Nodyn Cyfarfod – 15 Medi 2026
Canolfan Addysg Parc Bute
| NICW Dr Jen Baxter, Cadeirydd Dros Dro Aleena Khan, Comisiynydd Nick Tune, Comisiynydd Dr Eurgain Powell, Comisiynydd Helen Armstrong, Comisiynydd Swyddfa’r Rhaglen / Llywodraeth Cymru Stuart Ingram, Swyddfa Rhaglen NICW | Ymddiheuriadau Dim |
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Cofnodion y Cyfarfod
15 Medi 2026
Canolfan Addysg Parc Bute
| NICW Dr Jen Baxter, Cadeirydd Dros Dro Aleena Khan, Comisiynydd Nick Tune, Comisiynydd Dr Eurgain Powell, Comisiynydd Helen Armstrong, Comisiynydd Swyddfa’r Rhaglen / Llywodraeth Cymru Stuart Ingram, Swyddfa Rhaglen NICW | Ymddiheuriadau Dim |
- Croeso
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
- Datganiadau o Fuddiant
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau newydd.
- Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nodwyd a chytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.
- Adborth a Chamau Gweithredu yn dilyn y Cyfarfod â Gweinidog y Cabinet dros yr Economi, Cysylltedd ac Ynni ar 10/09/26
Trafododd y Comisiynwyr y cyfarfod â Gweinidog y Cabinet dros yr Economi, Cysylltedd ac Ynni ar 10 Medi, pan fynegodd ei ddymuniad i ymestyn cyfnodau penodi Comisiynwyr NICW er mwyn iddynt gyflawni ymrwymiad maniffesto Plaid Cymru i ymchwilio i seilwaith digidol, gan gynnwys canolfannau data, deallusrwydd artiffisial a thelathrebu. Trafodwyd hefyd y dylai’r gwaith hwn gael ei gyd-gynhyrchu â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y byddai unrhyw allbynnau o’r rhaglen waith yn ddefnyddiadwy ac yn ymarferol i’w gweithredu yn y dyfodol.
Trafododd y Comisiynwyr bapur cwmpasu blaenorol a luniwyd yn ystod yr haf, yn dilyn yr etholiad, a oedd wedi nodi tri maes gwaith posibl:
- Gweledigaeth Systemau ar gyfer Seilwaith Digidol yng Nghymru
- Cysylltedd a Seilwaith Digidol sy’n Barod at y Dyfodol
- Seilwaith Deallusrwydd Artiffisial a Gallu Digidol i Gymru
Roedd y Comisiynwyr yn gyffredinol fodlon â’r meysydd hyn fel man cychwyn. Roeddent yn ymwybodol y byddai angen ymgymryd â rhai elfennau o’r gwaith yn gynt nag eraill, o ystyried cyflymder y newid. Pwysleisiwyd hefyd yr angen i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid fel rhan allweddol o’r gwaith. Awgrymwyd hefyd y gallai NICW ymweld â safleoedd seilwaith deallusrwydd artiffisial yng Nghymru a thu hwnt, er mwyn gweld drostynt eu hunain y materion sy’n ymwneud â datblygiadau o’r fath.
Yn dilyn y drafodaeth, daethpwyd i’r casgliad y byddai JB yn myfyrio ar y trafodaethau ac yn diwygio’r papur cwmpasu mewn ymgynghoriad â’r Comisiynwyr. Ar ôl ei gwblhau, byddai’n cael ei anfon at swyddogion Llywodraeth Cymru fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth ynghylch gwaith NICW. O hynny, gellid datblygu a chytuno ar raglen ac amserlenni gyda Llywodraeth Cymru / Gweinidog y Cabinet dros yr Economi, Cysylltedd ac Ynni, a fyddai’n sail i gylch gwaith newydd i NICW ar gyfer y 18 mis nesaf.
O ran ymgysylltiad ehangach NICW â’r gwaith sy’n dod i’r amlwg ar yr asiantaeth datblygu economaidd, cytunwyd y byddai Swyddfa’r Rhaglen yn ceisio trefnu cyfarfod cynharach â’r grŵp dylunio i drafod sut y gallai NICW gyfrannu at eu hystyriaethau. Nodwyd y gallai llythyr gan Weinidog y Cabinet dros yr Economi, Cysylltedd ac Ynni at y grŵp dylunio fod yn sail i’r dull hwn.
Nodwyd hefyd y dylai NICW wella ei ymgysylltiad â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Comisiynydd i geisio cyfarfod gyda’r bwriad o ddatblygu’r berthynas ymhellach.
