Mae seilwaith o’n cwmpas i gyd, o’r eiliad rydyn ni’n deffro hyd at ein bod yn cysgu, ac o’r crud i’r bedd.
Y rhan fwyaf o’r amser nid ydyn ni’n ymwybodol ohono, gan ei fod yn gweithio. Dim ond pan na fydd yn gweithio mwyach ydyn ni’n dod yn boenus o ymwybodol o ba mor ddibynnol ydyn ni ar bethau bywyd bob dydd. Dŵr glân, trydan, gwres, mynediad i’r rhyngrwyd. Ein ffyrdd a’n rheilffyrdd, ysbytai a thai. Rydyn ni’n rhyngweithio â seilwaith gymaint, rydyn ni bron yn ei gymryd yn ganiataol.
Rydyn ni hefyd yn dechrau deall faint o fanteision y mae ein seilwaith naturiol yn ei roi i ni ‘am ddim’; rydyn ni’n anwybyddu’r manteision hyn er gwaetha’r modd. Mae’r dystiolaeth sy’n dangos gwerth natur, a’r effeithiau y mae gweithgarwch dynol yn eu cael ar ecosystemau lleol a byd-eang, yn amlinellu pwysigrwydd natur i’n lles cymdeithasol ac economaidd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng natur a hinsawdd, ac, fel Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, hoffwn eu defnyddio fel yr egwyddorion cyffredinol ar gyfer ein gweithgarwch yn ystod y tair blynedd nesaf.
Rwyf hefyd am i’r Comisiwn flaenoriaethu gwneud Cymru’n Decach fel rhan o’n cylch gwaith, rhywbeth sydd wedi’i ymgorffori yng nghylch gwaith cyrff y sector cyhoeddus drwy’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a’i ymgorffori fel Nod Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn aml, mae manteision seilwaith yn cael eu cipio’n rhwydd gan y bobl gyfoethocaf mewn cymdeithas; hoffwn i’r Comisiwn ystyried sut y gellir defnyddio seilwaith er mwyn i helpu i wella bywydau dinasyddion a chymunedau tlotaf Cymru.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr IPCC ei asesiad diweddaraf o’r bygythiad sy’n wynebu dynoliaeth, a’r byd naturiol, gan yr argyfwng hinsawdd sydd wedi’i achosi gan weithgarwch dynol. Mae’r asesiad yn glir; mae angen i ni wneud llawer mwy, a chyda llawer mwy o frys, i atal y canlyniadau gwaethaf.
Mae’r asesiad hwn yn amlinellu pwysigrwydd a gwerth dull hirdymor iawn o ymdrin â seilwaith. Bydd angen i ni gymryd y dystiolaeth orau bosibl o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn deall y ffordd orau i wasanaethau hanfodol Cymru addasu i’r cynnydd anochel mewn llifogydd, erydu arfordirol, tanau gwyllt a sychder.
Mae bodolaeth Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn dyst i natur hanfodol y sector i’n bywydau bob dydd. Mae cyfle nawr i chi ymuno â mi ar y Comisiwn, er mwyn helpu i lunio’r cyngor annibynnol, hirdymor a ddarparwn i Lywodraeth Cymru am seilwaith.
Rydyn ni’n chwilio am Ddirprwy Gadeirydd, a chwe Chomisiynydd newydd. Nid oes rhaid i chi gael profiad bwrdd blaenorol i wneud cais. Nid oes rhaid i chi weithio mewn sector seilwaith ‘traddodiadol’ o reidrwydd. Ond byddwch yn angerddol am rôl seilwaith o ran gwella lles pobl ac ecosystemau Cymru. Byddwch heb ofn wrth herio uniongrededd a ‘busnes fel arfer’ mewn ffordd gwrtais, ac i gael eich herio gan grŵp o gyfoedion brwdfrydig iawn. Byddwch yn gyfforddus yn camu allan o’ch parth cysur proffesiynol, ac yn chwilfrydig i ddysgu gan eraill.
Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y Comisiwn yn cynrychioli amrywiaeth lawn cymunedau Cymru, i’r graddau y mae ein niferoedd yn caniatáu. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan bobl nad ydynt yn cael eu cynrychioli cystal ar y lefel o wneud penderfyniadau, megis y rhai ag anableddau (gweladwy neu anweledig), pobl ifanc a’r rhai o gefndiroedd ethnig amrywiol. Byddwn hefyd yn gwerthfawrogi carfan ddaearyddol amrywiol o ymgeiswyr, er mwyn elwa ar yr amrywiaeth gyfoethog o brofiadau a dealltwriaeth sy’n deillio o brofiad byw ledled Cymru.
Os hoffech wneud cais i ymuno â’r Comisiwn, llenwch y ffurflen gais yma.