{"id":10126,"date":"2026-11-09T09:09:34","date_gmt":"2026-11-09T09:09:34","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/?p=10126"},"modified":"2026-11-09T09:09:35","modified_gmt":"2026-11-09T09:09:35","slug":"cadairnewydddyletswyddnewydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2026\/11\/09\/cadairnewydddyletswyddnewydd\/","title":{"rendered":"Cadair Newydd, Dyletswydd Newydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull has-custom-content-position is-position-bottom-center\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2560\" height=\"1709\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-10115 size-full\" alt=\"\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/pexels-cookiecutter-1148820-scaled.jpg\" data-object-fit=\"cover\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/pexels-cookiecutter-1148820-scaled.jpg 2560w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/pexels-cookiecutter-1148820-300x200.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/pexels-cookiecutter-1148820-1024x684.jpg 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/pexels-cookiecutter-1148820-768x513.jpg 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/pexels-cookiecutter-1148820-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/pexels-cookiecutter-1148820-2048x1367.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\"><div class=\"has-link-color wp-elements-1 wp-block-post-date has-text-color has-background-color has-background has-foreground-background-color has-text-align-center\"><time datetime=\"2026-11-09T09:09:34+00:00\">09\/11\/2026<\/time><\/div><\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignfull is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-a1727f98 wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center wp-block-paragraph\" id=\"reflections-on-5-years-as-chair\" style=\"font-size:60px\"><strong><strong>Canolfannau data yng Nghymru: gosod y sylfeini cywir<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns alignfull is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-f56f613f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-content-justification-left is-layout-constrained wp-container-core-column-is-layout-c22df8bb wp-block-column-is-layout-constrained\" style=\"padding-right:0;padding-left:0;flex-basis:20%\">\n<div class=\"wp-block-group has-background is-content-justification-left is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-682a1295 wp-block-group-is-layout-constrained wp-container-1 is-position-sticky block-visibility-hide-small-screen\" style=\"background-color:#fafafa;padding-top:0px;padding-right:0px;padding-bottom:0px;padding-left:0px\">\n<div style=\"height:21px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n<nav aria-label=\"Table of Contents\" class=\"wp-block-table-of-contents has-medium-font-size\"><ol><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"#beth-rydyn-ni-am-ei-wneud-rhwng-nawr-a-mis-ionawr\">Beth rydyn ni am ei wneud rhwng nawr a mis Ionawr<\/a><\/li><li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"#seilwaith-ai-a-r-dyfodol\">Seilwaith AI a&#039;r dyfodol<\/a><\/li><\/ol><\/nav>\n\n\n<div style=\"height:13px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"border-width:1px;padding-right:var(--wp--preset--spacing--60);padding-left:var(--wp--preset--spacing--60);flex-basis:50%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\" id=\"the-summer-of-2021\">Bob tro y mae Cadeirydd sefydliad yn newid, mae diwylliant a gwaith y sefydliad hwnnw\u2019n newid hefyd, ac nid yw Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru&#8217;n wahanol yn hynny o beth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am y pedair blynedd diwethaf, o dan arweinyddiaeth Dr David Clubb, cylch gwaith NICW oedd ystyried ein hanghenion seilwaith bump i 80 mlynedd i&#8217;r dyfodol. Roedd y cylch gwaith blaengar hwnnw yn caniat\u00e1u i NICW ddatblygu&#8217;n sefydliad ag iddo bum gwerth craidd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bod yn gynhwysol<\/li>\n\n\n\n<li>Herio<\/li>\n\n\n\n<li>Bod yn radical<\/li>\n\n\n\n<li>Bod yn ymarferol<\/li>\n\n\n\n<li>Bod yn dryloyw.