{"id":4515,"date":"2024-06-24T11:57:18","date_gmt":"2024-06-24T10:57:18","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/?p=4515"},"modified":"2024-06-24T11:58:13","modified_gmt":"2024-06-24T10:58:13","slug":"future-essays","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/06\/24\/future-essays\/","title":{"rendered":"Traethodau seilwaith y dyfodol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-group alignfull has-source-serif-pro-font-family is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\" style=\"font-style:normal;font-weight:400\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-0511fa1e wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8e83a95e wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:20%\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained wp-container-1 is-position-sticky block-visibility-hide-small-screen\">\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<nav aria-label=\"Table of Contents\" class=\"wp-block-table-of-contents has-background\" style=\"background-color:#f4f4f4\"><ol><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/06\/24\/future-essays\/#hynafiaid-da\">Hynafiaid da<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/06\/24\/future-essays\/#y-tymor-hir\">Y tymor hir<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/06\/24\/future-essays\/#yr-adolygiad-ffyrdd\">Yr Adolygiad Ffyrdd<\/a><\/li><\/ol><\/nav>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ysgrifennwyd y blogbost personol hwn gan David Clubb fel cyflwyniad i gyfres o draethodau am seilwaith yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/\">Darllenwch y traethodau<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"hynafiaid-da\">Hynafiaid da<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ei lyfr <em>The Good Ancestor<\/em>, mae Roman Krznaric yn disgrifio\u2019r cwestiwn a godwyd gan aelod o\u2019r t\u00eem a ddatblygodd frechlyn rhag polio. Gofynnodd Jonas Salk: \u2018Are we being good ancestors?\u2019<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn byd sydd, i bob golwg, yn troi o amgylch natur ddisyfyd gwybodaeth, a ddaw o bob cwr o\u2019r byd ac sydd ar gael ar unwaith ar ddyfeisiau sydd ar flaenau ein bysedd drwy\u2019r amser, mae ein sylw yn aml wedi\u2019i hoelio\u2019n ddiarbed ar y presennol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ac eto yng Nghymru o leiaf, dylem fod wrthi\u2019n gwneud pethau\u2019n wahanol. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol a weithredwyd yn 2015, mae\u2019n ofynnol i gyrff cyhoeddus ddilyn \u2018Ffyrdd o Weithio\u2019. Un o\u2019r rhain yw \u2018meddwl yn y tymor hir\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn achosi cryn densiwn; mae llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, ar \u00f4l mwy na degawd o gyni cyllidol, o bosibl yn canolbwyntio\u2019n dactegol ar y sefyllfa bresennol mewn ymateb i broblemau dilys a dybryd mewn perthynas \u00e2 darparu gwasanaethau. Pam y byddai rhywun yn poeni am fyd 80 mlynedd yn y dyfodol, a ninnau o dan rwymedigaethau statudol sydd i\u2019w cyflawni heddiw, yfory a\u2019r wythnos nesaf? Efallai y bydd dull gweithredu strategol yn defnyddio safbwynt hirdymor i helpu i lunio, a gwella o bosibl, benderfyniadau tactegol angenrheidiol y presennol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"y-tymor-hir\">Y tymor hir<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru mewn sefyllfa unigryw o bosibl yng nghyd-destun llinell amser o syniadaeth. Mae ein cylch gorchwyl yn ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried anghenion seilwaith Cymru o fewn 5 i 80 mlynedd yn y dyfodol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r terfyn amser hwn yn achosi heriau. Yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol rydym wedi cael anhawster i ddatblygu, neu fabwysiadu, fframwaith ar gyfer ein gwaith \u2018at y dyfodol\u2019 ein hunain. Sut y gallwn ddychmygu beth fyddai anghenion rhywun a anwyd yn 2104, er enghraifft? Byddai\u2019n debyg i ofyn i rywun yn 1945 ddychmygu anghenion seilwaith 2025, a\u2019i gael i gynnig argymhellion i wella ein bywydau drwy ddefnyddio technegau, syniadau a thechnolegau\u2019r oes honno.