{"id":9520,"date":"2026-05-21T10:24:59","date_gmt":"2026-05-21T09:24:59","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/?p=9520"},"modified":"2026-05-21T10:25:03","modified_gmt":"2026-05-21T09:25:03","slug":"llywodraethnewydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/05\/21\/llywodraethnewydd\/","title":{"rendered":"Llywodraeth Newydd: Cyfleoedd Newydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull has-custom-content-position is-position-bottom-center\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1280\" height=\"916\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-9509 size-full\" alt=\"\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/tidy-cardiff-175316_1280.jpg\" data-object-fit=\"cover\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/tidy-cardiff-175316_1280.jpg 1280w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/tidy-cardiff-175316_1280-300x215.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/tidy-cardiff-175316_1280-1024x733.jpg 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/tidy-cardiff-175316_1280-767x549.jpg 767w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\"><div class=\"has-link-color wp-elements-d3b8a4c2d8d1a37bb5f16e8f5836cd7e wp-block-post-date has-text-color has-background-color has-background has-foreground-background-color has-text-align-center\"><time datetime=\"2026-05-21T10:24:59+01:00\">21\/05\/2026<\/time><\/div><\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignfull is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-a1727f98 wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<h5 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\" id=\"llywodraeth-newydd-cyfleoedd-newydd\" style=\"font-size:60px\">Llywodraeth Newydd: Cyfleoedd Newydd<\/h5>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns alignfull is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-f56f613f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-content-justification-left is-layout-constrained wp-container-core-column-is-layout-c22df8bb wp-block-column-is-layout-constrained\" style=\"padding-right:0;padding-left:0;flex-basis:20%\">\n<div class=\"wp-block-group has-background is-content-justification-left is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-682a1295 wp-block-group-is-layout-constrained wp-container-1 is-position-sticky block-visibility-hide-small-screen\" style=\"background-color:#fafafa;padding-top:0px;padding-right:0px;padding-bottom:0px;padding-left:0px\">\n<div style=\"height:21px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<nav aria-label=\"Table of Contents\" class=\"wp-block-table-of-contents has-medium-font-size\"><ol><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/05\/21\/llywodraethnewydd\/#llywodraeth-newydd-cyfleoedd-newydd\">Llywodraeth Newydd: Cyfleoedd Newydd<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/05\/21\/llywodraethnewydd\/#ynni\">Ynni<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/05\/21\/llywodraethnewydd\/#llifogydd\">Llifogydd<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/05\/21\/llywodraethnewydd\/#natur\">Natur<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/05\/21\/llywodraethnewydd\/#gweithredu-ar-yr-hinsawdd-a-chymunedau\">Gweithredu ar yr hinsawdd a chymunedau<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/05\/21\/llywodraethnewydd\/#asesiad-o-seilwaith-cymru\">Asesiad o Seilwaith Cymru<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/05\/21\/llywodraethnewydd\/#yn-barod-i-gefnogi\">Yn barod i gefnogi<\/a><\/li><\/ol><\/nav>\n\n\n\n<div style=\"height:13px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"border-width:1px;padding-right:var(--wp--preset--spacing--60);padding-left:var(--wp--preset--spacing--60);flex-basis:50%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Gymru lywodraeth newydd. Yn sgil etholiad y Senedd ar 7 Mai, cawsom weinyddiaeth newydd, sydd wedi gwneud ei bwriad yn glir i roi lle canolog i annibyniaeth ynni, gwydnwch rhag llifogydd, adfer