoedd ar draws y blaned. Ni, wedi’r cyfan, yw penseiri’r byd trefol.”

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i’w chwarae o ran annog, neu fynnu integreiddio natur o fewn ein hamgylchedd adeiledig, a gobeithiwn y gellir ychwanegu at waith da yr ymchwiliad dwfn i fioamrywiaeth drwy ystyried y rôl ar gyfer cynefinoedd trefol a bywyd gwyllt.

  • Nodyn: Barn y Comisiwn yw hwn, nid argymhelliad i Lywodraeth Cymru. O’r herwydd, nid oes angen ymateb ffurfiol
  • Datgeliad: Mae David Clubb yn Aelod o Bwyllgor Rheoli Dinas Parc Cenedlaethol Caerdydd

Cyfeiriadau

  1. ‘A rural vision for Wales’, Aberystwyth University 2021
  2. ‘A room with a green view: the importance of nearby nature for mental health during the Covid-19 pandemic’; Journal of Applied Ecology, March 2021
  3. Citizens’ preferences and valuation of urban nature’, SSRN, August 2022
  4. ‘How modern life became disconnected from nature’, Greater Good magazine, Berkeley University 2017
  5. CIEEM briefing: Welsh Government’s approach to net benefits for biodiversity, September 2022
  6. Y strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru, Llywodraeth Cymru, December 2021
  7. Papur Briffio Bioamrywiaeth, Ymchwil y Senedd, Awst 2021
  8. Magic of the mundane; the vulnerable web of connections between urban nature and well-being”, The international journal of urban policy and planning, January 2021
  9. “Cities that are saving the planet”, Planet Earth II, BBC Earth