Asesiad Seilwaith Cymru 2026

Anghenion seilwaith hirdymor Cynllunio Cymru

Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi datblygu’r Asesiad Seilwaith hirdymor cyntaf yng Nghymru. Darlun clir ac annibynnol o’r seilwaith sydd ei angen ar Gymru ar gyfer dyfodol teg, gwydn a ffyniannus. Mae’r Asesiad yn edrych ar draws ynni, dŵr, trafnidiaeth, cysylltedd digidol a’r economi gylchol i ddeall perfformiad cyfredol, pwysau yn y dyfodol ac anghenion buddsoddi hirdymor.

Gan ddefnyddio tystiolaeth, data ac ymgysylltiad o bob rhan o Gymru, mae’r Asesiad yn tynnu sylw at yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu’r genedl dros y 5–80 mlynedd nesaf. Ei bwrpas yw cefnogi penderfyniadau hirdymor gwell, cryfhau gwytnwch i newid yn yr hinsawdd, a sicrhau bod seilwaith yn parhau i wasanaethu cymunedau, yr economi a’r amgylchedd am genedlaethau i ddod.

Cliciwch ar y blychau isod i gael mynediad at adroddiad statws y sector.

Cliciwch isod i gael mynediad i’n Ymchwil Cyflenwi Seilwaith.

Llun gan H. Hach o Pixabay