{"id":1852,"date":"2023-02-15T12:00:28","date_gmt":"2023-02-15T12:00:28","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/?p=1852"},"modified":"2023-08-04T13:51:22","modified_gmt":"2023-08-04T12:51:22","slug":"reviewing-roads-review","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/02\/15\/reviewing-roads-review\/","title":{"rendered":"Adolygu&#8217;r Adolygiad Ffyrdd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns alignfull is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-f56f613f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:5%\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:22.22%\">\n<div class=\"wp-block-senff-sticky-block\" data-topspace=\"20\" data-cfa=\"true\" data-minwidth=\"800\" data-maxwidth=\"99999\" data-pushup=\"\" data-zindex=\"1\">\n<nav class=\"wp-block-table-of-contents has-tertiary-background-color has-background\"><ol><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/02\/15\/reviewing-roads-review\/#ymateb-adolygiad-ffyrdd-cscc\">Ymateb Adolygiad Ffyrdd CSCC<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/02\/15\/reviewing-roads-review\/#cynllunio-a-chyllid\">Cynllunio a Chyllid<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/02\/15\/reviewing-roads-review\/#newid-hinsawdd-a-bioamrywiaeth\">Newid hinsawdd a bioamrywiaeth<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/02\/15\/reviewing-roads-review\/#heriau-rhanbarthol-a-gwledig\">Heriau rhanbarthol a gwledig<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/02\/15\/reviewing-roads-review\/#dyfodol-ffyrdd\">Dyfodol ffyrdd<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/02\/15\/reviewing-roads-review\/#awgrymiadau-cscc\">Awgrymiadau CSCC<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/02\/15\/reviewing-roads-review\/#references\">Cyfeiriadau<\/a><\/li><\/ol><\/nav>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"padding-top:var(--wp--preset--spacing--30);padding-right:var(--wp--preset--spacing--30);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--30);padding-left:var(--wp--preset--spacing--30);flex-basis:44.45%\">\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\">\n<h4 class=\"wp-block-heading\" id=\"ymateb-adolygiad-ffyrdd-cscc\">Ymateb Adolygiad Ffyrdd CSCC<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y blogbost hwn yw ein hymateb i gyhoeddiad yr Adolygiad Ffyrdd <a href=\"#references\">(1)<\/a>. Rydym hefyd yn nodi&#8217;r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol sy&#8217;n cyd-fynd ag ef <a href=\"#references\">(2)<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\" id=\"cynllunio-a-chyllid\">Cynllunio a Chyllid<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn ystyried anghenion a r\u00f4l seilwaith yng Nghymru o tua 2030-2100. Mae&#8217;r ffyrdd a ystyriwyd yn yr Adolygiad Ffyrdd yn dod o fewn yr amserlen hon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn gyffredinol, mae CSCC yn cefnogi dyheadau&#8217;r cylch gorchwyl a&#8217;r meini prawf adolygu cysylltiedig. Mae&#8217;r broses adolygu yn cyd-fynd yn fras \u00e2 fframweithiau CSCC. Fodd bynnag, mae ein hymateb yn cymryd safbwynt penodol hirdymor a \u2018chenedlaethau\u2019r dyfodol\u2019 a hoffem weld y \u2018tymor hir\u2019 yn cael mwy o bwyslais o fewn polisi a chylch gwaith Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein cylch gorchwyl a\u2019n persbectif yn ein galluogi i ofyn rhai cwestiynau mwy eang am y defmaintain and developnydd o\u2019r rhwydwaith ffyrdd yn y dyfodol y credwn sydd hefyd yn cael eu hystyried. Er enghraifft:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth yw pwrpas rhwydwaith ffyrdd Cymru, a sut mae hynny\u2019n debygol o newid yn y degawdau i ddod?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw ein gweledigaeth gyfunol ar gyfer y defnydd o ffyrdd yn y dyfodol?<\/li>\n\n\n\n<li>A fydd natur trafnidiaeth wledig yn parhau i ffafrio, a chael ei dominyddu gan, drafnidiaeth ceir preifat? Beth mae newidiadau economaidd a chymdeithasol hirdymor yn ei olygu i\u2019r ffyrdd gwledig sy\u2019n cyfrif am 78% o holl rwydwaith ffyrdd Cymru <a href=\"#references\">(3)<\/a>?