Cyfrif cost diffyg gweithredu: adeiladau sero net yng Nghymru

Ym mis Chwefror 2007, gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddiad beiddgar. Byddai angen i bob adeilad newydd fod yn ddi-garbon erbyn 2011, bum mlynedd cyn targed Llywodraeth y DU ei hun, sef 2016. Ar y pryd, roedd yn teimlo fel bod Cymru’n wirioneddol ar fin arwain y ffordd.

Ni ddigwyddodd hynny. Ac rydyn ni’n dal i aros.

Mae’n 2026; mae rheoliadau adeiladu newydd ar gyfer perfformiad ynni yn dod i rym ym mis Mawrth 2027, a fyddan nhw ddim yn mynd mor bell â sero net. Felly, bydd dros 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r polisi gwreiddiol hwnnw gael ei gyhoeddi cyn i unrhyw beth yn agos ato gyrraedd y llyfr statud, a hyd yn oed wedyn ni fyddwn wedi cyrraedd ein targed yn llwyr.

Rwyf am gynnig rhai rhifau amrwd i ddangos yr hyn y mae’r bwlch hwnnw wedi ei gostio i ni mewn gwirionedd. Nid fel ymarfer i daflu bai, ond am fod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn bodoli’n unswydd i helpu Cymru i wneud penderfyniadau hirdymor gwell am seilwaith, ac ni allwch wneud hynny heb fod yn onest ynghylch canlyniadau’r penderfyniadau rydyn ni eisoes wedi’u gwneud neu wedi methu â’u gwneud.

Y cyfle a gollwyd

Ers 2011, mae tua 78,000 o gartrefi newydd wedi’u hadeiladu yng Nghymru. Pe bai’r cartrefi hynny wedi’u hadeiladu’n unol â safon sero net, hy pympiau gwres, paneli solar ffotofoltaidd, wedi’u hinswleiddio’n gywir ac yn aerglos, byddai’r arbediad carbon gweithredol cronnol hyd at ddiwedd 2025 wedi bod oddeutu 1.95 miliwn tunnell o CO₂. Mae hynny oddeutu 5% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol Cymru, wedi’u dileu gan newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n adeiladu cartrefi. Nid drwy ôl-osod. Nid drwy drawsnewid diwydiannol mawreddog. Dim ond drwy adeiladu cartrefi newydd yn gywir o’r cychwyn cyntaf.

Mae arbedion y biliau tanwydd yn fwy trawiadol. Mae cartref sero net yn costio tua £300–400 y flwyddyn i’w wresogi a’i bweru. Roedd adeilad newydd safonol yn 2022 pan oedd yr argyfwng ynni ar ei anterth yn costio dros £2,200 i’r deiliaid, ac mae ar fin cynyddu ymhellach yn ddiweddarach eleni. Mae’r tair blynedd hynny o argyfwng yn unig yn gyfrifol am oddeutu £200 miliwn o gyfanswm amcangyfrifedig o £550 miliwn mewn arbedion ar filiau y mae aelwydydd Cymru wedi’u colli allan arnyn nhw. Pan fydd pobl yn sôn am yr argyfwng costau byw, dyma’r union fath o ymyriad strwythurol a allai fod wedi ei liniaru’n sylweddol.

A thlodi tanwydd. Mae Cymru yn diffinio hyn fel gwario dros 10% o incwm yr aelwyd ar ynni. Byddai tua 8,500 o aelwydydd, wedi’u crynhoi yn y garfan tai cymdeithasol, yn debygol o fod wedi cael eu codi uwchlaw’r trothwy hwnnw pe bai eu cartref newydd wedi’i adeiladu’n unol â safon sero net yn hytrach na safon y dydd. ON mae hynny’n debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel.

Os ydych yn estyn y dadansoddiad i gynnwys adeiladau annomestig, mae’r darlun yn fwy fyth: oddeutu 3.5 miliwn tunnell o arbedion cronnol CO₂, a £1.55 biliwn mewn costau ynni y mae busnesau a gwasanaethau cyhoeddus wedi’u talu’n ddiangen.

Roeddwn i yno ar y dechrau’n deg

Mae gen i fuddiant personol yn y stori hon. Yn 2007, pan oeddwn yn gyfarwyddwr BRE Cymru, sefydlais Woodknowledge Wales gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru fel yr oedd ar y pryd, gyda’r nod penodol o symud pren Cymreig i fyny’r gadwyn werth, oddi wrth baledi a phapur, ac i’r diwydiant adeiladu. Roedd y cysylltiad rhwng adeiladau cynaliadwy ac economi goedwig gynaliadwy yng Nghymru yn ymddangos yn un amlwg i mi bryd hynny, ac mae’n dal i fod felly.

