{"id":5548,"date":"2024-10-17T08:00:01","date_gmt":"2024-10-17T07:00:01","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/?p=5548"},"modified":"2024-10-16T20:54:04","modified_gmt":"2024-10-16T19:54:04","slug":"floodreportlaunch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/10\/17\/floodreportlaunch\/","title":{"rendered":"Cyhoeddi Adroddiad Llifogydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull is-light\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2560\" height=\"1707\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-5567\" alt=\"\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/porthcawl-scaled.avif\" data-object-fit=\"cover\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/porthcawl-scaled.avif 2560w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/porthcawl-300x200.avif 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/porthcawl-1024x683.avif 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/porthcawl-768x512.avif 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/porthcawl-1536x1024.avif 1536w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/porthcawl-2048x1366.avif 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center has-large-font-size wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\" id=\"adroddiad-newydd-y-comisiwn-yn-nodi-sut-i-feithrin-gallu-cymru-i-wrthsefyll-llifogydd\"><strong><strong>Adroddiad newydd y Comisiwn yn nodi sut i feithrin gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd&nbsp; <\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignfull is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-a1727f98 wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<div class=\"wp-block-columns alignfull is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-f56f613f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-content-justification-left is-layout-constrained wp-container-core-column-is-layout-c22df8bb wp-block-column-is-layout-constrained\" style=\"padding-right:0;padding-left:0;flex-basis:20%\">\n<div class=\"wp-block-group has-background is-content-justification-left is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-682a1295 wp-block-group-is-layout-constrained wp-container-1 is-position-sticky block-visibility-hide-small-screen\" style=\"background-color:#fafafa;padding-top:0px;padding-right:0px;padding-bottom:0px;padding-left:0px\"><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"border-width:1px;padding-right:var(--wp--preset--spacing--60);padding-left:var(--wp--preset--spacing--60);flex-basis:50%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Heddiw&nbsp; (17 Hydref) mae <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/floodingreport\">Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru<\/a> (CSCC) wedi cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf \u2014 <a href=\"https:\/\/flooding.nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/\">Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r adroddiad yn cynnig argymhellion beiddgar ond ymarferol i Weinidogion Cymru i ddiogelu Cymru rhag y cynnydd yn y perygl o lifogydd dros y 25+ mlynedd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda llifogydd yn bygwth un o bob saith eiddo yng Nghymru bellach, ni allai&#8217;r adroddiad fod wedi dod ar adeg bwysicach \u2014 yn enwedig a bod y ffigur hwnnw&#8217;n debygol o gynyddu fwy na thraean wrth i effeithiau newid hinsawdd waethygu a bod Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn rhybuddio nad yw Cymru&#8217;n barod am yr effeithiau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gydag 17 o argymhellion yn cael eu cynnig o fewn Fframwaith Llifogydd y Dyfodol i Gymru, mae&#8217;r adroddiad yn pwysleisio atebion naturiol ar gyfer mynd i&#8217;r afael \u00e2 hyn \u2014 rhoi lle amlwg i integreiddio natur a chymuned i feithrin gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r agwedd hon yn nodweddiadol o CSCC, corff cynghori annibynnol Cymru ar seilwaith&nbsp; \u2014 sy&#8217;n gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod ei argymhellion yn adlewyrchu anghenion y byd go iawn ac yn creu canlyniadau ymarferol sy&#8217;n cael eu gyrru&#8217;n lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Eluned Parrott, Comisiynydd arweiniol ar y prosiect: &#8220;Fel rhan o&#8217;n gwaith, gwnaethom ymweld \u00e2 rhai o&#8217;r cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn y blynyddoedd diwethaf, megis Dyffryn Conwy a Phont-y-pridd. Mae&#8217;r effeithiau wedi bod yn enbyd, ond fe ddysgon ni hefyd nad yw&#8217;r cymunedau hyn yn fodlon diodde&#8217;n dawel a&#8217;u bod yn barod i weithredu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Yn fwy na hynny, dros y deunaw mis y buon ni&#8217;n gweithio ar y prosiect hwn, daeth yn fwyfwy