&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Sut mae cynnal a datblygu seilwaith trafnidiaeth wledig sydd hefyd yn galluogi trafnidiaeth gymdeithasol a thymhorol bwysig ar gyfer sectorau fel lletygarwch a thwristiaeth?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Credwn y gall gofyn y cwestiynau eang hyn helpu i ddarparu atebion sy\u2019n ystyried yr anghenion trafnidiaeth ar gyfer pob rhan o gymdeithas Cymru ac yn caniat\u00e1u ar gyfer cynllunio ac ariannu hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\" id=\"newid-hinsawdd-a-bioamrywiaeth\">Newid hinsawdd a bioamrywiaeth<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Adolygiad Ffyrdd yn ymgorffori&#8217;r angen i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r argyfwng hinsawdd a gwella diogelwch, gyda rhai elfennau o fioamrywiaeth a&#8217;r argyfwng natur wedi&#8217;u cynnwys (gweler argymhellion 18 a 19 o&#8217;r Adolygiad Ffyrdd). Hoffem weld mwy o uchelgais ar wrthdroi\u2019r dirywiad mewn bioamrywiaeth o fentrau presennol Llywodraeth Cymru ac yn y dyfodol, a symud tuag at ddull \u2018natur gadarnhaol\u2019 o gynnal a chadw ffyrdd presennol, ac yn enwedig gydag unrhyw waith adeiladu ffyrdd newydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er enghraifft, ac yng nghyd-destun cynllunio ffyrdd ac adeiladu, a oes gan seilwaith gwyrdd r\u00f4l i\u2019w chwarae, ac a allai cysyniadau fel enillion net bioamrywiaeth ac integreiddio natur i\u2019r amgylchedd adeiledig gefnogi\u2019r rhaglen ffyrdd? Hoffai CSCC weld mwy o feddwl arloesol o ran dyrannu ffyrdd; a allai rhai ffyrdd gael eu hail-wylltio neu i gerddwyr yn unig, ac a allai hynny helpu i wrthbwyso rhai o effeithiau andwyol&nbsp;eraill y gallai fod angen eu hadeiladu?<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\" id=\"heriau-rhanbarthol-a-gwledig\">Heriau rhanbarthol a gwledig<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae CSCC wedi&#8217;i galonogi&#8217;n arbennig gan yr argymhelliad i ddefnyddio dull cydgysylltiedig amlfodd rhanbarthol lle defnyddir problemau lleol i lywio asesiad strategol o sut i gyflawni system drafnidiaeth integredig gynaliadwy. Mae\u2019n bwysig nad edrychir ar ddatblygu a chynnal ffyrdd ar ei ben ei hun ond fel rhan o system o fewn y seilwaith teithio\/llwyd, gwyrdd a glas, cymdeithasol ac economaidd ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I ddangos rhai o&#8217;r heriau, mae&#8217;r gwariant y pen ar drafnidiaeth gyhoeddus yn uwch ym Mhowys <a href=\"#references\">(4)<\/a> nag yng Nghaerdydd <a href=\"#references\">(5,6)<\/a>. Fodd bynnag, gydag ardaloedd gwledig yn llai poblog, mae\u2019n debygol bod teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn llai ymarferol ar gyfer mwy o deithiau nag yn ardaloedd trefol Cymru. Gallai defnyddio ymchwil presennol ar symudedd gwledig gefnogi cynllunio trafnidiaeth integredig yn yr ardaloedd hyn <a href=\"#references\">(7)<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\" id=\"dyfodol-ffyrdd\">Dyfodol ffyrdd<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod ansicrwydd ynghylch allyriadau carbon oes gyfan y seilwaith ffyrdd, mae\u2019n debygol bod y gweithgareddau echdynnu mwynau, adeiladu, atgyweirio a \u2018diwedd oes\u2019 yn fwy na\u2019r allyriadau carbon sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 defnyddio. <a href=\"#references\">(8)<\/a>. Gyda thwf cerbydau allyriadau isel, mae&#8217;n debygol y bydd cyfran y carbon a ollyngir gan adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd yn cynyddu wrth i&#8217;r allyriadau carbon cyffredinol o ddefnyddio&#8217;r seilwaith leihau. Gallai hyn ein harwain i roi mwy o bwyslais ar ymchwilio i ddeunyddiau amgen ar gyfer adeiladu ffyrdd a thyfu ein diwydiannau ailgylchu. Mae Cymru yn dangos rhywfaint o arloesi yn y maes hwn <a href=\"#references\">(9)<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dylid ystyried y newid yn natur perchnogaeth ceir a dulliau trafnidiaeth ar y rhwydwaith ffyrdd wrth ystyried seilwaith trafnidiaeth ar gyfer cenedlaethau\u2019r dyfodol. A fydd pobl yn prydlesu ceir, cronfa geir, yn rhentu fesul awr neu a fydd pobl yn defnyddio mathau eraill o drafnidiaeth ar y rhwydwaith ffyrdd?