Three women and three children sit in a wooden structure. One woman is picking some food from a tray. There is a blackboard in the background.

Cymru yn 2100

Yn 2100, byddai arweinwyr yn arwain gyda gostyngeiddrwydd. Ddim yn fodlon gydag ymgynghori o gymunedau ar lawr gwlad ond yn gweithredu eu syniadau. Ddim yn ofni herio hen systemau, a mentro newid systemau i gyd-fynd â’n hinsawdd sy’n newid yn barhaus.

Byddai pobl yn cael eu haddysgu ac yn deall bod croestoriadedd yn torri trwy bob

dimensiwn ein bywydau – o gyfiawnder hinsawdd a phwysau anghymesur

newid yn yr hinsawdd ar gymunedau brodorol, i warchod diwylliannau a threftadaethau, i ddad-drefedigaethu addysg, datgymalu patriarchaeth a gormes systemig. Byddai amrywiaeth a chynhwysiant yn fwy na ticio bylchau a byddant yn rhan gwbl integredig o’n bywydau. Byddai brwydr un gymuned yn frwydr pob cymuned. Byddem yn credu profiadau byw cymunedau a pham eu bod yn ymgyrchu, pam eu bod yn ymladd yn erbyn anghyfiawnder, a byddai newid yn cyd-fynd â faint y mae cymunedau ei eisiau a’i angen.

O ran hygyrchedd – y GIG (os yw’n dal i fodoli) a’r llywodraeth, y cyhoedd a

byddai sefydliadau preifat fel ei gilydd yn mabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd fel llinell sylfaen, gan nad yw’r model meddygol yn gweithio. Mae pobl yn cael eu hanalluogi gan seilwaith sy’n darparu ar gyfer cymuned nad yw’n anabl, cadarn o gorff. Rwy’n rhagweld 2100 lle mae llwybrau yn cael eu creu i fod yn ddigon llydan ar gyfer cadeiriau olwyn ym mhob ardal, mae perchnogion cerbydau yn cael eu briffio yn y cwricwlwm gyrru i sicrhau bod llwybrau troed yn cael eu cadw yn ddi-rwystr i’r rheini gyda chymhorthion symudedd i basio drwodd – ac mae hyn yn cael ei orfodi’n briodol drwy ddeddfwriaeth hefyd.

Bydd gan bob adeilad cyhoeddus le neu ystafell dawel gyda theganau stim priodol, plygiau clust, diodydd poeth, a goleuadau y gellir eu haddasu, fel y gall unrhyw un fynd yno i fod ar eu pennau eu hunain o’r sŵn rhag gor-gynhyrfu. Bydd gan weithleoedd brosesau priodol i fynd i’r afael â’r stigma a brofir gan y rhai sy’n anabl (gan gynnwys pobl niwroamrywiol), a bydd yn hanfodol i bobl â statws rheoli i

helpu gweithwyr i gyflawni orau yn y gwaith drwy wneud y newidiadau angenrheidiol i wneud gweithleoedd yn fwy hygyrch. Bydd rheolwyr yn cefnogi

gweithwyr yn llwyr pan fyddant yn cyflwyno eu gwir hunain, yn hytrach na chydymffurfio â ffyrdd niwro-nodweddiadol o weithio.

Byddai pawb yn 2100 wedi mabwysiadu ysgrifennu testun ALT yn y cyfryngau cymdeithasol. Byddai cael syflaen gyfathrebu mewn iaith arwyddion sylfaenol yn rhan o’r cwricwlwm, byddai Braille yn cael ei ddefnyddio ar bob hysbysfwrdd pwysig, a byddai teils stribedi cyfeiriadol yn bresennol ar draws pob llwybr troed i sicrhau y gall y rhai sydd â nam ar eu golwg grwydro drwy’r ddinas yn rhwydd.

Yn 2100 byddai gennym ddigon o gyllid ar gyfer gofal iechyd meddwl fel rhan annatod o’r GIG.  Byddai pob cymuned yng Nghymru yn gymwys i gael therapi gwybyddol ymddygiadol, cwnsela, therapi a hyfforddiant cymorth cyntaf

iechyd meddwl. Byddem yn gweld gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau hunanladdiad oherwydd y cynnydd a hygyrchedd eang gofal iechyd traws a chlinigau

iechyd meddwl am ddim. Byddai iechyd meddwl yn cael ei flaenoriaethu a’i addysgu mewn ysgolion. Byddai cynhyrchion mislif am ddim ym mhob toiled, ac addysg rhyw cynhwysol priodol (gan gynnwys addysg rhyw cwiar) yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol.

Yn y Gymru hon yn y dyfodol, bydd y llywodraeth yn deall bod cyllid ar gyfer seilwaith a materion milwrol yn llai pwysig na chostau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, adeiladu cymuned a chydlyniant ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Mae gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus gyllideb sylweddol wedi’i dyrannu i brosiectau datgarboneiddio tymor hir mewn cymunedau lleol ac nid prosiectau gwrthbwyso carbon ‘plannu coed’ yn unig. Mae yna ddigonedd o oergelloedd cymunedol, cydweithfeydd bwyd ac addysg o’r fferm i’r plât. Bydd plant yn cael profiad ymarferol o dyfu a chynaeafu eu cnydau. Mae gerddi yn cael eu neilltuo i gartrefi a bydd mentrau ‘tyfu eich bwyd eich hun’ a gerddi a rhandiroedd cymunedol i rannu a chynaeafu ar y cyd. Banciau bwyd yn diflannu gan bod digon o ofal cymunedol a chymorth ar gyfer bwydydd ffres. Aps yn cael eu datblygu i sicrhau bod modd pontio rhwng masnach a chyflenwi rhwng y rhai sydd angen bwyd neu ofal iechyd a’r rhai sy’n gallu ei ddarparu, a bod galwad am gymorth yn cael ei ateb gan y rhai sydd â’r adnoddau bron yn syth.

