A roll of barbed wire atop a large brick wall

Carchar 2100: Carchardai Eco-dystopia Enfawr

(Rhybudd cynnwys: Mae’r darn hwn yn cynnwys rhai cyfeiriadau at hunan-anafu, ymosod rhywiol, carchardai a hunanladdiad.)

‘Rydych chi’n cael eich symud i’r carchar newydd hwnnw yng Nghymru,’ meddai’r sgriw wrtha i, fel pe na bai’n ddim. Ar ôl blwyddyn a hanner o fyw yn y clwstwr yma o gewyll – dwi’n cael fy hel allan. 

Agorodd ddrws haearn trwm fy nghell gan fwrw golwg dros fy nghell. Roedd geiriau a llythrennau amrywiol wedi’u cerfio ar y waliau, a sbeciau o’r hyn a oedd yn edrych i mi fel gwaed. Gydag edrychiad dilornus, fe adawodd. 

Mi oeddwn yn dechrau setlo yma. Oedd y merched eraill o Gymru yn cael eu symud hefyd? A fyddwn i yn eu gweld fyth eto?

Clywais amdano ar y radio. Carchar Gwenllian. Wedi’i enwi ar ôl merch tywysog olaf Cymru a oedd, yn ddigon eironig, meddai fy ewythr wrthyf, wedi treulio ei bywyd yn cael ei charcharu mewn lleiandy. Dywedon nhw mai dyma’r cyntaf o’i fath yn Ewrop, yn seiliedig ar y mega-garchardai ‘eco’ Americanaidd. Dywedon nhw mai carcharorion fyddai’r ateb i’r trychineb hinsawdd a fu’n argyfwng diffiniol y tair cenhedlaeth ddiwethaf.

Y carchar menywod cyntaf yng Nghymru. Roedd y cenedlaetholwyr Cymreig yn meddwl y byddai’n ‘clymu y genedl Gymreig’. Dywedodd y rhyddfrydwyr y byddai’n ein helpu i gadw mewn cysylltiad â’n ‘rhwydweithiau cymorth’ a’n plant. Dywedodd un gwestai asgell dde y byddai hyn yn dal yn rhy dda i garcharorion, ond ar y cyfan roedd pawb yn cytuno y byddai’n gwneud lles i ni weithio. 

Mae chwarter miliwn o bobl mewn carchardai yn y Deyrnas Unedig. Roedd ar y radio. Mae gweithgynhyrchu, canolfannau galwadau, ailgylchu, gwastraff, ffermio i gyd yn ddiwydiannau sydd bellach yn cael eu pweru gan lafur carchardai. 

Y peth yw, nid yw’r merched roeddwn i’n eu hadnabod yn bersonol yma yn berygl i neb, ac eithrio iddynt eu hunain. Fe wnes i shifftiau fel gwrandawr ar linell ffôn y Samariaid yma. Byddai’r pethau a glywais yn gwneud i’ch gwaed oeri. Yr holl drais a brofodd y merched hyn. Fe wnaeth fy nharo mai nid profiad cyntaf neb o drais yw eu profiad eu hunain. Roedden ni’n nythfa o bobl yn dioddef o drawma.

Yr hyn oedd ei angen ar yr holl ferched oedd heddwch, heddwch go iawn. Ac ni fyddent yn ei gael yn cael eu bwlio gan sgriws plentynnaidd nac wrth gael eu cau i fewn ar eu pennau eu hunain gyda’u hatgofion bob awr o’r dydd. Nid oes heddwch i’w gael o fod ar eich pen eich hun pan fyddwch wedi cael eich rhwygo oddi wrth eich plant, eich rhieni, eich ffrindiau. 

Tybed sut le fyddai’r lle newydd hwn. ‘Hynod fodern,’ medden nhw. Mae ein carchar wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd gwael yn ddiweddar, gyda merched yn niweidio ac yn lladd eu hunain. Roedd dau faban wedi marw ers i mi fod yn y carchar hwn. Roedd eu mamau mewn celloedd gyda’r cyrff bach am oriau cyn i unrhyw help ddod. Roedd un ar fy adran i. Roeddwn i’n gwybod na fyddwn i fyth yn anghofio ei sgrechfeydd am help tra fyddaf byw. Dechreuon ni gyd sgrechian gyda hi, gan erfyn i’r sgriws fynd ati. Aetho nhw ddim. 

