Steve Brooks
Mae Steve Brooks yn ymgynghorydd polisi, materion cyhoeddus a strategaeth sy’n canolbwyntio ar helpu sefydliadau i gyflawni newid cymdeithasol ac amgylcheddol. Rhwng 2016 a 2021, ef oedd Cyfarwyddwr Gweithredol Materion Allanol y DU a Chyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru ar gyfer yr elusen cerdded a beicio Sustrans.
Mae Steve hefyd yn aelod o fwrdd cymdeithas dai Trivallis a Living Streets. Cyn hynny mae wedi dal swyddi uwch yn Oxfam, y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, a Sefydliad Bevan.

Datganiadau o ddiddordeb
| Categori | Datganiad |
|---|---|
| Swyddi Cyfarwyddwyr | Cymdeithas Tai Trivallis NED; Cadeirydd y Pwyllgor Pobl ac aelod o’r Pwyllgor Asedau a Datblygu |
| Cyflogaeth am dâl | Steve Brooks Consulting, yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cyngor a chymorth ar bolisi, ymchwil, cyfathrebu, strategaeth, arweinyddiaeth, newid sefydliadol a hyfforddi/mentora. |
| (Priod neu Bartner) Llywodraeth Cymru; yn gweithio yn y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu | |
| Anrhegion, lletygarwch ac ati | Dim |
| Tir ac eiddo | Dim |
| Cyfranddaliadau | Steve Brooks Consulting; fasnachwr unig |
| Cyrff sy’n derbyn cyllid LlC | Ymddiriedolwr Living Streets a Chyfarwyddwr Cwmni, Trivallis fel y rhestrir uchod. |
| Aelodaeth o gymdeithasau | Dim |
| Datganiadau eraill | Aelod o’r Bevan Foundation Aelod o’r Sefydliad Materion Cymreig Aelod o’r Undeb GMB Aelod o’r Cymdeithas Iechyd Sosialaidd Aelod o’r Cymdeithas Addysg Sosialaidd Cymrawd y RSA Yn ceisio cael fy nhewis fel ymgeisydd darpar Senedd ar gyfer y Blaid Lafur a Chydweithredol |