{"id":1005,"date":"2022-10-11T11:23:48","date_gmt":"2022-10-11T10:23:48","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/2022\/10\/11\/commission-begins-research-into-renewable-energy-infrastructure-challenges\/"},"modified":"2023-08-04T14:37:12","modified_gmt":"2023-08-04T13:37:12","slug":"commission-begins-research-into-renewable-energy-infrastructure-challenges","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2022\/10\/11\/commission-begins-research-into-renewable-energy-infrastructure-challenges\/","title":{"rendered":"Comisiwn yn dechrau gwaith ymchwil ar heriau seilwaith ynni adnewyddadwy"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Darparu ynni adnewyddadwy mewn ffordd deg, cyfiawn a chydweithredol yw canolbwynt gwaith ymchwil y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) yn ei gyhoeddi heddiw<\/strong><strong>.<br><br><\/strong>Cafodd y Comisiwn ei sefydlu yn 2018 fel corff anstatudol i gynghori a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar ofynion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros y 5 &#8211; 80 mlynedd nesaf. Yn gynharach eleni, cafodd y Comisiwn ei adnewyddu gydag aelodau newydd i fwrw ymlaen ag agenda ymchwil newydd a chyffrous ar gyfer y tair blynedd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae heddiw yn gam arall ymlaen o ran gwaith y Comisiwn wrth iddo gyhoeddi bod tri chontract ymchwil wedi cael eu dyfarnu. Byddant yn cynorthwyo\u2019r Comisiwn i wneud awgrymiadau blaengar i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf ar ffyrdd o wella capasiti Cymru i gyflawni datblygiadau seilwaith adnewyddadwy yn effeithlon, ei galluogi i gyrraedd ei thargedau ynni adnewyddadwy a di-garbon, cynnwys cymunedau mewn modd effeithiol a sicrhau bod gwerth yn cael ei gadw er budd y wlad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd Mace Consult yn defnyddio data senario ynni i asesu&#8217;r tensiynau a allai godi yn y dyfodol yn sgil cynigion datblygu ynni adnewyddadwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd Arup yn adolygu sut y gall Cymru sicrhau\u2019r gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gorau yn sgil datblygiadau ynni adnewyddadwy i fanteisio i\u2019r eithaf ar yr agweddau cadarnhaol a ddaw o gynlluniau newydd, a sicrhau bod y manteision hynny&#8217;n cael eu cadw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y Ganolfan Ynni Cynaliadwy (CSE), Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) a Dulas yn gweithio gyda&#8217;i gilydd i edrych ar y ffordd orau y gallwn feithrin cysylltiadau \u00e2 chymunedau i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y broses. Byddant yn cynnal ymarferion peilot yn y Canolbarth er mwyn profi ffordd o weithredu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y tri phrosiect ymchwil yn parhau tan fis Ebrill nesaf. Bydd adroddiad gan NICW i Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi yn ystod haf 2023.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/aleena-khan\/\" data-type=\"page\" data-id=\"745\">Aleena Khan<\/a>, Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) a Chadeirydd y Gr\u0175p Cynghori ar Brosiect Ynni Adnewyddadwy NICW:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae heddiw yn gam pwysig yng ngwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gan mai dyma&#8217;r tro cyntaf inni roi contractau ar gyfer gwaith ymchwil ac mae&#8217;n nodi newid arwyddocaol yn y ffordd y mae&#8217;r Comisiwn yn gweithio.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nick-tune\/\" data-type=\"page\" data-id=\"773\">Nick Tune<\/a>, Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) a Chomisiynydd arweiniol gwaith Ynni Adnewyddadwy NICW:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRwy&#8217;n edrych ymlaen at weithio gyda&#8217;r contractwyr llwyddiannus a gweld eu gwaith yn datblygu dros y misoedd nesaf. Byddwn yn aros gyda diddordeb i glywed canfyddiadau&#8217;r prosiectau hyn i ddatblygu argymhellion cadarnhaol ar gyfer Gweinidogion Cymru.