Seilwaith ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Heddiw rydym yn cyhoeddi cyfres o safbwyntiau seilwaith sectorau ac astudiaeth fawr ar gyflawni seilwaith yng Nghymru. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio’r darlun mwyaf cyflawn yr ydym wedi’i gynhyrchu o sut mae ein systemau hanfodol yn perfformio ac yn caniatáu inni asesu a yw Cymru yn barod i gyflawni’r seilwaith y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu arno.

Wrth ddarllen y gwaith hwn, rydym yn cael ein hatgoffa o’n cryfderau a’n gwendidau. Mae gan Gymru y gwerthoedd, y sylfeini deddfwriaethol a’r uchelgais i arwain. Ond yn rhy aml, mae ein systemau yn gwegian o dan bwysau cyfrifoldebau tameidiog, cylchoedd cyllido tymor byr a chyfyngiadau ar gapasiti sy’n gwneud cynnydd cyson yn anodd.

Ar draws y sectorau ynni, dŵr, trafnidiaeth, digidol a’r economi gylchol, mae neges gyson yn dod i’r amlwg. Mae gennym eglurder o ran uchelgais ac ewyllys da ar draws sefydliadau, ond mae cyflawni wedi’i gyfyngu gan faterion strwythurol na ellir eu datrys o fewn unrhyw un adran neu ddisgyblaeth.

Ym maes ynni, mae’r defnydd o ynni adnewyddadwy yn tyfu ond yn parhau i gael ei arafu gan gyfyngiadau grid ac amserlenni cysylltu hir. Rhagwelir y bydd y galw am drydan yn unig yn dyblu o leiaf, ac o bosibl yn treblu, erbyn 2050, graddfa o newid sy’n gwneud yr oedi heddiw yn arbennig o arwyddocaol.

Mae seilwaith dŵr yn wynebu pwysau cynyddol gan newid hinsawdd a llygredd. Mae’r amcanestyniadau cyfredol yn nodi y bydd cynnydd yn lefel y môr o 22–28cm yng Nghaerdydd erbyn 2100, ynghyd â chynnydd posibl o 3.8°C yn nhymheredd yr haf erbyn 2070, a bydd achosion o law trwm yn dod yn llawer mwy dwys. Mae’r pwysau hyn yn gwaethygu llywodraethu sydd eisoes yn gymhleth ac asedau sy’n heneiddio ar draws y sector.

Rhaid i systemau trafnidiaeth ddatgarboneiddio, gwasanaethu llawer o boblogaethau gwledig a threfol, a hybu canlyniadau iach trwy gyfranogiad gweithredol, hyn i gyd wrth ymdopi ag asedau sy’n heneiddio, buddsoddiad cyfyngedig, a chynllunio a chyflawni tameidiog. 

Mae seilwaith digidol wedi gwella’n sylweddol ond mae’n dal i adael cymunedau gwledig heb eu gwasanaethu’n ddigonol. Er bod ardaloedd trefol yn elwa o signal cyflym, dibynadwy, mae cymunedau gwledig yn dal i brofi cysylltedd anghyson, sy’n arafu cyflwyno gwasanaethau digidol ac yn cyfyngu ar arloesedd.

Ac er bod record ailgylchu Cymru o’r radd flaenaf yn y byd, rydym ymhell o wireddu economi wirioneddol gylchol heb y cyfleusterau atgyweirio, ailddefnyddio ac ailweithgynhyrchu sydd eu hangen i gadw gwerth yn cylchredeg gartref.

Mae’r safbwyntiau sector hyn yn cyd-fynd â’n hastudiaeth gyflawni, sy’n archwilio prosiectau go iawn ac amodau’r system a wnaeth eu helpu neu eu rhwystro. Mae’r gwersi yn gyfarwydd ond bellach ceir tystiolaeth gliriach nag erioed. Mae prosiectau’n llwyddo pan fydd sefydliadau’n alinio, pan fo nawdd gwleidyddol yn glir, pan fydd gan reoleiddwyr ac awdurdodau cynllunio y gallu i weithredu’n rhagweladwy, pan yr ymgysylltir â chymunedau’n gynnar ac yn ystyrlon, a phan fydd pobl fedrus ar gael ar yr adegau cywir. Maen nhw’n profi trafferthion pan fydd yr amodau hyn i’r gwrthwyneb, sydd wedi bod yn wir yn rhy aml. Er y gall Cymru gynhyrchu astudiaethau achos o arfer da sy’n dangos beth sy’n bosibl, maent yn parhau i fod yn eithriadau yn hytrach na’r norm.

Mae pob tymor newydd yn y Senedd yn teimlo fel adeg benderfynol ac arloesol wrth i ni ddechrau arno. Gallai’r Senedd nesaf ddangos llwyddiant wrth droi uchelgais yn gyflawniad. Ond a yw’r amodau rydyn ni’n eu hamlinellu ar gyfer llwyddiant wedi’u meithrin yn ystod pum mlynedd ddiwethaf tymor y Senedd?

Bydd sicrwydd cyllido hirdymor yn hanfodol os ydym am ailadeiladu capasiti ar draws gwasanaethau cynllunio, rheoleiddio ac arbenigol. Sut mae cyflawni hyn yn wyneb anfodlonrwydd Llywodraeth y DU i roi setliadau ariannol amlflwydd i Gymru?