Yn ôl pob tebyg, roedd technoleg yn mynd i roi diwedd ar y problemau hyn yng Ngharchar Gwenllian. 

Ar ôl casglu fy mhethau, fe wnes i sgramblo’n lletchwith i’r wagen gig, fy nghymalau’n boenus. Roeddwn i’n casáu’r rhain. Roedd yn teimlo fel bod mewn arch. 

Fe aethon ni drwy gefn gwlad diddiwedd. Mae corsydd a llynnoedd enfawr gyda darnau o goed a glaswellt, bryniau wedi’u llosgi wedi tanau blynyddol yr haf. Roedd llawer mwy o lynnoedd a chorsydd nawr nag oedd arfer bod, neu felly roedden nhw’n dweud wrthon ni yn yr ysgol.

Hoffwn i deimlo glaswellt o dan fy nhraed. Aeth y meddwl â mi yn ôl i’m plentyndod, cael fy ngadael gyda fy nghefndryd drwy’r dydd i redeg yn wyllt yn y caeau tra bod fy ewythr yn cneifio defaid gyda’i gymdogion. Bydden ni’n yfed allan o boteli mawr o bop ac yn neidio ar y bagiau gwlân maint trampolîn er mwyn iddyn nhw ffitio mwy o wlân y tu mewn iddyn nhw.

Roedd y defaid mewn corlan fach. Aros eu tro i gael eu cymryd a thynnu eu cot aeaf. Pan fyddent yn cael eu gadael yn ôl i’r cae byddent yn rhoi rhyw fath o naid o wefr absoliwt o gael eu rhyddhau.

Roedd gen i gymaint ohiraeth am bethau byw’r byd ar ôl bod mewn cocwn o goncrit am flwyddyn a hanner. Doeddwn i ddim wedi gweld y gorwel o gwbl yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd edrych i’r pellter yn codi cyfog arna i nawr; mewn carchar nid oeddech yn gweld mwy nag ychydig droedfeddi o’ch blaen.  Rhwng yr hiraeth a’r cyfog penderfynais i ddim ond edrych ar fy nhraed. Fe wnaeth cyffwrdd â’r ddaear fy nhynnu yn ol i realiti. 

Roedd y gadair blastig galed, fy mhoen arthritig a’r cyffion tynn ar ben fy mhryder cyffredinol yn gwneud i mi deimlo yn hynod anghysurus. Sganiodd fy llygaid y blwch metel cul a oedd wedi fy amgáu. Crafiadau wedi’u hysgythru o amgylch y blwch metel. Yr ysfa i grafu y lle cyfyng i’w weld yn amlwg. Gwnaeth i mi feddwl am anifeiliaid.

Sut olwg fyddai ar fy ‘nghartref’ newydd? Sut fyddai fy mam yn cyrraedd yno? Roedd y carchar newydd yn rhywle doeddwn i erioed wedi clywed amdano ac roedd y bysiau a’r trenau yn ofnadwy. Fe allech chi ddweud mai pobl ddosbarth canol oedd wedi meddwl y byddai’r lleoliad yma yn haws i deuluoedd – wrth gwrs, roedden nhw’n tybio y gallai pawb yrru. 

Fe wnes i ddal fy anadl wrth i mi gael fy arwain allan o’r fan. Roedd y carchar yn adeilad onglog a oedd yn edrych fel pe bai’n cynnwys haen ar ben haen o baneli solar yn lledaenu allan i daflu cysgod dros y dyffryn corsiog. 

“Nid yw’n edrych mor fawr â hynny,” dywedais wrth neb yn arbennig. Roedd i fod yn garchar enfawr a fyddai hefyd yn gwneud iawn am ddiffyg lleoedd mewn carchardai menywod yn Lloegr. Mae’n debyg y byddai’n dal hyd at 8,000 o fenywod a charcharorion anneuaidd. Byddai hyd yn oed adain hygyrch i gaethiwo carcharorion anabl . Dyna ystyriol! 

