Mae Rob Irvine yn arbenigwr mewn cyfathrebu amlgyfrwng a sbarduno trawsnewid strwythurol, deall anghenion hirdymor sefydliadau a datblygu strwythurau i’w diwallu.
Ef yw cyn Brif Olygydd y Manchester Evening News a Golygydd y Daily Post. Roedd Rob yn Ymddiriedolwr y Gronfa Argyfwng We Love Manchester, gan weinyddu’r £21 miliwn a godwyd i gynorthwyo’r rheini a gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad terfysgol ym Manceinion ar 22 Mai 2017. Mae’n byw yng Nghonwy.