natur a buddsoddi tymor hir mewn seilwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r rheini sydd wedi bod yn dilyn gwaith NICW dros y blynyddoedd diwethaf, bydd blaenoriaethau&#8217;r llywodraeth newydd yn taro cloch. Nid am ein bod wedi bod yn gwneud dadleuon gwleidyddol pleidiol &#8211; wedi&#8217;r cyfan, un o\u2019n pwrpasau canolog yw bod yn annibynnol ar y llywodraeth &#8211; ond am fod yr heriau yr ydym wedi bod yn eu dadansoddi yn heriau i Gymru, ac felly mae eraill yn eu gweld nhw hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y peth calonogol yw, nid yw Cymru&#8217;n dechrau o&#8217;r dechrau deg. Mae&#8217;r pwt hwn yn nodi lle gwelwn y cysondebau mwyaf rhwng yr argymhellion rydym wedi&#8217;u cyhoeddi a rhaglen y llywodraeth newydd, gan gefnogi\u2019r ddadl bod ein sylfaen dystiolaeth yn barod i&#8217;w rhoi ar waith.<\/p>\n\n\n\n<h5 id=\"ynni\" class=\"wp-block-heading\"><a><\/a>Ynni<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r llywodraeth newydd wedi ymrwymo i Strategaeth Ynni Genedlaethol, gyda 2024 yn darged sero-net, gorfodaeth i roi prosiectau ynni adnewyddadwy mawr yn nwylo&#8217;r gymuned, Cronfa Cyfoeth Cymru fydd yn cael cyfran o elw ynni adnewyddadwy, a blaenoriaeth i ddatganoli Yst\u00e2d y Goron ar y diwrnod cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth ein hadroddiad 2023, <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/preparing-wales-for-a-renewable-energy-2050\/\">Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050<\/a>, bron union yr un dadleuon. Fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i greu gweledigaeth ar gyfer ynni hyd at 2050 a Strategaeth a Chynllun Gweithredu i gyd-fynd \u00e2 hi. Fe wnaethom argymell deddfwriaeth i alluogi rhoi prosiectau ynni adnewyddadwy yn nwylo cymunedol. Ac fe wnaethom ddadlau o blaid datganoli swyddogaethau Yst\u00e2d y Goron yng Nghymru i gorff newydd gydag ailfuddsoddi&#8217;r holl refeniw yng Nghymru yn brif nod iddo.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaethom hefyd nodi&#8217;r rhwystrau ymarferol y bydd angen eu chwalu er mwyn gwireddu&#8217;r uchelgeisiau hyn: system gynllunio a chydsynio sy&#8217;n rhy araf, cynllun grid nad yw wedi cadw i fyny ag uchelgais y polisi, a hawliau datblygu a ganiateir sy&#8217;n creu rhwystrau diangen i brosiectau cynhyrchu adnewyddadwy bach. Mae ein <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/asesiadseilwaithcymru26\/\">Asesiad Seilwaith Cymru 2026<\/a> (WIA26), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn ategu hyn oll, ac yn nodi bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i osod llinellau trydan dan ddaear yn gwrthdaro \u00e2&#8217;r dystiolaeth ynghylch ymarferoldeb a chost. Bydd hyn yn rhywbeth y bydd angen i&#8217;r weinyddiaeth newydd ei ystyried yn ofalus.<\/p>\n\n\n\n<h5 id=\"llifogydd\" class=\"wp-block-heading\"><a><\/a>Llifogydd<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r llywodraeth newydd yn cynnig Fforwm Gwydnwch a Pharodrwydd rhag Llifogydd, strategaethau dalgylch rhanbarthol, canolfannau gwydnwch mewn cymunedau mewn perygl, dull rheoli ar sail dalgylch cyfan sy&#8217;n ymgorffori atebion sy&#8217;n seiliedig ar natur, a strategaeth genedlaethol 30 mlynedd ar gyfer gwydnwch rhag llifogydd ac erydiad arfordirol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hadroddiad yn 2024, <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/building-resilience-to-flooding-in-wales-by-2050\/\">Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050<\/a>, yn adlewyrchu&#8217;r uchelgais hon, gan argymell Comisiynydd D\u0175r gyda&#8217;r pwerau i wneud i&#8217;r cyfan ddigwydd. Mae&#8217;r Papur Gwyrdd ar reoleiddio&#8217;r sector d\u0175r yn gyfle i ail-lunio&#8217;r ffordd y gall y sector d\u0175r weithio er lles cymunedau a Natur. Mae ein tystiolaeth yn ychwanegu agwedd bwysig y mae&#8217;r maniffesto hefyd wedi&#8217;i chodi: effeithiau llifogydd ar iechyd meddwl a lles cymunedau, a phwysigrwydd trafod \u00e2&#8217;r gymuned wrth ddatblygu gwydnwch go iawn i wrthsefyll llifogydd, yn hytrach na dim ond adeiladu amddiffynfeydd ffisegol.