“Mae’r rhan fwyaf o’r carchar o dan y ddaear.” Meddai Kelly gan wingo. 

Wrth i ni gerdded i mewn yn ein cyffion, cawsom ein tywys i’r ystafell gynefino – lle cawsom wybod y byddem yn cael ein harchwilio yn noeth. 

Dechreuodd fy nghalon guro fel drwm wrth i’r teimlad o banig godi yn fy nghorff. Roedd hyn bob amser yn digwydd pan oeddwn i’n gwybod eu bod yn mynd i fy archwilio yn noeth. 

‘Tynnwch eich dillad a’ch dillad isaf ferched’ Roedd y sgriw yn ymestyn ei bysedd i mewn i faneg latecs las. Roedd hi’n nobl, gyda sbectol a wyneb caled oedd yn fy atgoffa o athrawes yn yr ysgol. Roeddwn i’n teimlo’n sâl. 

Dechreuodd fy meddwl fynd oddi yno. Collais bob synnwyr o ble’r oeddwn ia gwahanu oddi wrth fy nghorff.

Wrth iddyn nhw ein harwain i lawr y coridorau roedd yn teimlo fel ein bod yn mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i labyrinth. Cerddon ni’n ddiddiwedd heibio’r celloedd clinigol. Roedd yn od o dawel yno. Ym HMP Westwood Park, roedd sŵn bob amser. Pobl yn crio, chwerthin, siarad, sgrechian. Roedd yn teimlo fel petaen ni’n dod yn agosach ac yn agosach at yr anghenfil yn y canol. 

Roedd yr adeilad yn teimlo fel cyfuniad o long ofod ac ysbyty. Gwnaeth y goleuadau stribedi llachar wneud i bopeth ymddangos yn hynod real. Mae radio a phastwn y sgriw yn gwichian yn ei wain. Tatŵ ‘DNR’ Kelly ar draws ei gwddf. Do not resuscitate. Roeddwn i’n meddwl tybed pa uffern yn ei bywyd a’i hysgogodd i gael cyfarwyddiadau o’r fath wedi’u crafu ar draws ei gwddf.

Rhoddais fy llaw yn fy mhoced a gafael yn dynn yn  yr hances frodwaith oedd fy Mam wedi pwytho cathod â llaw arni ar gyfer fy mhen-blwydd yn ddeg oed. Rhodd, o’r adeg pan nad oedd ganddi’r arian i brynu’r hyn yr oeddwn wedi gofyn amdano – cath go iawn. Roeddwn yn caru cathod ac roedd y manylion yn hyfryd. Wnes i erioed ei defnyddio i sychu fy nhrwyn. Fe’i cadwyd heb ei chyffwrdd mewn drôr y rhan fwyaf o flynyddoedd fy arddegau. Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n trysori’r darn hwn o ddefnydd cymaint. Doeddwn i ddim yn ei werthfawrogi ar y pryd. Dwi’n ei cholli hi gymaint. 

Roedd fy meddwl yn rasio dros bopeth o’r araith ymsefydlu ar ôl yr archwilio.

‘Mae ein celloedd o’r safon uchaf ac yn fwy diogel nag erioed o’r blaen’. 

Yr hyn roedden nhw’n ei olygu oedd eu bod wedi ein rhoi ni i gyd mewn celloedd wedi eu padio. Er mwyn ein hatal rhag lladd, torri a niweidio ein hunain. Dyma pam eu bod wedi gwneud yr holl gelloedd yn yr un deunydd â lle chwarae meddal plant bach. Nid oedd ffenestri, ond roedd y golau uwchben i fod i efelychu golau naturiol. Haul synthetig. 

Yr hyn oedd yn poeni fi fwyaf oedd ein hamserlen waith newydd. Roedd HMP Westwood Park yn dilyn yr hen drefn. Yn y bôn, roedd ein swyddi yn golygu ein bod yn rhedeg y carchar – roeddwn i mewn golchdy ac fe wnes i wirfoddoli ar linell ffon y Samariaid. Roedd rhai pobl yn gwneud rhywfaint o waith cynhyrchu. Roeddem i gyd yn cael ceiniogau yr wythnos. 