Mae digonedd o dai diogel i’r rhai sydd angen lloches, p’un ai o ganlyniad i

ddigartrefedd, trais domestig neu ffoi o unrhyw le anniogel. Mae yna un

cynllun hirdymor ar waith i groesawu ffoaduriaid a’u helpu i deimlo’n ddiogel yng Nghymru, waeth beth fo lliw eu croen. Mae cyrff llywodraethol yn atebol i gomisiynwyr annibynnol herio eu rhagfarnau eu hunain ar gefnogi cymunedau penodol pan fyddant mewn argyfwng. Nid yw ymatebion i argyfyngau yn anghymesur, fel y mae’r driniaeth o’r rhyfel yn yr Wcrain o gymharu a hil-laddiad Palesteina.

Mae microymosodiadau mewn sefydliadau yn cael sylw ac maent yn atebol iddynt, gyda prosesau clir a thryloyw sy’n ei gwneud yn haws i ddioddefwyr hysbysu rhywun ohono a mapio natur y microymosodiadau a brofwyd ganddynt, tra’n sicrhau i’r dioddefwyr nad ydynt yn gorfeddwl eu profiad. Mae gwrth-hiliaeth yn cael ei ddysgu mewn ysgolion a phobl yn atebol i ymddygiad hiliol heb eu hystyried fel jôcs i chwerthin arnynt.

Mae tyfu i fyny yn 2100 yn golygu tyfu i fyny mewn cyfnod lle mae cymuned yr un mor gydlynol ag erioed, a gofal a chymorth cymunedol yn cael eu blaenoriaethu yn hytrach na theuluoedd niwclear neu unigolion ar eu pennau eu hunain. Mae digon o ardaloedd gwyrdd, parciau a meysydd chwarae i’r cyhoedd ac i blant chwarae ynddynt. Digon o natur ac ardaloedd gwyllt i rywogaethau brodorol ffynnu ynddynt, i wenyn gwyllt yng nghanol blodau gwyllt, ac anifeiliaid yn dod yn ôl i natur, gan adfer eu hecosystemau. Bydd sesiynau natur yn hanfodol mewn ysgolion. Bydd plant yn blaenoriaethu crefft chwarae a chwilfrydedd ar eu tiroedd a’i elfennau, yn ogystal â’r moroedd, yr afonydd a’r wybren.  Syllu ar y sêr, nofio gwyllt, twrio am fwyd, dysgu am ein mamaliaid a’n pryfed wrth ddringo coed…

Yn 2100, mae plant yn tyfu i fyny i ddysgu’r rhain i gyd!

Yn 2100, byddai Cymru yn arwain y DU mewn llawer o ffyrdd – gan gadw ei hunaniaeth bod yn wlad gwbl ddwyieithog lle mae dwyieithrwydd yn cael ei ymgorffori a llythrennedd Gymraeg a Saesneg yn uwch nag erioed, a dathliadau Cymreig coll yn cael eu hadfer a’u dathlu gan y genedl; a bod yn wlad heb

allyriadau carbon. Mae gwastraff bwyd ar ei isaf erioed, gydag ail-gylchu bwyd yn cael ei ddefnyddio i wneud compost i’w ailddosbarthu i gymunedau, yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio; mae anifeiliaid sy’n cynhyrchu cig yn cael eu magu heb greulondeb, ac mae ymgyrchoedd yn cael eu sefydlu i bawb gefnogi busnesau bach a ffermwyr lleol. Byddai Cymru hefyd yn genedl noddfa a fyddai’n gweithredu yn unol a’i haddewidion ac yn lle diogel i gymunedau cwiar gan adael i bobl ar y cyrion ffynnu.

I grynhoi, gall Cymru fod yn llawer o bethau. Gall Cymru fod yn iwtopia i ni i gyd, ond

yn gyntaf, mae angen i ni dorri llawer o hen haenau o systemau oesol nad ydynt yn

gweithio i ni bellach, a herio ein rhagfarnau i ddad-ddysgu, ac yna ail-ddysgu yr hyn fydd yn dda i ni i gyd. Nid rhywbeth i’r dosbarth canol na’r dosbarth uchaf yn unig yw hyn. Mae hyn ar gyfer pob un ohonom ni.  Dylai newid ddigwydd nid yn unig ar gyfer rhanddeiliaid, nid yn unig i ddathlu ‘llwyddiannau’. Mae’n rhaid i ni gofio pam rydyn ni yma a beth allwn ni ei wneud, nid dim ond i gyrraedd nodau penodol a chasglu data ar gyfer adroddiadau a Dangosyddion Perffromiad Allweddol, ond i ddod â’r

newidiadau sydd eu hangen yn ddirfawr ar gymunedau er mwyn ffynnu, nid goroesi. Bydd yn rhaid i ni wrando ar ein pobl.

Fel mewnfudwr niwrowahanol cwiar o’r mwyafrif byd-eang, rwyf am bwysleisio pwysigrwydd yr arwyddair: nid oes neb yn rhydd nes bod pawb yn rhydd. Rhaid i ni beidio â cholli golwg ar werthoedd Cymru na sut wlad allai Cymru fod yn 2100. Cymru am byth.

Llun: Polly Thomas (cedwir pob hawl)