Senedd Cymru

Ymateb CSCC i Adroddiad Pwyllgor NHAS y Senedd

Llŷr Gruffydd AS,
Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
SeneddHinsawdd@senedd.cymru

15 Mai 2024

Annwyl Llŷr

Diolch am eich llythyr dyddiedig 15 Ebrill 2024 yn amgáu copi o adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a’r Seilwaith; “Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2023”. Roedd yn bleser cwrdd â chi a gweddill y pwyllgor ym mis Ionawr i drafod ein gwaith yn y Comisiwn.

Byddwn yn mynd i’r afael â phob un o’r argymhellion ar gyfer NICW yn eich adroddiad yn eu tro.

Argymhelliad 4.
Dylai’r Comisiwn ymrwymo i sicrhau bod y gofyniad i Gomisiynwyr beidio â chymryd rhan mewn trafodaethau neu benderfyniadau pan allai gwrthdaro buddiannau, neu wrthdaro buddiannau canfyddedig, godi yn cael ei fodloni’n gyson.  Dylai hefyd ymrwymo i sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i fonitro cydymffurfedd â’r gofyniad.

Ymateb:
Mae’r Comisiwn wedi cymryd camau sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf i gynyddu ei dryloywder ynghylch gwrthdaro neu wrthdaro buddiannau canfyddedig. Mae hyn yn cynnwys diweddaru ei gofrestr ar-lein ar wefannau Llywodraeth Cymru a CSCC.

Mae gwefan CSCC (https://nationalinfrastructurecommission.wales/cy/) yn cynnwys buddiannau datganedig pob Comisiynydd ar eu tudalennau bywgraffiad personol. Ym mhob cyfarfod, cofnodir gwrthdaro buddiannau newydd yn nodiadau’r cyfarfod, a gyhoeddir ar-lein pan gânt eu cymeradwyo.

Gofynnir i Gomisiynwyr nodi unrhyw wrthdaro canfyddedig ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod a gofynnir iddynt adael y cyfarfod ar gyfer eitemau sydd â risg o ganfyddiad o wrthdaro buddiannau. Cofnodir hyn yng nghofnodion y cyfarfod.

Argymhelliad 7.
Dylai’r Comisiwn ystyried a ellid ymgorffori draenio a storio dŵr, a sut y gellid gwneud hynny, yng ngham ymchwil ei waith ar wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a risg i fodolaeth. Dylai gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor ar y canlyniad wrth ymateb i’n hadroddiad.

Ymateb:
Cafodd y pwnc storio a draenio dŵr strategol ei ystyried fel rhan o ymchwil y Comisiwn i lifogydd, yn enwedig mewn perthynas â chynlluniau rheoli dalgylchoedd. Bydd y gwaith cwmpasu ar gyfer ein gwaith Blwyddyn 3 ar effeithiau newid hinsawdd yn canolbwyntio ar sut mae darparwyr seilwaith ar draws y sector yn rhoi gwybod am y problemau tymor hwy i gymunedau a’r effaith ar eu seilwaith yn y dyfodol. Bydd y darparwyr hyn yn sicr yn cynnwys sefydliadau dŵr a llifogydd. Efallai y carai’r Pwyllgor nodi bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU wedi cynnal astudiaeth a allai fod yn berthnasol yn 2022 o’r enw Reducing the risk of surface water. 

Argymhelliad 8.
Dylai’r Comisiwn:

  • egluro a yw’n ymgysylltu â Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd gyda’i waith, yn enwedig ei brosiect blwyddyn tri ar wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a risg i fodolaeth, a
  • ceisio cynrychiolaeth Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ar ei Fwrdd Cynghori ar Brosiectau ar wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a risg i fodolaeth.

Ymateb:
Cyfarfu NICW â Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU (UKCCC) ym mis Ionawr i drafod ein ffrydiau gwaith a’r potensial i gydweithio ar brosiectau. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Gadeirydd UKCCC yn ddiweddar i ofyn am gyfarfod i drafod ein cynlluniau ar gyfer ein prosiect Blwyddyn 3 ac, yn benodol, sut y gallwn rannu data a syniadau am gyfathrebu am y newid yn yr hinsawdd.

Nid yw’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y prosiect hwn wedi’u cwblhau eto ac efallai na fyddant o reidrwydd yn arwain at ffurfio Grŵp Cynghori Prosiect. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r UKCCC yn ein gwaith a byddwn yn gofyn am eu mewnbwn ar bob pwynt perthnasol wrth i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

Yn olaf, nodwn yn argymhellion y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru fod lle amlwg iawn i’r adolygiad o NICW, sydd i digwydd yn 2024. Hoffem gadarnhau wrth y pwyllgor a Llywodraeth Cymru ein bod yn barod i drafod a chydweithio ar y broses hon i sicrhau bod NICW yn dal i gyflawni ei gylch gwaith hyd eithaf ei allu, yn darparu gwerth am arian ac yn rhoi cyngor amserol o ansawdd uchel i Weinidogion Cymru yn y blynyddoedd i ddod.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol.

Yn gywir,

Dr David Clubb – Cadeirydd
Dr Jenifer Baxter- Dirprwy Gadeirydd