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaethon ni roi&#8217;r gwerthoedd hyn ar waith ym mhob agwedd ar ein gwaith ar ynni adnewyddadwy, llifogydd, addasu i&#8217;r hinsawdd ac ymgysylltu \u00e2&#8217;r gymuned, a hefyd yn yr Asesiad o Seilwaith Cymru a&#8217;n hymchwil i ddarparu seilwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i mi ymgymryd \u00e2 r\u00f4l y Cadeirydd, bydd NICW yn camu i gyfnod newydd. Byddwn yn cadw ein gwerthoedd craidd, ond gyda Chomisiwn llai, tynnach ei ffocws. Am y 15 mis nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar un sector: Seilwaith deallusrwydd artiffisial, canolfannau data a chyfrifiadura yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hamserlen wedi newid hefyd. Rydyn ni&#8217;n edrych ar beth sy&#8217;n digwydd nawr yn ogystal \u00e2&#8217;r dyfodol: y pwysau ar ein tir, ein cyfleustodau a&#8217;n hadnoddau naturiol, ac a all Cymru, yn ystod y misoedd a&#8217;r blynyddoedd nesaf, wneud yr hyn sydd ei angen iddi elwa ar gyflymder y newid mewn AI. A\u2019r un pryd, byddwn yn dal i gyflawni ein hamcanion ehangach o ran seilwaith, cynllunio, ynni a datblygu&#8217;r economi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan fod pethau&#8217;n symud mor gyflym yn y sector, rydym wedi cyd-lunio&#8217;r cylch gwaith gyda Llywodraeth Cymru, heb golli ein safbwynt fel cynghorwyr annibynnol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bob tro rydyn ni&#8217;n gofyn cwestiwn i AI, ffrydio ffilm neu storio ffoto, mae hynny\u2019n cael ei wneud mewn adeilad rywle. Canolfannau data yw&#8217;r adeiladau hynny, ac mae mwy a mwy ohonyn nhw\u2019n dod i Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae maint y peth yn drawiadol. Roedd gan ganolfannau data Cymru gapasiti o ryw 154MW o ddata yn 2024, ond bellach, mae rhyw 1.45GW yn fwy yn yr arfaeth ar draws safleoedd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Ynys M\u00f4n a ger Caernarfon. Mae dau o Barthau Twf AI y DU yn cael eu datblygu y naill yn y De a&#8217;r llall yn y Gogledd, a gallen nhw ddenu buddsoddiad, swyddi medrus a chyfleoedd newydd i&#8217;n cadwyni cyflenwi. Ond mae cymaint o&#8217;r cynigion yn codi pryderon dilys am drydan, d\u0175r, tir a s\u0175n, a pha fudd a ddaw i\u2019r cymunedau fydd yn eu croesawu nhw am wneud. Does dim rhyfedd bod cymunedau&#8217;n teimlo&#8217;n ansicr ac yn ddrwgdybus pan geir cynnig i ddatblygu canolfan ddata a seilwaith AI newydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyna pam y gofynnwyd <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/NICW-Remit-Letter-to-December-2027-Cym-4-11-26.pdf\" data-type=\"attachment\" data-id=\"10104\">i NICW weithio gyda Llywodraeth Cymru ar sut y dylai Cymru<\/a> gynllunio ar gyfer canolfannau data a chyfrifiadura AI. Mae hwn yn waith ar y cyd: byddwn yn helpu swyddogion i ddatblygu fframwaith polisi Cymreig gan ddefnyddio tystiolaeth fydd yn dod ag eglurder i&#8217;r drafodaeth bresennol am seilwaith AI. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein cyngor ein hunain i Weinidog y Cabinet, fel bod ein barn yn aros yn annibynnol.<\/p>\n\n\n\n<h6 id=\"beth-rydyn-ni-am-ei-wneud-rhwng-nawr-a-mis-ionawr\" class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth rydyn ni am ei wneud rhwng nawr a mis Ionawr<\/strong><\/h6>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Crynhoi&#8217;r dystiolaeth.<\/em> Mae llawer o dystiolaeth ledled y DU am ganolfannau data. Ein gwaith ni yw gweithio allan beth mae&#8217;n ei olygu i Gymru. Gan weithio gydag Arcadis, byddwn yn mapio&#8217;r safleoedd sy&#8217;n gweithredu, sydd wedi cael caniat\u00e2d ac sy&#8217;n cael eu cynnig. Byddwn yn edrych ar y grid, d\u0175r, cysylltedd ffibr, y cyfyngiadau tir ac amgylcheddol, a beth mae&#8217;r rhagolygon o&#8217;r galw yn y DU yn ei olygu i Gymru. Byddwn hefyd yn edrych ar beth mae gwledydd eraill, gan gynnwys Iwerddon, yr Iseldiroedd, Denmarc a&#8217;r Alban, wedi\u2019i ddysgu. Bydd nodiadau technegol drafft yn barod cyn y Nadolig, a nodiadau terfynol ddiwedd mis Ionawr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Eu profi gydag arbenigwyr.<\/em> Rydym am ddod \u00e2 gr\u0175p cynghori proffesiynol ynghyd o feysydd ynni, d\u0175r, cynllunio, peirianneg canolfannau data a digidol. Byddwn yn gofyn iddyn nhw edrych ar ein tystiolaeth a phrofi&#8217;r opsiynau polisi gyda ni ym mis Ionawr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Gwrando.