Camau Gweithredu
- JB i addasu’r gwaith cwmpasu ar seilwaith digidol a’i gylchredeg ymhlith y Comisiynwyr
- Swyddfa’r Rhaglen i drefnu cyfarfod cychwynnol â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod y papur
- Swyddfa’r Rhaglen i geisio trefnu cyfarfod rhwng NICW a grŵp dylunio’r asiantaeth economaidd ar ôl i Weinidog y Cabinet dros yr Economi, Cysylltedd ac Ynni gyhoeddi ei fwriadau
- Trefniadau Llywodraethu a Gweinyddol
Nodwyd y gallai rhaglen waith newydd NICW effeithio ar adnoddau Swyddfa’r Rhaglen yn dilyn y swydd wag yn y rôl gymorth. Byddai Swyddfa’r Rhaglen yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr pan fyddai rhagor o wybodaeth ar gael. Cadarnhawyd bod NICW wedi cadw ei gyllideb o £400,000 ar gyfer 2026/27, ond nodwyd bod hon yn dod o gyllideb Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ac nid o gyllideb yr Economi, Cysylltedd ac Ynni. Mae trafodaethau mewnol yn Llywodraeth Cymru ynghylch y gyllideb ac adnoddau Swyddfa’r Rhaglen yn parhau.
Myfyriodd y Comisiynwyr, o ystyried yr angen i gyflawni’r gwaith digidol yn gyflym, ynghyd â’r ffaith bod tair swydd bellach yn wag ac y byddai cynnal ymarfer penodiadau cyhoeddus yn tynnu adnoddau ychwanegol oddi wrth waith craidd NICW, ar y posibilrwydd o gynyddu nifer y diwrnodau y gall y Comisiynwyr weithio bob mis. Codwyd y posibilrwydd o gynyddu diwrnodau’r Comisiynwyr i 5 diwrnod (o 3) a diwrnodau’r Cadeirydd i 7 diwrnod (o 5). Nodwyd hefyd nad oedd cyfraddau ffioedd y Comisiynwyr wedi’u cynyddu ers eu penodi. Byddai Swyddfa’r Rhaglen yn ystyried y pwyntiau hyn ac yn rhoi cyngor i Weinidog y Cabinet dros yr Economi, Cysylltedd ac Ynni fel rhan o’i broses gwneud penderfyniad ffurfiol ynghylch ymestyn cyfnodau penodi’r Comisiynwyr.
Trafodwyd hefyd gontract cyfathrebu NICW gydag Equinox a chadarnhawyd gwerth parhau â’r berthynas honno. Cododd y Comisiynwyr hefyd fater gwaith ymgysylltu NICW ac a allai hwn fod yn rhan o gontract newydd. Dywedodd Swyddfa’r Rhaglen y byddai’n cynnal trafodaethau cychwynnol gydag Equinox ynghylch yr hyn y gallent ei gynnig fel rhan o gontract estynedig.
Camau Gweithredu
- Swyddfa’r Rhaglen i geisio cyngor ar ddiwrnodau a chyfraddau’r Comisiynwyr
- Swyddfa’r Rhaglen i gysylltu ag Equinox ynghylch adnewyddu’r contract a gwaith ymgysylltu posibl.
- Diweddariadau gan Gomisiynwyr / Diweddariadau Eraill ar y Rhaglen Waith
Mae EP wedi cael cais gan Trafnidiaeth Cymru (TfW) i fod yn rhan o weithgor Addasu i Newid Hinsawdd Trafnidiaeth Cymru. Mae cyfarfod i’w gynnal ar 24 Medi. Byddai’r e-bost yn cael ei rannu â’r Comisiynwyr i weld a allai eraill fod yn bresennol.
Mae EP hefyd wedi cael gwahoddiad i fod ar grŵp llywio’r fforwm llifogydd. Nid oedd cysylltiad wedi’i sefydlu eto ynghylch pryd y byddai’r grŵp yn cyfarfod.
Bydd JB yn siarad yng nghynhadledd Cyfarwyddwyr Cymru yr wythnos ganlynol i drafod gwaith y Comisiwn.
- Ymatebion i Ymgynghoriadau
Nodwyd bod yr ymatebion i ymgynghoriad rhaglen waith Pwyllgor y Senedd wedi’u cyflwyno.
Trafododd y Comisiynwyr yr ymatebion drafft i’r ymgynghoriadau ar yr NDF ac ar brawfesur gwledig, a chytunwyd y dylid eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
- Trefniadau ar gyfer Cyfarfodydd NICW yn y Dyfodol
Cytunwyd y byddai cyfarfodydd NICW yn parhau i gael eu cynnal ar ddydd Gwener, unwaith y mis, wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, gyda’r opsiwn i fynychu’n rhithiol. Cytunodd HA i anfon ei hargaeledd fel y gellid rhoi dyddiadau’r chwe mis nesaf yn y calendr.
Camau Gweithredu
- HA i ddarparu ei hargaeledd ar gyfer cyfarfodydd NICW ar ddydd Gwener
- Swyddfa’r Rhaglen i gadarnhau dyddiadau a threfniadau’r cyfarfodydd cyn gynted â phosibl.
- Unrhyw Fater Arall
Dim