Yn absenoldeb y sicrwydd hwnnw, mae digon y gallwn ni ei wneud, yn sicr, gyda’r pwerau a’r gyllideb sydd ar gael i ni. Rhaid i’n sefydliadau (gan gynnwys y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector) gryfhau aliniad ar draws defnydd tir, trafnidiaeth, ynni a chynllunio digidol. Mae angen ymgysylltu â’r gymuned yn ddwfn, yn onest ac yn barhaus, nid fel ôl-ystyriaeth. Os oedd unrhyw amheuon am hynny, edrychwch ar ein profiad ein hunain o ymgysylltu â chymunedau am newid hinsawdd!

Fel cenedl mae’n rhaid i ni newid ein meddylfryd o gynhyrchu polisi i weithredu; dysgu o’r hyn sy’n gweithio, addasu lle bo angen, a pharhau i fod yn atebol am ganlyniadau hirdymor, nid pwysau tymor byr. Er bod y dull hwn, fwy neu lai, wedi’i orfodi trwy Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ymarferol rydym yn gweld gormod o ymateb i broblemau a dim digon o feddwl yn gwbl greadigol.

Rhaglen Waith y Dyfodol CSCC

Rydym yn awyddus i CSCC barhau i gefnogi Cymru drwy’r trawsnewidiad hwn gydag eglurder, annibyniaeth ac uchelgais. Bydd ein rhaglen waith yn y dyfodol yn ymateb yn uniongyrchol i’r heriau a amlygir yn y cyhoeddiadau heddiw, a bydd yn canolbwyntio ar feysydd lle gall meddwl yn yr hirdymor ychwanegu’r gwerth mwyaf.

Byddwn yn parhau i fonitro ein hargymhellion ar ynni adnewyddadwy, gan gefnogi dyfodol lle mae cymunedau’n rhannu manteision ynni glân yn deg a lle nad yw capasiti’r grid bellach yn atal datgarboneiddio Cymru. Bydd ein gwaith ar risg llifogydd a gwydnwch hinsawdd yn dyfnhau, gan archwilio atebion sy’n seiliedig ar natur, llwybrau buddsoddi hirdymor a phrofiad bywyd cymunedau sy’n wynebu risgiau hinsawdd cynyddol.

Trwy ein Sgyrsiau Hinsawdd fe wnaethom gasglu safbwyntiau pobl a sefydliadau ledled Cymru ar risg, tegwch a chyfrifoldeb. Mae’r safbwyntiau hyn yn hanfodol: mae seilwaith ond yn gynaliadwy pan fydd pobl yn ymddiried yn y penderfyniadau sy’n ei llywio.

Drwy gydol hyn i gyd, bydd CSCC yn parhau i ganolbwyntio ar stiwardiaeth systemau: eirioli dros aliniad ar draws sefydliadau, annog gwneud penderfyniadau sy’n adlewyrchu llesiant cenedlaethau’r dyfodol a chynnig llais annibynnol sy’n cadw buddiannau hirdymor Cymru wrth wraidd y ddadl genedlaethol.

Byddwn yn defnyddio digwyddiadau, fel yr un lle byddwn yn lansio ein hadroddiadau ar seilwaith, i gasglu adborth gan arbenigwyr y sector. Mae’r adborth hwn yn elfen hanfodol i helpu CSCC i ddeall pa sectorau y mae angen eu blaenoriaethu yn fwyaf uniongyrchol ar gyfer gwaith.

Galwad i Weithredu

Wrth i ni rannu’r gwaith hwn, rydym yn gwahodd pawb sy’n ymwneud â llunio seilwaith yng Nghymru: llywodraeth, cynllunio, rheoleiddio, diwydiant, awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol a thu hwnt, i ymgysylltu â’r dystiolaeth a gyhoeddwn heddiw.

Gan aralleirio’r hyn a ddywedodd Elspeth Jones, ein Gwarcheidwad Natur cyntaf, ym mis Ionawr yn y gweithdy Llywodraethu Natur;

“Dydyn ni ddim yn disgwyl i chi fod yn berffaith. Ond rydyn ni’n disgwyl i chi fod yn ddewr”.

Rydym am i chi herio’ch sefydliadau i feddwl yn yr hirdymor. Rydyn ni eisiau i chi weithio (hyd yn oed yn fwy) ar y cyd ar draws ffiniau traddodiadol. Rydym am i chi gynnwys cymunedau mewn penderfyniadau yn gynnar a gyda gonestrwydd (ac mae gennym becyn cymorth a allai helpu i roi syniadau am sut y gellir gwneud hynny).

Ac rydym am i chi ymrwymo i gyflawni gan adlewyrchu gwerthoedd Cymru sef tegwch, stiwardiaeth a chyfrifoldeb i genedlaethau’r dyfodol, yn ddelfrydol gydag ychydig yn fwy o barodrwydd i gymryd risg – lle bo hynny’n briodol, wrth gwrs.

Mae gan Gymru bopeth sydd ei angen arni i lwyddo: yr uchelgais, y fframwaith deddfwriaethol ac ymrwymiad cenedlaethol i lesiant sydd heb ei ail yn fyd-eang o hyd. Mae ‘ond’ angen y gred arnom fod cenedl a lywiwyd gan farddoniaeth, tirwedd a gwydnwch yn gallu creu seilwaith mor fywiocaol a pharhaol â’r natur a’i ysbrydolodd.

Image by sidongyou from Pixabay