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn argymell, pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso cynlluniau, eu bod yn ceisio ystyried dulliau trafnidiaeth y dyfodol a sut y bydd angen i\u2019r ffordd addasu i weddu i achosion defnydd yn y dyfodol. Felly bydd angen i benderfyniadau a wneir heddiw amrywio yn dibynnu ar yr ardal leol ac yn \u00f4l gwahanol safbwyntiau technolegol, yn enwedig o safbwynt rhywun a aned yn rhan olaf y ganrif hon.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\" id=\"awgrymiadau-cscc\">Awgrymiadau CSCC<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda\u2019r uchod mewn golwg mae CSCC yn cefnogi argymhellion yr Adolygiad Ffyrdd gydag awgrymiadau ychwanegol sy\u2019n:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhaid ystyried cynlluniau ffyrdd arfaethedig gyda datblygiadau seilwaith ehangach yn y dyfodol; er enghraifft, sut mae cynllun ffyrdd newydd yn cefnogi tai yn y dyfodol, seilwaith gwyrdd a glas, cyflenwad trydan, datblygiadau economaidd a diwydiannol posibl, seilwaith cymdeithasol a chydlyniant cymunedol. Bydd mabwysiadu dull systemau datblygu cynaliadwy sy\u2019n gwireddu gweledigaeth ar gyfer Cymru yn creu gwell dealltwriaeth gan gymunedau a allai deimlo fel arall eu bod ar eu colled.<\/li>\n\n\n\n<li>Dylid gwerthuso buddsoddiadau ffyrdd yn y dyfodol ar sail dull rhanbarthol amlfodd. Mae CSCC yn cefnogi&#8217;r targedau o ostyngiad o 10% yn y defnydd o geir preifat ar gyfartaledd ledled Cymru <a href=\"#references\">(10)<\/a> yn ogystal \u00e2\u2019r targed y dylai 45% o\u2019r holl deithiau fod drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040 <a href=\"#references\">(11)<\/a>. Rydym yn cymeradwyo dull Llywodraeth Cymru o gyflawni\u2019r targedau hyn drwy gynyddu darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol gan ymgysylltu\u2019n llawn \u00e2\u2019r cymunedau yr effeithir arnynt. Wrth gydnabod gwahanol anghenion cymunedau trefol a gwledig, yr ardaloedd trefol y daw\u2019r cyfle mwyaf i leihau allyriadau carbon<br><\/li>\n\n\n\n<li>Mae rhai ymyriadau polisi yn teimlo eu bod yn cael eu targedu at ddemograffeg a all fanteisio orau ar ddefnyddio teithio llesol. Rhaid i bolisi trafnidiaeth aml-fodd ystyried anghenion, gan gynnwys anghenion seicolegol, pob gr\u0175p defnyddwyr.<br><\/li>\n\n\n\n<li>Dylid gwario cyfran o\u2019r gyllideb ffyrdd ar dechnolegau digidol megis gefeilliaid digidol, a ddefnyddir yn y cyfnodau cynllunio, dylunio, adeiladu a gweithredu i leihau carbon a rheoli symudiadau traffig yn fwy effeithiol drwy ddata gwib-amser.<br><\/li>\n\n\n\n<li>Lle bo modd, ailddyrannu unrhyw gyfalaf heb ei wario a glustnodwyd ar gyfer ffyrdd tuag at seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae CSCC yn cymeradwyo gwaith yr Adolygiad Ffyrdd gyda\u2019i genhadaeth i greu rhwydwaith ffyrdd mwy cynaliadwy, ac yn nodi ei fod wedi helpu i lywio ac ysbrydoli syniadau tebyg mewn mannau eraill <a href=\"#references\">(12)<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn annog Llywodraeth Cymru a\u2019i phartneriaid i fod yn feiddgar wrth ddod o hyd i atebion i ffyrdd sy\u2019n darparu\u2019r Gymru hynod fedrus, gl\u00e2n, gwyrdd, arloesol a llwyddiannus yr ydym yn gobeithio ar gyfer cenedlaethau\u2019r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Sylwer: Darn barn y Comisiwn yw hwn, nid argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Fel y cyfryw, nid oes angen ymateb ffurfiolesponse<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\" id=\"references\">Cyfeiriadau<\/h4>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/dyfodol-buddsoddiad-ffyrdd-yng-nghymru\">\u2018Dyfodol buddsoddiad ffyrdd yng Nghymru&#8217;, Llywodraeth Cymru, Chwefror 