Yn 2010, fel rhan o raglen Blaenau’r Cymoedd, adeiladwyd tri chartref sero net yng Nglynebwy gan BRE, Tai Unedig Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a hynny ar safle’r hen waith dur, Y Gweithfeydd. Adeiladwyd y Larch House a’r Lime House, a ddyluniwyd gan benseiri bere:architects, o bren Cymreig a chynhyrchion Cymreig yn bennaf. Dyma oedd y cartrefi Passivhaus fforddiadwy cyntaf yng Nghymru, a thai cymdeithasol di-garbon cyntaf y DU. Fe wnaethant brofi y gellid ei wneud.

Felly pam na ddigwyddodd hynny?

Mae’n rhaid i mi fod yn onest yma. Yn ôl yn 2007, roedd y gwahaniaeth yn y gost rhwng adeilad newydd Rhan L safonol a chost uwch cartref sero net yn sylweddol, sef oddeutu 33%. Byddai hynny wedi cael effaith wirioneddol ar nifer yr adeiladau newydd yn y tymor byr. Fy amcangyfrif yw y gallwn fod wedi gweld gostyngiad dros dro o rywle rhwng 1,000 a 2,000 o gartrefi. Nid mater dibwys yw hynny, a dyma’r ddadl a wnaed yn llwyddiannus gan y lobi adeiladwyr tai, pan oedden nhw wedi gwthio’n ôl yn erbyn y polisi. Ildiodd Llywodraeth Cymru, a gollyngwyd y mandad.

Rwy’n deall y rhesymeg wleidyddol. Mae gostyngiad gweladwy yn y tymor byr mewn tai a gaiff eu cwblhau yn fater llawer mwy agored yn wleidyddol na’r gost anweledig, gwasgaredig o fethu â gweithredu ar dlodi tanwydd a charbon. Ond mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ers bron dau ddegawd yn sgil y penderfyniad hwnnw.

Dyma beth sy’n ei gwneud mor boenus wrth edrych yn ôl: ni fyddai’r cynnydd o 33% yn y gost wedi aros ar 33%. Mae cadwyni cyflenwi yn aeddfedu, mae sgiliau yn cael eu meithrin, mae cynhyrchion yn dod yn rhai safonol. Erbyn heddiw, mae’r gwahaniaeth yn y gost rhwng adeilad Rhan L presennol a chost uwch cartref gwirioneddol sero net oddeutu 10%. Mae data ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer Rhan L 2025 yn dangos y gellir cyflawni arbediad o 93% mewn carbon o gymharu â’r safonau presennol am gynnydd o 3.3% yn unig mewn costau adeiladu. Ar raddfa fawr, mae amcangyfrifon credadwy yn nodi y byddai’r premiwm ar gyfer sero net cyflawn yn 6-8%.

Fe wnaethon ni ollwng y polisi pan oedd yn ddrud. Nid ydyn ni hyd yma wedi ei ailgyflwyno nawr ei fod yn fforddiadwy. Mae hynny’n fethiant polisi sylweddol.

Yr hyn y gallem fod wedi’i gael

Ystyriwch sut y gallai llwybr gwahanol fod wedi edrych. Sector adeiladu â phren Cymreig a oedd â dau ddegawd o alw cynyddol yn sail iddo. Cadwyn gyflenwi ar gyfer ffenestri, paneli wedi’u hinswleiddio a phympiau gwres perfformiad uchel a oedd wedi’u creu yng Nghymru yn hytrach na’u mewnforio. Cwmnïau gosod a chynnal a chadw cyfarpar ynni adnewyddadwy a oedd wedi tyfu yn sgil polisi domestig cyson. Cenhedlaeth o adeiladwyr, dylunwyr ac aseswyr a chanddyn nhw arbenigedd eang mewn adeiladu cynaliadwy.

Byddai tua 30,000 o bobl wedi’u codi allan o dlodi tanwydd. Byddai gennym 3.5 miliwn tunnell yn llai o CO₂ yn yr atmosffer o adeiladau Cymru yn unig. A byddai Cymru wedi cael ei chydnabod fel arweinydd byd-eang gwirioneddol ym maes adeiladu cynaliadwy, ac nid dim ond fel y wlad a luniodd bolisi ysbrydoledig yn 2007 cyn ei ddiystyru yn dawel bach.

