{"id":540,"date":"2022-03-22T15:22:40","date_gmt":"2022-03-22T15:22:40","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/2022\/03\/22\/ceisiadau-ar-gyfer-comisiynydd-cscc-nawr-ar-agor\/"},"modified":"2023-08-04T14:38:52","modified_gmt":"2023-08-04T13:38:52","slug":"ceisiadau-ar-gyfer-comisiynydd-cscc-nawr-ar-agor","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2022\/03\/22\/ceisiadau-ar-gyfer-comisiynydd-cscc-nawr-ar-agor\/","title":{"rendered":"Ceisiadau ar gyfer Comisiynydd CSCC ar agor"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae seilwaith o\u2019n cwmpas i gyd, o&#8217;r eiliad rydyn ni\u2019n deffro hyd at ein bod yn cysgu, ac o&#8217;r crud i&#8217;r bedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y rhan fwyaf o&#8217;r amser nid ydyn ni\u2019n ymwybodol ohono, gan ei fod yn gweithio. Dim ond pan na fydd yn gweithio mwyach ydyn ni\u2019n dod yn boenus o ymwybodol o ba mor ddibynnol ydyn ni ar bethau bywyd bob dydd. D\u0175r gl\u00e2n, trydan, gwres, mynediad i&#8217;r rhyngrwyd. Ein ffyrdd a&#8217;n rheilffyrdd, ysbytai a thai. Rydyn ni\u2019n rhyngweithio \u00e2 seilwaith gymaint, rydyn ni bron yn ei gymryd yn ganiataol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydyn ni hefyd yn dechrau deall faint o fanteision y mae ein seilwaith naturiol yn ei roi i ni &#8216;am ddim&#8217;; rydyn ni\u2019n anwybyddu&#8217;r manteision hyn er gwaetha\u2019r modd. Mae&#8217;r dystiolaeth sy&#8217;n dangos gwerth natur, a&#8217;r effeithiau y mae gweithgarwch dynol yn eu cael ar ecosystemau lleol a byd-eang, yn amlinellu pwysigrwydd natur i&#8217;n lles cymdeithasol ac economaidd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-video\"><video height=\"720\" style=\"aspect-ratio: 1280 \/ 720;\" width=\"1280\" controls src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Recruitment.webm\"><\/video><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng natur a hinsawdd, ac, fel Cadeirydd <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/\">Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru<\/a>, hoffwn eu defnyddio fel yr egwyddorion cyffredinol ar gyfer ein gweithgarwch yn ystod y tair blynedd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf hefyd am i&#8217;r Comisiwn flaenoriaethu gwneud Cymru\u2019n Decach fel rhan o&#8217;n cylch gwaith, rhywbeth sydd wedi&#8217;i ymgorffori yng nghylch gwaith cyrff y sector cyhoeddus drwy&#8217;r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a&#8217;i ymgorffori fel Nod Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol. Yn aml, mae manteision seilwaith yn cael eu cipio&#8217;n rhwydd gan y bobl gyfoethocaf mewn cymdeithas; hoffwn i&#8217;r Comisiwn ystyried sut y gellir defnyddio seilwaith er mwyn i helpu i wella bywydau dinasyddion a chymunedau tlotaf Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddar, <a href=\"https:\/\/www.ipcc.ch\/2022\/02\/28\/pr-wgii-ar6\/\">cyhoeddodd yr IPCC ei asesiad diweddaraf<\/a> o&#8217;r bygythiad sy\u2019n wynebu dynoliaeth, a&#8217;r byd naturiol, gan yr argyfwng hinsawdd sydd wedi&#8217;i achosi gan weithgarwch dynol. Mae&#8217;r asesiad yn glir; mae angen i ni wneud llawer mwy, a chyda llawer mwy o frys, i atal y canlyniadau gwaethaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r asesiad hwn yn amlinellu pwysigrwydd a gwerth dull hirdymor iawn o ymdrin \u00e2 seilwaith. Bydd angen i ni gymryd y dystiolaeth orau bosibl o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn deall y ffordd orau i wasanaethau hanfodol Cymru addasu i&#8217;r cynnydd anochel mewn llifogydd, erydu arfordirol, tanau gwyllt a sychder.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae bodolaeth Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn dyst i natur hanfodol y sector i&#8217;n bywydau bob dydd. Mae cyfle nawr i chi ymuno \u00e2 mi ar y Comisiwn, er mwyn helpu i lunio&#8217;r cyngor annibynnol, hirdymor a ddarparwn i Lywodraeth Cymru am seilwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydyn ni\u2019n chwilio am Ddirprwy Gadeirydd, a chwe Chomisiynydd newydd. Nid oes rhaid i chi gael profiad bwrdd blaenorol i wneud cais. Nid oes rhaid i chi weithio mewn sector seilwaith &#8216;traddodiadol&#8217; o reidrwydd. Ond byddwch yn angerddol am r\u00f4l seilwaith o ran gwella lles pobl ac ecosystemau Cymru. Byddwch heb ofn wrth herio uniongrededd a &#8216;busnes fel arfer&#8217; mewn ffordd gwrtais, ac i gael eich herio gan gr\u0175p o gyfoedion brwdfrydig iawn. Byddwch yn gyfforddus yn camu allan o&#8217;ch parth cysur proffesiynol, ac yn chwilfrydig i ddysgu gan eraill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y Comisiwn yn cynrychioli amrywiaeth lawn cymunedau Cymru, i&#8217;r graddau y mae ein niferoedd yn caniat\u00e1u. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan bobl nad ydynt yn cael eu cynrychioli cystal ar y lefel o wneud penderfyniadau, megis y rhai ag anableddau (gweladwy neu anweledig), pobl ifanc a&#8217;r rhai o gefndiroedd ethnig amrywiol. Byddwn hefyd yn gwerthfawrogi carfan ddaearyddol amrywiol o ymgeiswyr, er mwyn elwa ar yr amrywiaeth gyfoethog o brofiadau a dealltwriaeth sy&#8217;n deillio o brofiad byw ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os hoffech wneud cais i ymuno \u00e2&#8217;r Comisiwn, llenwch y ffurflen gais <a href=\"https:\/\/cymru-wales.tal.net\/vx\/lang-cy\/mobile-0\/appcentre-3\/brand-2\/xf-e0aa6b52eaf4\/candidate\/jobboard\/vacancy\/7\/adv\/\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae seilwaith o\u2019n cwmpas i gyd, o&#8217;r eiliad rydyn ni\u2019n deffro hyd at ein bod yn cysgu, ac o&#8217;r crud i&#8217;r bedd. Y rhan fwyaf o&#8217;r amser nid ydyn ni\u2019n ymwybodol ohono, gan ei fod yn gweithio. Dim ond pan na fydd yn gweithio mwyach ydyn ni\u2019n dod yn boenus o ymwybodol o ba mor [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":535,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"activitypub_content_warning":"","activitypub_content_visibility":"","activitypub_max_image_attachments":3,"activitypub_interaction_policy_quote":"anyone","activitypub_status":"","footnotes":""},"categories":[136,152],"tags":[189,214],"class_list":["post-540","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-recriwtio","category-y-comisiwn","tag-comisiynwyr","tag-recriwtio"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/540","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=540"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/540\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":558,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/540\/revisions\/558"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/535"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=540"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=540"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=540"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}