Yma, roedd fferm hydroponig danddaearol fawr o dan wyneb y ddaear mewn gwythiennau cul oedd yn mynd am filltiroedd. Nid oes llawer o fwyd yn cael ei dyfu y tu allan y dyddiau yma, dim ond pethau organig anweddus o ddrud y mae pobl ag arian yn eu bwyta. Mae’r gweddill ohonom yn bwyta protinau a dyfir mewn labordy a ffrwythau a llysiau hydroponig, a addaswyd yn enetig.

Ar ôl i’r ddaear boethi, roedd hi’n anodd gwahaniaethu rhwng y tymhorau. Nid oedd maetholion yn y pridd o ganlyniad i flynyddoedd o ffermio diwydiannol. Ffermio hydroponig artiffisial oedd y norm, ond roedd angen lle nad oedd ar gael mewn carchardai hen ffasiwn. Felly fe wnaethant adeiladu rhai newydd. 

Byddem yn lluosogi hadau yn y gweithdy mewn llinell gynhyrchu, er mwyn iddynt gael eu plannu’n ofalus gan eraill ar hyd y twneli. Yna byddai angen eu trin a’u cynaeafu pan yn barod. Roedd ffatri ailgylchu yno hefyd. Yr holl bethau nad oedd gweddill cymdeithas eisiau eu gwneud.

Yn ôl pob tebyg, nid oedd unrhyw wirfoddolwyr i ateb llinellau ffon y Samariaid yma. Roedd ganddynt bot AI gyda mynediad at ein cofnodion meddygol a ffeiliau cyfreithiol yn siarad â ni trwy intercom yn ein celloedd yn lle hynny. 

Oedd hyn wir yn mynd i atal yr holl ferched yma rhag lladd eu hunain? Pan fydd rhywun wir eisiau marw, maen nhw bob amser yn dod o hyd i ffordd. 

Dwi’n colli Mam gymaint. Bob tro roeddwn i’n colli fy hun, pan fyddai’r byd yn fy nghnoi i fyny ac yn fy mhoeri allan byddwn yn mynd yn ôl ati. Dwi’n gwybod ei fod yn ei thorri, fy ngweld yn dinistrio fy hun.  Unwaith, fe gysgodd ar lawr fy ystafell wely, eisiau bod yno i’m hachub rhag ofn i mi dagu ar fy chwd fy hun yn y nos. 

Roedd gen i adroddiad seicolegol cyn y treial, ffordd o geisio cael ychydig o faddeuant. Dywedon nhw mod i wedi cael trawma datblygiadol. A dweud y gwir, dwi ddim yn cofio’r rhan fwyaf o’ mhlentyndod. Roedd Mam wastad yno, ond hefyd ei rhes o gariadon. Roedd pawb yn gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus yn fy nghartref fy hun.

Yn yr ymsefydlu, dywedon nhw wrthym, oherwydd deddf newydd, gallem gael amser wedi ei ychwanegu at ein dedfryd os nad oeddem yn gweithio. Gallai hyn ddigwydd hefyd pe na baem yn cyrraedd targedau cynhyrchiant. Rhywbeth am wneud y carchardai newydd yn werth am arian gwell i drethdalwyr. 

Nid wyf yn deall mewn gwirionedd. Alla i fod yma am gyfnod amhenodol? Dwi’n edrych i lawr ar fy nwylo yn stiff gydag arthritis.

Sut mae fy mam yn mynd i ddelio â hyn? Gallaf weld y boen yn ei llygaid drwy’r gwydr pan fydd hi’n ymweld. Roedd hi’n ddigon drwg iddi fyw yn Aberperis gan wybod y byddai pawb yn hel clecs am y ffaith fy mod i yn y carchar. Gallaf weld ei bod wedi torri gyda phawb yn gweld ei bod wedi ‘methu’ fel Mam. 


Gorweddais i lawr yn y tywyllwch, ansicrwydd am fy mywyd newydd yn cnoi yn fy stumog. Roeddwn i’n meddwl wrth ddod yn ol i Gymru y byddwn i’n dychwelyd adref. Roedd fy llygaid yn llenwi gyda hiraeth dwfn. Gadewch i gwsg fynd â mi. Cwsg yw fy unig ddihangfa o’r lle hwn. Dwisho Mam.