<\/p>\n\n\n\n<h5 id=\"natur\" class=\"wp-block-heading\"><a><\/a>Natur<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r llywodraeth newydd yn cynnig Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol newydd, targedau bioamrywiaeth sy&#8217;n rhwymo&#8217;n gyfreithiol, a chorff newydd, Yst\u00e2d Natur Cymru, i ysgogi adfer natur yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein rhaglen <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/project-nature-on-the-board\/\">Naur wrth y Bwrdd<\/a> , a gwblhawyd eleni, yn mynd i&#8217;r afael yn uniongyrchol \u00e2 sut i wneud yn si\u0175r bod sefydliadau&#8217;n ystyried buddiannau natur wrth wneud eu penderfyniadau. Mae ein peilot Gwarchodwr Natur, sy&#8217;n gosod eiriolwyr dros natur ar fyrddau sefydliadau perthnasol, wedi esgor ar astudiaeth achos sy&#8217;n rhoi tystiolaeth ymarferol o&#8217;r hyn sy&#8217;n gweithio. Fe wnaethom ddilyn strategaeth o &#8216;ddysgu yng ngolwg pawb&#8217;, gan gyhoeddi cyfres o ddogfennau ar ein taith, a rhannu&#8217;r hyn a ddysgwyd mewn cyfarfod mawr ym mis Ionawr 2026. Dyma&#8217;r blociau adeiladu y gallwn adeiladu Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol newydd ac Yst\u00e2d Natur Cymru arnyn nhw, ac rydym yn hapus i rannu popeth yr ydym wedi&#8217;i ddysgu.<\/p>\n\n\n\n<h5 id=\"gweithredu-ar-yr-hinsawdd-a-chymunedau\" class=\"wp-block-heading\"><a><\/a>Gweithredu ar yr hinsawdd a chymunedau<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni fydd amddiffynfeydd ffisegol ar eu pen eu hunain yn ddigon i Gymru allu gwrthsefyll yr effeithiau. Dyna ddadl ganolog ein hadroddiad 2025, <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/stormberffaith\/\">Storm berffaith: addasu i\u2019r hinsawdd ac ennyn ymgysylltiad cymunedau<\/a>, ac mae maniffesto\u2019r llywodraeth newydd yn ategu ei bwyslais ar ganolfannau gwydnwch, cyfraniad cymunedau at gynllunio rhag llifogydd, a chymorth iechyd meddwl i gymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn Storm Berffaith, ystyrir sut mae cymunedau ledled Cymru yn profi effeithiau&#8217;r newid yn yr hinsawdd, ac yn ymateb iddynt, hynny yn bennaf trwy edrych ar lifogydd. Gwelsom nad yw&#8217;r agweddau dynol ar addasu i&#8217;r hinsawdd yn cael digon o flaenoriaeth. Eir i drafod \u00e2 chymunedau yn aml wedi i&#8217;r penderfyniadau gael eu gwneud yn hytrach nag wrth wneud penderfyniadau. Dro ar \u00f4l tro, mae diffyg dealltwriaeth o gost llifogydd ar iechyd meddwl a lles a phrin yw&#8217;r adnoddau i&#8217;r perwyl hwn. A&#8217;r mudiadau gwirfoddol a chymunedol sy&#8217;n gwneud y gwaith rheng flaen pwysicaf a nhw sy&#8217;n cael eu hariannu leiaf a\u2019u sefyllfa yw\u2019r mwyaf bregus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yr adroddiad yn dadlau&#8217;n gryf o blaid ymgysylltu ystyrlon buan a pharhaus \u00e2 chymunedau, gan ei weld fel amod i allu addasu\u2019n effeithiol i&#8217;r hinsawdd. Fe wnaethom hefyd gynhyrchu Pecyn Cymorth ymarferol ar gyfer Ymgysylltu \u00e2&#8217;r Gymuned ar Newid yn yr Hinsawdd, sy&#8217;n adnodd y gall awdurdodau lleol, partneriaethau gwydnwch a grwpiau cymunedol ei ddefnyddio ar unwaith. Gallai&#8217;r canolfannau gwydnwch y mae&#8217;r llywodraeth newydd yn eu cynnig fod yn gyfrwng ardderchog i roi&#8217;r ffordd hon o weithio ar waith ar raddfa fawr.