{"id":5013,"date":"2024-07-05T14:09:55","date_gmt":"2024-07-05T13:09:55","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/?p=5013"},"modified":"2024-07-09T15:00:15","modified_gmt":"2024-07-09T14:00:15","slug":"tu-hwnt-ir-grid-tuag-at-system-drydan-ddatgarboneiddio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/07\/05\/tu-hwnt-ir-grid-tuag-at-system-drydan-ddatgarboneiddio\/","title":{"rendered":"Tu hwnt i&#8217;r grid \u2013 tuag at system drydan ddatgarboneiddio"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-33638a91 wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Nick Tune, un o&#8217;r dau Comisiynydd sy wedi arwain gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar Ynni Adnewyddadwy, yn s\u00f4n am ddyfodol system y grid trydan yng Nghymru.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar 19 Mawrth 2024, rhyddhaodd Gweithredwr Systemau Ynni&#8217;r Grid Cenedlaethol (ESO) y ddogfen &#8220;<a href=\"https:\/\/www.nationalgrideso.com\/document\/304756\/download\">Beyond 2030: A National Blueprint for a Decarbonized Electricity System in Great Britain.<\/a>&#8221; Mae&#8217;r cyhoeddiad hwn yn un arwyddocaol iawn i Gymru ac i bobl ledled y DU oherwydd ei fod yn amlinellu strategaethau i ddarparu ar gyfer cynnydd o 64% yn y galw am drydan erbyn 2035.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae uwchraddio&#8217;r grid yn ffordd allweddol o hwyluso gwaith i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, sy&#8217;n hanfodol er mwyn sicrhau y bydd y DU yn sero net erbyn 2050. O ran Cymru yn benodol, gallai&#8217;r grid fod naill ai&#8217;n rhwystr neu&#8217;n sbardun i gyrraedd y nod uchelgeisiol o gynhyrchu 100% o&#8217;n hynni <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cymrun-anelu-gwrdd-100-oi-hanghenion-trydan-o-ffynonellau-adnewyddadwy-erbyn-2035?_gl=1*1y4vm0s*_ga*NzI5NTA3MTM3LjE3MDczMDExOTg.*_ga_L1471V4N02*MTcyMDE4NTQxOS40My4wLjE3MjAxODU0MTkuMC4wLjA.\">mewn ffyrdd adnewyddadwy erbyn 2035<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O safbwynt cenedlaethol, mae adroddiad y Gweithredwr Systemau Ynni, a&#8217;r cynlluniau sy&#8217;n gysylltiedig ag ef, yn gwbl gwbl angenrheidiol. Maen nhw&#8217;n meithrin hyder yn y sector ynni, ac yn ei ysgogi i ddechrau ar waith cynllunio hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer y cynlluniau cynhyrchu ynni sero net sy&#8217;n gwbl hanfol er mwyn inni fedru rhoi&#8217;r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond wedi dweud hynny, mae cryn her yn wynebu Cymru o ran datblygu&#8217;r seilwaith grid sydd ei angen er mwyn cyrraedd ei tharged o gynhyrchu 100% o&#8217;i thrydan mewn ffyrdd adnewyddadwy erbyn 2035. Yr hyn sydd i gyfrif am hynny yw&#8217;r ffaith nad oes gennym ddigon o seilwaith grid ar draws y wlad ar hyn o bryd.&nbsp; I roi dwy enghraifft yn unig \u2012 nid oes seilwaith o&#8217;r fath ar gael yng Nghanolbarth Cymru (lle bwriedir mynd ati i godi datblygiadau gwynt mawr ar y tir), ac mae diffyg cysylltedd rhwng Gogledd a De Cymru. Mae angen cysylltiad gwell rhwng De Cymru a&#8217;r fferm wynt arnofiol arfaethedig yn y M\u00f4r Celtaidd oddi ar arfordir De-orllewin Cymru, ac mae angen cryn waith uwchraddio ar hyd coridor De Cymru er mwyn trosglwyddo&#8217;r ynni a fydd yn cael ei gynhyrchu yn y M\u00f4r Celtaidd. Mae angen gwelliannau mawr hefyd er mwyn trydaneiddio Gwaith Dur Port Talbot.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan fod angen gwneud yr holl waith hwn i uwchraddio&#8217;r grid, mae&#8217;r diffyg manylion penodol yng nghynlluniau Gweithredwr Systemau Ynni&#8217;r Grid Cenedlaethol yn destun pryder. Mae diffyg amlwg yn y cynllun o ran ymrwymo i seilwaith ychwanegol y tu hwnt i&#8217;r hyn a argymhellwyd yn y gorffennol, er enghraifft,&nbsp; cynnydd cyfyngedig mewn foltedd ac uwchraddio&#8217;r rhwydwaith presennol yng Ngogledd Cymru, ynghyd \u00e2 chysylltiad gorllewinol arfaethedig ar y m\u00f4r o&#8217;r Alban i Gymru. Er bod y ddogfen yn cydnabod bod angen cysylltiad newydd rhwng&nbsp; Gogledd a De Cymru er mwyn datblygu ynni adnewyddadwy yn y Canolbarth, prin yw&#8217;r manylion. Yn ogystal, mae&#8217;r ddogfen yn s\u00f4n am gysylltiad grid \u00e2&#8217;r datblygiadau gwynt arnofiol arfaethedig yn y M\u00f4r Celtaidd, ond ni phenderfynwyd eto a fydd y cysylltiad hwnnw&#8217;n mynd drwy Orllewin Cymru neu Ogledd Dyfnaint.