
Jeremy Miles MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
03 Gorffennaf 2024
Annwyl Jeremy,
Diolch am eich llythyr dyddiedig 22 Mai a’r cyfarfod dilynol ar 18 Mehefin ynghylch ein hargymhellion ar gyfer cyflymu’r broses o gyflwyno ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Yn y cyfarfod ar 18 Mehefin, dywedon ni ein bod yn paratoi adborth manylach ar ymatebion Llywodraeth Cymru. Rwy’n amgáu ein sylwadau mewn atodiad i’r llythyr hwn isod.
Ein pryder pennaf yw ei bod yn ymddangos nad oes brys wrth ddiwygio polisïau neu reoliadau sy’n gyfan gwbl o fewn cwmpas gwaith Llywodraeth Cymru. Fel un enghraifft yn unig, ar hyn o bryd mae’n rhaid i drigolion Cymru wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer a gymorthdelir, sy’n golygu bod dinasyddion Cymru’n sicrhau gwelliannau carbon isel i’n cymdogion yn Lloegr yn anfwriadol. Nid yw’r amserlen a awgrymir ar gyfer diwygio hyn o fewn rheoliadau Cymru yn glir, ond ymddengys nad oes brys.
Rydym yn falch iawn bod gennych awydd am her, ac yn ddiolchgar ichi am roi sylw i’n pryderon, ac edrychwn ymlaen at barhau i drafod â chi yn y dyfodol.
Yn gywir,
Dr David Clubb Cadeirydd/Chair | Dr Jenifer Baxter Dirprwy Gadeirydd/Deputy Chair |
Argymhelliad 1 – Arweinyddiaeth a dull strategol
Roedd ein hargymhelliad yn nodi bod angen arweinyddiaeth a dull strategol i gefnogi cyflymu’r broses o gyflwyno ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Er ein bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Ynni Cenedlaethol erbyn diwedd 2024 a fydd yn nodi’r newidiadau sydd eu hangen i gyflawni Sero Net 2050, nodwn na aethpwyd i’r afael â nifer o agweddau manwl ar ein hargymhelliad.
Mae’r agweddau hyn yn cynnwys:
- Un datganiad diamwys ar rôl ynni adnewyddadwy ar gyfer 2050, gan gynnwys gofynion grid a seilwaith eraill.
- Datganiadau polisi cefnogol ar dechnolegau, targedau a dimensiynau gofodol
- Dull strategol sy’n cyd-fynd â chyllidebau carbon a dyddiadau interim 2030 a 2040
- Ymgyrch ymgysylltu â’r cyhoedd i annog cefnogaeth ar gyfer dull gweithredu Cymru gyfan
- Dull trawsadrannol o dan gadeiryddiaeth y Gweinidog i sicrhau cydgysylltu
Edrychwn ymlaen at weld yr agweddau hyn yn ffurfio rhan o broses ddatblygu’r Cynllun Ynni Cenedlaethol.
Argymhelliad 2 – Grid sy’n addas ar gyfer Cymru’r dyfodol (Dull Cymreig)
Roedd ein hargymhelliad yn pwysleisio anghenion hirdymor Cymru, ynghyd ag anghenion polisi penodol Cymru.
Rydym yn croesawu’r manylion am yr amrywiaeth o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio â sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat i sicrhau bod Cymru’n cael y grid sydd ei angen arni i gyflawni sawl amcan. Rydym hefyd yn croesawu menter ddiweddar Llywodraeth Cymru i gefnogi grŵp Grid y Dyfodol i Gymru lle bydd NICW yn cael ei gynrychioli gan y Cadeirydd.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn amlygu natur hirdymor ei hymgysylltiad â phartneriaid cyflawni. Ein pryder yw nad yw’n ymddangos bod yr ymgysylltu a’r cysylltiadau hyn wedi cyflawni llif o ddatblygiadau sylweddol yn y grid yng Nghymru. Roedd y cyhoeddiad diweddar ‘Beyond 2030’ gan ESO yn manylu am weithgarwch yn Yr Alban dros 46 tudalen, gyda dim ond 8 tudalen ar gyfer Cymru. Yn ogystal â hynny, mae’r holl welliannau neu datblygiadau newydd yn cael eu graddio ar y lefel isaf o aeddfedrwydd (cwmpasu), ac fel petaent yn dangos na fydd y datblygiadau’n cael eu rhoi ar waith yn ffisegol am flynyddoedd lawer (neu ddegawdau o bosibl).
Mae’r diffyg manylder hwn yn peri pryder o ystyried yr angen brys i hwyluso’r broses o drydaneiddio gweithfeydd dur Port Talbot a datblygiadau gwynt ar y Môr Celtaidd.
Edrychwn ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn egluro sut mae ei huchelgais a’i dull gweithredu strategol (Argymhelliad 1) yn cael eu galluogi gan weithredu cryf gan bartneriaid sector cyhoeddus a phreifat y DU ar y grid, a pha ddylanwad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chael i sicrhau y gellir gwneud y mwyaf o botensial Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy mewn amserlen sy’n briodol o safbwynt argyfwng hinsawdd.