<\/p>\n\n\n\n<h5 id=\"asesiad-o-seilwaith-cymru\" class=\"wp-block-heading\"><a><\/a>Asesiad o Seilwaith Cymru<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn sail i&#8217;r holl them\u00e2u hyn mae pwynt mwy sylfaenol. Mae&#8217;r llywodraeth newydd wedi ymrwymo i bolisi sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth, cynllunio cyllidebau ar gyfer yr hirdymor, a gwario arian cyhoeddus mewn ffordd integredig. Ein <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/asesiadseilwaithcymru26\/\">Asesiad Seilwaith Cymru 2026<\/a> yw&#8217;r llinell sylfaen annibynnol, draws-sectorol gyntaf o&#8217;r seilwaith sydd ei angen ar gyfer y sectorau ynni, d\u0175r, trafnidiaeth, cysylltedd digidol a&#8217;r economi gylchol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dadansoddiad trawsbynciol yr Asesiad yn nodi hefyd y rhwystrau systemig sydd wedi atal darparu&#8217;r seilwaith: polisi hirdymor anghyson, cynllunio tameidiog, ansicrwydd ariannu, bylchau sgiliau a diffyg integreiddio ar draws y llywodraeth. Dyma&#8217;r union broblemau strwythurol y bydd angen i&#8217;r llywodraeth newydd fynd i&#8217;r afael \u00e2 nhw os yw am wireddu ei rhaglen ar lawr gwlad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dadl economaidd yma hefyd, ac mae&#8217;n un y mae agenda fenter y llywodraeth newydd yn dadlau drosti. Buddsoddi mewn seilwaith yw un o&#8217;r sbardunau mwyaf effeithiol ar gyfer ysgogi twf, creu swyddi \u00e2 chyflog da ac ennyn hyder buddsoddwyr. Mae gwaith NICW yn ymdrin yn uniongyrchol \u00e2&#8217;r uchelgais o greu economi Gymreig sydd \u00e2 sgiliau da ac sy&#8217;n wydn. Yn ogystal, gweledigaeth hirdymor glir ar gyfer seilwaith, fel yr un y mae WIA26 yn ei chefnogi, yw un o&#8217;r arwyddion cryfaf y gall Cymru ei anfon i ddarpar fuddsoddwyr fod y wlad yn lle difrif, sefydlog i wneud busnes ynddi.<\/p>\n\n\n\n<h5 id=\"yn-barod-i-gefnogi\" class=\"wp-block-heading\"><a><\/a>Yn barod i gefnogi<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae NICW yn bodoli i roi cyngor annibynnol, hirdymor, sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth ar anghenion seilwaith Cymru. Mae&#8217;r gwaith yr ydym wedi&#8217;i gynhyrchu dros y pedair blynedd diwethaf ar ynni, llifogydd, natur, addasu i&#8217;r hinsawdd ac ymgysylltu, a nawr ar y seilwaith cyfan, ar gael, yn gyfredol ac yn berthnasol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Edrychwn ymlaen at weithio gyda&#8217;r llywodraeth newydd, ac at chwarae ein rhan i droi tystiolaeth yn weithredu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Delwedd gan\u00a0<a href=\"https:\/\/pixabay.com\/users\/tidy-41218\/?utm_source=link-attribution&amp;utm_medium=referral&amp;utm_campaign=image&amp;utm_content=175316\">marian<\/a>\u00a0o\u00a0<a href=\"https:\/\/pixabay.com\/\/?utm_source=link-attribution&amp;utm_medium=referral&amp;utm_campaign=image&amp;utm_content=175316\">Pixabay<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n<p><!-- \/wp:post-content --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llywodraeth Newydd: Cyfleoedd Newydd Mae gan Gymru lywodraeth newydd. Yn sgil etholiad y Senedd ar 7 Mai, cawsom weinyddiaeth newydd, sydd wedi gwneud ei bwriad yn glir i roi lle canolog i annibyniaeth ynni, gwydnwch rhag llifogydd, adfer natur a buddsoddi tymor hir mewn seilwaith. I&#8217;r rheini sydd wedi bod yn dilyn gwaith NICW dros [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9510,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"activitypub_content_warning":"","activitypub_content_visibility":"","activitypub_max_image_attachments":3,"activitypub_interaction_policy_quote":"anyone","activitypub_status":"federated","footnotes":""},"categories":[150,135,133,132,363,134,362,131],"tags":[],"class_list":["post-9520","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-amgylchedd","category-barn","category-deddfwriaeth","category-grid-cy","category-net-zero","category-prosiectau-cscc","category-renewable-energy","category-seilwaith"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9520","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9520"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9520\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9532,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9520\/revisions\/9532"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9510"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9520"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9520"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9520"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}