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y mater y mae angen mynd i&#8217;r afael ag ef ar fyrder yw&#8217;r ffaith nad oes cynlluniau pendant i uwchraddio&#8217;r grid rhwng Gogledd a De Cymru. Mae angen mynd ati ar fyrder i wella capasiti yng Nghanolbarth Cymru er mwyn hwyluso gwaith i ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y tir, ac mae De Cymru yn ymgodymu \u00e2 thagfeydd yn y grid. Un ateb posibl yw cyfeirio&#8217;r cysylltiad \u00e2&#8217;r M\u00f4r Celtaidd drwy Dde-orllewin Cymru, gan olygu y byddai modd gwneud gwaith cynhwysfawr i uwchraddio grid De Cymru, a rhyddhau mwy o gapasiti&nbsp; i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled De Cymru. Fodd bynnag, mae&#8217;r diffyg gwybodaeth fanwl yn golygu y bydd cyrraedd y targedau ynni adnewyddadwy yn fwy o her wrth i bob mis fynd heibio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"752\" height=\"635\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Picture1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-4987\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Picture1.png 752w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Picture1-300x253.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 752px) 100vw, 752px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Map o waith atgyfnerthu y mae&#8217;r Gweithredwr Systemau Ynni yn bwriadu&#8217;i wneud yng Nghymru <a href=\"https:\/\/www.nationalgrideso.com\/document\/304756\/download\">lawrlwytho (nationalgrideso.com)<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2023 argymhellodd CSCC y dylai Llywodraeth Cymru <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/paratoi-cymru-ar-gyfer-ynni-adnewyddadwy\/#crynodeb-o-n-hargymhellionhttps:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/paratoi-cymru-ar-gyfer-ynni-adnewyddadwy\/%23crynodeb-o-n-hargymhellion\">fabwysiadu dull strategol o ddatblygu ynni i gynnwys seilwaith grid<\/a>. Gwnaeth CSCC ddau argymhelliad ychwanegol yn benodol ar gyfer y grid, un ar gyfer Ofgem a\u2019r llall ar gyfer Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddai gweithredu&#8217;r argymhellion hyn yn rhoi mwy o eglurder o ran angen ac amserlenni, gan rymuso sefydliadau&#8217;r sector cyhoeddus a&#8217;r sector preifat i weithio tuag at gyrraedd targedau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Delwedd: Amy Taylor<\/p>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nick Tune, un o&#8217;r dau Comisiynydd sy wedi arwain gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar Ynni Adnewyddadwy, yn s\u00f4n am ddyfodol system y grid trydan yng Nghymru. Ar 19 Mawrth 2024, rhyddhaodd Gweithredwr Systemau Ynni&#8217;r Grid Cenedlaethol (ESO) y ddogfen &#8220;Beyond 2030: A National Blueprint for a Decarbonized Electricity System in Great Britain.&#8221; Mae&#8217;r cyhoeddiad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":5055,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"activitypub_content_warning":"","activitypub_content_visibility":"","activitypub_max_image_attachments":3,"activitypub_interaction_policy_quote":"anyone","activitypub_status":"federated","footnotes":""},"categories":[130,132,131],"tags":[199,217],"class_list":["post-5013","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gohebiaeth","category-grid-cy","category-seilwaith","tag-grid-cy","tag-nick-tune-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5013","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5013"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5013\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5053,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5013\/revisions\/5053"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5055"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5013"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5013"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5013"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}