Ail gyfle a gollwyd

Yn 2013 cafodd Cymru ail gyfle i arwain y ffordd o ran effeithlonrwydd ynni. Carl Sargeant oedd y Gweinidog ar y pryd, ac arweiniodd ymgynghoriad ar leihau allyriadau mewn cartrefi newydd. Awgrymodd yr ymgynghoriad ostyngiad o 40%; 8% oedd y targed go iawn a ddewiswyd, ffigur a oedd yn ymddangos ei fod eisoes wedi’i gyflawni mewn gwaith adeiladu newydd. Cafodd y penderfyniad ei feirniadu fel “gwleidyddiaeth chwerthinllyd Mickey Mouse”, gyda disgrifiadau o’r ymgyrchwyr yn nodi eu bod yn gegrwth ac yn ddig.

Unwaith eto, mae safonau gwannach yn golygu bod cenedlaethau’r dyfodol yn gaeth i filiau ynni uwch a thai o ansawdd is, ac wedi gwneud i ddegau o filoedd wynebu mympwyon y farchnad tanwydd ffosil, a hynny’n gwbl ddiangen. Er bod y penderfyniad hwn wedi’i wneud cyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, o edrych yn ôl gellir ei weld fel un sy’n uniongyrchol groes i’r Nodau.

Casgliad

Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn bodoli i arddel safbwynt hirdymor, i ddadlau o blaid penderfyniadau seilwaith a allai fod yn wleidyddol anodd yn y tymor byr ond sy’n hanfodol dros genhedlaeth. Mae’r dystiolaeth ynghylch adeiladau sero net yn ddigamsyniol. Mae cost diffyg gweithredu yn gost go iawn, mae’n fesuradwy, ac mae’n effeithio fwyaf ar y bobl sy’n gallu ei fforddio leiaf.

Mae Mawrth 2027 yn gam sylweddol ymlaen; ond nid yw un cam yn gyfystyr â’r cyrchfan. Mae angen amserlen glir a chredadwy ar Gymru i gyrraedd yr hyn a addawyd yn 2007. Rydyn ni eisoes wedi aros yn ddigon hir.

Mae Nick Tune yn un o Gomisiynwyr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac ef yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol OptimiseAI

Ei safbwyntiau ef ei hun a geir yn y blog hwn.

Cyfeiriadau
¹ Cyhoeddiad sero carbon LlCC erbyn 2011 ym mis Chwefror 2007: orca.cardiff.ac.uk/27164
² Ystadegau adeiladu tai newydd Cymru, StatsCymru: stats.llyw.cymru/cy-GB/topic/66/adeiladu-tai-newydd
³ Adeiladu tai newydd 2024-25 (4,631 wedi’u cwblhau, sef y nifer isaf a gofnodwyd): llyw.cymru/adeiladu-tai-newydd-ebrill-2024-i-fawrth-2025-html
⁴ Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer Cymru, Hydref 2024 (340,000 o aelwydydd, 25%): llyw.cymru/amcangyfrifon-tlodi-tanwydd-wediu-modelu-ar-gyfer-cymru-ym-mis-hydref-2024-html
⁵ Targedau newid hinsawdd a chyllidebau carbon Cymru (~36 MtCO₂e/y flwyddyn): llyw.cymru/targedau-newid-hinsawdd-a-cyllidebau-carbon
⁶ Cynllun Cymru Sero Net: Cyllideb Garbon 2: llyw.cymru/sero-net-cymru
⁷ Ymgynghoriad Cymru Rhan L 2025 a’r canlyniad (cynnydd o 3.3% ar gyfer arbediad carbon o 93%): llyw.cymru/adolygiad-2025-o-ran-l-or-rheoliadau-adeiladu
⁸ Cylchlythyr rheoleiddio Cymru Rhan L 2025 — mewn grym 4 Mawrth 2027: llyw.cymru/rheoliadau-adeiladu-etc-diwygio-cymru-2026-wgc-0032026-html
⁹ Ymchwil Savills i’r cynnydd mewn costau adeiladau newydd sero net (10–14%): savills.com/research_articles/255800/348619-0
¹⁰ BEIS Building for 2050 — low cost, low carbon homes: gov.uk/government/publications/building-for-2050
¹¹ Larch House a Lime House, Glynebwy — cartrefi Passivhaus fforddiadwy di-garbon cyntaf y DU (2010): bere.co.uk/research/larch-lime-houses
¹² Woodknowledge Wales: woodknowledge.wales/cartref/
¹³ Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: nationalinfrastructurecommission.wales/cy/[MG1] 


Delwedd gan Leopictures o Pixabay