amlwg nad trwy &#8220;goncrido&#8221; y gallwn gael gwared ar y risgiau a wynebwn. Mae&#8217;n rhaid inni fabwysiadu atebion mwy cyfannol, sy&#8217;n adfer gallu&#8217;r amgylchedd naturiol i storio d\u0175r ym mlaenau dalgylchoedd afonydd, ac sy&#8217;n rhoi&#8217;r grym i gymunedau allu gweithredu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r perwyl hwnnw, mae&#8217;r adroddiad yn rhestru&#8217;r argymhellion mewn pedwar prif gategori: <em>Llywodraethu, Strwythurau<\/em> <em>a<\/em> <em>Pholisi; Cydweithio, Partneriaethau a Chymuned<\/em>; <em>Cyllid a Chapasiti<\/em>; ac <em>Ymwybyddiaeth, Sgiliau a Data<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I grynhoi, i ysgogi cydweithredu rhanbarthol mae&#8217;r adroddiad yn argymell gweithredu ar sail dalgylch a chael cymunedau lleol i gyfrannu&#8217;n uniongyrchol at benderfyniadau ynghylch llifogydd &#8211; trwy fentrau fel Rheithgor Dinasyddion a Fforwm Cydnerthedd D\u0175r newydd i Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar yr ochr lywodraethu, mae&#8217;r adroddiad yn galw am benodi Comisiynydd D\u0175r a chreu strategaeth 30 mlynedd ar gyfer gwrthsefyll llifogydd i sbarduno atebion arloesol ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn hybu ymwybyddiaeth a sgiliau, mae&#8217;r adroddiad yn awgrymu bod addasu i&#8217;r hinsawdd yn cael ei gynnwys yng nghwricwlwm ysgolion Cymru a bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar lefel rhanbarth ar gyfer gwrthsefyll llifogydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn olaf, er mwyn gwella cyllid a chapasiti, mae&#8217;n argymell arallgyfeirio ffynonellau ariannu a bod Llywodraeth Cymru&#8217;n cyflwyno cymhorthdal i helpu perchnogion tai i fuddsoddi mewn mesurau i wrthsefyll llifogydd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Dr Eurgain Powell, Comisiynydd Arweiniol: \u201cEr y gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl, mae lefel yr ymwybyddiaeth am berygl llifogydd, sut i gael gafael ar wybodaeth, a pha gamau y mae angen i lywodraeth leol a phobl go iawn eu cymryd i ymateb i lifogydd, yn dal i fod yn isel iawn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;I ddatrys hyn, mae ein gwaith wedi dangos bod angen gweithio mewn ffordd wahanol \u2014 ffordd sy&#8217;n gweithio gyda phobl a natur i sbarduno newid go iawn. Yn y pen draw, credwn y bydd llwyddiant yn cael ei yrru gan gyfathrebu da, rhannu cyfrifoldebau a chael llywodraeth, busnesau a chymunedau i ddeall maint yr argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau&#8217;r adroddiad hwn yn grymuso cymunedau leisio a gweithredu ar eu dyfodol eu hunain gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru \u2014 i sicrhau dyfodol cadarn, deinamig a thoreithiog ar gyfer cenedlaethau i ddod.&#8221; Darllen yr adroddiad llawn <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/floodingreport\">yma<\/a>.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size wp-block-paragraph\">Llun gan <a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/a-large-wave-hitting-a-lighthouse-on-a-stormy-day-j-ukn6RzOFo\">Marcus Woodbridge<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Adroddiad newydd y Comisiwn yn nodi sut i feithrin gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd&nbsp; Heddiw&nbsp; (17 Hydref) mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) wedi cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf \u2014 Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050. Mae&#8217;r adroddiad yn cynnig argymhellion beiddgar ond ymarferol i Weinidogion Cymru i ddiogelu Cymru rhag y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":5567,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"wp-custom-template-long-document","format":"standard","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"activitypub_content_warning":"","activitypub_content_visibility":"","activitypub_max_image_attachments":3,"activitypub_interaction_policy_quote":"anyone","activitypub_status":"federated","footnotes":""},"categories":[150,134],"tags":[196],"class_list":["post-5548","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-amgylchedd","category-prosiectau-cscc","tag-llifogydd"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5548","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5548"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5548\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5574,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5548\/revisions\/5574"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5567"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5548"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5548"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5548"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}