Argymhelliad 3 – Grid sy’n addas ar gyfer Cymru’r dyfodol
At sylw Ofgem oedd yr argymhelliad hwn. Ysgrifennom at Ofgem ym mis Hydref 2023 i ofyn am eu hadborth ond ni chawsom ateb. Yn ddiweddar rydym wedi ysgrifennu at Gadeirydd a Phrif Weithredwr Ofgem i ofyn am eu hymateb.
Argymhelliad 4 – Yr amgylchedd adeiledig (Rhan L)
Amlygodd ein hargymhelliad yr angen i fynd ati ar unwaith i adolygu Rhan L o’r Rheoliadau Adeiladu i orfodi’r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy ym mhob datblygiad newydd, ac mewn adnewyddiadau neu estyniadau sylweddol.
Fe wnaethon ni dynnu sylw at solar ffotofoltäig a solar thermol fel dwy dechnoleg y dylid eu hystyried yn orfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu y byddai’r mandad hwn yn rwystr o ran arloesi. Byddai’n ddefnyddiol i ni ddeall y gwerthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gynnal i ddangos y byddai safon solar gorfodol yn gwneud y sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn llai arloesol.
Nodwn fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ymgorffori’r mandad hwn yn ddiweddar i ddeddfwriaeth Ewropeaidd, gan ei gwneud yn ofynnol i osod technoleg solar ar bob to newydd yn yr UE erbyn 2029 fan bellaf, ac ar adeiladau cyhoeddus presennol erbyn 2030. Fe wnaethon ni argymell hefyd bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o bolisïau’r UE ar ynni domestig yn benodol er mwyn gallu mabwysiadu arferion da presennol fel y mae’n partneriaid masnachu agosaf yn eu defnyddio.
O ystyried bod cyfyngiadau grid mor bwysig ar gyfer dyfodol sero net Cymru, rydym yn siomedig nad yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried ein hawgrym o orfodi gosod systemau storio batri mewn datblygiadau newydd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld hyn yn cael ei ystyried.
Hoffem bwysleisio bod Cymru’n arfer cael ei hystyried yn arweinydd yn ei maes o ran polisi cynaliadwyedd. Yn 2008 roedd y dyhead gan Gymru i bob cartref newydd fod ar Lefel 6 o dan y fframwaith Cod Cartrefi Cynaliadwy erbyn 2011. Yn wir, roedd mynd ar drywydd tai di-garbon yn un o’r amcanion datganedig o ran ceisio datganoli Rhan L.
Bellach mae hi’n dair blynedd ar ddeg y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw, ac ymddengys nad yw’r polisi presennol yn dal i fod mor uchelgeisiol â dyhead y drydedd Senedd.
Argymhelliad 5 – Yr amgylchedd adeiledig (Datblygiad a ganiateir)
Galwodd ein hargymhelliad am adolygiad ar unwaith i ddileu rhwystrau i gyflwyno ynni adnewyddadwy.
Er ein bod yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru, nid yw’n ymddangos yn amserol pan gaiff ei ystyried yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Defnyddion ni’r gair ‘brys’ yn fwriadol yn ein hadroddiad; dim ond ymrwymo i weithio ar opsiynau eleni y mae Llywodraeth Cymru, gyda hyn yn ysgogi adolygiad.
Roedd ein cyfiawnhad dros y brys hwn yn cynnwys y posibilrwydd o gynnydd enfawr mewn ceisiadau cynllunio ar gyfer pympiau gwres a fyddai’n cyfyngu ar allu awdurdodau cynllunio i allu ymateb. Byddai cynnydd cynnar a chyflym ar yr argymhelliad hwn yn atal unrhyw fater o’r fath, ac yn dangos y defnydd ymarferol o ‘atal’ fel Ffordd o Weithio.
Ar hyn o bryd mae’r gosodiad cyfatebol yn Lloegr yn ddatblygiad a ganiateir. Canlyniad anfwriadol dull Cymru o weithredu yw bod dinasyddion Cymru i bob pwrpas yn sybsideiddio’r gosodiadau ar gyfer trigolion Lloegr drwy anghyfartaledd enfawr o ran defnyddio technoleg a gymorthdelir.
Argymhelliad 6 – Cynllunio (tawelwch cadarnhaol)
Credwn y byddai gan yr argymhelliad hwn werth sylweddol o dan amgylchiadau system gynllunio a fyddai â digon o adnoddau ac a fyddai’n darparu gwasanaeth da o fewn amserlenni penodol.
O ystyried y sefyllfa o adnoddau annigonol drwy’r system gynllunio, yn enwedig ar gyfer prosiectau ynni, gallwn weld tawelwch cadarnhaol wrth gynllunio yn arwain at effeithiau niweidiol posibl ar ddatblygwyr. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd ac angenrheidrwydd ein seithfed argymhelliad.
Argymhelliad 7 – Cynllunio (Rhannu adnoddau)
Ein hargymhelliad oedd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru greu adnodd cyfun o arbenigwyr ynni yn y sector cynllunio, er mwyn gallu ymateb yn well i geisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau ynni. O gofio bod cynsail eisoes ar gyfer y math hwn o adnodd a rennir yn y sector mwynau, nid ydym yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull archwilio, ac y byddai’n well rhoi’r hyn y gwelwyd eisoes ei fod yn gweithio ar waith.