2023<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cynllun-cyflawni-cenedlaethol-ar-gyfer-trafnidiaeth-2022-i-2027\">Cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth 2022 i 2027, Llywodraeth Cymru, Chwefror 2023<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>\u2018<a href=\"https:\/\/decarbon8.org.uk\/wp-content\/uploads\/sites\/59\/2022\/02\/Measuring-Road-Infrastructure-Carbon.pdf\">Measuring road infrastructure carbon\u2019, Decarbon8, February 2022<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>\u00a36.6m ar gyfer poblogaeth o 131,700<\/li>\n\n\n\n<li>\u00a313.7m ar gyfer poblogaeth 336,200<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/statscymru.llyw.cymru\/Catalogue\/Local-Government\/Finance\/Revenue\/Budgets\/budgetedrevenueexpenditure-by-servicedetail\">StatsCymru<\/a> ar gyfer gwariant (gwariant refeniw a gyllidebwyd yn \u00f4l manylion gwasanaeth), ac ar gyfer amcangyfrifon poblogaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Am enghraifft,<a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1186\/s12544-022-00536-3\"> \u201cIn search of sustainable and inclusive mobility solutions for rural areas\u201d, European Transport Research Review, April 2022<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S2095756422000587#bib86\">Road life-cycle carbon dioxide emissions and emission reduction technologies: A review, Journal of Traffic and Transportation Engineering, August 2022<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-60525088\">\u2018Nappies added to roads &#8216;doubles life of surfaces&#8217;, BBC Wales, February 2022<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cymru-sero-net-cyllideb-garbon-2-2021-i-25\">Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 25), Llywodraeth Cymru, Hydref 2021<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/llwybr-newydd-strategaeth-drafnidiaeth-cymru-2021-html\">Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021, Llywodraeth Cymru, Mawrth 2021<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/uwe-repository.worktribe.com\/output\/10295773\">Fel y Road Investment Scrutiny Panel<\/a> ymchwilio i ffyrdd yn Lloegr<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" style=\"font-size:0.7rem\"><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/dCGcBi9DDG8\"><em>Photo: <\/em>Neil Mark Thomas<\/a><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ymateb Adolygiad Ffyrdd CSCC Y blogbost hwn yw ein hymateb i gyhoeddiad yr Adolygiad Ffyrdd (1). Rydym hefyd yn nodi&#8217;r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol sy&#8217;n cyd-fynd ag ef (2). Cynllunio a Chyllid Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn ystyried anghenion a r\u00f4l seilwaith yng Nghymru o tua 2030-2100. Mae&#8217;r ffyrdd a ystyriwyd yn yr Adolygiad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1839,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"single-no-separators","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"activitypub_content_warning":"","activitypub_content_visibility":"","activitypub_max_image_attachments":3,"activitypub_interaction_policy_quote":"anyone","activitypub_status":"","footnotes":""},"categories":[150,135,151],"tags":[210,187,182,81,181],"class_list":["post-1852","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-amgylchedd","category-barn","category-bioamrywiaeth","tag-adolygiad-ffyrdd","tag-ceir","tag-ffyrdd","tag-roads-review","tag-trafnidiaeth"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1852","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1852"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1852\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1870,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1852\/revisions\/1870"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1839"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1852"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1852"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1852"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}