<\/em> Mae canolfannau data yn cael eu hadeiladu wrth ymyl pobl. Rhwng diwedd mis Tachwedd a chanol mis Rhagfyr, bydd Next Generation Engagement yn cynnal sgyrsiau gyda chymunedau ger safleoedd sy&#8217;n bod ac arfaethedig yn y&nbsp; Gogledd a&#8217;r De. Rydyn ni am glywed beth mae pobl yn ei ddeall, beth maen nhw&#8217;n gobeithio ei gael a beth sy&#8217;n eu poeni. Gyda&#8217;n partner cyfathrebu Equinox, byddwn hefyd yn cynnal byrddau crwn gyda&#8217;r diwydiant, cyfleustodau, rheoleiddwyr, awdurdodau lleol a chynllunwyr. Byddwn yn cyhoeddi&#8217;r hyn a glywn ym mis Ionawr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cynghori ar yr opsiynau.<\/em> Ym mis Ionawr byddwn yn rhoi ein cyngor i&#8217;r Gweinidog Cabinet ar opsiynau polisi Llywodraeth Cymru: beth mae &#8216;da&#8217; yn ei olygu, ble y dylai ddatblygiadau gael eu cynnal, a pha offer cynllunio fyddai&#8217;n helpu.<\/p>\n\n\n\n<h6 id=\"seilwaith-ai-a-r-dyfodol\" class=\"wp-block-heading\"><strong>Seilwaith AI a&#8217;r dyfodol<\/strong><\/h6>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae canolfannau data yn seilwaith fydd yn para degawdau, nid blynyddoedd. Bydd y penderfyniadau a wnawn nawr yn dylanwadu ar ein system ynni, ein hadnoddau d\u0175r a&#8217;n tirweddau ymhell ar \u00f4l i dechnoleg heddiw symud yn ei blaen. Ein nod yw barnu seilwaith AI a data yng Nghymru yn \u00f4l a yw&#8217;n gweithredu er lles y bobl, yn unol \u00e2 Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol. Mae hynny&#8217;n golygu bod yn glir am y manteision, yn onest am y cyfaddawdau ac yn deg i&#8217;r cymunedau sy&#8217;n ei gynnal.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mwy i ddod am ein gwaith yn 2027 yn y Flwyddyn Newydd. Rwy&#8217;n ddiolchgar i&#8217;m cyd-Gomisiynwyr, i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac i bawb sydd eisoes wedi rhoi o&#8217;u hamser. Os oes gennych bethau yr hoffech eu dweud, mae croeso ichi gysylltu. Rydyn ni am glywed oddi wrthych! you.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\" style=\"grid-template-columns:66% auto\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/JenHeadshot-1024x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-10119 size-full\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/JenHeadshot-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/JenHeadshot-300x300.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/JenHeadshot-150x150.jpg 150w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/JenHeadshot-768x769.jpg 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/JenHeadshot.jpg 1364w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Mae Dr Jenifer Baxter yn Gadeirydd newydd Pwyllgor Seilwaith Cenedlaethol Cymru<\/em><\/p>\n<\/div><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n<p><!-- \/wp:post-content --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- wp:paragraph --><\/p>\n<p><!-- \/wp:paragraph --><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Canolfannau data yng Nghymru: gosod y sylfeini cywir Bob tro y mae Cadeirydd sefydliad yn newid, mae diwylliant a gwaith y sefydliad hwnnw\u2019n newid hefyd, ac nid yw Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru&#8217;n wahanol yn hynny o beth. Am y pedair blynedd diwethaf, o dan arweinyddiaeth Dr David Clubb, cylch gwaith NICW oedd ystyried ein hanghenion [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10116,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"activitypub_content_warning":"","activitypub_content_visibility":"","activitypub_max_image_attachments":3,"activitypub_interaction_policy_quote":"anyone","activitypub_status":"federated","footnotes":""},"categories":[135,152],"tags":[380,219],"class_list":["post-10126","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-barn","category-y-comisiwn","tag-cadeirydd","tag-jenifer-baxter-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10126","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10126"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10126\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10131,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10126\/revisions\/10131"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10116"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10126"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10126"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10126"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}