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Richard Dinsdale, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer Mace Consult:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae Mace yn llawn cyffro i fod yn gweithio ar y comisiwn hwn sy&#8217;n cadw golwg manwl ar y ddeddfwriaeth nodedig, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol 2015, ac sy\u2019n canolbwyntio ar ei saith nod llesiant. Byddwn yn dod \u00e2&#8217;n profiad helaeth o&#8217;r sectorau ynni gl\u00e2n a datgarboneiddio i&#8217;r comisiwn, ochr yn ochr \u00e2&#8217;n sgiliau economaidd-gymdeithasol a fydd yn cael eu defnyddio i asesu canlyniadau gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Helen Westhead, Cyfarwyddwr Cyswllt gydag Arup:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cYn Arup, mae cynaliadwyedd yn bopeth. Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda NICW i helpu rhyddhau gwerth o&#8217;r gwaith pontio i sero net ledled Cymru.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a><\/a> Dywedodd Neil Best o&#8217;r Ganolfan Ynni Cynaliadwy (CSE):<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae angen newid y ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni &#8211; dyma un o brif achosion yr argyfwng hinsawdd. Ond os ydym am gyflwyno ynni adnewyddadwy ar y raddfa sydd ei hangen i gyrraedd targedau sero net, rydym angen i bawb gefnogi\u2019r newidiadau. Mae angen mwy o brosesau ymgysylltu cynnil \u00e2&#8217;r cyhoedd i gyflawni hyn, neu fel arall byddwn yn gweld gwrthwynebiad dealladwy o gymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRydym yn gyffrous ein bod yn cael gweithio ochr yn ochr \u00e2 Chanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) a Dulas i rannu&#8217;r dull gweithredu hwn gyda chymunedau yng Ngheredigion a Phowys ar ran NICW. Dim ond drwy ddod \u00e2 phobl at ei gilydd i drawsnewid y system ynni a mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r argyfwng hinsawdd a chan feithrin eu dealltwriaeth, y byddwn yn sicrhau ymrwymiad i newid. Mae&#8217;r her yn fawr, ond mae modd cyflawni&#8217;r newidiadau.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Rheolwr Labordy Arloesi Prydain Ddi-garbon Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) Dr Anna Bullen:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cEr mwyn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r argyfwng hinsawdd ar y cyflymder a&#8217;r raddfa sydd eu hangen, mae angen sicrhau trawsnewidiad ar draws pob sector, gan gynnwys newid mawr yn y ffordd rydym yn cynhyrchu ynni. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus mae angen i ni ymgysylltu \u00e2 phobl a chymunedau, gan roi amser a lle iddynt edrych ar opsiynau ar gyfer eu cymdogaethau, archwilio dulliau a buddion posibl, a rhannu pryderon a gobeithion ar gyfer y dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cAr yr adeg dyngedfennol hon ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd, rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda NICW, CSE, Dulas, a chymunedau ledled y Canolbarth i helpu i lywio dyfodol cynllunio ynni di-garbon yn y rhanbarth.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Darparu ynni adnewyddadwy mewn ffordd deg, cyfiawn a chydweithredol yw canolbwynt gwaith ymchwil y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) yn ei gyhoeddi heddiw. Cafodd y Comisiwn ei sefydlu yn 2018 fel corff anstatudol i gynghori a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar ofynion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros y 5 &#8211; 80 mlynedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1000,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"activitypub_content_warning":"","activitypub_content_visibility":"","activitypub_max_image_attachments":3,"activitypub_interaction_policy_quote":"anyone","activitypub_status":"","footnotes":""},"categories":[168],"tags":[183,217,212],"class_list":["post-1005","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ynni-adnewyddol-seilwaith","tag-aleena-khan-cy","tag-nick-tune-cy","tag-ynni-adnewyddadwy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1005","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1005"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1005\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1007,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1005\/revisions\/1007"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1000"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1005"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1005"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1005"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}