Argymhelliad 8 – Buddion a pherchnogaeth gymunedol (Bil Ynni Adnewyddadwy)
Ein hawgrym o ran Bil Ynni Adnewyddadwy oedd sicrhau bod datblygiadau yn cynnig isafswm perchnogaeth i gymunedau lleol. Roedd yr argymhelliad hwn yn seiliedig ar yr adborth llethol gan gyfranogwyr mewn gweithdai ar draws canolbarth Cymru a fyddai’n fwy tueddol o gefnogi prosiectau ynni lle’r oedd sicrwydd ynghylch y posibilrwydd o ‘brynu i mewn’ i’r prosiectau – os nad yn unigol neu ar lefel cartref, yna o leiaf ar raddfa gymunedol.
Nodwn fod Llywodraeth Cymru yn hyderus o gyrraedd ei thargedau uchelgeisiol ar gyfer ynni cymunedol a pherchenogaeth leol o fewn pwerau presennol. Fodd bynnag, nid yw gosod targedau yn gwarantu y byddant yn cael eu cyflawni; ac nid oes unrhyw fanylion am sut y bydd datblygwyr yn cael eu dwyn i gyfrif os nad ydynt yn cyrraedd y targedau hyn. Hoffem weld cofnod cyhoeddus o’r ffyrdd y mae datblygwyr wedi ymgysylltu â chymunedau i ennyn diddordeb yn y cyfle i fuddsoddi yn y prosiectau; a mecanwaith i Lywodraeth Cymru oedi datblygiad y prosiect os nad yw’r datblygwr wedi rhoi sylw dyledus i’r elfen hon o’r canllawiau.
Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am Ynni Cymru ac nid ydym yn gallu barnu pa werth y mae Ynni Cymru yn ei ddarparu i’r sector ynni cymunedol.
Argymhelliad 9 – Buddion a pherchnogaeth gymunedol (perchnogaeth gymunedol orfodol, ac adbweru cyflym)
Fe wnaethon ni argymell bod angen i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gynnig perchnogaeth gymunedol, ac y dylai safleoedd a oedd i gael eu hadbweru wynebu dull symlach iawn trwy’r broses gynllunio, yn gyfnewid am fwy o berchnogaeth gymunedol.
Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar berchnogaeth leol; pwnc perthnasol ond gwahanol. Mae perchnogaeth leol yn cynnwys prosiectau sy’n eiddo yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan endidau sydd wedi’u lleoli neu sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru.
Rydym yn croesawu’r gofyniad ychwanegol ar gyfer Adroddiad Buddion Cydweithredol mewn ceisiadau cynllunio ynni. Fodd bynnag, nid yw Adroddiad Buddion Cydweithredol ynddo’i hun yn gwarantu gwell canlyniadau cymunedol o brosiectau ynni. Gellid gwella hyn drwy gronfa ddata gyhoeddus ganolog o’r holl brosiectau, a chyfrifo cyfanswm perchnogaeth gymunedol sy’n deillio o’r prosiect fel ffigur ‘fesul MW a osodir’ a ‘fesul GWh a gynhyrchir’.
Rydym yn siomedig nad ystyriodd Llywodraeth Cymru ein hawgrym o roi prosiectau adbweru ar ‘lwybr carlam’, na’n hawgrym y dylai perchnogaeth gymunedol fod yn ystyriaeth berthnasol.
Er ein bod yn cymeradwyo cyrraedd 97% o’r targed bod 1GW o ynni yn eiddo lleol yng Nghymru, nodwn o adroddiad ‘Cyflwr y Sector’ gan Ynni Cymunedol Cymru mai dim ond 29MW o hyn oedd yn eiddo i’r gymuned. Nid yw’n ymddangos bod hyn yn elw da i gymunedau Cymru am y lefelau gweithgarwch sy’n cael eu datgan yn y sector.
Argymhelliad 10 – Buddion a pherchnogaeth gymunedol (Porthladdoedd Rhydd)
Rydym yn derbyn efallai nad porthladdoedd rhydd yw’r mecanwaith i brofi amgylchedd wedi’i ddadreoleiddio ar gyfer prosiectau ynni cymunedol. Fodd bynnag, hoffem weld a ellid defnyddio cyfundrefnau eraill, tebyg, gan ddefnyddio’r dulliau presennol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, i’r un effaith.
Er enghraifft, gellid defnyddio Gorchmynion Datblygu Lleol i symleiddio’r cyfundrefnau cynllunio ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy mewn ardaloedd dynodedig. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn archwilio’r potensial i hyrwyddo ardaloedd o’r fath i awdurdodau cynllunio lleol; yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae Cynlluniau Ynni Lleol eisoes wedi sefydlu’r awydd i ddatblygu yn y meysydd hynny.
Argymhelliad 11 – Ystad y Goron Cymru
Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru ac yn hapus i weithio mewn ffordd gydgysylltiedig i helpu i gyflwyno’r achos i Lywodraeth y DU.e the case to the UK Government.