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond bydd gan bobl 2100 yr un hawl \u00e2 ninnau i fyw bywyd iach a phleserus. Nid yw\u2019r ffaith eu bod yn byw mewn oes wahanol, ymhell yn y dyfodol, yn golygu nad ydynt yr un mor werthfawr ag unrhyw un sy\u2019n byw heddiw, gan gynnwys darllennydd y frawddeg hon. Ni allaf weld unrhyw reswm athronyddol pam na ddylem ymdrechu eto i geisio gwneud penderfyniadau yn awr sy\u2019n gwarchod byd natur, yr amgylchedd a\u2019r hinsawdd, i bobl a chymunedau Cymru a fydd yn byw mewn byd sy\u2019n wynebu holl oblygiadau ein penderfyniadau \u2013 er gwell gobeithio.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"yr-adolygiad-ffyrdd\">Yr Adolygiad Ffyrdd<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Credaf, drwy arddel safbwynt hirdymor, y gall hynny helpu i wella penderfyniadau yn y byrdymor. Un enghraifft o hynny yw\u2019r Adolygiad Ffyrdd. Yn ei hymateb derbyniodd Llywodraeth Cymru yr egwyddor o ddefnyddio profion i ganiat\u00e1u adeiladu ffyrdd newydd. Mae\u2019r profion y cytunwyd arnynt yn cynnwys sicrhau mwy o newid o ran dulliau teithio, lleihau allyriadau carbon, gwella diogelwch, gwella\u2019r ffordd y caiff ffyrdd eu haddasu i\u2019r newid yn yr hinsawdd, a gwella canlyniadau economaidd drwy well cysylltedd. Mae pob un o\u2019r profion hyn yn dwyn cysylltiad \u00e2 llesiant pobl ymhell i\u2019r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddai trigolion Cymru 2100 si\u0175r o fod yn cymeradwyo\u2019r syniad o adeiladu llai o ffyrdd ond gwell ffyrdd sy\u2019n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well, ac felly sy\u2019n fwy tebygol o fod yn fuddsoddiad a fydd yn para hyd at eu realiti hwythau. I mi, mae\u2019r Adolygiad Ffyrdd yn pasio prawf \u2018hynafiad da\u2019.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y farn yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol oedd bod yr Adolygiad Ffyrdd yn gyson ar y cyfan \u00e2\u2019n fframwaith ein hunain sy\u2019n cynnwys meddwl yn y tymor hir, er bod gennym rai awgrymiadau i wella canlyniadau i fyd natur, gwella parodrwydd digidol, a defnyddio dull systemau i ymgorffori anghenion seilwaith ehangach.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae polis\u00efau fel hwn yn arwydd bod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ran meddwl yn y tymor hir yn datblygu. Hyd yn oed os nad yw\u2019r sector cyhoeddus wedi\u2019i ddarbwyllo eto am feddwl at y dyfodol, credaf fod ymarferwyr cynaliadwyedd yn dechrau gweld Cymru fel arloeswr polisi yn y DU, a thu hwnt hefyd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r casgliad hwn o draethodau yn ysbrydoledig ac yn heriol. Drwy ofyn i\u2019r cyfranwyr ddychmygu anghenion seilwaith Cymru yn y tymor hir iawn, rydym wedi gofyn iddynt fynd y tu hwnt i\u2019r hyn sy\u2019n gynefin iddynt. Yr her i ni, ac i bawb arall yng Nghymru, yw mynd y tu hwnt i\u2019r hyn sy\u2019n gynefin i ni ac i bob un ohonom ar y cyd a cheisio ystyried y \u2018ni\u2019 a fydd yn byw yma ymhell yn y dyfodol pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am heddiw. Gadewch i ni gyd ymdrechu i fod yn hynafiaid da.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" style=\"font-size:0.7rem\"><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/dCGcBi9DDG8\"><em>Photo: <\/em>David Clubb<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd y blogbost personol hwn gan David Clubb fel cyflwyniad i gyfres o draethodau am seilwaith yn y dyfodol. Hynafiaid da Yn ei lyfr The Good Ancestor, mae Roman Krznaric yn disgrifio\u2019r cwestiwn a godwyd gan aelod o\u2019r t\u00eem a ddatblygodd frechlyn rhag polio. Gofynnodd Jonas Salk: \u2018Are we being good ancestors?\u2019 Mewn byd sydd, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4469,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"activitypub_content_warning":"","activitypub_content_visibility":"","activitypub_max_image_attachments":3,"activitypub_interaction_policy_quote":"anyone","activitypub_status":"federated","footnotes":""},"categories":[135],"tags":[254,255],"class_list":["post-4515","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-barn","tag-essays-cy","tag-future-infrastructure-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4515","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4515"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4515\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4580,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4515\/revisions\/4580"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4469"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4515"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4515"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4515"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}