Ceri Doyle yw Prif Weithredwr Newport City Homes. Cyn hyn hi oedd Cyfarwyddwr Strategaeth, Perfformiad a Dysgu yn y Gronfa Loteri Fawr ac yn fwyaf diweddar hi oedd Prif Weithredwr Dros Dro y sefydliad.

Mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol mewn sawl corff ac ar hyn o bryd mae’n Ymddiriedolwr Cymorth i Ddioddefwyr Cymru ac mae’n Aelod o Fwrdd Datblygu Amgueddfa Cymru.